Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

i . 0 Big y ! Lleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

i 0 Big y Lleifiad. LLITH LLANBEDR. Oherwydd ymrwymiadau anorfod methwyd a chae yr ysgrif ar Benodiadau Coleg Eglwysig IJanbedr yn barod erbyn y rhifyn hwn. Daw'n ddifiael yn Y BRYTHON nesaf. H PENBERCYN, AC NID PENPLDW.-Nid Penbedw mo Birkenhead yn Gymraeg ond Penbercwy —canys nid Birch-head mo'i enw ond Birken-headj sef oddiwrth v ffrwd a red iddi o gantref Wirral tucefn i'r dref. Yr oedd Pwyllgor Eisteddfod Genedlaethol 1917 yn iawn, canys Pen y Bercwv y galwent hwy hi yn eu hapel ym Mangor y Ilynedd a Phen y Bercyn y'i gelwid yn 1878, sef y flwyddyn y bu'r hen wyl yma o'r blaen. Ac wrth grybwyll honno, yr wyf yn ddyledus i gof dihvsbydd Ifano, llyfrgellydd Cymraeg goleubwyll Caerdydd, am y parodi a ganlvn, a gyfan- soddodd rhyw walch direidus ar fuddugoliaeth Cor Caernarfon ynddi ar Gor Aberdar, a arweiniad gan Y Cochyn Bach," set y diweddar Wm, Phillips (Gtcilym Cynon) o Aberaman :— Ar Bercyn brynhawn, Cyfiawnder ga'dd iawn Enillodd Eryri y dydd Croeshoeliwyd 'ByrdSr, Boddlonwyd MacParr- Dim rhagor o frolio a fydd. *Dr. Macfarren, y beirniad cerdd. tt CTMRODORlON CYNNES RHODESIA.- Dyma bwt o' bell a gyrhaeddodd bore echtoe (dydd Mawrth) I ANWYL MR. EVAlis.-Dyma archeb am ddeg swllt. Wnewch chi anfon gwerth chweigian o nofelau Daniel Owen ? Diolch yn fawr i chwi a Mr. Jones am gadw Y BRYTHON mor gartrefol Gymreig. Mae dyn mewn clover am hanner awr bob wythnos pan ddaw y BRYTHON i'r afel. Y mae yn Salisbury yma gorlan glyd o Gymry glan gloew o Ben Cader a Llanrug, o Bont y Berem ac o Nant- glyn, o Foriston ac o Fachynlleth, o Abertawe ac o Lerpwl, o Drefach a Phen y Fan, a chwi allwch gael sgwrs yn Gymraeg ar y teliffon unrhyw awr o'r dydd. Disgwyl 'rym glywed pyrth yn agor yn Iwrob. Mi setlwn ni yr Ellmyn yn Affriea-nid ar chwarae bach ond mi rowndiwn ni nhw i gyd fel defaid cyn diwedd y flwyddyn.-Cofion caredig iawn, yr eiddoch yn gywir, Boys' Higb Scbool, HUGH WILLIAMS Salisbury, Rhodesia, II Ebrill, 1916. DEW 1 SOL FITZCLARENCE STREET.-Sef- ydlwyd y Parch. G. R. Jones, B.A.,B.D., yn weinidog eglwys Fitzclarence Street neithiwr (nos Fawrth), a daw'r hanes yn y rhifyn nesaf. tt DRAMODES RHOSESMOR.-Gwelir beirniad- aeth oleu'r Parch. R. Dewi Williams, B.A., awdur stori glodus Clan-id Terfyn, mewn colofn arall ar ddramau Eisteddfod Pasg Rhosesmor a'r fuddugol, er mai dyma'i hymgais gyntaf ar wa'th felly, oedd i Mrs. M. H. Thomas (M?tM« en Cenin), Blaenau Ffes- j tiniog, chwaer Mrs. McDonald, 371 Borough Road, Birkenhead, ac enillodd Cadair. Eisteddfod New- market, 1913. ++ ++ CYHOEDDVR CYMOD.—Y Parch. Thos. Hughes, Felinheli (sef golygydd trylen yr Eurgrawn) a'r Parch. Charles Jones, Gwrecsam (un o Efengylwyr goreu'i Gyfundeb) a gadwai gyfarfod pregethu Myn- ydd Seion nos Sadwrn a'r Sul diweddaf. Ac yr oedd y Parch. Hugh Jones, LlaneUi-un o gryfion pulpud y Bedyddwyr-yn cadw cyfarfod eglwys yr Woodlands yr un adeg. tt TN SET FAWR MORI AH.