Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
SLIGHTLY USED & SECOND HAND PIANOS UPWARDS OF 20 HANDSOME PIANOS, IN BEAUTIFUL CASES, SUCH AS SOLID WALNUT, ROSEWOOD AND FINE ART EBONISED CASES, HAYING BEEN IN MANY CASES ONLY VERY SLIGHTLY USED, NOW OFFERED AT EXTRAORDINARY LOW PRIGES- MUOH REDUCED—TO CLEAR. WE HOLD ONE OF THE LARGEST STOCK AND INVITE YOUR INSPECTION I WITHOUT IMPORTUNITY TO PUR- CHASE. < TUNED AND DELIVERED FREE t EXCHANGES INVITED. Davies'sJ Low Hill. TELEPHONE 716 ANFIELD CLOSE ON WED. AT I. OPEN SAT Worth Sale Price £ M WALNUT Case, 7 octaves, ivory keys, sweet tone, panel front, brilliantly » polished, suit beginner *y/JL I -125 ROSEWOOD, 7 octaves, ivory keys, panel front, sweet bono, modern appearance «10/1U £ 30 EBONISED Handsome iron frame, by Cramer full com- pass trichord panel front and £ 14- /1, 0- s?nces ?14:/iU £ 30 WALNUT, full size, panel and seonces, 7 octaves, ivory keys, powerful tone, by Richmond grand instrument.£ 14/1 0 £3! WALNUT, Modern, ivory keys, 7 octaves, panel front and sconces, iron frame, full tri- shord, check action, sweet and powerful tone Liverpool and o I London Piano Co. ^axf J.U £30 WALNUT Handsome Case, 7 octaves, panel front by Qbrauss; superior tone and and touch a first class instru* q t>, «« ment; well-made and Rnished?iO/iU £30 WALNUT First Class Piano by Modmeyer sold by Van Grui- sen, Bold Street; ivory keys, 7 octaves, fine tone, responsive o-i ? /j n to?ch, highly finished I JLU 140 CONCERT SEMI-GRAND by Brard Walnut Case, ivory keys, splendid tone and res- ponsive touch; in perfect i- eondition and well preserved «&XO/ AO £ M COLLARD & COLLARD, Wal- nut case, 7 octaves, ivory keys, panel front and sconces, sweet p..1 .tone, modern appearance ,21 £ 35 ROSEWOOD, iron frame, high elass, ivory keys, latest improvements, superb tone and elastic touch overstrung iron framepiano. Jjjab/IU ^35 EBONISED,oblique overstrung, iron frame, trichord piano, by Kingsley rich tone, res- ponsive touch, a fine instru- ment, with all the highest qual- < ifications possible, like new.£26/10 £ ZS KIRKMAN, solid Walnut up- right, iron frame piano, beauti- ful tone, elastic touch, splendid instrument in every detail per- 11 f? feet satisfaction guaranteed. £27 0 J16 ORGAN, very powerful, rich tone American Organ, Knee Swell and Grand Organ. Suit Church, Chapel, or Mission 8/17/6 Hall .0/17/6 £45 PIANO PLAYER, beautiful mahogany case, piano. player, in perfect order, condi- tion as new, 65 notes, with 18 roUs of music, with mahog- £ 14/14/6 any stool.£ 14/14/6 DAVIES'S, 30 LOW HILL. THE ABOVE ARE ALL OFFERED FOR CASH, WHICH OFFERS THE PUR. CHASER THE GREATEST BENEFITS POSSIBLE. TBL. 710 ANFIELD. Ta iaphona Rayal 1117 Batabllshad lb eg ROBERT ROBERTS EBTATM AQMNf, 33 Netherfield RoadSoutb Has Property to Let is varioua parte oi ato own. Mortfas arranged. Vaiaatlont mar* 205 Established 1884. 