Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

..Ffetan y Gol.

News
Cite
Share

Ffetan y Gol. Cofied pawb fo'n an/on i'r Ffeta t mai dyma'r gair sydd ar ei genau:— NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. I Os mynd i uffern obry. I 4t Olygydd Y BRYTHON I SYR,—A oes rhywun o'r darllenwyr a all roddi'r pennill a ganlyn yn gywir yn Y BRY. THON ? Os mynd i uffern obry 'Rol darllen Beibl Duw, Mil gwell fuasfti imi Fod heb fy ngeni'n fyw Mynd i'r tywyllwch eithaf A'r llusern yn fy Haw, A honno wedi diffodd Yng ngwyntoedd byd a ddaw. Gwn nad yw'n gywir. Credaf mai'r Parch. H. M. Hughes, Caerdydd, a glywais yn ei adrodd ar ei bregeth yn y Bala gwrs o flyn- yddoedd yn ol. A fydd rhywun, a Mr. Hughes wrth gwrs os gwel y nodyn hwn, mor garedig a'i roddi'n gywir ? Credaf fod hanes iddo, a Mr. Hughes, efallai, a wyr hynny. DIDRYFYDD Gobeithlu Kensington- I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Credaf mai tegwch a brawd gweith- gar a ffyddlon iawn yw hysbysu mai yr I I arwc inydd y cyfeirid ato yn Y BRYTHON diweddaf, fel yr hwn a dderbyniodd Her-Faner Undeb Gobeithluoedd Annibynwyr Lerpwl a'r cylch, yn Grove Street, oedd Mr. W. R. Job, Molyneux Road. Gyda llaw, cyhoeddwyd adroddiad lied helaeth o ryw bethau a ddi- gWyddodd yn y cyfarfodydd blynyddol yn Grove Street yn y Daily P08t and Mercury, ond bu'r gohebydd yn ddigon ciwt i beidio a son gair am y Faner-yr hyn a osodwyd yn nod o flaen y Gobeithluoedd am y flwyddyn ddiweddaf. Prun bynnag ai ennill ai colli yn y gystadleuaeth a wneir—ac ni ddyHd rhoi gormod o bwys ar ennill am dro,—credaf fod llafur cariad athrawon plant ac arwainwyr y Gobeithluoedd yn un o'r pethau goreu yng ngwaith yr eglwysi, ac yn haeddu'r gefnogaeth fwyaf calonnog. Ac ar mor falch yd wyf ddarfod i Mr. Job arwain ei fyddin fechan i fuddugoliaeth, gallaf eich sicrhau mai'r cym- helliad cryfaf i mi anfon y gair hwn i'r BRYTHON yw fy ngwatthfavorogiad o waith parhaus arweinwyr Gobeithluoedd, ac eiddo fy nghyfaill Mr. Job yn eu mysg.—Yr fiddoeh, etc. PEDROG Dyma'r flo-n Wr o'r Coed," R.O. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,—Mewn atebiad i lythyr R. 0., Nant- glyn, ym MRYTHON Mawrth 23, yr wyf yn amgau copi o gerdd Yr hen wr o'r coed. Nis gwn a gaiiata eich gofod mewn adeg o br.inder papurfelhyn ichwieichyhoeddipipeidio, ond gwnewch a welwch yn dda a hi. Nis gwn ddim am yr alaw y cenid y geiriau ami, ond hwyr^ch y bydd gweld jtgerdd yn symbyliad i rywun arall ddywadyd a -tNyr amdani.