Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

! f o Big yI -Lleifiad.! I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

f o Big y Lleifiad. EISKDDfOD 6EM( DLAETHOL 1917. Rhoi'r Hos^n ar y gweill. DAETH nifer lluosog o feichiafon Eisteddfod Genedl- aethol 1917, syddi'w chynnal yn Birkenhead, ynghyd i ysgoldy Clifton Road, nos Wener ddiweddaf, ac aed drwy lawer o waith yn hwylus a chyda phob awydd i wneuthur yr wyl yn llwyddiant, nid yn ariannol yn unig, end yn ei hamcanion uchaf a mwyaf pwysig, sef fel amlygiad o'r greddfau Lien, Awen a Chan sydd mor gryf yn y Cymro, ac a lynant wrtho ymha wlad bynnag y teifl Rhagluniaeth ef i fodyn halen ynddi. Llywyddid gan Mr. J. H. Jones ac oddiwrth adroddiad yr ysgrifenyddion (Mri. Isaac Davies a Ben Thomas) cafwydfod £ 5i5 wedi ei addo at y £ 500 oedd yn angenrheidiol fel ymrwymiad ariannol; y mae rhagor mewn golwg, a phob parod- rwydd yn cael ei ddangos i arwyddo'r daflen. Enwyd un o wyr amlyca'r glannau fel llywydd yr wyl, ac amryw eraill yn is-Iywyddion; ac etholwyd pwyllgorau fel y canlyn Ptcyllgor Giveithiol-—Mri. J. II. Jones (cadeirydd) i Thomas Davies, David Evans, y Cyng. D. Roger Rowlands (trysoryddion); Isaac Davies, Ben Thomas (ysgrifenyddion); y Parchn. Joseph Davies. D. Tecwyn Evans, B.A., Mri. Evan Evans, Richard Hughes, P. H. Jones, F.I.C., R. Vaughan Jones, W. Garmon Jones, M.A., A. Macdonald, J. Morris, Wm. Parry, A. A. Rees, Evan Roberts, y Parchn. G. J. Williams, J. J. Roberts, B.A., Mri. J. W. Roberts, Robert Roberts (Glasfryn), J. G. Rowlands, B.A., T. H. Williams, Arthur Venmore, a llywydd ac ysgrif- ennydd y gwahanol bwyllgorau. Pwyllgor Hysbysiadol, etc.—Mri. Hy. Daniels, J. W. Evans, Hugh Evans (Lerpwl), R. J. Jones, H. Latimer Jones, A. A. Rees, J. W. Roberts, D. Roger Rowlands, J. W. Williams, W. P. Williams. Pwyllgor Cerddorol.—Mrs. Thos. Davies, Mrs.. T. H. Williams, Miss Edith Darbyshire, L.R.A.M., Mrs. Tecwyn Evans, Miss Lizzie Roberts, L.L.C.M. Mri. J. T. Davies, T. Evans, A. E. Griffiths, Millward Hughes, Evan Hughes, Elias Jones, Robert Jones, T. Morris, R. Vaughan Jones, W. R. Holland, Edward Parry, H. Roberts (Seacombe), Thos. Steph- ens, Arthur Venmore, H. Trevor Williams, Fred Owens. P.zoyllgor Lenyddol.-Y Parch. Joseph Davies, D. Tecwyn Evans, B.A., Mri. R. W. Edwards, R. Griffiths, Rd. Hughos, J. H. Jones, Lewis Jones (Hilbre), Matthew H. Jones, P. H. Jones, F.I.C., W. Garmon Jones, M.A., W. R. Pritchard, Miss Kath. E. Roberts, y Parchn. T. J. Rowlands, M.A. B.D., J. J. Roberts, B.A., G. J. Williams, Mr. Ifan Tomos, Madame Gladys Williams, Mr. R. C. Will- iams, Mr. W. P. Williams, Mrs. Dr.Williams (Liscard). Pwyllgor yr Orsedd.-Y Parchn. J. O. Williams (Pedrog), D. Adams, B.A., D. Tecwyn Evans, B.A., Mri. J. G. Rowlands, B.A., W. R. Holland, Rd. Hughes, Pedr Hir. Pwyllgor yr Adeilad.-Mri. David Evans, Thos. Davies, Evan Roberts, W. R. Holland, Wm. Thomas (Treflyn), John Evans (Glenart), D. T. Jones, Wm. Parry, Robert Roberts (Glasfryn), L. Wynne Will- iams, Robert Davies. Pwyllgor Cell.