'Phone 1140 Sootle i 547 WOOSNAM ROBERTS. f.A.I, Estate Agent, Bootle Estate Office, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY ROAO, BOOTLE (2 doors from Bedford Road) Telegrams: WOOSNAM. BOOTLE. Telephone No. 7909. J. LEWIS JONES, 88TATL 4.GENr VALUER, 60 Victoria St., Liverpool Properties carefully managed. Rents pit •oaaliy collected. Parchaws and Sales as gofcSatsdL Mortgages arranged and Istaturaese THOMAS d JONES, B8TATB AGBNTS VALUERS. ilivasTmaNT SMILDINOS, 67 Lord Street, Liverpool TrleVhone No. -1868 Bank. Properties Bought and Sold. Mortgage •rranend. Valuations made. Rents oolleotati T.L. 11 7 Axwiwua. MBIABUSSBD 197% Stephen Roberts & So a SSTATB AGAN-7,8 A VALUBBS 137 Eyerton Road, Liverpool Property carefully managed. Rents pit aonalh doilscted. Purchases and Skfa afoigotiratod. Moztptages arranged end It ssuranneB aSeoted Henry Jones, S'S'T AT BAGS NT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Lfverpoo Timli Bun; 4W84 0. JONES WILLIAMS, F.A.I., :!JT4.TJ4 4s VALUER, 17 Boundary Place, MossSt Liverpool. Bat. 1883. k Telephone t 567 Roya "alephma 51J6 Ba ak JONES "TllUGaES. SS9ASM OFFICE, 13 Whitechapel. Liverpool FREEHOLD LAND FOR SALE, Advances Made. R. E. tlUGHE., Estate Agent, Surveyor d Valuer, Charing Cross, Bsrkerifiecsd. Telephone No.-56 B'head. Has tioaaes to Let I\Ild for Sale in various part, of the Town and Qut districts Also Land to b. Sold for Building purpaaea. Advances made i?. BaHdera. Estates laid out. Etentgoolleotedap? Propertv oai-ftfnlly managed. 1.4 AL ntIE s BUCtHRO PILLS are onctvaliad cot all Ireogaiarttiw, &a., they .poelt'\ ellord relief and new fall to alleviate all safteiiap. fbe, tapersade P^nayroyal, Fit Oochla, Bitter Appte & i,LA,WC,YA.rffS art the best of all Pill for womai sold: in, noxa*, tilt by BOOT9* EbAnthell, '!&'OO.. Braaohas and all Ohemisto or post free, «am« pries, free 4 f,te. Chimmigto.IA ftu'Vno !<))< nadat. Y DDRAIG GOGH." THOMAS a JOINES, Bookseller, 16 BROWNLOW WILL (opposit, Midland Adelphi flotel). Large ^tock of Welsh Books, new an aeoond hand. ANwrD, PESWCH, INFLUENZA-Mae y rhain gydani bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae'r hen feddyginiaeth DAVIES'S COUGH MIXTURE etoar y biaen, ac yn cael ei gwerth- fawragi yn fwy nag erioed, bob amser wrth lawi yn felys, yn cynhesu y frest, ac yn rhyddhau'r phlegm; Bydd dose mewn pryd yn ddigon. is. 1 d. a 2s. 9d (postage, 3<i.)-HuGH DAVIXS, Chemist, Machynileth' MOLRAT,-At Ladd Tyrchod. Ysgrifenna JohnvPryse, Maes y me.rch; Blinid ni acw gan dyrchod cynhyddent bob blwyddyn, fel yr oedd y tir a golwg ddifritol amo, ac yr oedd arnaf gywilydd ohono; ond clywais fod Mr. Hugh Davies, Chemist, Machynlleth, wedi dyfeisio peth i'w lladd yn ddidrafferth iawn.—Ei enw ydyw Molrat,' mewn packets is. 6d yr un. Prynnais backet, a rhoddai ef yn ot y cyfarwyddyd am ben pryfed genwair a rhoddais y rhai hynny yn llwybr y twrch. Ni chod- dd y twrch mwy."
! f o Big yI -Lleifiad.! I
f o Big y Lleifiad. EISKDDfOD 6EM( DLAETHOL 1917. Rhoi'r Hos^n ar y gweill. DAETH nifer lluosog o feichiafon Eisteddfod Genedl- aethol 1917, syddi'w chynnal yn Birkenhead, ynghyd i ysgoldy Clifton Road, nos Wener ddiweddaf, ac aed drwy lawer o waith yn hwylus a chyda phob awydd i wneuthur yr wyl yn llwyddiant, nid yn ariannol yn unig, end yn ei hamcanion uchaf a mwyaf pwysig, sef fel amlygiad o'r greddfau Lien, Awen a Chan sydd mor gryf yn y Cymro, ac a lynant wrtho ymha wlad bynnag y teifl Rhagluniaeth