Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Lincyn Loncyn

News
Cite
Share

Lincyn Loncyn AI ADAR FFO 0 FELGIUM ?-Gwel. ais ddyn ddoe, newydd gyrraedd adref o'r wlad, wedi bod yn yfed tipyn o iechyd dros Wyl y Grog a'r Pasg ar ffriddoedd Hiraethog a llethrau Edeyrnion, a dyma ddywedai'r ffermwyr wrtho fod yna lawer o adar dieithr i'w gweld ffordd honno eleni nas gwel- wyd erioed o'r blaen eu bod yn disgyn ar y buarth hwn a'r gadlas arall, ac yn chwannog iawn i'w tamaid. Barn yr amaethwyr yd- oedd mai adar ffo o Felgium ydynt, ac fe hoffent glywed Rd. Morgan o Lanarmon neu Was y Gog o Nefyn neu Lewis Jones, yr Ynyswr o'r Hilbre, yn dweyd gair o'u barn a'u gwybodaeth ar hyn. FOB PETH 0 NEWYDD. Ni fydd Cymru yr un ar ol y rhyfel. Bydd ganddi bulpud newydd, ysgolion newydd, ysbryd newydd."—Syr 0. M, Edwards. -.0- GWR PEN RHIW.—Caed o hyd i John Jones, fferm Pen Rhiw, Trefeglwys, sir Dre- faldwyn, yn farw mown ffos leidiog gerllaw'r tf ddydd Mercher diweddaf. Yr oedd yn hanner cant oed ar goll ers dydd Sadwrn ac mewn diod pan y'i gwelsid -ddiweddaf. -9- I DYGY-ZVYDD DUTV AG EMYN Cynhaliwyd cymanfa ganu Ysgolion Sul M.C. Llandudno, Hen Golwyn, Colwyn Bay, Mochdre, Llandudno Junction, Conwy, a Deganwy yng nghapal Siloh,Llandudno ddydd Mercher diweddaf. Mr. Ben Williams, cerdd or hyddysg a her. gynefin ag arwain corau, yn llywyddu'r prynhawn, a'r Parch. J. H. Howard y nos Mr. J. R. Evans, Llandudno, yn arwain y canu, a Miss Williams, Llar dudno, wrth yr orgai. Yr un dydd, cynhaliai M.C. Penmaenmawr, Llanfairfechan, ac Aber eu cymanfa h wythau yn Jerusalem, Penmaen mawr, a Wealeaid yr ardal eu cymanfa hwy- thau yng Nghonwy. -&■ YMHOB RHITH YJJA TV ANGA U.- Lladdwyd E. J. Da vies yn Llandudno, ddydd Mercher diweddaf, drwy gael ei wasgu dan motor charabanc y gweithiai arni. Yr oedd yn wyth ar hugain oed, a'i gartref yn Glyn dwr, Taly bont. I BEN EI BELLEN.—BVL James Logue farw ym Mhorthmadog nos Fercher ddi- weddaf. Gwyddel efe o Londonderry, ond wedi gwladychu ar Lannau'r Traeth Mawr ers deugain mlynedd agos. Hen filwr vdoedd, ac wedi ymladd dan Syr Henry Havelock yng Ngwrthryfel yr India. A'i glywed yn mynd dros y stori waedlyd ddiail honno oedd un o fwynderau'r Port. Ond y mae'n rhy bell o'n clyw bellach, a phellen y stori wedi dirwyn i'r pen. -<s- COLLED CAER.-Y mae'r Parch. W. S. Jones, M.A., Caer, a'i fryd ar roi fyny fugailio eglwys M.O. John Street. Bum mlynedd yn ol y daeth yno o Fachynlleth, ac mor hysbys am ei hawddgarwch Cristnogol ag am felys ter ei genadwri. GO ANGHYFFREDIN.