—Yr oedd Mr. Wm. Williams, Wadham Road, Bootle-ac un o flaenoriaid eglwys M.C. Stanley Road cyn ei symudiad i fyw i Gaernarfon ychydig dros flwyddyn yn ol-yn un o'r pum brawd a godwy d yn ddiaconiaid yn eglwys Moriah j nos lau ddiweddaf. Er wedi ymneilltuo oddiwrth j orchwylion y byd hwn, camp iddo ef ymneilltuo byth ) oddiwrth orchwylion y Llall. I' tt NOL SPECIALIST S.—Dengys yr hysbysiadau fod yi Athro J. E. Lloyd, M.A., Bangor, i gadw cyfar- fod eglwys M.C. Saesneg Oakfield y Sul nesaf ac fod y Parch. Jas. Charles, diwinydd Dinbych, a'r Parch. J. Houghton Thomas, i gadw cytarfod Anni- bynwyr y Tabernacl. STNIAD 1LIVS A CHROTEN BERT.- Annwyl Mr. Jones,—Dyma i chwi beth tlws a gwerth ei gofnodi Daeth i gorun Hannah Lewis, geneth fach un ar ddeg oed Mr. a Mrs. Lewis, 54 Arnold Street, i drefnu cyngcidd bach ymysg ei chyfoedion er budd y Motor Ambulance yi ydys wrthi'n hel yr olaf o'r pum cant ato. Crybwyllodd y peth with ei chefn- der, Hughie Morris, ac wedi rhoi eu pennau ynghyd, ffwrdd a'r ddau ati i'w weithio allan. Ymroisant i ¡ sgrifennu tocynnau, ac i'w gwerthu am dair ceiniog yr un. a'r tocyn yn cyhoeddi y cynhelid y cyngerdd yn 54 Arnold Street, Ebrill y 26ain. A hyn i gyd heb yn wybod dim i Mrs. Lewis, yr hon a feddyliai mai rhyw ysmaldod oedd y crybwylliad a glywsai am y peth. Ond nage, yr oedd Hannah a Hughie o ddifrii, canys pan ddaeth y zfiain, dyma rai ugeiniau o bobl yn cyrraedd, a chafodd y datgeiniaid eu hunain yn canu i dy llawn yn ystyr lythrennol y gair. Caed cyngerdd campus, a Mr. Hugh Roberts, ewythr, Hannah, yn y gadair. Dyma'r doniau Miss What- more, Miss Hughes (yn adrodd), Master Ben Williams (David Street), Misi 1 ab-I R. b rts (Arnold Street), a nifer o gyfeillion Cymreig a Seisnig j eraill. Ffrwyth yr ymdrech oedd cael dwybunt i'w hestyn i drysorfa'r Ambulance. Dyma esiampl gampus a gwerth ei hefelychu gan blant eraill, a gobeithio y bydd darllen yr hanes yn Y BRYTHON yn symbytiad i lawer Hannah a Hughie arall fynd ati i hwylio cyngerdd eyffclyb.- Yr eiddoch yn bur, R. VAUGHAN JONES 52 Hettjord Road, Bootle. m æ 11' DAti I H'K AFON. KENSINGTON.—Nos Wener ddiweddaf, yn ysgoldy Capel Kensington, darparwyd gwlcdd o de gan Mr. J. Evan Esher Road, i'r plant am eu goichest yn ennill Baner y Gobeithluoedd yng Nghymanfa'r Plant eleni ac hefyd i ddibennu'r tymor llwyddiannus. Nid dyma't tro c) Ptaf i'r brawd ddangos ei garedigrwydd -mae wedi dod yn beth sefydlog yn ei hanes erbyn hyn. Mae iddo le cynnes yng ngi:alonnau'r plant, a'u d muniad yw am icido gael iechyda hir oes i barhau yn y gwaith da y mae yn ci wneuthur. Ar ol y gwledda, caed cyngerdd rhagorol tan ei lywyddiaeth. Caed pianoforte solos gan Olwen Griffiths, Labiirnum Road, a Ritchic Griffiths; adroddiad gan J. Olwen Jones, Olwen Griffi hs (Mallow Road), Gwyneth MiHs Jones, Hughie Griffiths, D. Meredydd Williams » a Cecil Jones. Unawdau a deuawdau gan Olwen a Ritchie Griffiths a Nancy a Doris Williams a Dorothy May Clarke, a hynny mewn Cymraeg mor ddilediaith a phe