— Yn gywir iawn, gywir iawn, IEUAN AB IOAN Dyma stori wych i'w chofio I'r sawl sydd ag 'wyllys ganddo, I foliannu Duw yn ffyddlon Mae'n ddiddanwch mawr i ddynion. Hen wr oedd yn byw mewn crefydd Ac ar Ddu\n gweiddio'n ddyfal beunydd, Os oedd teilwng ei dcteisyfia i Ar gael un rhodd cyn ei ddywedaiad. Cael gweled un o'r gwyrthiau lleia' Yn y wlsd lie ydd oedd ei drigfa, Fel y byddai yn fwy gwyllysgar Ifoli Duw tra 'f ar y ddaear. Ar fore teg fe aeth i rodio I lwyn o goed oedd agos ato, ( Ymrig y pren fe glywai'n canu Rhyw fiwsig nefol i ryfeddu. Aderyn per oedd yn y gangen Yn angylaidd iawn ei awen A'r hen wr duwiol ei gyneddfau Anghofiai'r byd a'i holl deganau. Yr oedd e'n hei, fe glywsai lawer 0 amryw gerdd ar dannau croew-ber, Ac erioed ni wyddai gly wed Bertidd fiwsig cyn felysed. Nesu'n nes, gan ymlawenu, At y pren llc- oedd y canu Ac felly'n dcti" n iawn ei wrando Ao yno y bu ndi tewi o hono. Pan daWai'r gan, fel mwy na chlywai Yn ol eilWaith fe ddychwelai Tua'r ty lie buasai'n trigo I adrodd beth a glywsai yno. Ar hyd y ffordd 'r oedd yn myfyrio Pa hyd y buasai yno'n gwrando Dwy awr neu d,-ir ef a debygai Dim o spas yn hwy ni buasai. Tua chartref pan wynebaj, Golwg ryfedd iawn a welai, Y tai a'r perthi yno'n ddiball Wedi newid mewn modd arall. Mynd i'r ty gan syn feddylio, Dieithr hollol pob un yno Neb o honynt nis adwaenai, Pwy ydoedd ef nid un a wyddai. Dyma helynt sydd ryfeddol 0 Arglwydd Dduw, pie mao fy mhobol ? Heddyw'n myned o'm ty allan, A'r fath gyfnewidiad yma 'rwan. Mae'r un teulu yma'n tario Ers blynyddoedd heb newidio Dieithr yw'ch rhesWm, nis gwyr undyn Am bWy 'r ydych yn ymofyn. Ebai hen wr llwyd o'r gornel- Gan fy nhad mi glywais chwedl, A chan ei dad y clywsai yntau, Ac ar ei ol mi gofiais innau.— Fynd hen wr o'r ty hwn allan O'r un enw ac o'r un oedran A byth ni welwyd hwn ysywaeth, Na chael am dano ddim gwybodaeth." Casglu llyfrau 'nghyd a'ychwilio Blynyddoedd meithion sethant heibio Tri chant 11awn a deg a deugain Tra bu'n gwrando'r miwsig llawen. Y nawfed ach oedd yno'n aros Fel ag oedd y llyfrau'n dangos A rheini'n awr yn fawr eu cariad Yn llawen iawr am ei ddychweliad. Yr hen wr doeth adroddai'n gymen Am y gerdd a'r nefol awen, Gan annog pawb o'i epil tirion I garu Duw a'i holl orchmynion. Gwybu'r hen wr wedi hynny, Mai angel Duw oedd y -ioa canu, Ac ni allai dyn daaarol Ddim cyff'lybu'r miwsig nefol. Erbyn darfod iddo 'wedyd « Y modd y cawsai'r rhoddiad hyfryd, Nid oedd ei sylwedd yno i sylw Ond rhyw ddyrnaid bach o ludw. Duw rho ras i bob rhyw Gristion I gadw crefydd yn ei galon Fel y gallo fe'n dragwyddol Fod lie mae'r caniadau nefol. Dyma helynt wych ryfeddol Gan un angf low lad nefol Pa faint mwy yw clywed miloedd Y l cydganu yn y nefoedd ? Ni chlybu clust, ni chanfu llygaid Ni wyr undyn byw ar aned, Faint llawenydd sydd i fyny Fwy-fwy beunydd heb ddibennu. Nid oes undyn byw all wybod Na darllenydd, na myfyrdod Ni fecjroc d Paul nac Awstin hefyd Mo'i gyff'lybu'r fath ddedwyddfyd- Pwy na charai Duw y i ffyddlon 0 wired ig gwaed ei galon ? Am gael mynd i'r fath lawenydd Ac aros yno yn dragywydd. Dyme stori a ddarllenais 0 lyfr print Cymraeg a welais Ac a rois y geiriau hynny Ar lun can i bawb i'w dysgu. Cwymp yr Haul. I At Olygydd Y BRYTHON I SYR,-Peidiweh a dychryn wrth weld y paLnawd. 