Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

0 Big y '?'"? T ??f??! Lleifiad.

CHWITH ATGOF. I

News
Cite
Share

CHWITH ATGOF. I I-AM MR. EDWARD SMALLWOOD.—Bu ef farw yn ei breswyl, New Brighton, ddydd Gwener diweddaf, ar ol cystudd cymharol fyr, yn ddwy ar bymtheg a thrigain oed. Yr oedd yn un o'r Cymry hoffusaf a mwyaf cymeradwy ar Lannau'r Mersey, a haeddai fwy na gair wrth ein gadael am ei Gartref Fry. Fe'i ganed yn ffermdy Bryn Melyn, Cymau,—tre ddegwm sy'n rhan o blwyf Estyn, rhwng yr Wyddgrug a Wrecsam. Efe oedd y pedwerydd o bump o blant; brawd iddo yw'r Parch. John Smallwood, Cymau—a'r ddau, o ran cadernid eu cyrff a hynawsedd eu hysbryd, yn enghraifft o fynyddwyr Cymru ar eu goreu. Yn Ysgol Eglwysig yr ardal y cafodd ei addysg gyntaf, ac yna bwriodd flwyddyn yn yr Holt Academy, dan y diweddar Barch. Ebenezer Powell. Priododd ag un o ferched Lianarmon-yn-ral, a chyn hir penderfynodd symud i Lerpwl. Cafodd le gan Mr. Wm. Patton, a erys gyda ni hyd heddyw, ac sy'n flaenor hybarch yn eglwys Newsham Park. Yr oedd yn ffyddlon a hael eithriadoI at yr Achos yng Nghymru, ac a ddaiiodd felly ar hyd yr hanner can mlynedd bron y bu yn Lerpwl a'r cylch. Ymaelod- odd ar y cyntaf yn eglwys Anfield Road symudodd yn Bed fuan i Liscard, lie y collodd e briod. Fe'i dewiswyd yn flaenor yn eglwys Seacombe yn 1891 a rhyw ddeunaw mlynedd yn ol, a'r ddiadell fechan yn 1\rew Brighton wedi colli ei holl flaenoriaid, anfonwyd ef yno i ofalu am yr achos-yn hen gapel Egerton Street y pryd hwnnw. Pan adeiladwyd yr addoldy newydd, arhosodd yno, ac yn fawr ei barch a'i ddefn- yddioldeb hyd y diwedd; yn cynnaIllawer ar yr Achos a'i haelioni ariannol, ac yn fwy fyth a'r naws ysbrydol a'r grym cymeriad a roddai bwysau yn ei weithredoedd a bias gwastadol ar ei eiriau. Bu'.Q drysorydd yr eglwys am flynyddoedd a phan roes y swydd honno i fyny, yr oedd yr eglwys yn ei ddyled o swm mawr. Eithr er mwyn i'r trysorydd newydd gael Ilechen lan i gychwvn, talodd y cwbl ei hun. Anodd cael ei gysta1 am gyhoeddi, a rhywbeth yn ei wedd hawddgar a'i bwyslais arafaidd yn mynnu sylw a gwrandawiad pob cynulleidfa. Pwy mwy selog dros yr Ysgol Sul? Bu'n athro ar ddosbarth o ferched ar hyd ei dymor yn Rake Lane ac os dig- wyddai fethu a bod yno'i hun, gofalai bob amser fod yna un aralI yn ei le. Bu'n Ilywydd y Cyfarfod Mitol, a byddai ei glywed yn cynghori blaenoriaid newydd- ion, neu rhyw orchwyl cyffelyb, yn ennyn diddordsb ar unwaith, gan mor Gymreig a gwreiddiol y byddai wrth yrru'r genadwri adref. Yr oedd yn Ysgrythyr- wr campus,—yn arbennig o gyfarwydd a'r Hen Destament; acanoddi neb ohonoch ddyfynnu adnod o'r Newydd na'r Hen, na fedrai ddweyd yn y fan ymha lyfr a phennod y'i ceid. Dyna un peth a'i cymhwysai i gadw Seiat mor dda, heblav, y medrai ddatod adnod ar ol ei dweyd, a thynnu mel obob man. Gweddjai'n