Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

GOSTEG.

I DYDPiAiSUR. lJ,í Æ"" )I.,l'.…

I Gyhoeddwyr y CymodI

Cymanfa Ganu Bedyddwyr Lerpwl…

News
Cite
Share

Cymanfa Ganu Bedyddwyr Lerpwl ar Cylch. I LGAM G.W.IEE.] I CYNHALIWYD hon nos Fercher, y 12fed cyf., yng nghapel Everton Village, 0 dan arweiniad y cerddor hyfedr a phrofiadol, Mr. J. T. Jones, arweinydd C6r Meibion onwog y Cymric a throdd allan yn rhagorol, er dioddef i raddau od d iwrth yr amgylchiadau adfyd us presennol Wrth yr offeryn yr oedd Miss M. E. Roberts, Bootle, a wnaeth ei gwaith yn fedrus. Llyw- yddwyd gan y Parch. T. Michael, B.A.,B.D. Canwyd y tonau Regent Square, Glanwydden (J. H. Roberts), Llanbeblig, Milwaukee (Dr. Protheroe), Elijah, GwylJa (Dr Lloyd Evans), Hollingside, Arabia (tr. y diwoddar Mr. R. Mills, Rhos), Danville (Dr. Parry), a DwyfQT- he a alau Gymreig wedi ei chynglianeddu gan Dr. J. Lloyd. Williams, Bangor Chant yn A leia.f (Batteshill) ac un arall yn A fwyaf (Crotch); y Metrical Chant brydferth, Y Wlad Well" (Alaw Ddu) a Vesper (ar y terfyn), ynghyda'r Anthemau, Y rhai sydd yn hau mown dagrau (Emlyn Evans) a Co Morhawddgar (Dr. Parry). Dechrouwyd y cyfarfod gan y Parch. J. Vernon Lewis, yr hwn a ddarllenodd ran gyfaddas o'rYsgry thyr, ac a offrymodd Weddi, a chanwyd yr Anthem Genadlaethol gyda gwres. Caed anerchiad rhagorol gan y llywydd. Sylwai fod yr leau yn aros 5m destyn emynau a mawl yr oesoedd. Yr oedd beirdd yr oesoedd yn bwrw eu coron- au i lawr wrth ei draed, Ef. Yn yr omynau, caffai'r holl gynulleidfa gyfle i roi mawl i Dduw, a dylai pob un ganu. Anogai rieni i roi addysg gerddorol i'w plant, fel y delent yn ddefnyddiol gyda'r rhan bwysig hoi o was- anaeth y cysegr. Canwyd pob t6n yn effeithiol, ao amryw yn rhagorol. Canodd yr holl gynulleidfa Regent Square urddasol Smart i ddechreu, ac yr oedd yn rhagorol o ran a-mseriad, sofydlowgrwydd, a bywyd. Tdn ragorol yw Glanwydden Mr. J. H. Roberts, a chanwyd hi mewn ysbryd dymunol. Pwynt da oedd cyflymu'r amser y 1 llinellau ola'r ddau bennill cyntaf ac ar hyd y pennill diweddaf. Yr oedd y Bass yn w alius ary nodyn cyntaf (seithfed y cord) yn y bodwaredd linell, ac felly collwyd effaith dda. Canwyd pennill cyntaf Llanbeblig yn brudd a theimladwy, a'r diweddaf gyda phriod- oldeb ncilltuol, yn gyflymach ac mewn ysbryd gorfoleddus. Datganiad meddylgar oedd hwo, a difrifwch priodol yn y llinellau lie y gofynnid hynny. Canwyd ton swynol Mil- waukee gyda'r teimlad dwfn a weddai i'r omyn hwn. Grllasai'r Tenors wneud gwell dafnydd o'r efolychiad o'r alaw yn y llinell gyntaf. Canwyd yr omyn ar Elijah yn weddi- gar. Yr oedd yn ddatganiad glan a theim- ladwy. Ton brydferth yw Gwylfa, eiddo'r