wedi eu magu wrth droed yr Wyddfa. Diolch- wyd i bawb gan yr arweinydd, Mr. W. R. Job, i'r hwn y mae llawer o'r clod yn ddyledus am ei lafur diflino, yn cael ei gefnogi gan Mr. Wills er yn Sais o genedl, cymer ddiddordeb mawr yn ein Gobeithlu, ac wedi ein gwasanaethu lawer tro ef o'i hud-lusern, fel y mae yntau hefyd yn liefryn gan bawb yma. Caed gair hefyd gan ein gweinidog parchus, Pedrog, sydd wedi bod yn y cyfarfodydd yn ddifwlch ar hyd y tymor. Cyfeiliwyd i'r cwbl gan Miss Lilian Jones a Mr. W. R. Job. CYMDEITHAS Y CHWIORYDD, KENSINGTON.— Cynhaliodd y Gymdeithas hon-a gychwynnwyd flwyddyn yn ol gan Miss Jones (Myfanwy Meition)- ei chyfarfod olaf am y tymor. Darllenwyd papur rhagorol gan Mrs. Griffi th, Mallow Road, a chafwyd cyfariod bywiog a Iluosog. Mwynhawyd gwledd o de ar y diwedd. Bu'r cyfarfodydd yn llwyddiannus iawn ar hyd y tymor. Yv Y CYFARFOD MISOL, Crosshall Street, Mai 3. Llywydd, y Parch. J. H. Morris. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch. E. J. Evans, Walton, oblegid colli ei briod a Dr. James Edwards, ym marwolaeth ei frawd, y Parch. D. Chas. Edwards, M.A.; a Mr. D. I Jones,Ciemlyn,yntau wediocllieifrawd aMr. John Jones, Sunderland, wedi colli ei ferch. Adroddiad o New Brighton, wedi dewis tri brawd yn flaenoriaid Mri. Aneurin Rees, Edward Roberts a Thomas S. Roberts y rhai, ynghyda Capt. Roberts, Walton Park, a dderbyniwyd yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Gwrandawyd eu profiadau a holwyd hwy gan y Parch. H. H. Hughes; rhoddwyd y Cyugor gan Mr. Hugh Lloyd, ac offrymwyd gweddi gan Mr. J. J. Thomas. Darllenwyd llythyr cyflwyniad y Parch. G. R. Jones B.A.,B.D., o'r Lancashire Presbytery, yn ol i'r Cyfar- fod Misol; rhoddwyd iddo dderbyniad croesawus, ar gynhygiad y Parchn. John Owen a G. Wynn Griffith, B.A.,B.D. Ei gyfarfod sefydlu i fod Nos Fawrth, Mai 9fed. Caed sylwadau coffadwriaethol am Mr. Ed. Smallwood gan Mr. Thomas Jones, New Brighton, a Mr. Wm. Patton ac am Mr. Frimston gan y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D., a Mr. J. J. Thomas, i gyd yn talu teyrnged uchel i lafur a chymeriad y brodyr annwyl hyn. Cyflwynwyd adroddiad pwyllgor lleol y Genhadaeth Gartrefol gan Mr. Robert Evans, Prin- ces Road, a phasiwyd, ynghyda'r ceisiadau am y grants arferol. Cyflwynwyd ystadegau 1915 gan y Parch. R. W. Roberts, B.A.,B.D., Caed sylwadau arnynt gan Mr. R. O. Williams, Prirces Road, a gohir- iwyd ystyriaeth pellach hyd Gyfarfod Misol Mehefin, a gynhelii yn Crosshall Street, yn lie y cyf aifod pedwar misol a fwriedid ei gynnal yn Parkfield, Daeth cenadwri o eglwys Parkfield eu bod yn bwriadu symud ymlaen i alw gweinidog, a chyflwynwyd y genadwri i'r pwyllgor bugeiliol. Hysbysodd y Parch Lodwig Lewis y cynhelir cyfarfod ddathlu chwarter canrif y Forward Movement yng nghapel Princes Road nos Fercher, Mai 31, pryd y ceir anerchiad gan y Parch. J. M. Jones, Caerdydd. TEML GWALIA, EDGE LAN F.