ef i fodyn halen ynddi. Llywyddid gan Mr. J. H. Jones ac oddiwrth adroddiad yr ysgrifenyddion (Mri. Isaac Davies a Ben Thomas) cafwydfod £ 5i5 wedi ei addo at y £ 500 oedd yn angenrheidiol fel ymrwymiad ariannol; y mae rhagor mewn golwg, a phob parod- rwydd yn cael ei ddangos i arwyddo'r daflen. Enwyd un o wyr amlyca'r glannau fel llywydd yr wyl, ac amryw eraill yn is-Iywyddion; ac etholwyd pwyllgorau fel y canlyn Ptcyllgor Giveithiol-—Mri. J. II. Jones (cadeirydd) i Thomas Davies, David Evans, y Cyng. D. Roger Rowlands (trysoryddion); Isaac Davies, Ben Thomas (ysgrifenyddion); y Parchn. Joseph Davies. D. Tecwyn Evans, B.A., Mri. Evan Evans, Richard Hughes, P. H. Jones, F.I.C., R. Vaughan Jones, W. Garmon Jones, M.A., A. Macdonald, J. Morris, Wm. Parry, A. A. Rees, Evan Roberts, y Parchn. G. J. Williams, J. J. Roberts, B.A., Mri. J. W. Roberts, Robert Roberts (Glasfryn), J. G. Rowlands, B.A., T. H. Williams, Arthur Venmore, a llywydd ac ysgrif- ennydd y gwahanol bwyllgorau. Pwyllgor Hysbysiadol, etc.—Mri. Hy. Daniels, J. W. Evans, Hugh Evans (Lerpwl), R. J. Jones, H. Latimer Jones, A. A. Rees, J. W. Roberts, D. Roger Rowlands, J. W. Williams, W. P. Williams. Pwyllgor Cerddorol.—Mrs. Thos. Davies, Mrs.. T. H. Williams, Miss Edith Darbyshire, L.R.A.M., Mrs. Tecwyn Evans, Miss Lizzie Roberts, L.L.C.M. Mri. J. T. Davies, T. Evans, A. E. Griffiths, Millward Hughes, Evan Hughes, Elias Jones, Robert Jones, T. Morris, R. Vaughan Jones, W. R. Holland, Edward Parry, H. Roberts (Seacombe), Thos. Steph- ens, Arthur Venmore, H. Trevor Williams, Fred Owens. P.zoyllgor Lenyddol.-Y Parch. Joseph Davies, D. Tecwyn Evans, B.A., Mri. R. W. Edwards, R. Griffiths, Rd. Hughos, J. H. Jones, Lewis Jones (Hilbre), Matthew H. Jones, P. H. Jones, F.I.C., W. Garmon Jones, M.A., W. R. Pritchard, Miss Kath. E. Roberts, y Parchn. T. J. Rowlands, M.A. B.D., J. J. Roberts, B.A., G. J. Williams, Mr. Ifan Tomos, Madame Gladys Williams, Mr. R. C. Will- iams, Mr. W. P. Williams, Mrs. Dr.Williams (Liscard). Pwyllgor yr Orsedd.-Y Parchn. J. O. Williams (Pedrog), D. Adams, B.A., D. Tecwyn Evans, B.A., Mri. J. G. Rowlands, B.A., W. R. Holland, Rd. Hughes, Pedr Hir. Pwyllgor yr Adeilad.-Mri. David Evans, Thos. Davies, Evan Roberts, W. R. Holland, Wm. Thomas (Treflyn), John Evans (Glenart), D. T. Jones, Wm. Parry, Robert Roberts (Glasfryn), L. Wynne Will- iams, Robert Davies. Pwyllgor Cell.-Miss Katherine R. Roberts, Mr. R. T. Jones (ysgrifennydd y Pwyllgor Addysg), y Cyng. D. R. Rowlands, Mr. J. O. Roberts, L: Wynne Williams, T. Parry Williams, Evan Roberts, Ll-w 'Wynne, T. T. Rees, F.R.I.B.A. Gan mai prin bedwar mis oedd rhyngom ag Eis- teddfod Aberystwyth, ac fod yn rhaid cael rhaglen y testynatt yn barod i'w chyflwyno yno, pwyswyd ar y pwyllgorau i ymroi ati ar unwaith i'w dewis, a'u cael yn barod o leiaf ymhen y dau fis. Ni fydd caniatad i'r un aclod o bwyllgor gystadlu o gwbl yn yr Eis- teddfod; a thynghedwyd pawb i gadw'r testynau a thrafodion y pwyllgorau'n gyfrinach hollol, ac nid eu gollwng pethau preifat allan mor frac eu tafod ag y gwneir mor fynych mewn pwyllgorau. Dewiswyd dirprwyaeth i gyd-drefnu a Phwyllgor yr Orsedd a Chymdeithas yr