-Dyuedir fod un o eglwysi M.C. y Gogledd wedi dewis dyn ieuanc yn flaenor ac yntau i ffwrdd yn y rhyfel, rjrwleyn Ffrainc." Go anghyffredin. .0- MARW HEB NEB AR EI CHYFUL.- Caed Mrs. Hannah Parry, gweddw ddeg a thrigain oed yn cadw siop fach ym Maesglas, ger Treffynnon, yn farw yn ei gwely bore dydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf. Byw ei hun yr oodd yr hen weigan, ao yn dioddef gan guriad y galon. Ac ymhle y mae'r meddyg all %-Olla'r pendil hwnnw unwaith yr elo i guro'n anwastad ? O'CH MEWN CHWI Y ilIAE.Bu Mrs. Lloyd George yng Nghaernarfon ddydd Mercher diweddaf, yr agor yr ysbyty newydd ym Mryn Seiont, dan nawdd Cymdeithas y Gofeb Genedlaethol Gymreig. Y mae'r hen adeilad wedi ei addasu Ct phob dyfais a hwylus tod ar un o'r mannau mwyaf dymunol ar lannau'r Seiont rhyw dri chwarter milltir o'r dref ac ynddo Ie i tua deugain. o gleifion y darfodedigaeth. Dyma un o sylwadau Mrs. George Nid da gennyf weld codi adeiladau syl- weddol ac i ddaJ am byth gwell gennyf weld rhai ysgafn ac am dro, ate ynddynt rhyw argoel fod gobaith am inni fedru trechu'r nychtod mall yma nes na bo eisiau'r adeiladau at hynny mwy. Diolch am yr ysbytai ac am feddvgon a nurses medrus ond rhaid wrth iawn-fwy ta ac iawn awyru an ami i iawc-arfer arall oyn y ceir diwedd ar y djcciau yng Nghymru. Y mae gair y Meistr yn ddigon gwir yn y cyswllt hwn hefyd," Teyrnas Dduw, o'ch mewn chwi y mae. PRlF GELTYDD IWROP.-Yngnghyf- arfod hanner-blynyddol Llys Llywodtaethwyr Coleg y Gogledd, Bangor, ddydd Mercher diweddaf, dewiswyd Mr. R. R. Davies, Tre. borth, yn is-lywydd yn lIe Argl. Penrhyn a Mrs. Mary Davies, Llundain, yn ivelod o m Gyngor y Colog yn lle'r diweddar Syr John Rhys. Wrth dalu teyrnged i Syr John Rhys, dywed.ai'r Prifathro Reichel mat efe oedd un o r ysgolheigion mwyaf a gododd Prydain ers blynvddoedd, a'r blaenaf yn Iwrop yn ei rych ei hun. PRIODI PLAEN.-Priodid Argl St. David's yn Eglwys St. Margaret's, Llundain, ddydd Iau diweddaf, a Miss Betty, merch Lady Hastings. Gan mai blwyddyn oedd or pan fu farw ei wraig gyntaf, syml iawn oedd y seremoni, heb na derbyn anrhegion na chwrdd ymo,, yfareb-reception.. -«» DYFNALLT A CHELANEDD FFLAN. DERS.- Y mae eglwys Annibynnol Caer- fyrddin wedi rhoddi tri mis o ollyngdod i'r Parch. J. Dyfnallt Owen fynd i Ffrainc i was- anaotnu gyda r x.MAj.A. A bydd bardd a gweledydd mor graff ag of yn sicr o wold pryddest neu awdl werth ei chanu yng nghelanedd Fflanders. Efe a ganodd y bryddest-alarnad fiiddugol,-vu Eisteddfod y Rhyl, 1904. am Tom Ellis, ac a gafodd destyn wrth oi fodd yn y gwleidydd glan hwnnw, a fedrodd fyw yngh?nol crochanau Llundain heb i'r smotyn leiaf o'u parddu lynu yn ei frethyn cartref o gymeriad Cymreig. Dyfn allt hefyd oedd prifgyfaillmynwesydiweadpr Ben Bowen, am yr hwn y dywedodd "'All cenedl ddim anghofio'i phlentyn athrylithgar, mwy na mam wyneb ei hanwylyn hawddgar." RHEG GRAS AR GLUST GAIN.