-Cynhaliwyd y Deml fel arfer nos Fawrth cyn y ddiweddaf. Cafwyd cAn gan y Chwaer J. Lumley pianoforte solo gan Br. R. Lewis can gan y Br. Henry Davies. Cystadleuaeth darllen pennill; beirniad, Br. J. Owen goreu, Br. O. T. Willaims. Canodd y Br. Ieuan Jones ddwy- waith. Cafwyd cystadleuaeth disgrifio gwrthrych heb ei enwi; beirniad, Br. Ernest Hughes goreu, Br. H. Davies. Dewiswyd swyddogion newydd am y chwarter nesaf Prif Demlydd, Br. John Jones Is- Demlydd, Chwaer Mrs. Lewis ysgrifennydd, Chwaer Minnie Davies; ysgrifennydd ariannol, Chwaer Menny Jones caplan, Br. John Owen rhingyll, Br. David Evans is-ringyll, Br. Ernest Hughes gwyl- iedydd, Br. W. Williams. Cyfeiliwyd gan y Chwaer Madeline Davies. Llywyddwyd gan y Br. Henry Davies.-Cymraes. Yr wythaos ddiweddaf, cofnodem farwolaeth Mr. Hugh C,ifford Phillips, 4 Hornby Avenue, Bootle, mor gynnar—j n ugain oed. Yr oedd yn llanc hynod hawddgar yn ffefryn gan bawb o'i gydnabod yn aelod yn eglwys Fedyddiol Balliol Road, ac yn fawr ei barch a'i ymddiried gan Mri. Owens, Peck & Co., lie y gweithiai. Mawr yw loes ei fam weddw, gan mai efe oedd 'runig un o'i thri mab oedd gartref-yddau arall ar y mor dros eu gwlad. Claddwyd ddydd Llun yr wythnos ddiweddaf, ym Mynwent newydd Bootle; y Parch. Evan Williams (curad eglwys blwy St. Mair) yn cydweinyddu mor weddaidd yn y ty ac yng nghap- el y fynwent &'t Parch. P. Williams (Pedr Hir).. Dyma'r prif alarwyr: Mrs. Phillips (mam), Mrs, Morgan, Misses Morgan, Mr. G. Morgan, Capt. Lewis. Mrs. E. Davies (Hawthorne Road), Mrs. Parry (Cyp- rus Road), Mr. P. Williams, Mr. Evan Williams a Mrs. Morris. Diaconiaid eglwys Balliol Road Mii. John Evars, R. Owens, R. Jones, W. Thomas, Thomas Evans, a J. Morris. Dros y ffirm Mri. Peck, Johnston, Hughes, Rhodes a Rees. Y cludwyr oedd Mri. R. Roberts, Goronwy Parry, J. D. Roberts, H. Jones Evans a P. Lloyd. Danfonwyd nifer luosog o wreaths tlysion. Trefniadau'r angladd yn nwylo Mr. P. Lloyd Jones, Stanley Road. Mai 2, yn Whitchurch, ar ol ychydig ddyddiau o waeledd, a chanlyniad gweithred law-feddygol, yn 19 oed, bu farw Mr. Rolant Edwards, mab Mr. a Mrs. Htimphrey Edwards, Summer Hill, Ffestiniog, ac wyr i'r diweddar Rolant Edwards, a fu'n flaenor yn y Bowydd. Yr oedd i'r bachgen ddyfodol disglair a chyn ymuno a'r R.A.M.C. yn yr Hydref, yr oedd yng Ngholeg Bangor, ac arfaethai fyned i'r Weinidogaeth gyda'r M.C. Yn ystod yr haf diweddafi mynychai gapel Parkfield. Cydymdeimlir a'i rieni trallodus.— R.J.G. ORRELI.—Mai 2 y bu cyngerdd terfynu tymor y Band of Hope, a throdd allan yn un o'r cyfarfodydd goreu a gaed erioed yn Oirell. Bu'r plant yn gwledda ar de a bara brith a phethau da eraill, wedi eu paratoi gan Miss Maggie Edwards, Miss Williams (Tilney Street), Mis. Davies (Monfa Road) a Mrs. Lloyd (Elizabeth Road), a'r cyngerdd o dan lywyddiaeth gwr a gymei ddiddordeb mawr ym mhlant y Band of Hope, Mr. John Williams, Waterloo, un o flaenoriaid Peel Road. Aeth drwy ei waith yn ddoniol a deheig, a chyfrannodd yn hael i'r drysorfa. Canwyd ac adroddwyd gan Ella Williams, Dilys Roberts, J. Henry Williams, Lily Salisbury, Myfanwy Roberts, Gwladys