Eisteddfod parth cy- hoeddi'r Wyl, a dymunwyd bod mor gynnil ag y byddai fodd ynglyn a'r seremoni honno. Pasiwyd i gynnal yr wyl fis Medi; ac er nad oes dim wedi ei benderfynu eto, y tebyg ydyw mai gwyl ddau-ddiwmod o gystadlu a fydd, a'r trydydd yn ddiwmod o gymanfa ganu-un cyfarfod, hwyrach, i ganu pigion hen alawon Cymru, a'r Mall i ganu pigion ein hemynau. Ceir clywed yn fanylach maes o law. Y mae Eisteddfodwyr profedig Lerpwl yn cyd- weithredu'n gallonnog a'u brodyr yn Birkenhead; ac y mae pob argoel y bydd yr wyl yn un dda ac urddasol ei thestynau, gan anelu at Iwyddiant mewnol a gwirioneddolyn hytrach nag at ysblander allanol a llygad-dynnol. M GLTNDWR AM T TRTDYDD TRO.-Per- fformiwyd drama Glyndwr Pedr Hir yn y Gordon Institute, Stanley Road, nos Sadwrn ddiweddaf, sef am y trydydd tro yn y ddinas o fewn y deufis di- weddaf. Dyma'r cymeriadau :—Owaih Glyndwr, Mr. J. D. Jones Meredudd, Thomas, Madog a Sion, meibion Glyndwr, Mri. J. D. Roberts, Alun Owen, Ernest Davies, Lloyd Parry Reginald Grey, arglwydd Rhuthyn, Mr. J. R. Hughes, M.A.; lolo Gocb, y bardd, Mr. J. R. Jones; Gruffudd ab Dafydd, un o bleidwyr Glyndwr, Mr. W. P. Williams Syr tdmwnt Mortimer, Mr. J. W. Roberts; Abad Glyn y Groes, Mr. T. Clever; Dafydd Daron, deon Bangor, Mr. P. Lloyd; Brenin Lloegr, Mr. J. O. Roberts; Syr Dafydd Gam, Mr. J. Williams; Llywelyn ap Gruffudd a RhysG ibin, Mr., R. Parry Syr G Ibert Talbot, Mr. H. Jones-Evans; Marged, gwraig Glyndwr, Miss M. Evans; Jane, merch Glyndwr, Mrs. Parry; Angharad, gwraig gwerinwr, Mrs. Phillips; Nest, cymdoges i Angharad, Miss Bessie Jones; Clovis, merch Morgan ap Rhosser, Miss May Jones Macwy, Master Ed. Parry; a Mr. Wm. George yn gofalu am y llwyfan. Gan yr adolygwyd y chwarae'n helaeth o'r blaen, digon dywedyd y caed arddeliad da y tro hwn eto, ac ambell bwyslais ac ystum er gwell o gryn dipyn na chynt. Camgymeriad oedd sefyll ac eistedd a siarad mor bell draw ar y lTwyfan, gan fod sgafell y llwyfan yn boddi'r llais, a phellafoedd y dyrfa'n methu'n lan a chlywed rh pethau pwys g. Ymas odd y cwmn/n dda iawn i'w gilydd; a chad- wyd diddordeb a bias y gynulleidfa hyd y diwedd. « a PLENYDD A'l WEFR.-Fel y gwelwyd yn ein rhifyn diweddaf, anerchodd Plenydd dri neu bedwar o gyrddau dirwestol ar y Glannau yma'r wythnos ddiweddaf, ac a gafodd ami brawf ei fod ef a'i achos yn dal yn annwyl yng nghof ai chalon Cymry Lerpwl, ddau tu'r afon. Gwirfodei bwn blynyddoeddyntau, fel pwn pawb ohonom, yn trymhau, a'i wallt yn gwynnu efo'i galon; ond pin draen a falia efe am I hynny os ceir Sobrwydd i fyny a'r Dafarn i lawr. Y mae'r hen dine a goslef ddengar yn y llais o hyd; yr hen sgleín agWdr yn y llygad; yr hen ias ddra- matig yn dal i gerdded drwy'i gorff; a phe'r aethai ar lwyfan y theatr, hwyrach y buasai wedi dringo mor enwog fel actiwr ag y dringodd fel Apostol ac arch- areithydd dirwestol Cymru pan yn ei anterth. Gwyr cystal a neb beth ydjnv cystudd a phrofedigaethau, eithr ni phalloddei ffyddac ni suroddeiysbryd, canys gwyr am Ffynnon yn this wonderful old Book, chwedl yntau, wrth agor ei ddail a dodi ei fys ar ei hoff adnod o'r Salmau at dywydd mawr. Dim ond areith- iwr profedig fedrai oslefu a phwyntio bys fel y I gwnaeth ef heno, nes gyrru calon dyn i ymglymu'n dynnach nag erioed am Oraclau Duw. Caffed fyw'n ddigon hir i weld hualau'r Fasnach Feddwol yn datod r oddiam wddf y wlad, ac i weld yr had a heuodd mor ddyfal ers cyd o amser yn blaguro byth i wywo mwy. tt r BACH TN HELPU'R. MAWR.