—Dy- wedir fod iaith rhai o swyddogion y Fyddin Gymreig mor warthus nes fod Cyfarfod Misol Dyffryn Conwy wedi penderfynu galw sylw'r awdurdodau goruchel at hyn. Ac y niaq iaith felly'n merwino mwy ar glust bechgyn crefyddol na swn shells y Germaniaid. + Y CAMBRIAN YN SYMUD, O'R DIIVEDD.-iNid cia gormod o wres yr haul, beth bynnag am wres cariad, canys pan ddaeth yn dro mor sydyn ar y tywydd ddydd Mawrth yr wythnos ddiweddaf, a hithau n.or oereynt, fo chwyddodd yrhaearn ar reilffordd y Cambrian rhwng Porthmadog a Chricieth gymaint nos y bu agos iawn a thaflu'r tren un am Bwllheli oddiar y llinell. Oed odd, awr gron ar siwrne'r teithwyr. DRWG A DA'R GRADDEDIGION. —• Yng nghyfarfod blynyddol (yr 22ain) Urdd Graddedigion Cymru, a gynhaliwvd yn Aber- ystwyth ddydd Mawrth yr wythnos ddiwedd- af, hysbysodd Mr. J. H. Davies, M.A., yr ysgrifennydd, y byddai'r gyfrol o hen fardd- oniaeth Gymraeg, oddiar lawysgrifau y 14eg a'r 15fed ganrif, o'r wasg ymhen ychydig ddyddiau, ac wedyn fod y pwyllgor ya gobeithio medru cychwyn cyhoeddi Geiriadur Cymraeg saforol hafal i'r un Saesneg a gy- hoeddodd Text Society Lloegr. Hai lwc Sylwai'r Proff. Edward Edwards, M.A., fod ami i gywydd serch yn yr hen farddoniaeth uchod yn frith o gwpledi i'r dim at anghenion llythyrau caru—hyn or mwyn codi blys ar y bechgyn i'w prynnu, canys cwynid mai gwarthus o fychan oedd nifer aelodau Urdd y Graddedigion a brynnai'r cjfrolau a gyhoedd- frolau a gyhoed d id mor llafurus a diddiolch rhagor ddylai gwaith dda fod. ooQo. DYMA LAI 0 CHWECH, BETH BYNNAG.—Dyma chwech o dafarnau Sir Fflint sydd tan farn condemniad Pwyllgor y Trwyddedau, ac y cymhellir eu cau maes o law Queen's, Pont Blyddyn; Red Dion, Bangor is y Coed Liverpool Arms a'r Miners. Arms a'r Spread Eagles, Treffynnon a Glanrqfon Inn, Pont y Bodcin. Ac vnghau byth y bont. + YN YMYL BENDITH NEWYDD.- Diolch am glywed fod tafarnau Cymru a Sir Fynwy i gyd wedi dod dan oriau gwaharddpl y Bwrdd Lly wodraethol, nac i gael agor ond am bum awr a hanner y dydd, sef o 12 i 2.30 y prynhawr, ac o 6 i 9 y nos ar hyd y chwe t iwrnod. Ac i gyrchu diod at ei yfed tuallan i'r dafarn, o 12 i 2.30 ac o 6 i 8. Mai'r 8fed y daw'r fendith newydd i rym, Q- CODWM CAS.