Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

- GOSTEG. 1

DYOiHAi>U.a. I

8yhoeddwyr y eymodI

Advertising

BASGEDAID.

Advertising

CHWITH ATGOF. I

News
Cite
Share

jParhad o tudal. 5. KENSINGTON.-Nos Fercher, cynhaliodd Cym- deithas y Bobl Ieuainc gyfarfod olaf y tymor. Cafwyd cynulliad rhagorol, a chyfarfod o'r fath oreu. Chwaraeid ar y berdoneg gan Miss A. Williams, Park Road, gyda'i ruedf adnaby'ddus. Cafwyd adrodd- iadau rhagorol gan Miss Gwen Williams, Liscard. Canwyd unawdau a deuawdau gan Misses Dora Parry a Jennie Jones. Canwyd hefyd gan Mri. W. R. Job, Ted Griffiths, a Ritchie Griffiths. Adroddwyd gan liri. John Roberts a Hugh job.-lelod a Givrandator. Cafwyd hwyl fawr ar Ehedydd Eifion yn canu penill- ion ac anodd meddwl am well mwynhad nag wrth ei wrando ef a Mr. Glaslyn Owen-mab talentog yr olaf yn cyfeilio-yn canu.droeon yn ysto.d y cwrdd. Telild am fynedia d i mewn; cafwyd te blasus ar ganol y cwrM'd, am yr hwn y talasai'r bobl ieuainc, a bwrid yr elw i'r drysorfa ar gyfer helpu'r milwyr. MARWOLAETH TREFLYN.—Yn ei breswylfod, Havana House, Caergybi, nos Wener ddiweddaf, bu farwMr. Evan Jones (Treflyn). Yr oedd yr ymadaw- edigynwradnabyddiisiawn oher-wyddeigysylltiadau teuluol a'i dalentau. disglair, ac iddo gylch eang o gyfeillion a pherthynasau. Treuliodd ran ganolog ei oes yn Lerpwi ac er ei fod yng Nghaergybi beliach ers o leiaf chwarter canrif, ymwelai'n fynych yn ystody blynyddau hynny a'rllu cyfeillion a adawsai o'i ol yn y ddinas hon, fel na chafodd Rhagluniaeth mewn gwirionedd gyfle i dorri llinyn y serch ^'u cadwent ynghyd. Gedy o'i ol briod A phedwar o blarit, mewn dwfn alar amdano, y ddau fab yn gwas- anaethu eu bren n a'u gwlad,-Edw'in' yn v IIynges, a Menai yn y Fyddin. Yr oeddyn U140 saith o frodyr, y cwbl ohonynt a adnabyddem yn dda. Tri wedi ei ragflaenu-Owen, William a John, a thri eto'n aros- Thomas a Robert yn eu hen ardal—Brynsiencyn, Mon, a'r boneddwr hynaws, Mr. David Jones, Pem- broke Road, Bootle. Yn ddiweddar, cawsem brofion amIwg oddiwrth ei lythyrau, a natur ei gynyrchion barddonol, fod Treflyn yn prysur addfcdu i fwynhau cymdeithas burach a pherffeithiach nag a geir yn unman ar y ddaear hon. Cred y rhai a'i hadnabuant oreu amdano yw, ei fod wedi byw Crist, a bod marw yn elw iddo: oli ddi-Jdio 4duwioldeb,—drwy hyder, Rhodiodd dir union deb Wron annwyl yr un-wyneb, Eofn lawn oedd-yn ofni neb.