—" Ac felly ni a ddaethom i Rufain," oedd testyn un o bregethau Elfed, yn Grove Street y nos o'r blaen hon oedd yr adnod nesaf i'r testyn H Ac oddiyno, pan glybu y brodyr arrtdanom, hwy a ddaethant i'n cyfarfod ar hyd Appii-fforum a'r Tair Tafarn y rhai, pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw ac a gymrodd gysur." Ac ebe'r bardd-weledydd o Lundain:- Os cwyno'r ydwyt dy fodyn ddistadl a di-ddawhj 4< dyma i ti un peth y gelli ei wneuthur: ymroi i helpu a chodi calon rhyw ddyn mawr sydd o fewn dy gyrraedd. Un mawr oedd Paul, tuhwnt i neb dyn bron rhai bach, na wyddom mo'u henwau, oedd y brodyr' sydd yn yr adnod, ond yn ddigon mawr i Apostol y Cenhedloedd ddiolch i Dduw amdanynt, ac ymlenwi o gysur wrth eu "gweld yn dodddeng milltir ar hugain i'wgyfarfod pan oedd yn gaeth yn ei gadwyn ar y ffordd i Rufain." ++ ++ ++ ++ +• Ti- DALIW N TW DYRNU.—Y mae fy llygaid ar fy ngwlad a'm gweddi ddydd a nos drosti. Gobeith- iaf y daw tro sydyn, trwy diriondeb Duw, ac y gwel y gelyn fod vn rhaid iddo roi i fyny. Heb hynny, ni welaf un ffordd ond dal i'w ddyrnodio nes y gwel y bobl yn Germani mai hollol ofer iddynt ymddiried yn eu gau ddelwau, ac y teflir Babilon Militariaeth i waelod y mor heb obaith adfer byth.Pliciad o lythyr y Parch. J. Hughes, M.A., o Denver Colorado, at Tlr. Hugh Lloyd, Fitzclarence Street. ±+ tt +t- t+ < +? ZtllL 0 BUNNAU AT GIST IRFAU.-Un o'r sefydliadau teilyngaf yng Nghymru yw'r Cartref i BIant Amddifaid sydd yn y Bontnewydd, ger Caernarfon ac yn yr adroddiad blynyddoI-y q.eg-dyma'i lun a theyrnged i'r diweddar Mr. Wm. Jones, Seacombe, a gofiodd mor had am y lie a'i fil o bunnau a'i gist arfau Ddiwedd y flwyddyn bu farw Mr. William Jones, 5 Mollington Road, Seacombe. Aethai i Lerpw ac efe ond bachgen ieuanc heb ganddo na chreff na chynysgaeth yn y byd-ond ei gymeriad a' benderfyniad diwyro. Gweithiodd grefft saer, llafuriodd yn galed, a dyfalbarhaodd yn lew. Llwyddodd yn fawr, ac ni ddaeth y llwyddiant hwnnw a llwydni ar bethau goreu bywyd iddo ef. Llawer a ofidiodd yn ei oes iddo ef orfod "wynebu'r byd a'i dreialon heb crioed weled wyneb ei fam, ac nid rhyfedd i'w serch redeg at "yr amddifad a'r diamddiffyn. Rhyw dair blynedd yn ol cynhygiodd yn rhodd i'r Cartref ei arfau saer, a hawdd oedd gweled y pryd hwnnw ei fod yn gollwng i'n gofal un o'i drysorau pennaf. Fe sibrydodd y gist arfau broffwydoliaeth am ged arall, ac fe ddaeth honno mewn Cymunrodd o Fil o Bunnau. Y mae'r arfau i'w cadw'n lan "-dyna'i ddymuniad. Fe'u cedwir felly, ac fe fydd y stori ramantus am y gwr fu'n diwyd weithio a hwy, a ollyngodd Iwyddiant ei fywyd 44 yn fendith i eraill, ac a ddaeth yn un o brif 44 gymwynaswyr y Cartref, yn werth ei hadrodd i 44 bob bachgen ddaw dan ein gofal." Wrth gofio'n goreu am y milwyr a'r morwyr, peidiw" a chofio ronyn llai am yr amddifaid bach a gysgodir mor dyner a chariadus yn Noddia'r Bont. Pwy fydd y goludog nesaf o Lannau'r Mersey i ado'i fil ? ? r DIWEDDAR MR. EDWARD PARRr.