Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

GOSTEG.

I DYDPiAiSUR. lJ,í Æ"" )I.,l'.…

I Gyhoeddwyr y CymodI

Cymanfa Ganu Bedyddwyr Lerpwl…

Heddyw'r Bore I

Advertising

DAU TUPR AFON.

News
Cite
Share

Parhad o tudal. 5 I Roberts, ei hathrawes, a'r dosbarth, ac hefyd lyfr I Jackie gan ei athrawes, Miss Gwen Davies. Cafwyd gair gan Mr. E. J. Jenkins a Mr. W. Philip Davies. Mawr fwynhawyd unawdau gan Miss Phyllis Davies. ac unawdau ac adroddiad gan Mr. Philip Davies, Cyfeiliwyd gan Miss Phyllis Davies a Mrs. D. W. Davies. Yr ydym yn ddyledus iawn i'r rhai a fu mor ffyddlon gyda'r cyfarfodydd hyn, yn enwedig Miss Nellie Roberts a Mr. Leonard Jones, ac yr oedd y cyfarfod diddorol a gawsom yn tystio i'w hymroddiad gyda'r gwaith.-Un oedd yno. MARW YN CANTERBURY.—Dyna ddaeth i ran y brawd hoff, Mr. John Lankshear, mab hynaf Mr. a Mrs. Lankshear, Denton Grove, aelodau ffyddlon yn eglwys M.C. Newsham Park. Dair wythnos yn ol, ymunodd a'r 5th King's Liverpool, ac anfonwyd ef gyda Ilu eraill i Canterbury i fynd drwy'r cwrs angen- rheidiol; ond goddiweddwyd ef yn sydyn gan boenau arteithiol, ac fe'i dygwyd i'r ysbyty ond er yr holl allu meddygol a thynerwch y rhai oedd yn gweini amo, ehedodd ei ysbryd ymaith, ac efe'n ymddiddan a'i chwaer, Miss Lankshear, oedd wedi cyrraedd erchwyn ei wely ychydig oriau cyn ei farw. Loes lem yw hon i'r teulu, sydd hefyd yn bryderus am eu mab ieuengaf (a'r unig fab erbyn hyn) sydd yn ffosydd Ffrainc. Claddwyd ddydd Mawrth, y i8fed, ym mynwent Everton, ynghanol amlygiadau o gydym- deimlad dwys, a gosgordd o filwyr y Royal Welsb Fusiliers, dan ofal Serg t. R. J. Hughes, yn cyd- gerdded o bobtu i'r cerbydau. Y Parch. R. Aethwy Jones, M.A., yn gwasanaethu, a'r trefniadau yng ngofal Mr. J. T. Jones. Cynhaliwyd Cyfarfod Cenhadol Cymreig yn y Tabemacl, Belmont Road, nos Lun ddiweddaf,—un o gyfres yr Wyl Genhadol flynyddol perthynol i eglwysi Annibynnol Cymreig a Seisnig y cylch. Cymerwyd y gadair gan Mr. Robert Davies, Park Road, un o henafgwyr parchusaf y cylch, a rhoddodd anerchiad priodol ar y dechreu. Siaradwyd gan Miss Myfanwy Wood, China, a'r Parch. Wm. Evans, Madagasgar. Cymerwyd rhan yn y cyfarfod gan amryw o'r gweinidogion Ileol. Cofir yn hir am anerchiadau y Cenhadon, a gwnant les mawr yn ddiau i bawb a gafodd y fraint o'u clywed. Byddwch yn ofalus o'ch Ilygaid, yn anad dim a goddJwch inni gyfeirio eich sylw at hysbysiad Mri. Archer a'i Feibion ar tudal l-gvryr sydd mor hysbys yn Lerpwl a'r amgylchoedd am eu cyfar- wyddineb a phopeth perthynol i'r llygad a'r golygon, ac sydd mor barod a chymwys i gyfarwyddo pawb a el atynt gyda golwg ar arbed y golygon a chad yr iawn wydrau ac yn y blaen. j BLODEUYN YN CAEI. EI DORRI I LAWR YN ¡ GYNNAR.—Cyfeirio'r ydym at farwolaeth Thomas John, annwyl blentyn Mr. a Mrs. Wm. Williams, 148 Garmoyle Road. Dioddefodd gystudd blin, ond byr, ac er pob gofal meddygol, gwywodd Ebrill iofed, a chymerodd yr Arglwydd ef gartref, ac efe newydd gyrraedd ei ddwyflwydd oed. Claddwyd ym myn- went Allerton Ebrill 14, pry d y gwasanaethwyd gan y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D. Chwith meddwl na chawn weled ei wyneb annwyl a'i wen siriol mwy- ach, pan yn ein cyfarfod wrth y drws. Nawdd y Nef i'r teulu yn eu galar a'u hiraeth.