Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

DRWY n GAD CAPLAN.1

News
Cite
Share

DRWY n GAD CAPLAN. 1 Llith III.—Odfeuon yr hen Ysgubor. Yr Oedfa Gymraeg.—Rhoddais eisoos fras olwg ar y gwaith crefyddol 1:1 wneir ymysg y milwyr. Yn y ffosydd ceir mwy o angen amdano, ond bydd yr anawstarau i'w gyf- lawni'n fwy. Bydd lleoedd oylfeus i gyfarfod yn brinnach, a symudiadau'r catrorlau yn fwy ansicr. Oblegid hyn, bydd yn anodd trefnu ymlaen Haw, ac weithiau, ar ol trefnu, daw rhyw orehry myn newydd ar ffrwst i dorri ar draws y cwbl. Er hynny i gyd, at y rhai rhyfedd a gawsom eisoes, yr wyf wedi cael odfeuon o gwmpas y ffosydd nad ant yn anghof byth. Dywedais o'r blaen fod. dwy gatrawd yn newid a'i gilydd yn y ffosydd. Golyga hyn fod dwy ohonynt yn y ffosydd dros y Saboth, ac na ellir rhodui gwasanaeth iddynt yno. Trefnwn y pryd hwmiw iddynt gael oedfa cyn mynd yno. Cynhullir.d gwir- foddol fyd(I hWnn, ond daw lufor dda yng nghyd y rhan amlaf, Er fod y bechgyn, at ei gilydd, yn lion a gobeithgar, gwyr pob un am y parygl o'u cwmpas bob dydd. A phan gewch nifer o honynt i ddod o'u gwirfodd i oedfa am saith ar gloch y bore cyn brecwest, gellwch fentro y caiff yr Efongyl wrandawiad astud ac awchus, ac na fydd ffurfioldeb yn y mawl na'r weddi. Dyma rai o'r cyfarfodydd mwyaf dwys y bum ynddynt eriood. Ni cheisiaf ddisgrifio pob oedfe. Cymeraf yr oedfa gyntaf a'r olaf a gefais wrth y ffosydd yn enghraifft o'r Ueill. Pan ddoallais gyntaf fod dwy gatrawd ar fynd i'r ffosydd, ac y byddent yno dros y Saboth, moddvliais ar unwatth am drefnu oedfa iddynt. Buaspch yn disgwyl y byddai'r awdurdod.au'n falcli lawn i roddl avvr o'r bore neu'r prvnhawn i'r b9chgyn i ddod i'r oedfa. Ond md felly. Ychydig ofala llawar o'r rhai sydd me .vn aw durdod am grefydd. Felly rhaid mm ddod at em gilydd fel y C'ristnogion gynt. cyn daehreu gwaith y dydd, a chwrddwn am saith ar y gloch. mewn hen ysgubor wrth oleu canhwyll- au. Er llawenydd mawr i mi, daeth infer fawr ynghyd i'r oedfa hon, "hyd na annent hyd yn oed o gwmpas y drws. Rhoddir yr hen air cyfarwydd allan Dyma Babell y Cyfarfod, Dyma gymod yn y gv aed a chenir y geiriau gyda ffresni cor y wig ar doriad gwawr. Yna darllennir Salm xci. Pan ddeuir at ymadroddion fel y rhai hyn a'r cyffely b "Nld ofni rhag dychryn y nos, na rhag y saeth a ehedo y dydd, na rhag yr hamt a rodio yi y tywyllwch, na rhag y dmistr a ddinistrio ganol dydd," gallaf eich sicrhau fod yr ymadroddion hyn yn meddu ystyr mor real mm ag a feddent l'r awdur ei hun. A rhydd yr ymadroddion, "Am it i wneuthur yr Arglwydd, fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa iti, ni ddigwydd iti mwed, ac m ddaw pla yn agos l'ch babell." gysur cryf i nmnau fel i'r Salmydd ei hun. Yna cenir emyn arall y tro hwn Cofla, Arglwydd, dy ddy weddi, Llama ati fel yr hydd. Dyma ui o hoff emynau em cyfarfodydd. Ac er fod y bechgyn yma yn madd wI am rywbeth gwahanol i'r hyn a feddylir amdano (os meddylir hefyd) yn addoldai Cymru, rhydd yr hen air ollyngdod helaeth i'n teimlad a'n hiraeth, wrth ganu Ac na ad i'w holl elynion Arni'n hollol gael y dydd. Yn nesaf arweimr mewn gweddi for a phwr; pasol. Nid oes amser i ragymadroddi, nac ) hysbysu'r Bod Mawr am yr hyn y gwyr yn llawer gwell na ni amdano. Yr ydym ynghyd i un amcan mawr a phwrpas. Ond wrth geisio ei gysgod a'i amdciiffyn a'i drugaredd, nid anghofiwn ein rhai annwyl gartref, a'r rhai sydd yn gweddio drosom. Yna cenir Pan oedd Sinai yn melltennu, A'i tharanau'n rhwygo'r