-Bu ef farw yn ei breswylfod, 123 Westminster Road, ddydd Iau diweddaf, yn ei chweched flwydd a phed- war ugain, ac wedi bod yn flaenor yn eglwys Anni- bynol Great Mersey Street am dair blynedd ar ddeg ar hugain. a phrofi'n golofn gref i'r Achos ymhob agwedd arno. Brodor o Foelfre, Mon, ydoedd, ac a fu'n hwsmon fore'i oes yn hen gartref y Brigadier Owen Thomas. Claddwyd ym mynwent Anfield ddydd Llun diweddaf, a chymrwyd rhan yn y ty gan Dr. Peter Price, M.A., y Rhos, a'r Parch. Wm. Thomas (Emmanuel); yng nghapel y fynwent, darllenodd a gweddiodd y Parch. O. L. Roberts traddododd Dr. Price anerchiad ar fywyd a chymeriad yr ymadaw- edig caed gair hefyd gan y Parch. Stanley Rogers yn Saesneg, ac yn Gymraeg gan Mr. W. A. Lloyd a Dr. Owen Evans, yr hwn a ddibennodd hefyd drwy weddi. Gwasanaethwyd wrth y bedd gan Dr. Price a'r Parch. T. Price Davies, Liscard. Daw ei lun a gair helaethach amdano yr wythnos nesaf. it AT r MOTOR AMBULANCE.- YsgoI Sul M.C. Laird Street, Birkenhead.. 1176 Ysgol Sul Plant Fitzclarence Street (M.C.) 184 Ysgol Sul Mipier Road (M.C.) 2 17 6 Cyfanswm 410 Yn eisiau. 90 £ s°° Alaw Madog, yntau, a fu'n gorwedd yn glaf yn ddiweddar, ond da fydd gan ei gyfeillion ddeaU ei fod wedi troi ar wella, ac yn mentro allan, er yn wanllyd iawn. Caffedy" cyweirnod cadam yn fuan eto. tt Clywsom ddywedyd y byddai'r diweddar Mr. Edward Smallwood, New Brighton, yn cofio am yr Iddewon ymbob gweddi ar hyd y blynyddoedd, na byth bron yn codi oddiar ei liniau heb daerymbil am i'r Nefoedd agor llygaid yr hen genedl, o lwynau'r hon y daeth Abraham a Phaul a Christ. tt Y mae Miss Lizzie Roberts, merch Mr. a Mrs. Robert Roberts, Glasfryn, Upton Road, Birkenhead newydd enniU gradd y L.L.C.M., a'i hanian gerddorol mor gryf nes fod ei bryd ar lythrennau eraill uwch eto maes o law. tt Dewiswyd y tri brawd a ganlyn yn flaenoriaid yn eglwys M.C. New Brighton nos Sul ddiweddaf Mr. Aneurin A. Rees, Berwyn Mr. Edward Roberts, Wallasey 5 a Mr. T. S. Roberts, North Drive. Y rhain yno dros y Cyfarfod Misol: y Parchn. J. H. Morris a D. D. Williams, Mri. Hugh Lloyd a Rd. Williams (Anfield). f) Cynhaliwyd cynhadledd Talaeth Powys (siroedd Dinbych, Fflint, Maldwyn, a Lerpwl, Manchester, a ]$ifmingham) yng Ngwrecsam nos L n ddiweddaf, i hyrwyddo cynllun y Cadfridog Owen Thomas i sicr- hau chwarae teg i filwyr a morwyr Cymru ac ethol- wyd Mr. James Venmore, Y.H., Anfield, a Mr. T. Arthur Lloyd, Falkner Square, i gynrychioli Cymry Glannau Mersey.
DAU TUPR AFON.
DAU TUPR AFON. CYFARFOD CYSTADLEUOL VNEDIG.— Cynhaliwyd cyfarfod cystadleuo! unedig plant ysgoI- ion M.C. Crosshall Street, Chatham Street, David Street, St. Michael's Road, Milner Road, Princes; Road, Tiber Street, Up. Warwick Street, Webster Road a Ramilies Road, yng nghapel Crosshall Street, nos Sadwm ddiweddaf. Cadeirydd, Mr. John Jones, Mayfield; arweinydd, Mr. R. Vaughan Jones; cyfeilydd, Miss Jennie Thomas (David Street). Beirniad y canu, Mr. J. E. Jones (Pencerdd Teglan); a'r adrodd, y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D. Llywydd y pwyllgor,, Mr. J. S. Pritchard; trysorydd, Mr. J. R. Roberts