-Y mae'r Lieut. L. E. Roberts, R.W.F. (mab Mr. L. J., Roberts, iM. A*, H.M.I.S.) yn ysbyty y Rhyl. Dam- wain dost braidd a'i cyfarfu ar ei motor-cycle yn Clwyd Street. Digwyddodd rhyw angha- ffael a'r peiriant a chafodd yntau hergwd yn erbyn drws tý- Mr. Robert Jones, yr is grwner. Codwm cas ond da clywed fod y llanc addaowl yn gwella o'i friwiau. TYNGHEDU A CHAU EI DDWRN. Y Cadfridog Owen Thomas oedd llywydd y cynhulliad a ddaeth ynghyd yn y Rhyl nos lau ddiweddaf i wrando darlith newydd Mr. J. Hugh Edwards, A.S., ar Y Rhyfelac Wedyn. Dau pur ddiddorol eu clywed, ond mown dau fyd gwahanol. Baich anerchiad y cadeirydd oedd cau ei ddwrn a thynghedu pobl Cymru, o bob dosbarth* a gradd, i wneud eu rhan dros filwyr a morwyr y wlad yn awr a phan fo'r rhyfel ar ben, sef cystal a dywedyd :— Welwoh chwi, 'does o hyn ymlaen ddim gadael i'r un milwr na morwr i glemio yn ei gongl, na chloff-hercian ar ei faglau a by w ar eich cardod-, na'r un ohonynt, am eich bywyd i orfod dibonnu ei oos drwy gilio i arftf-sgrythu i farwolaeth mewn tloty, megis y bu raid i filoedd o ddewrion ar ol rhyfetoedd y Crimea, a Dehoudir Affrica, ■ AR GEFls AITI GILYDD.—DywedaiDr- Edward Williams, yn ei adroddiad hlynyddol i Gyngor Gwledig Treffynnon, fod prinder dybryd am dai yn yr ardaloedd hynny. Nifer o da-i-iiage, tylciau !dwy-ysta.foll yn Rhos y Cae, sef un i fyw a'r llall i gysgu ynddi, a honno'n orlawn aflednais o'r ddau ryw. A phan heidia'r ymwelwyr haf i NN'u-rn y Myn- ydd, Gwernffield, Hie y Gath (Cat-hole) a'u cyffiniau, bydd y tai yno'n beryglus o lawn, a chynifer a phedwar ar ddeg o bobl yno'n clwydo ar gefnau'i gilydd. Clywsom ddy- wedyd fod digon o wyr a. gwragedd yr Hen Wiad yn fodlon hongian fel cot ucha tu ol i'r drws er mwy:1 cael lie i wr neu wraig ddieithr go felyn eu cil dWTn. LLECTIEN RHAGOR TEILEN. Dyma y gwyr a fu'n cymryd rhan yn y gynhadledd a gynhaliwyd ym Mhorthmadog ddydd Gwener diweddaf, i ystyried sut y gollid deffro'r Llywodraeth i dalu mwy o sylw a rhoddi gwell chwarae teg i'r fasnach lechi, sydd mor farw bron ers blynyddoedd Mri. Jonathan Davies (llywydd), D. Llewelyn Hughes (ysgrifennydd), Alf. Richards (Caer- narfon), R. M.Greaves,J. G. Ashmore (Chwrar- eli Oakley), E. W. Davies, A.S., O'Sullivan (Chwareli Corris), J. Jones-Morris, W. Owen a Jos. Evans (Bl. Ffestiniog), Wm. George (Cricieth), W. J. Griffith (Nantlle), O. T. Williams, David Evans (Caernarfon). Dy- wedwyd pethau cryflon am waith y Llywodr- aeth yn methu gweld rhagoriaeth llechen Cymru ar y tile estronol a phenodwyd dir- prwjraeth o ddavi ar hugain i fynd i Lundaivi i roddi'r achos gerbron a mynnu cael rhywbeth amgenach na gair IIHvyn a chau'r drvVs ar ol ei ddywedyd. -s- PWY A BIA U'R PILL /V-'Ysgwn i pwy a biau'r pill pesimistaidd a ganlyn ;—- Pa le mae r