Williams, Maggie Wynne, Cissie Roberts, May Ellis, Willie Lloyd, Edgar Salisbury, Canodd y Cor hefyd, o dan arweiniad Mr. Robert Roberts, Marion Road. Can, gan Mr. Henry Jones, ac amryw gan Mr. Tom Owen, y lleisiwr mwyn o Langoed sydd yn h)sbys drwy'r dref i gyd bellach. Adroddiad, Set y Gomel," gan Mis. Lloyd a Spring Cleaning gan Mr. John Davies. Teimla'r cyfeillion yn Orrell yn wir ddiolchgar i'r cyfeillion o'r tuallan am eu parodrwydd i'w cynorthwyo bob amser. Diolchwyd i bawb gan Mr. David Ellis a Miss Williams (Tilney Street), a chaed gair byr gan y Parch. R. W. Roberts, B.A., B.D. Hen Wlad fy Nhadau ar y diwedd, a hai lwc am gyfariod yn fuan eto.-Iolo. MARTIN'S LANE, LISCARD.-Nos Iau, cyn gollwng plant y Gobeithlu am bum mis o holidays, rhoddwyd gwledd o de a bara brith iddynt hwy a phlant yr Ysgol Sul. Daeth niier iuosog i iwynhau'r danteith- ion oedd wedi eu darparu'n rhad gan chwiorydd sydd yn cymryd diddordeb yn y ddau sefydliad ac at ol i bawb gael eu gwala a'u gweddill, cynhaliwyd cylarfod amrywiaethol. Y rhaglen a ganlyn Unawd ar y berdoneg, gan Elsie Lloyd. Can, Emyn bach," Maria Price. Adroddiad, Waves of Love," Sophie Davies. Cyffeithu geiriau Saesneg i'r Gymraeg, 6 yn treio, I W. Glyn Williams a Lily Price yn gydradd. Can, Queen of the earth," Doris Jones. Adroddiad, To a false patriot," Percy Williams. Deuawd," Y Deryn Pur," Marian a Rowena Price. Araith ddi- fyfyr, Economy," Mr. J. Parry Williams 2, Mr. J. T. Williams. Adroddiad, Little boy's troubles," Willie Davies. Deuawd ar y berdoneg, Misses Myfan- wy Pritchard a May Roberts. Adroddiad, Hwyrach" (R.H.J.), Muriel M. Evans. Can, Floral dance," Mr. Tom Roberts; encor, canodd An Old-Fashioned Town." Adroddiad, I vond der vly," Freda Price. Adroddiad, True heroism," Alwyn Pritchard. Canodd y plant amryw donau rfan arweiniad Mr. Caradog Parry, a'r cwbl o dan lywydd- iaeth medrus y Parch. T. Price Davies. Caed ad- roddiad o waith yr Ysgol Sul gan Mr. E. Lloyd, a gwaith y Gobeithlu gan Miss M. Pritchard a chan Mr. A. T. Evans, arolygwr y Gobeithlu, a Mr. J. T. Williams, arolygwr yr Ysgol Sul. Cafwyd araith gan y llywydd, yn datgan ei lawenydd am fiyddlondeb a gweithgarwch yr athrawon yn yr Ysgftl Sul, a Hawen- ychai yn y gwaith rhagorol a wneid yn y Gobeithlu. Hyfrydwch mawr ganddo oedd gweled Mr. C. Price yn IIamu i'r adwy a wnaed gan ymadawiad Mr. John Williams i ymuno a'r Fyddin. Diolchodd hefyd i'r chwiorydd am roi a darparu'r te i Miss Eunice Jones a Miss Cissie Williams, A.L.C.M., am gyfeilio i Mr. Jones, Sea V ew road, am y blodau, ac i bawb am fwynhau eu hunain.