nan. Dyma un arall o'r hen emynau sydd yn help mawr inni roddi gollyngdod i'n henaid allan yma, wrth ei ganu yn swn y t-iranau a'r dychrynfeydd o'n cwmpas. Am ei neges trv 'r pregethwr i'r Philipiaid ii, 29-30, "Canys i chwi y rhoddwyd, bod i chwi, er Crist, nid yn unig i gredu ynddo of, ond hefyd ddioddef drosto ef gan fod i chwi yr un ymdrin ag a welsoch ynof fi, ac yr awron a glywch ei fod ynof fi." Mantais testun fel hwn i ni yma yw, nad oes aisiau rhagymadroddi o'i gwmpas cyn dod at y neges, Gv- el y bochgyn oi ergyd atynt ar unwaith. Gwelant ei fod yn neges iddynt heddyw mown ystyr mwy real nag a fu erioed o'r blaen, sef y fraint ychwanegol o gael dioddef o bleid yr achos mawr, a'r dioddefaint hwnnw yn ein cysylltu wrth ddioddefwyr mawr yr oesau fel Apostol Paul, ac, yn fwy na'r cwbl, wrth Grist ei hun. Cyn ymwahaJiu cenir emyn arall 0 Arglwydd Dduw Rhaglvmiaeth Ac Iachawdwriaeth dyn, Tydi sy'n llywodraethu Y byd a'r net dy hun Yn wyneb pob caledi Y sydd neu eto ddaw, Dod gadarn gymorth i mi I lechu yn Dy law. O'r holl emynau i gyd, dyma'r dwysaf a mWyaf pwrpasol hwyrach i'n profiad a'n hangen yma. A sut y gallaf ddisgrifio'r bech- gyn yn ei ganu cyn ymadael o'r oedfa am saith ar gloch y bore cyn mynocl i'r ffosydd ? Dyna'r cyfarfod trosodd ac ar hyd y ffyrdd fe glywch adsain yr hen emyn Yn wyneb pob caledi, Y SYDD, neu eto DDAW, Dod gadarn gymorth i mi I lechu yn Dy law. "Dychwel y pregethwr adref, ga I geisio galw i gof yr wynebau oedd yn bresennol, a meddwl pa rai ohonynt fydd yn oisiau pan gawn gwrdd nesaf. Cyn nos trannoeth daw'r newydd fod un yn nhragwyddoldeb, ac oraill wedi eu clwjfo Yn hyn i gyd ceisiwn eto ganu Yn wyneb pob caledi, Y sydd neu eto ddaw. Yr Oedja Saesneg.—Oedfa Gymraeg ydoedd yr uchod gan mwyaf. Gyda rhai o'r cet- rodau bydd y gwasanaeth gan mwyaf yn Saesneg, ac un felly ydoedd yr olaf a gawsom wrth y ffosydd. TrefnWyd hon am saith ar gloch yr hwyr cyn mynd i'r ffosydd, a chwrdd wn mewn hen ysgubor gymaint ohoni ag sydd yn weddill, heb na drws na ffenestr. Wedi uyrraedd yno,oefais y cwmni a letyai yno wrth eu bwyd, newydd dqyehwelydo orchwyl I mlled, dydd. Byddai'r amihog ac angharochg i ymyrreth a hwy wrth eu bwyd ond myn- nert i ni fynd ymlaen a'r gwasanaeth, ao addawant ymuno a ni wedi gorffen bwyta. Hynny a wneuthom. Aethom i'r pen arall i'r ystafell ac ymlian tipyn vmunodd pawb a, ni Eglwyswyr, Pabyddior ..c Ymneilltviwyr. Crybwyllais rai o'r emynau Cymraeg sydd mor ami yn rhodcti gollyngdod i'n profiad. Nodaf eto rai o'r emynau Saesneg. Dach- reuv\yd. v Loson hon gydag eiddo Watts Our God, our help in ages past. Rvwsut y mae yn hon ryv allu i ddwyn oin hvsbrydoedc' i gyswllt a'r Mawreddog a'r Tra- gwyddol. Nid lIe i brofi'r Bod o Douw yw'r ffosyda. Ni wn fod hyn yn blino llawer yma. Dymuniad ein henaid yma, ynghanol y terfysg a'r dmistr, yw teimlo'n traed yn gadarn ar Graig yr Oesoedd, a phwyso'n hunain ar y gwirionedd.au arhosol, a'r Duw a fu'n breswyl pob cenhedlaetli. Pa ryfadd fod canu mawr ar hon yme ? Weai oarllon 1 Thes. v, am yr an.seroedd a'r 14 pryuiau," cai.wyd Jesn, Lover of my soul. Er fod yr ystorm yn nieddwl yr iiwutir yn wahanol i'r storm sydd yma, gwasanr.otlia'r weddi a phrofiad gwirione(let,,t ac mor briodol y ddwy linell olaf o'r ail l.xsniall, pan y mae'r golyn wed.i ysgubo'r parapets i lawr, a hwjrtheu'n odigvsgod dan g^wod o shells COVfT my defenceless head, With the shadow of Thy wing. Wedi gweddi, cenir un arall o'r hoff emynau I need Thea every