-Miss Katherine R. Roberts, Mr. R. T. Jones (ysgrifennydd y Pwyllgor Addysg), y Cyng. D. R. Rowlands, Mr. J. O. Roberts, L: Wynne Williams, T. Parry Williams, Evan Roberts, Ll-w 'Wynne, T. T. Rees, F.R.I.B.A. Gan mai prin bedwar mis oedd rhyngom ag Eis- teddfod Aberystwyth, ac fod yn rhaid cael rhaglen y testynatt yn barod i'w chyflwyno yno, pwyswyd ar y pwyllgorau i ymroi ati ar unwaith i'w dewis, a'u cael yn barod o leiaf ymhen y dau fis. Ni fydd caniatad i'r un aclod o bwyllgor gystadlu o gwbl yn yr Eis- teddfod; a thynghedwyd pawb i gadw'r testynau a thrafodion y pwyllgorau'n gyfrinach hollol, ac nid eu gollwng pethau preifat allan mor frac eu tafod ag y gwneir mor fynych mewn pwyllgorau. Dewiswyd dirprwyaeth i gyd-drefnu a Phwyllgor yr Orsedd a Chymdeithas yr Eisteddfod parth cy- hoeddi'r Wyl, a dymunwyd bod mor gynnil ag y byddai fodd ynglyn a'r seremoni honno. Pasiwyd i gynnal yr wyl fis Medi; ac er nad oes dim wedi ei benderfynu eto, y tebyg ydyw mai gwyl ddau-ddiwmod o gystadlu a fydd, a'r trydydd yn ddiwmod o gymanfa ganu-un cyfarfod, hwyrach, i ganu pigion hen alawon Cymru, a'r Mall i ganu pigion ein hemynau. Ceir clywed yn fanylach maes o law. Y mae Eisteddfodwyr profedig Lerpwl yn cyd- weithredu'n gallonnog a'u brodyr yn Birkenhead; ac y mae pob argoel y bydd yr wyl yn un dda ac urddasol ei thestynau, gan anelu at Iwyddiant mewnol a gwirioneddolyn hytrach nag at ysblander allanol a llygad-dynnol. M GLTNDWR AM T TRTDYDD TRO.-Per- fformiwyd drama Glyndwr Pedr Hir yn y Gordon Institute, Stanley Road, nos Sadwrn ddiweddaf, sef am y trydydd tro yn y ddinas o fewn y deufis di- weddaf. Dyma'r cymeriadau :—Owaih Glyndwr, Mr. J. D. Jones Meredudd, Thomas, Madog a Sion, meibion Glyndwr, Mri. J. D. Roberts, Alun Owen, Ernest Davies, Lloyd Parry Reginald Grey, arglwydd Rhuthyn, Mr. J. R. Hughes, M.A.; lolo Gocb, y bardd, Mr. J. R. Jones; Gruffudd ab Dafydd, un o bleidwyr Glyndwr, Mr. W. P. Williams Syr tdmwnt Mortimer, Mr. J. W. Roberts; Abad Glyn y Groes, Mr. T. Clever; Dafydd Daron, deon Bangor, Mr. P. Lloyd; Brenin Lloegr, Mr. J. O. Roberts; Syr Dafydd Gam, Mr. J. Williams; Llywelyn ap Gruffudd a RhysG ibin, Mr., R. Parry Syr G Ibert Talbot, Mr. H. Jones-Evans; Marged, gwraig Glyndwr, Miss M. Evans; Jane, merch Glyndwr, Mrs. Parry; Angharad, gwraig gwerinwr, Mrs. Phillips; Nest, cymdoges i Angharad, Miss Bessie Jones; Clovis, merch Morgan ap Rhosser, Miss May Jones Macwy, Master Ed. Parry; a Mr. Wm. George yn gofalu am y llwyfan. Gan yr adolygwyd y chwarae'n helaeth o'r blaen, digon dywedyd y caed arddeliad da y tro hwn eto, ac ambell bwyslais ac ystum er gwell o gryn dipyn na chynt. Camgymeriad oedd sefyll ac eistedd a siarad mor bell draw ar y lTwyfan, gan fod sgafell y llwyfan yn boddi'r llais, a phellafoedd y dyrfa'n methu'n lan a chlywed rh pethau pwys g. Ymas odd y cwmn/n dda iawn i'w gilydd; a chad- wyd diddordeb a bias y gynulleidfa hyd y diwedd. « a PLENYDD A'l WEFR.