-E.L.R. CROESO WOODCHURCH ROAD.-Trwy garedig- rwydd Mr. a Mrs. R. E. Hughes, Crofton," gwa- hoddwyd aelodau'r eglwys, a nifer o filwyr clwyfedig o ysbytai'r dref, i Coffee Supper, Ebrill 13, yn ddar- pariaeth helaeth o bob math ar ddanteithion; yn ychwanegol at hyn, yr oedd yna raglen ragorol o ganu ac adrodd. Agorwyd gyda chan, Mountain Stream, gan Miss M. E. Davies, Clwyd House. Deuawd ar y berdoneg, Misses Dorothy Hughes a Joan Davies. Can, Until, Sergt. Perrin. Can, There's a land, Miss Maggie Jones (Megan Bedw), yn neilltuol o dda. Yna cafwyd amryw ddamau doniol iawn gan Arvon Hope, Lerpwl. CAn, The Gift, Miss Davies; adroddiad, Torri Amod Priodas, y Preifat Jones, a gorfu iddo ail adrodd. Detholiad ar y berdoneg, Mrs. Griffiths Aberystwyth. Adroddiad dynwaredol, Private Rog- ers cafodd hwyl anarferol. Adroddiad, Somebody's Mother, Miss Enid Humphreys. Canu penillion, Mr. W. R. Holland, a Miss Freda Holland, gyda'r delyn. CAn, Private Rogers. Detholiad ar y delyn, Miss Freda Holland. Can, Angus Macdonald, Miss Will- iams. Anerchiad y Parch. W. O. Jones, yn croes- awu'r milwyr. Gair gan Preifat Rogers, yn diolch dros y milwyr am y wledd a'r cyngerdd campus. Terfynwyd y rhan yma o'r cyfarfod gan Miss Maggie Jones, trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau, Auld Lang Syne, a God Save the King,-pawb yn uno yn y cyd- gan. Agorwyd yr ail ran gan Arvon Hope, yn ei hwyliau goreu. Can, Goleuni yn yr hwyr, Miss M. E. Davies. Deuawd, Gwys i'r gad, Mri. Foulkes a Humphrey Roberts. Adroddiad, Y Gtvlithyn, Miss Rowlands, Heathley." Detholiad ar y delyn, Miss Freda Holland. Cin, Liam y Cariadau, Miss Will- iams. Canu penillion gyda'r delyn, Miss Lizzie Jones. Can. Gwlady Delyn, Mr. T. A. Edwards. Can, B chgyn Cymru, Mr. Humphrey Roberts yn cael ei ailalw, ac yn canu Till the boys come home. Can, Cartref, Miss Williams. CAn, rr Ornest, Mr. H. Roberts. Diolchodd y Parch. W. O. Jones a Mr. Thos. Davies i Mr. a Mrs. Hughes am y wledd, ac i bawb gymrodd ran. Can, Tr Hen Simdde Fawr, Mr. Humphrey Roberts, gydag arddeliad neilltuol, Cyfeiliwyd ar hyd y cyfarfod, yn eifeithiol iawn, gan Mrs. Eames., Arweiniwyd y cyfarfod yn ddeheig gan Mr. Ifan Tomos. Casglwyd £ /3 /6- at gysuron i fechgyn yr eglwys yn y Fyddin a'r Llynges. Terfynwyd cyfarfod gwir dda gan Mr. Humphrey Roberts, trwy ganu Hen Wlad fy Nbadau.-T.,I.E. EGLWYs M.C. WATERLOO.-Nos Saboth ddi- weddaf, cynhaliwyd oedfa o Fawl. Daeth cynhulliad lluosog yno, a chanwyd y rhan fwyaf o'r tonau, yng nghyda'r ddwy anthem o lyfr y Gymanfa Ganu ddi- weddaf. Llywyddwyd gan y Parch. Wm. Henry, arweinydd y canu ydoedd Mr. William Parry; caf- wyd datganiad rhagorol o When I survey the wondrous Cross gan Miss Dora Rowlands, B.A. Yr organydd oedd Miss Vera Henry, a gwnaeth ei rhan er boddhad cyffredinol. Cyfarfod dymunol a bendithiol iawn, a barn amryw ydoedd mai dymunol fyddai cael oedfa o'r fath yn amlach nag unwaith mewn blwyddyn.