hour. Nogos y pregethwr heno yw Esaiah lv, 6-7 Ceisiwch yr Arglwydd tra galler ei gpel Ef, golwch arno tra fyddo'n agos etc. Dyma deatun eto nad oes eisiau ymdroi cyn dod at ei neges. Onid oes llawor o'r bechgyn yma'n cofio adeg pan oedd Duw'n agos iawn atynt, yn nyddiau plentyndod a bore oes, pan oedd ou cydwybod. yn dyaer a'u calon yn lan ? Ac oni fu'n liawdd ei gael i rai ohonynt yn y Diwygiad, neu yn nydd rhyw draUod ac ing ? Eithr bu'n mhell oddiar hynny fe ddichon, a hwythau'n methu cael gafael arno gan arnheu- on ? Ond yma, ynghanol realities bywyd a tlr agwrydd.old.eb, danv Duw'h agos at y caletaf ri galon, a hawdd ei ga, I i'r mwyaf ei ofnau a'i amheuon. Ac nid oes i'r drygionus ond gad- ael ei ffordd a'r gwr anwir ei feddyliau a dychwelyd at yr Arglwydd i gaffael maddeu- ant a heddwch, ac o'u cael i wynebu'r dyfodol yn dd.ibryd.er a digryn. Ardd.el vyd y genad- wri yn amlwg y noson honno, a thystiai'r distawrwydd a deyrnasai drm y'r lie fod Duw'n agos iawn atom. Yr oedd lesu o Nasareth yn mynd heibio. Ar y diwedd canwyd un arall o'n hoff emynau Saesneg :— When the roll is called up yonder I'll be there. Rawdd deall sut y mae hon yn un o'r favour- ites. Cenir hi'n ami gertref, ond nid yw'r ffigiwr mor real i neb ag ydyw i'r milwr. Bob tro y try illan ar parade, bydd galw'r enwau i gael gweld fod pawb yno. Hawdd i'w ddychymyg fynd i'r ochr draw ac i ofyn pwy fydd yno i ateb ei enw. Llawer gwaith y gclwir yr enwau yma ar ol bod yn y ffosydd. Bydd enw hwn heb ei ateb am ei fod wedi ei glwyfo, ac arall heb ei ateb am fod llais ei berchennog wedi distewi am byth. Ond yr ochr draw ? Byddaf Fl yno. When the roll '8 called up yonder, I'll be there. A d;ehon fod llawer, wrth ganu, yn meddw* mai'r ochr draw yr etyb ei enw nesaf. Ar ddiwedd yr oedfa, gweinyddwyd y Cymundeb i'r aelodau crefyddol oedd yno. Talcen hen flwch oedd y bwrdd, gyda llian gwyn drosto. Erbyn hyn y mae geniiyf Field Communion Service, a bydd gennyf ddigon o ddiaconiaid wrth law bob amser i'm cynorthwyo. Oymer- wyd o'r bara sy'n arwydd o'r Manna nefol, cynhaliaeth y bywyd yabrydol, Ei gorff dryll- iedig Ef, acyfwyd o'r cwpan, yrarwyddlim o'r Aberth drud, ac o'n hymgyflwyniad ninnau i'r un gwasanaeth ac aberth yn yr un ysbryd. Yn wir, meddaf i chwi, nad ,yfaf mwy o ffrwyth y winwydden hyd y dydd pan yfwyf of yn newydd yn nheyrnas fy Nhad." Beth pe gofynnid ar y diwedd pwy oedd a hawl i ddweyd yr adnod yma ? Ond meddai y Gwr a'i llefarodd Ni pherthyn i chwi wybod yr amsaroedd a'r prydiau, y rhai a gadwodd y Tad yn oi feddiant eihun," a diolch iddo byth am hynny Er hynny, cyn ios drannoeth, yr oedd un o'r caredicaf a'r hawddgaraf ohonom, ond odid y tebycaf i'w Wared wr yn yr oedfa honno, wedi profi o ffrwyth y winwydd en yn newydd yn Nheyrnas ei Dad. Ddar- llenydd, ar dy esmwyth fainc yn dy gartref clyd, a Wyddost ti faint dy ddyled i hwn a'i gyfielyb ? Glywi di yntau'n dweyd Hwn yw fy nghorff yr hwn a dorrir drosoch ? Yn fy ymyl, ar lan oi fedd, sifai ei swyddog, a dywedai wrthyf a'r dagrau brwd yn treiglo dros ei ruddiau Nid adwaenwn well Crist- ion yn fy myWyd. Ow ei golli ef o bawb Tyfodd yn sant ae yntau ond llanc ugain oed. Gwelais lanciau deunaw oed wedi ychydig wythnosau yn y ffosydd, yn gwisgo agwedd dynio i. Ac yn yr un amser gwelais eraill yn tyfu at fesur oedran cyflawnder Crist. Gwaith pwysig gyda ni yn y ffosydd yw'r claddu, ond rhaid gadael hynny hyd y llith nesaf. I- JAM. EVANS J

Advertising

IAr ddaint v Gribin.

Advertising