-G. Mathajarn THE WALLASEY WELSH WAR RELIEF SOCIETY. -Cynhaliwy'd cyngerdd mawreddog yn y Co-Oper- tive Hall, Liscard, nos Fawrth, dan nawdd y Gym- deithas uchod, trwy garedigrwyddCor y Co-Operative, dan arweiniad medrus Mr. Ambrose Jones. Cadeir- iwyd gan y Capt. Caradog Jones, Liscard, yn fyr ac i bwrpas, yn canmol y gwaith da a wneir gan y Gym- deithas, sydd yn cyfarfod yn ysgoldy Martin's Lane (A.), bob prynhawn dydd Mercher er dechre«'r rhyfel, ac sydd wedi anfon wmbre'dd o sypynau i'r bechgyn glew. Credwn y ceir swm sylweddol iawn fel fFrwyth y cyngerdd, oblegid yr otdd y neuadd dan ei sang, bu'r cadeirydd yn hael iawn. Aed trwy'r rhaglen a ganlyn Hen Wlai fy Nhadau yn Saesneg, Mr. Ambrose Jones ynarwain deuawdary piano, Misses D. Cox ac O. Jones cydgan, Ibe Children's Home, y Cor; din, Mountain Lovers. Madame Nellie Lewis; adroddiad, Miss Freda Price,-eiicor; pedwarawd, Pro Phundo Basso, Misses Hodge a Jones, Mri. Lever a Jones can, Angus Macdonald, Miss Nellie Lever can, The deathless Army, Mr. J. D. Frincis can, The Floral Dance, Mr. Tom Roberts—encor; sketch ddigrif, ??K??—? Coo?, Parti o'r He; cydgan" Gtoyr ?<!y??, y Cor can, .M?? y Py?o?r, Miss 0!wen Jones; can./?M/')'oM<'<!?<Mgw?, Madame N.Lewis; c&n, Joy of my ?t!?<, Mis3 B.? D. Jones cydgan, yo?-?y ?' the Lamb, y Cor; deuawd, Battle ?'?, Mri. Tom Roberts ac Ambrose Jones; can, Jack's Reward, Mr. J. D. Francis; cydgan, Oh Father, whose Almighty Power, y Côr. Diolchodd y Parch. T. Price Davies i bawb, yn enwedig y chwiorydd, Mrs. E. Evans, Mrs. Parry a Miss Jones. Mrs. R. H. Jones a Mrs. E. Evans yw'r ysgrifenyddion, a Mrs. Aneurm Rees yn drysorydd; y Gymdeithas vn gyd-enwadol gyda Mrs. Dr. Francis Williams yn llywydd.—E.H.R. Ebrill 4, claddwy'dMr. Owen Jones, 3 Park Road. Birkenhead, yn Flaybrick Hill, ymhen dau fis ar ol claddu ei briod. Daeth i Lerpwl yn fachgen ieuanc o Dreffynnon, ac ymsefydlodd yn Birkenhead fel plumber. Ymaelododd yn Parkfield, a symudodd i Laird Street ar sefydliad yr achos, a bu'n gyfranwr hael at wahanol achosion perthvnol i'r eglwvs. Yr oeddyn gymeriad hawddgarond cadameiargyhoedd- iad ac yn llawn o dynerwch a chydymdeimlad, ac yn siriol bob amser. Yr oedd yn 70 oed. Gwasanaeth- wyd yn ei angladd gan y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D. Cydymdeimlir a'r ferch, Miss Jones, fu'a ofalus iawn o'i rhieni, ac &'r holl deulu.-R.Y.G. Y CHWIORYDD A DIRWF-ST.-Cyniialiodd Undeb Llwyrymwrthodol Chwiorydd Cymreig Lerpwl eu cyfarfod blynyddol yng nghapel Crosehall Street brynhawn dydd Mercher diweddaf-dim cyfarfod yr hwyrelenioherwyddgwaharddiadygoleu. Gan fod Mrs. W. O. Hughes (y llywydd) yn wael ei hiechyd, cadeiriodd Mrs. E. R. Jones yn ei lie. Agorwyd drwy weddi gan y Chwaer Davies. Darllenwyd adroddiad yr ysgrifenyddion (Misses Adams a Williams), y trys- orydd (Mrs. Phillips), a'r ysgrifennydd llenyddiaeth (Mrs. Williams), y cwbl yn dangos y gwnaed gwaith da yn ystod y flwyddyn. Dwy gangen newydd wetft eu cychwyn-Ashton-in-Makerfield a Liscard. Yr oedd yr Undeb wedi croesawu Cymanfa Gwynedd fis Hydref diweddaf. Wrth gydnabod gwaith ac ym- roddiad y swyddogion, cyfeiriwyd yn