—E.H.R. Yn Ysgoldy Martin's Lane (A.), nos Percher yr wythnos ddiweddaf, cafwyd cyfarfod a hir gofir, sef darlith ddiddorol dros ben gan Miss Grace Ellison, prif gvfarwyddydd y French Flag Corps oj Nurses, yn Ffrainc. Y mae ganddi 27 o ysbytai ac yn agos i 300 o nyrsys dan ei gofal. Bu saith waith ar hyd y French firing line, a chafodd lawer o ddiangfau rhag maiwol- aeth. Yr oedd yn Germany pan dorrodd y rhyfel allan, yn ysgiifennu llyfr ar ferched Germany. Yr oedd Ffrainc yn brin iawn o nurses am eu bod, flyn- yddoedd yn ol, wedi alltudio'r lleianod (nuns) o'r wlad. Aeth Miss Ellison drosodd i'w helpu yn union ar ol brwydr Marne, ac yr oedd ei disgrifiad byw o'r frwydr honno yn galorrwygol y clwyfedigion yn cael eu hanfon o'r front, a dim lie ar eu cyfer, dim meddyg- on, dim cyffuriau, y Germaniaid wedi cymryd pob mymryn o chloroform, fel yr oeddid yn gorfod gweith- redu ar y clwyfedigion heb unrhyw anrstheltc, a dyna'r peth mwyaf ofnadwy y gwyddai hi amdano. Penodwyd Miss Ellison i'w swydd gan weinidog rhyfel Ffrainc, ac y mae llywodraeth Ffrainc wedi rhoddi motor car a dau chauffeur at ei gwasanaeth. Nid oedd I lywodraeth Ffrainc yn cyflenwi gobenyddion, ond bolsters ceiyd iawn. Ni fuasai Jacob yn newid ei obenydd oer a chaled ym Methel gynt am obenydd ami i filwr clwyfedig yn Ffrainc. Nid oedd gan y nyrsus ond un tywel rhwng chwech, a'r milwvr un hancas poced rhwng pedwar, ac apeliai'n daer am gynhorth- wy, a chafwyd swm sylweddol iawn trwy'r cagliad a wnaed ar derfyn y cyfarfod. Y llywydd oedd Mr. J. T. Chester, maer cyntaf y fwrdeisdref yma; ac ar y llwyfan yr oedd y Parch. T. Price Davies a Mrs. S. R. Jenkins, Seaforth-chwaer Miss Ellison. Diolchwyd i'r darlithydd a'r cadeirydd gan y Parch. T. P. Davies.-B.H.R. PEEL ROAD.-Caed Cwidd Cystadlu i'r plant nos Fercher, a graen arno. Mr. J. J. Thomas, Edge Lane, a feirniadai'r canu, a L.-Corp. R. D. Jones, 3rd R.W.F yno o Litherland Camp, yn gosod trefn ar yi adrodd- wyr. Dyma restr y buddugol: Gwen Jones, Nesta Evans, Maggie Edwards, Lizzie Da ies, Blodwen Davies, John D. Roberts, Maggie Parry, Olwen Parry, Maud Roberts, Maggie Roberts, Violet Bywater, Gwladys Jones, Mary Alice Jones, Blodwen Jones, Jenny Jones, Elsie Pierce, Giace Warburton, Teddy Edwards, o ysgol Peel Road; a Cassie Roberts, Tommy Williams, Willie Williams, Dilys Roberts Myfanwy Roberts, Ella Williams a J. H. Williams, o ysgol One! Enillodd parti cymysg Peel Road (G. J. Roberts); parti cyd-adrodd Oriell (R. Rob- erts) a safai'r corau plant fel hyn I, Peel Road (W. Pierce); 2, Orrell (R. Roberts). Methodd y cadeirydd, J. Williams, Ysw., Fairfield, a dod oher- wydd gwaeledd yn ei deulu a methodd y cyfeilydd, Alawes Menai, am ei bod ei hun yn wael. Amlwg ddigonfodcalonynailia'rllallgydani. Caed brawd o'r un enw i'r gadair ac yn lle'r Alawes aeth Maud Robe ts ei disgybl at y piano. CYMANFA PLANT EGLWVS RVDD Y CYMRY.— Cynhaliwyd y 13eg nos Sadwrn diweddaf, yn Donald- son Street. Oherwydd amgylchiadau neilltuol, nid oedd y cynhulMad agos mor luosog ag aifer, ond er hynny cafwyd cymanfa wir dda at ei gilydd. Mr. J. H. Jones a lywyddai ac a feirniadai'r adrodd Miss Gwladys Pritchard yn arwain y canu ac yn mantoli'r cystadleuwyr cerddorol a Mr. R. H. Jones yn cloriannu'r cystadleuon ysgrifenedig. Cyfeilydd- ion Misses Jenny Jones a Maggie Roberts o Donald- son Street. Dyma'r dyfarniadau yn y cystadleuon CANU Unawd dan 21, Icsu annwyl, gwrando ni (L. J. Roberts).