diwecldar annwyi gyfaill Mr. D. Lloyd Evans O,iwadO ai, annwyl p-, a chafwyd canu tlws ami, oddieithr ddarfod i'r Tenors arwain y lleisiau oddiar lWybr tonyddiaeth bur, ar yr ail linell yn y trydydd pennill. Rhoes yr arweinydd froddegaeth dlos i'r emyn hwn. Da oedd gennym gwolod yr hen Arabia mor ragorol, gyda'r amryw iaeth diddorol a fabwysiadodd yr arweiii),dd-y lleisiau beny waidd yn unig yn cymryd. llinell- au cyntaf rhai o'r penillion, a'r Tenor a'r Bass yn dod i mewn yn y llinellau diweddaf. Tdn a mynd ynddi yw Danville. Dr. Parry, ar y Mesur 2.8, er o'r braidd yr adnabyddem y Doctor ynddi. Canwyd hi'n neilltuol o eff- eithiol. Trefnwyd a chynghaneddwyd Dwy- for yn chwaethus. Y mae 'r efelychiad rhwng yr Alaw a'r Bass yn bur effeithiol. Canwyd hi yn rhagorol. Canwyd y Salmdonau yn ardderchog. Y mae hyn yn olfen bwysig bob blwyddyn yn y Cymanfaoeid hyn. Doella r cantorion eu gwaith yn drwyadl, ac ânt drwy'r Chants yn feistrolgar. Yn yr anthem Y rhai sydd yn hau yr oodd y Tenor ychydig yn ansefydlog yn nechreu'r Quasi- Recit, ac fe fethodd y Soprano gymryd i fyny yr esgyniad o Ci A' ar y geiriau a fedant." Torrodd y Soprano hefyd y f awddeg derfynol "Hewn gorfoledd ychydig yn anffodus. Gyda r eithriadau hyn, cafwyd datganiad cyffredinol neilltuol o effeithiol o'r Anthem. Cafwyd datganiad campus o "Mor Hawdd- gar "-y symudiad cyntaf yn brydferth a chwaethus, a'r ehodgan gyda meistrolaeth. Arweinodd Mr. Jones gyda'i ddeheurwydd dirodres arferol. Tynnodd allan y goreu o'r cantorion. Yr oedd y Gymaafa hon yr eilfod arbymtheg o'rgyfresiddo'iharwainyn ddifwlch, yr hyn a sieryd yn hyawdl am syniad ei enwad amdano, a'uhymddiriedaeth ynddo. Yng ngliwrs y blynyddoedd, gosod- odd ei argraff yn ddwfn ar ganiadaoth yr onwad yn y ddinps a'r cyffiniau. Yr oedd lloisiau'r Sopranos eleni yn rhagorol o glir ac unol, a'r Bass yii jerthol. Yr oedd y Tenor yn dda, ond nid mor unol ag y clywyd hwynt. Yr oedd nifer o leitiau cyfoethog ymhlith y Contralto, ond teimlid fed hefyci rai lleisiau unigol i-tad ooddyat o ran eu nodwedd yn cyframu at y cyd-doddiad hapusaf-llaisiau iouainc, fe ddichon. Yr oedd y pedWar llais gyda'i gilydd, modd bynnag, monvii cyflwr da iawn, ac y 1 ateb gyda'r parodrwydd mwyaf i alwadau'r arweinydd galluog. Cafwyd fel hyn Gymanfa ragorol, a hyderwn y bydd hon eto yn symbyliad i ganiadaeth yn y cylch; Dylesid dweyd ddarfod i frawd na cha vsom ei enw ddarllen Psalm 104, ac offryniu Gweddi, ynghanol y cyfarfod arferiad hapus yn y Cymanfaoodd hyi. Haedde'r ysgrifennydd medrus a diwyd, Mr. J. T. Davies, glod am ei wasanaeth gwerthfawr tuagat lwydd y Gymanfa, yr hon e bery yn ei phoblogrwydd.

Heddyw'r Bore I

Advertising

DAU TUPR AFON.