arbennig at waith ardderchog Miss Adams yn ysto d yr wyth mlyn- edd ysgrifenyddiaeth, a chyda gofid mawr y derbyn- iwyd ei hymddiswyddiad. Ail etholwyd Mrs. W. O. Hughes yn llywj dd, gan ddatgan gofid am ei bafiech- yd a diolchgarwch am ei gwaith dros yr Undeb a'i egwyddorion. Etholwyd Miss Pugh, Arundel Aven- ue. yn ysgrifennydd cyffredinol yn lie Miss Adams, a Mrs. Myles Griffiths yn drysorydd adran llenydd- aeth. Canodd Mrs. Kingston Jones ddwvwaith. Dangosai adroddiadau'r amrywiol ganghennau fod yna waith da'n cael ei gyflawni dros Sobrwydd. Mwynhawyd lluniaeth ar ddiwedd y cyfarfod. RAMILIES ROAD.-Mawrth 31, cynhaliwyd cyfar- fod blynyddol yr Ysgol Sabothol; ni ddarparwyd eleni ond te i'r plant yn unig; daeth tua 60 at y byrddau, a chawsant eu digoni o'r danteithion a ddar- parwyd gan Mrs. Backhouse a Mrs. J. R. Davies, a'r athrawesau yn eu cynorthwyo. Yna cafwyd cyfarfod cyhoeddus, a llawenydd oedd gweld cynhulliad rhag- orol o aelodau'r Ysgol, a'r rhieni. Enillwyd y gwcbr- wyon am adrodd gan Megan Jones, Annie Roberts, David Roberts, Emrys Jones, Nellie Jones, a Lala Roberts ac am ganu gan Iris Hughes, Nansi Davies, Emrys Jones, Mabel Jones, Winifred Williams, Emlyn Hughes, Nellie Davies a Blodwen Jones. Beirniad y canu, Mr. Meredith Roberts (gynt o Ffes- tiniog) sydd yma ers misoedd, ac yn wir ddefnyddiol; y Parch. T. Michael, B.A.,B.D., Earelsfield Road, yn cloriannu'r adroddwyr cafwyd anerchiad rhagorol ganddo, a chafodd groeso cynnes ar ei ymddangosiad cyntaf yn ein plith fel ein cymyidog agosaf. Mawr fwynhawyd unawdau Miss Phyllis Davies hefyd, a rhoddodd Gwen Lloydadroddiad syml a naturiol i ni. Cyfeiliwyd gan Miss Lizzie Hughes, a rhoddodd y llywydd, Mr. T. J. Griffiths-yr arolygwr am y flwyddyn ddiweddaf—anerchiad ar safle a gwaith y Ysgol. Diolchwyd gan Mri. G. Jenkins a T. Lloyd Hughes. Mae'r plant yn edrych ymlaen at g yfarfod cystadleuol unedig Crosshall Street y Sadwrn nesaf, a diau y gofalant gadw enw da Ramilies Road i fyny yn y eylch hwnnw eto. CHWIFIO BANER DIRWEST,Nos Lun ddjwe'ddaf, cynhaliwyd cyfarfod dirwestol yng nghapel Stanley Road, dan nawdd Pwyllgor Dirwestol y Chwiorydd, Pwyllgor Dirwestol yr eglwys, a'r Gyfrinfa. Teimlid mai camgymeriad oedd rhoi'r Wyl Ddirwestol i fyny, pan y mae cymaint o angen cadw'r cwestiwn yn fyw gerbron y wlad. Llywyddwyd gan y gweinidog, y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch. Wilson Roberts; canwyd gan Gor Plant Ysgol Sul Stanley Road a Chor YsgoJ Sul York Hall, dan arweiniad Mr. W. D. Roberts Mr John Hughes wrth yr offeryn. Y gwahoddedigion* oeidd Mrs. E. R. Jones a Phlenytld. Sylwodd Mrs. E. R. Jones am yr angen i'r chwiorydd sylweddoli o'r newydd y pwysigrwyd;d o d-dylanwid y cartref, a'r anghenraid o'i gadw'n lan oddiwrth y ddiod