-Fel y gwelwyd yn ein rhifyn diweddaf, anerchodd Plenydd dri neu bedwar o gyrddau dirwestol ar y Glannau yma'r wythnos ddiweddaf, ac a gafodd ami brawf ei fod ef a'i achos yn dal yn annwyl yng nghof ai chalon Cymry Lerpwl, ddau tu'r afon. Gwirfodei bwn blynyddoeddyntau, fel pwn pawb ohonom, yn trymhau, a'i wallt yn gwynnu efo'i galon; ond pin draen a falia efe am I hynny os ceir Sobrwydd i fyny a'r Dafarn i lawr. Y mae'r hen dine a goslef ddengar yn y llais o hyd; yr hen sgleín agWdr yn y llygad; yr hen ias ddra- matig yn dal i gerdded drwy'i gorff; a phe'r aethai ar lwyfan y theatr, hwyrach y buasai wedi dringo mor enwog fel actiwr ag y dringodd fel Apostol ac arch- areithydd dirwestol Cymru pan yn ei anterth. Gwyr cystal a neb beth ydjnv cystudd a phrofedigaethau, eithr ni phalloddei ffyddac ni suroddeiysbryd, canys gwyr am Ffynnon yn this wonderful old Book, chwedl yntau, wrth agor ei ddail a dodi ei fys ar ei hoff adnod o'r Salmau at dywydd mawr. Dim ond areith- iwr profedig fedrai oslefu a phwyntio bys fel y I gwnaeth ef heno, nes gyrru calon dyn i ymglymu'n dynnach nag erioed am Oraclau Duw. Caffed fyw'n ddigon hir i weld hualau'r Fasnach Feddwol yn datod r oddiam wddf y wlad, ac i weld yr had a heuodd mor ddyfal ers cyd o amser yn blaguro byth i wywo mwy. tt r BACH TN HELPU'R. MAWR.—" Ac felly ni a ddaethom i Rufain," oedd testyn un o bregethau Elfed, yn Grove Street y nos o'r blaen hon oedd yr adnod nesaf i'r testyn H Ac oddiyno, pan glybu y brodyr arrtdanom, hwy a ddaethant i'n cyfarfod ar hyd Appii-fforum a'r Tair Tafarn y rhai, pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw ac a gymrodd gysur." Ac ebe'r bardd-weledydd o Lundain:- Os cwyno'r ydwyt dy fodyn ddistadl a di-ddawhj 4< dyma i ti un peth y gelli ei wneuthur: ymroi i helpu a chodi calon rhyw ddyn mawr sydd o fewn dy gyrraedd. Un mawr oedd Paul, tuhwnt i neb dyn bron rhai bach, na wyddom mo'u henwau, oedd y brodyr' sydd yn yr adnod, ond yn ddigon mawr i Apostol y Cenhedloedd ddiolch i Dduw amdanynt, ac ymlenwi o gysur wrth eu "gweld yn dodddeng milltir ar hugain i'wgyfarfod pan oedd yn gaeth yn ei gadwyn ar y ffordd i Rufain." ++ ++ ++ ++ +• Ti- DALIW N TW DYRNU.—Y mae fy llygaid ar fy ngwlad a'm gweddi ddydd a nos drosti. Gobeith- iaf y daw tro sydyn, trwy diriondeb Duw, ac y gwel y gelyn fod vn rhaid iddo roi i fyny. Heb hynny, ni welaf un ffordd ond dal i'w ddyrnodio nes y gwel y bobl yn Germani mai hollol ofer iddynt ymddiried yn eu gau ddelwau, ac y teflir Babilon Militariaeth i waelod y mor heb obaith adfer byth.Pliciad o lythyr y Parch. J. Hughes, M.A., o Denver Colorado, at Tlr. Hugh Lloyd, Fitzclarence Street. ±+ tt +t- t+ < +? ZtllL 0 BUNNAU AT GIST IRFAU.-Un o'r sefydliadau teilyngaf yng Nghymru yw'r Cartref i BIant Amddifaid sydd yn y Bontnewydd, ger Caernarfon ac yn yr adroddiad blynyddoI-y q.eg-dyma'i lun a theyrnged i'r diweddar Mr. Wm. Jones, Seacombe, a gofiodd mor had am y lie a'i fil o bunnau a'i gist arfau Ddiwedd y flwyddyn bu farw Mr. William Jones, 5 Mollington Road, Seacombe. Aethai i Lerpw ac efe ond bachgen ieuanc heb ganddo na chreff na chynysgaeth yn y byd-ond ei gymeriad a' benderfyniad diwyro. Gweithiodd grefft saer, llafuriodd yn galed, a dyfalbarhaodd yn lew. Llwyddodd yn fawr, ac ni ddaeth y llwyddiant hwnnw a llwydni ar bethau goreu bywyd iddo ef. Llawer a ofidiodd yn ei oes iddo ef orfod "wynebu'r byd a'i dreialon heb crioed weled wyneb ei fam, ac nid rhyfedd i'w serch redeg at "yr amddifad a'r diamddiffyn. Rhyw dair blynedd yn ol cynhygiodd yn rhodd i'r Cartref ei arfau saer, a hawdd oedd