-j, Katie Roberts, Merton Road 2, Mildred Davies, Donaldson Street. Eto i rai dan 16 oed, Gyda'r lesu,j, Myfanwy Davies, Donald- son Street; 2, Annie Parry, Merton Road. Modula- tor Test, dan 12,-1, Willie Roberts; 2, Mildred Davies,—y ddau o Donaldson Street. Eto, dan 16, i, Annie Parry, Merton Road, a Myfanwy Davies a Maggie Roberts, Donaldson Street,—y tair yn gyf- artal. C or Plant, Siglo, siglo," gwobr, Tarian 10.- Dau gor yn cystadlu Merton Road a Donaldson Street,—y blaenaf yn fuddugol. ADRODD,-dan to, "Y Wenynen Fin],i, Ella Parry 2, Myfanwy Jones,—y ddwy o Donaldson Sheet. Dan 13, "Ai damwain yw ? "-Y, Mildred Davie Donaldson Street; 2, Kat.e Roberts, Merton Road 3, Maggie Parry, Donaldson Street. Dan 16, Iesu, Ti wyt ffynnon bywyd,"—1, Myfanwy Davies; 2, Maggie Roberts,—y ddwy o Donaldson Street. Parti o blant —adrodd adran o Math, V,-I, Parti Merton Road 2, Parti Donaldson Street. Cyfieithu i'r Saesneg, i rai o dan 14 I, Jackie Roberts 2, Mildred Davies,—y ddau o Donaldson Street. Eto, i rai o 12 i 16: I, Maggie Roberts, Donaldson Street; 2, Hugh B. Jones, Merton Road. Dictation Cymraeg, dan 12 I, Jackie Roberts 2, Mildred Davies,—y ddau o Donaldson Street. Eto, i 12 i 16,—1, Hugh B. Jones, Merton Road 2, Maggie Roberts, Donaldson Street. Llythyr Cymraeg,-r, Maggie Roberts 2, Mildred Davies,—y ddwy o Donaldson Street, Cyflwynwyd Hyfrau i'r buddugwyr yn yr Arholiadau Ysgrythyrol fel y canlyn Dan 21, Mr. R. Glaslyn Owen, Canning Street. O 16 i 21, Maggie J. Roberts, Donaldson Street, a David Williams, High Park Street, yn gydradd. Arhol dd y ddau ddosbarth, y Parch. R. W. Jones, Bootle. 0 13 i 16,—1, Minnie Roberts, Merton Road 2, Maggie Roberts, Donald- son Street; 3, Phillip S. Davies, Merton Road. O 10 i 13,-1, W. A. O. Jones, Canning Street; 2, Annie Parry, Merton Road 3, Doris Williams, eto. Arhol- ydd y ddau ddosbarth, Mr. Hugh Owen, M.A., Tre- ffynnon. Dan 10 oed (Ilafar),-i, Maggie Parry, Donaldson Street; 2, Eluned Thomas, eto; 3, Gwladys Williams, Merton Road 4, Bessie Hughes, eto. Arholydd, Miss Winnie Griffiths. Y tonau a ganwyd oedd Gogoniant byth i'r Iesu," Awn j Bethania," Seren Fechan," Yr Ysgol Sul,. Mae Coron gan yr lesu," Rhywbeth i'w wneud yn y y Nef," Gyda'r Iesu," lesu annwyl, gwrando ni," Cuddia fi," Ni redwn yn wrol (o waith Miss Pritchard ei hun), Dal wrth y groes," a Bendith- iad "—yr olaf yn glo ar y Gymanfa ar ol y weddi Cymanfa fuddiol a diddorol ar ei hyd. Mr. M. P. Jones oedd Ilywydd y pwyllgor trys., Mr. T. H. Wynne; a'r ysg., Mri. J. Elias ac Imla Davies. WRTH GOFIO'I BRIODAS.-Nos lau, y 4ydd cyf., daeth nifer luosog o aelodau eglwys M.C. Waterloa ynghyd, i gyflwyno rhoddion prydferth a sylweddol i'w gweinidog, y Parch. W. Henry, a'i briod, ar achlysur eu priodas arian, a ddath ent Ebril! 