0 na, nid ydyw yr hen Huns yma yn medru ymhel a'r haul eto, beth bynnag, or fod y dyn sy'n windio'r German Wireless yma yn haeru pethau go smala, ae mi lticiai ddy- wedyd, mi wn, mai yn nwylo'r War Lord y mailifarsy cread Ond s6nyr oedd rhaio'ch gohebwyr yn ddiweddar am arwyddion taf- arnau. Wel, yr oedd yna dafarn yn Llan- rhaeadr-ym-Mochnant stalwm stalwm, o dan arwydd yr haul, ac fel yr arferai fod ar hen dafarnau yr oedd llun yr haul uwchben y drws. Ond oherwydd rhyw wendid neu gilydd, fe syrthiodd yr haul i'r heol. Tybiodd rhai o'r ardal fod y cwymp yn rhyw arwydd oddiuchod a dyma faty canodd dau fardd i'r amgylch- iad. Ebe un :— Dydd galar diwedd gwelwn Heb oed hir i'r byd hwn Un arwydd o rwydd ri CyflaWnwyd cof eleni Ym Mochnant drwy chwfiant chwaii, I'r heol serth yr haul syrthisi 1 Rhyfeddod hynod yw hwn, Codwm haul Cydymholwa Ydyw'r dreflan druan dra, Gymares i Gomora ? Ydyw'r enwog dewr anian, Traws yw'r gwaith yn treisio'r gwal ? Oes ami fenyw wych hoew ei chwant (Rhy dwym awch, rhaiadr Mochnant) Yn denu'r gwyr, dyna'r gwall, I wyro ryw ffordd arall ? Syrthio'r haul, serth yw'r hynt, Ni wiw gwad, euog ydynt 0 ryw drosedd, maswedd mwys Neu gamwedd nad yw gymwys. Pan dd'ai yw plith dra chwith dro Yn rhy bydd i'w rhoi heibio Fe glyw y beirdd glew o ball | I Phoebus fynd o'i phabell Sywedyddion weis dycldawn, Eu Sol aeth yn isel iaw i Er cynnyrch llewyrch lleuad, Er sirio myrdd o'r ser mad, Hob haul boethder, gloywder gwlad, Llawn rhew a fydd Llanrhaead Ac fel hyn yr atebodd y llall 0, taw fardd, goegfardd gwagfost, A chanu ffraeth achwyn ffrost, Rhoi dawn Duw, rhy dyn dyst, I wneuthur can fel Athyst; Cyffolybaist henwaist yn hon Wyrth Duw Ne i warth dynion Lliw ar goed, ol llaw'r gwyr I hoeyw lewyrch haul awyr Dangosipd tyfiad tafarn Gwel dy Sol hyd waelod Sarn Sol y fall dal, sylwa fi Sol arwain i'r seleri Dangos loches i dyngwyr Anwyl Wal annuwiol wyr Sol oferedd, salw fwriad, Sol wna. bendro yn y siad Sol ddiles,'—mao saledd lu 0 wragedd yn ei regu Sal i'm achwyn, Sol Mochnant, Sol i'n plith sydd elyn plant Mae'n speilio o'n bro mewn brad. Deallwch rai o'u dillad., Ac ambell wraig o ymborth Myn o'i thy 'menyn a'i thorth Dyna i chwi haul a hen glip cas arno, onite, Svr ? v Lerpwl DANIEL O. JONES

rSTAFELL Y BEIRDO

O Lofft y Stabal.I

Advertising