feddwol. gan erfyn am gymorth y brodyr gyda'r gwaith ar- dderchog hwn. Peidiwn a chynghori neb i gymryd y medicated wines. Daliwn ein ffydd yn y bobl sydd wedi syrthio, a rhown ar ddeall iddynt ein bod yn disgwyl iddynt wella. Dywedai Mrs. Jones nad oedd wedi arfer annerch yn Gymraeg ond amlwg y gall wneud hynny'n dda, ac ni raid i neb ofni ei gwahddd i annerch cyfarfod Cymraeg. Ebe Plenydd (er fad amser yn dechreu dweyd ar liw ei walIt, mae ei ysbryd cyn ieuenged agerioed): Mae'r ystafeU hon yn gysegredig iawn i mi: yma y profais rai o'r cyfarfodydd goreu a gefais erioed. Da gennyf weled y llywydd presennol yn y gadair ond goddef- wch i mi ddweyd fed hiraeth ar fy nghalon am yr hen weinidog, un o'r dirwestwyr goreu a fagodd Cymru. Cefais adroddiad yr eglwys hon, eglwys ardderchog. Ond mae'r hen yn cilio, a ddowch chwi yr ieuenctyd ymlaen iroddieichysgwydd tan yr arch ? Gannoedd a flynyefdoedd yn ol, cymerodd cyflafan le ymMeth- lehem, ond eddodd Gwaredwr o gwr y gyfiafan. Mae Cyfandirliwrop yn donnau o waed, ond ogwr y gyf- iafan y mae gwaredwr yn codi,-Dirwest. Ganwyd cenedlmewndiwrnod Rwsiaoedd ywladfeddwafyn Iwrop ddeunaw mis yn ol, pan dorrodd y rhyfel allan, nid oedd yno ond 3,500 o Savings Banks yn awr, o'r 56,000 tafarnau a gaewyd, mae eu hanner wedi eu troi'n fanciau cynilo. Beth am Brydain ? Daeth bechgyn Toronto, He nad oedd diod i'w ga?l, i Salisbury Plain, i ymyl y wet canteens. Cyfarfu 46,000 o famau, gwragedd, a chariadon bechgyn Toronto, ac anfonasant at chwiorydd Prydain eu bod bnvy wedi caniatau i'w bechgyn ddod ar yr amod nad oeddym i r'oi diod feddwol yn eu cyrraedd. Aeth Judas iwerthu ciai-glvvydd o ymyl ychwaer a dorrodd y blwch nard ar ben y Gwaredwr, a diau fod arogl y nard ar ei ddillad. Mae rhai o grefyddwyr Cymru a nard yr Eglwys ar eu dillad yn y dafarn. Nis gall y Fasnach Fdddwol fyned ymlaen heb gael bechgyn i lenwi'r rhengoedd yn He y rhai y mae hi yn ddifa. A oes yma fam a bachgen i'w hebgor,ilenwi'r bwlch, i gario y Fasnach ymlaen ? Nac oes, mi gredaf, maent yn rhy annwyl. Sut i gael gwared a'r anwydd hwn ? Cwestiwn moesol ydyw, a'r gallu sydd i'w ymlid o'r wlad ydyw Eglwys Iesu Grist wedi deffro a'r perygl yw nad ydym ni, lawer ohonom, erioed wedi sylwedd- oli (i gallu. Mae'r Eglwys yng Ngogledd Cymru yn ei rhif, ei chyfoeth, ei dylanwad, yn gryfach na'r un gallu arall. Nid yw'r Eglwys wedi cyfrannu fel y dylasaiat yr Achos Dirwestol. Nid yw dysgeidiaeth yr Eglwys ymysg ei harweinwyr wedi bod yr byn a ddylaifod. Meiddyliwn amy cwestiwn amodbrwd- frydedd ydyw myfyrdod. Ebe'r Llywydd Gwyn fy'd na fai bod yn Gymro yr un ystyr 3 bod yri ddirwestwr. Nid ydyw felly o gryn lawer hyd yn hyn, ar hyd heolydd y ddinas yma. Cynygiwyd diolchgarwch i'r siaradwyr gan Mri. Hugh E'dwards a Job Jones.