ysgrifennydd, Mr. T. J. Griffiths. Dyma'r buddugol: Adrodd Dan 10, Arthur bach a'r teiiiwr i, Arthur Cadnant Ellis, Princes road; 2, Nesta Roberts, David Street; 3, lolo Williams, Croshal1 street; 3, GwerfyI Ellis, Princes road. Dan 14, Clefyd y Saboth" i, Annie Roberts a Gwerfyl E'!is, Princes road. Dan 18, Palmant y dref i, Lizzie Roberts, David street: 2, Gwerfyl Ellis, Princes road. Cerdd: Unawd dan to, Tyner wyn y praidd ym ni i, Doris Jenkins, Webster road; 2, Arthur Cadnant Ellis, Princes road; 3, GwerfyI Ellis, eto. a Nesta Roberts, David street. Eto, dan 14, 44 Dyffryn Clwyd" i, Mabel Jones, Ramilies road; 2, Winnie Williams, etat Unawd dan 18, "Y Fwyalchen" i, Nellie Da, ka Ramilies road; 2, Gwladys Owen, David street. Deuawd, dan 18, "The Lord is my shepherd": r, Hannah Williams a Pen. Lewis, David street; 2, Dilys Holland a Cissie Jones, eto. Sight Test, dan 14: 1, Winnie Williams, Ramilies road a David Griffiths, Princes road. Eto, dan 16: 1, Blodwen Jones a May Hughes, Ramilies road; eto, dan 18" Blodwen Jones, Ramilies road. Unawd ar y ber- doneg, dan 16: r, Gracie Jones, Princes road; 2, Nellie Williams, David street. Can ystum Rami- lies, dan arwe niad Miss Lily Owen. Cor plant: i, David Street (arweinydd, Mr. Trevor Jones); z, Princes Road (Mr. Thomas Jones); 3, Ramiliea Road (Mr. R. J. Jones). Parti cymysg: Ramilies Road. Brushwork," Ceninen i, Nesta Roberts, David street; 2, Reginald Williams, Webster road. D. Clinord Ro b erts, Pencil Sketch, Aeroplane: D. Clifford Roberts, Ramilies road. Woodwork, Game of Draughts: Albert E. Griffith, Ramilies road. Best knitted Scarl Eluned Roberts, David street. Arholiadau Tsgry- thyrol: Dan 12 i; Stephen Griffiths, David street; 2, Richie Williams, Ramilies road. Dan 14: 1, Eilian Roberts, Princes road, ac Elsie Roberts, Milner road. Dan 16: 1, Blodwen Jones, Ramilies road; 2, Lizzie Roberts, David street. Dan 18: i, Gwendo Lloyd Jones, Chatham street; 2, Margt. Williams, David street. Yr Iaith Gymraeg: Dan 10: Iris Hughes, Ramilies road; lolo Williams, Crosshall street; Doris Jenkins, Webster road; Eluned Roberts, David street. Dan 12: i, Lala Roberts, Ramilies road; 2, May Williams, David street. Dan 14: Gwladys Hughes, Ramilies road, a Jennie Williams, David street. Dan 16 1, Kate Olwen Jenkins, Webster road; 2, Nancy Owen, Ramilies road. Dan 18 I, Ella Williams, Ramilies road; 2, Bessie Thomas, Webster road; 3, Dilys Evans, eto, a Nellie Kyffin, David street. Dysgu Allait., Safon 4 I, Doris Jenkins, Webster road; 2, Eluned Roberts, David street. Safon 5 i, Mabel Jones, Ramilies road; 2, Lala Roberts, eto; 3, Iris Hughes, eto, a May Williams, David street, Safon 6 Jack Jenkins, Webster road. Safoa y I, D. Clifford Roberts, Ramilies road; 2, Glyn Jones, eto. Safon 8 Jennie Williams, David street. Safon 9 i, H. S. Roberts, Milner road; 2, Katie Ed- wards, Ramilies road; 3, Blodwen Jones, eto, a Sally Davies, Crosshall street. Yr adrodd a'r canu. i'r rhai lIeiaf dan 10 oed oedd y pethau goreu yn y cyfarfod i Ysgol Ramilies Road yr aeth y luosocaf (25) a'r gwerth mwyaf ( £ 3-4-0) o wobrwyon, a David Street (20, gwerth £ 2-15-3) yn dilyn, a ilongyfarchwn y ddwy ysgol ar