cariad hob y cur ? Pa 10 mae'r melys hob y sur ? Pa le mae'r rhosyn heb y drair. ? Xid ar y ddaear coir v rhain. GW ARC HOD W YR D1R WEST. Cyn • bolid cyfarfod hanner-blynyddol pwyllgor gweithiol Cymanfa Ddirwestol Gwynedd yng Nghorwen yr wythnos ddiweddaf. Y Gvman- fa nesaf i fod yn yr Abermaw Hydref 2--4. a'r Parch. A. T. Guttery a'r Prifathro Prys i fod yn brif siaradwyr. Diolchwyd i Syr Henry Lewis a'r Mri. j. E. Powell, Martin Williams a W. George am eu gwasanaoth gyda chao] Cymru a Mynwy yn ei chrynswth dan Orch- ymyn Bwrdd Rheoleiddiad y QwiroJydd. Syr J. Herbert Roberts oedd yn y gadair ac fol ffrwyth oi anerchiad of, oahvyd trafodaeth ar sut. i ddeffro'r wlad a'i chael iddilyn esiampj lwyr-ymwrthodol y Brenin yn fwy cyffrodho) Cjfeiriwyd at y golled fawr a gafodd" Dirwest ym marwolaeth Mr. J.-Matthews, Amlwch,' a Syr Stafford Howard, llywydd Cvmanfa Ddir- westol y De. PRIODAS PWLLHELI.-Ddydd Sadwrn diweddaf, yng nghapel Penmount, priodid v Proff. D. Morris Jones, M.A., darlithydd yn Athrofa'r Bala, ond sy'n awr gyda'r R.A.M.C. Cymreig yn Llandrindod, a Miss Esther Will- iams, merch y diweddar Mr; Hugh Williams, Shop Goch, Pwllholi. Seliwyd y cyfamod gan y Parchedigion J. Puleston Jonos, M.A., O. Gaianydd Williams (Ro Wen) a J. H. Williams (Porthmadog). Y Parch. Robert Jones (Chwilog) oedd y gwas priodas, a Miss Will- iams (chwaer) y forwyn. Cyn hwylio draw am eu mis mel, cafwyti neithior luosog ei gwa- hoddegionyn y Derlwyn, cartref v briodas- ferch. Pa le y ceir cwpl hoewach ? Ni cheir dau mwynach ar d ii, Nfl, gwr eu a gwraig gywir." PREGETHWR A LLA1.S GANDDO.— Wrth lywyddu yn fostri flynyddol plwy L, an dudno, sylwodd y Rheithor Ll. R. Hughes fod awdurdodau'r Fyddin yn gweiddi am gaplan- iaid a digon o lais ganddynt i wasanaethu ar y maes. IV, el, yr oedd amryw o rai a fu yn guradiaid Llandudno bellach yn gaplaniaid, ac wedi bwrw'u prentisiaeth ar bregethu yn yr awyr-agored, canys rhifai'r gj-nulleidfa tuallan i Eglwys Sant Tudno, ar gorun Trw-yn y Fuwch (Great Orme) gryn bedair mil a mwy ar ddiwrnod braf yn yr haf. Esgob presennol Bangor oedd un o'r pregethwyr awyr agorod goreu'n y wlad, ac yn oghvys Sant Tudo y bwriodd yntau'i brentisiaeth. Fe'i elywsai'n progethu i dair brigad. ac yn hollol hyglyw i'r cwbl ohorynt.—Y mae'n debyg, y Rheithor Hughes, mai gawrfloadd Howel Harris ac Ebenezer Morris oedd y ddwy gryfaf a glywd yng Nghymru, ac un Whitfiekl yn Lloogr. Gallent hwy weiddi'r Cymod i gyrrion pellaf torf o ugain mil heb fod fymryn blinaoh ar derfyn awr a hanner neu awr a chwarter o brogeth,

Advertising

0 Lofft y Stabal.

Advertising