22. Llywyddwyd gan Mr. David Parry, blaenor hynaf yr eglwys, a chyfeiriodd at hanes yr achos a'i dwf yn ystod y 19 mlynedd y bu Mr. Henry yn weinidog. Ychwanegwyd rhif yr aelodau o tua 160 i ttia 380. Helaethwyd y capel ac adeiladwjd ysgoldai ac yatafp- e'loedd erai" newydd. Yn ddiweddai, trwy haelioul un o'r aelodau, cafwyd organ werthfawr, fel yr oedd yr eglwys yn awr yn feddiannol ar angenrheidiau a chyf- leusterau hynod o gyflawn at waith yr achos. Tal- wyd dros £ 5,000 o dreuliau'r adeiladau gan yr aelodau yn ystod yr amser hwn, yn dawel a distwr, heb unhryw apel arbennig tuallan i'w chylch ei hun. Hefyd gweithiwyd yn gyson ac yn fywiog ar hyd y blynyddoedd gyda phob rhan o'r gwaith,-crefyddol, lienyddol, dirwestol, cerddorol, yr Ysgol SuI-gyda chynnydd amlwg ymhob cyfeiriad. Sairadwyd gan amryw o frodyr, yn datgan pleser o gael cyfranogi o lawenydd yr amgylchiad tra yn gofidio am absenoldeb bron holl ddynion ieuanc yr achos, y rhai oedd yn y Fyddin, a meibion Mr. a Mrs. Henry-Glyn a Gwilym-yn eu mysg. Cyflwynodd Mis. M. Jj Pairy, Seaforth, yr anrhegion, sef tegell arian a phwrs arian i Mrs. Henry, a gold mounted Fountain Pen i Mr. Henry. Cafwyd gaii gan Mr. a Mrs. Henry, y ddau yn siarad dan deimJadau dwys. Gwerthfawrogent yr amlygiad o'r berthynas agos ac annwyl oedd wedi parhau rhyngddynt a'r eglwys. Yn arbennig gwerth- fawrogai Mr. Henry y gydnabyddiaeth o waith Mrs. Henry, oedd wedi bod yn gymorth diffael iddo yn ei holl ymdrechion, a'r hon a-ymgymerodd yn ewyllys* gar bob amser a'r holl ddyledswyddau a bei-thynent i briod gweinidog. GWIR GYMRY CILGWRI.—Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cymdeithas Cilgwri, Mai 2, yn ysgoldy Wesleaid Cymreig Serpentine Road, Liscard. Gan fod cadeirydd y Gymdeithas, Capt. R. Howell Davies, gyda'r fyddin yn Ffrainc, gwasanaethodd Mr. Robert Roberts (yr is-lywydd) yn ei le, megis y gwnaeth yn ddeheig ac effeithiol ar hyd y tymor. Dywedodd y trysorvdd—Mr. Ellis Owen-y bu'r tymor yn llwyddiant ymhob ystyi. Dechieuwyd yr Hydref diweddaf gyda 28s. yn ddyledus i'r trysorydd, ond mae hwnnw wedi ei dalu, heblaw fod dros ddwy bunt mewn Haw at dalu costau Roll of Honour y Gymdeithas. Cafwvd darlithiau hvnod ddiddorol ac addysgiadol a'r cynulliadau vn cymharu yn ffafriol a'r tymhorau o'r blaen, er fod faigon o le i wella ym hyn. Dewiswyd y rhai. ar y pwyllgor Mri. Robert Roberts, Owen Roberts, EJwyn Jones, R. Howell Davies, J. Roose Williams, T. S. Roberts a J. W. Roberts trysorydd, Mr. Ellis Owen ysgrifennydd, Mr. W. H. Thomas. Cyflwynwyd diolch cynnes iawn i Mr Owen Roberts ar ei ymddiswyddiad fel ysgrif- ennydd-gwaith a gyflawnodd mor ffyddlon a hawddgar ar hyd y tymhorau y bu yn y swydd; atebodd yntau'n fyr. Derbyniwyd dirprwyaeth oddi- wrth bwyllgor Eisteddfod Birkenhead, sef y Paich. D. Tecwyn Evans, Mri. J. H. Jones a Ben Thomas, parth cael Cymdeithas Cilgwri i roddi pob help yn en gallu i wneud yr Eisteddfod yn llwyddiant. Addaw- odd pawb oedd yn bresennol wneud, gan selio hynny trwy arwyddo taflen y meichiafon. r At y Motor Ambulance. Oddiwrth Gyngerdd Miss Hannah Lewis 2 0 9 Ysgol Sul Chatham St. (ail gyfraniad) 1 0 0- L. C .& M. Bank, North Branch (ail gyf.}. 110 gan adael £ 82 yn eisiau i gwblhau'r £ 500.

Basgedaid o'r Wlad.