gweled y pryd hwnnw ei fod yn gollwng i'n gofal un o'i drysorau pennaf. Fe sibrydodd y gist arfau broffwydoliaeth am ged arall, ac fe ddaeth honno mewn Cymunrodd o Fil o Bunnau. Y mae'r arfau i'w cadw'n lan "-dyna'i ddymuniad. Fe'u cedwir felly, ac fe fydd y stori ramantus am y gwr fu'n diwyd weithio a hwy, a ollyngodd Iwyddiant ei fywyd 44 yn fendith i eraill, ac a ddaeth yn un o brif 44 gymwynaswyr y Cartref, yn werth ei hadrodd i 44 bob bachgen ddaw dan ein gofal." Wrth gofio'n goreu am y milwyr a'r morwyr, peidiw" a chofio ronyn llai am yr amddifaid bach a gysgodir mor dyner a chariadus yn Noddia'r Bont. Pwy fydd y goludog nesaf o Lannau'r Mersey i ado'i fil ? ? r DIWEDDAR MR. EDWARD PARRr.-Bu ef farw yn ei breswylfod, 123 Westminster Road, ddydd Iau diweddaf, yn ei chweched flwydd a phed- war ugain, ac wedi bod yn flaenor yn eglwys Anni- bynol Great Mersey Street am dair blynedd ar ddeg ar hugain. a phrofi'n golofn gref i'r Achos ymhob agwedd arno. Brodor o Foelfre, Mon, ydoedd, ac a fu'n hwsmon fore'i oes yn hen gartref y Brigadier Owen Thomas. Claddwyd ym mynwent Anfield ddydd Llun diweddaf, a chymrwyd rhan yn y ty gan Dr. Peter Price, M.A., y Rhos, a'r Parch. Wm. Thomas (Emmanuel); yng nghapel y fynwent, darllenodd a gweddiodd y Parch. O. L. Roberts traddododd Dr. Price anerchiad ar fywyd a chymeriad yr ymadaw- edig caed gair hefyd gan y Parch. Stanley Rogers yn Saesneg, ac yn Gymraeg gan Mr. W. A. Lloyd a Dr. Owen Evans, yr hwn a ddibennodd hefyd drwy weddi. Gwasanaethwyd wrth y bedd gan Dr. Price a'r Parch. T. Price Davies, Liscard. Daw ei lun a gair helaethach amdano yr wythnos nesaf. it AT r MOTOR AMBULANCE.- YsgoI Sul M.C. Laird Street, Birkenhead.. 1176 Ysgol Sul Plant Fitzclarence Street (M.C.) 184 Ysgol Sul Mipier Road (M.C.) 2 17 6 Cyfanswm 410 Yn eisiau. 90 £ s°° Alaw Madog, yntau, a fu'n gorwedd yn glaf yn ddiweddar, ond da fydd gan ei gyfeillion ddeaU ei fod wedi troi ar wella, ac yn mentro allan, er yn wanllyd iawn. Caffedy" cyweirnod cadam yn fuan eto. tt Clywsom ddywedyd y byddai'r diweddar Mr. Edward Smallwood, New Brighton, yn cofio am yr Iddewon ymbob gweddi ar hyd y blynyddoedd, na byth bron yn codi oddiar ei liniau heb daerymbil am i'r Nefoedd agor llygaid yr hen genedl, o lwynau'r hon y daeth Abraham a Phaul a Christ. tt Y mae Miss Lizzie Roberts, merch Mr. a Mrs. Robert Roberts, Glasfryn, Upton Road, Birkenhead newydd enniU gradd y L.L.C.M., a'i hanian gerddorol mor gryf nes fod ei bryd ar lythrennau eraill uwch eto maes o law. tt Dewiswyd y tri brawd a ganlyn yn flaenoriaid yn eglwys M.C. New Brighton nos Sul ddiweddaf Mr. Aneurin A. Rees, Berwyn Mr. Edward Roberts, Wallasey 5 a Mr. T. S. Roberts, North Drive. Y rhain yno dros y Cyfarfod Misol: y Parchn. J. H. Morris a D. D. Williams, Mri. Hugh Lloyd a Rd. Williams (Anfield). f) Cynhaliwyd cynhadledd Talaeth Powys (siroedd Dinbych, Fflint, Maldwyn, a Lerpwl, Manchester, a ]$ifmingham) yng Ngwrecsam nos L n ddiweddaf, i hyrwyddo cynllun y Cadfridog Owen Thomas i sicr- hau chwarae teg i filwyr a morwyr Cymru ac ethol- wyd Mr. James Venmore, Y.H., Anfield, a Mr. T. Arthur Lloyd, Falkner Square, i gynrychioli Cymry Glannau Mersey.

DAU TUPR AFON.