eu llwyddiant a'u gofal a'u hyfforddiant am yr wyn a fegir ynddynt.Cyfar od da drwyddo: yr ymgeiswyr yn Iluosog iawn ya y rhagbrawf. Cynhulliad da, ond dylasai fod yn fwy ar noson mor ffafriol ac o gylch mor eang. Diolchwyd gan Mri. J. R. Morris a Richard Williams am anerch- iad da a rhodd haelionus y cadeirydd; yr arweinydd yn hynod ddeheig fel arfcr; a'r ddau feimiad, ar y canu a'r adrodd, yn fedrus a diddorol iawn eu cyfar- wyddiadau- IYr oedd rhif y pwyllgor yn 26, ond 8 neu 9 fu'n ffyddlon, a disgynnodd y baich yn drwm ar yr ysgrifennydd, i'r hwn y diolchwyd am ei lafur a'i ddeheurwydd. Nos Fercher ddiweddaf, anerchodd Plenydd gyfar- fod yn David Street-yr olaf o'r gyfres. Cynhulliad da, a'r Parch. D. D. Williams yn llywyddu. Dechreu- wyd gan y Parch. R. J. Williams. Rhoddodd C6r y Plant wasanaeth rhagorol at wneud y cyfarfod yn Ilwyddiant. Effeithiol iawn y canodd y llanc ieuanc Ben Williams, a dangosodd y cyfarfod werthfawrog- iad trwy encor. Y cyntaf i annerch y cyfarfod oedd Miss Davies (cenhades) yn Saesneg, gan roddi ei phrofiad o sefyllfa pethau yn y ddinas, a'r hyn oedd wedi ei weled. Yna Plenydd, yn effeithiol fel arfer, a da oedd gan bawb ei glywed unwaith yn rhagor. Y mae'n parhau gyda dylanwad ar gynulleidfaoedd Cymreig. Yna gofynnwyd i Mr. Hugh Edwards siarad, yr hyn a wnaeth yn Saesneg, a chyn; ygiodd benderfyniad o ddiolchgarwch i'r siaradwyr eraill. Cefnogodd Mr. D. James, o Ddeheudir America o Ddeheudir Amer i ca gwr genedigol o Dalybont, Ceredigion, ond sydd wedi byw yn Tolema am ddeng mlynedd ar hugain, ynglyn a'r gweithfeydd arian, ac yr oedd wedi cyfar- fod Plenydd yn y Shaftesbury, ac yn ei gofio cyn iddo erioed fynd oddicartref. Siaradodd Mr. James yn Gymraeg. TEML GWAUA, EDGE LANE.—Cynhaliwyd cyfar- fod buddiol o'r uchod nos Fawrth yr wythnos ddi- weddaf. Cafwyd cAn, Pan ddaw'r llanciau'n ol," gan y Br. Owen Williams. DarIleniad," Y Brenin atr Esgob," gan y Br. G. Davies. Cafwyd gair ar 44 Ddirwest" gan y Br. John Owen. Cân," Llwyn Onn," gan y Chwaer Olwen Hughes. AdroddLd, Rhianod Penrhyn Gwyr," Br. David Evans. Croesawyd y Br. 0. Lewis ar ei ymuniad a'r fyddia gan y Br. John Williams; he yd croesawyd y Br. Ernest Hughes fel aelod newydd i'n plith, a chafwyd gair ganddo. Llywyddwydgan y Br. Griffith Davies. -Cymraes. WEBSTER ROAD.-Nos Wener ddiweddaf, cynhal- iwyd cyfarfod terfynol y Gobeithlu. Mawr fwynha- wyd y danteithipn a ddarparwyd ar eu cyfer gan Miss Gwen Davies a Miss Phyllis Davies, yn cael eu cynorthwyo gan eraill. Yna cafwyd cyfarfod adloa- iadol dan lywyddiaeth Mr. Griffith Jones, pryd y cymerwyd rhan mewn canu ac adrodd gan Eleanor Jones, T mmy Pierce, Doris Jenkins, Griffith Jones a Maggie Jones; deuawd ar y berdoneg, Doris a Jackie Jenkins; a Violin Solo gan Willie Roberts. Mynegwyd fod dau aelod yn ymadael am Ddeheudir Cymru, set Doris a Jackie Jenkins, ac achubwyd y cyfle i gyflwyno anrhegion iddynt, fel arwyddion o barch ac edmygedd am eu hymroddiad gyda'rG beith iu a'r Ysgol Sul. Cyfiwynodd Mr. W. M. Owen, ar ran yr aelodau, Sewing Basket i Doris^a Writing Case i Jackie, a chafwyd anerchiad gorol ganddo. Hefyd cyflwynwyd llyfr i Don. gan Miss Nellie Parhad ar tudal. 6,