wlithog bob amser; ac er yn gorfod gwneuthur hynny'n bur fynych mewn eglwys fechan, nid oedd byth yn feichus nac yn shywio'r Ysbryd; cidvvai'n urddasol bob amser; tcamweddi- wyr fel tad Wm. a Henry Rees .o'r Chwibren Isaf y meddyliai dyn yn naturiol wrth ei wrando. Meddyl- iai'n fawr o'r pulpud; cofiai destynau a darnau helaeth o'r pregethau a glywsai ym more'i oes a chymaint oedd ei barch i weision Duw nes nad oed,d dim yn ormod ganddo'i wneuthui iddynt hwy a'u Meistr. Bu'n llwyddiannus iawn yn ei oruchwyliaeth fasnachol, gyda Mri. Townsend. Wooley & Co.; safai'n uchel ym marn pawb yr ymwnelai a hwy a phrin fod yr un Cymro drwy Lerpwl i gyd a gafodd waith i fwy o'i gydgened] nag ef. Dau o'i blarit sydd yn fyw, a'r ddau yn Lluadain, set Dr. Smallwood a Mrs. Frank Lloyd. Claddwyd ym mynwent Anfield ddydd Llun diweddaf y Parch. John Owen (Anfield) yn llywyddu ac yn bwrw trem dros nodweddion a chymeriad Mr. Smallwood a chymerwyd rhan hefyd gan y Parchn. D. Jones, Wm. Jones (Conwy), a J. H. Morris ac wrth y bedd gan y Parchn. J. Owen a J. D. Evans (Garston); a rhyw dimlad neilItuol wrth ganu 0 Fryniau Caersalem a Bydd myrdd 0 ryfeddodaut Mewn ymgom a Mr. Wm. Patton,—ei gyfaill myn- wesol ers hanner canrif—clywsom ef jm .dwyn tystiol- aeth uchel i gymeriad Mr. Sl11allwood-ei ymroddiad fel ymwelydd eglwysig, fel dirwestwr, y llu cymwynas- au a wnaeth yn ddistaw bach; mor felys a thoddedig ei ddawn yn gyfuniad o gryfdera thynerweh acwedi dal mor Gymreig a phe'n dalp o un o hen fynyddoedd ei wla'd. Nid oes fawr un o'i debyg bellach yn aelod o'r Cyfarfod Misol, a bydd bwlch teimladwy iawn ar ei ol yn Rake Lane a thrwy'r cylch. Daeth tyrfa fawr i'r angladd, ac yn rhy luosog inni aliu He i'r enwau. z-MR. JOHN FRIMSTON.—Ebrill 7/bu farw Mr. John Frimston, 12 Sefton Drive, yn 66 mlwydd oed. Brodor ydoedd o Lanelwy daeth i Lerpwl yn x6 oed, acymunodd a hen eglwys Bedford, a glynodd wrth yr un eglwys (Princes Road yn awr) i'r diwedd, lie y gwnaeth ei hun yn ddefnyddiol a gweithgar ac y gedy fwlch anodd ei lenwi, Ym masnach y cotwm y bu ar hyd ei oes bu yng ngwasanaeth Mri. Ellison & Co. a Mri. Rolli Bros. & Co.; yn 1903 dechreuodd fasnach ar ei gyfrifoldeb ei hun a llwyddodd'; ar ol hynny, ymunodd mewn partneriaeth fiirm adna- byddus Mri. George Holt & Co. Claddwyd ym myn- went Smithdown Road Ebrill i i. Daeth tyrfa fawr a pharchus i dalu eu teyrnged olafo barch iddo. Gwas- anaethwyd gan y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D., a'r Parch. D. D. Williams yn arwain mewn gweddi. Y Parch. H. H. Hughes: Anodd gwybod beth i'w ddweyd. Nid ydym vn gallu svlweddoli eto fod ein brawd wedi ein gadael. Daeth yn aelod o eglwys Princes Road 5° mlynedd yn ol. Bu'n flaenor yno am ddeng mlynedd. Derbyniais i yn ystod tymor fy ngweinidogaeth lawer o garedigrwydd ac ysbrydiaeth od'diwrtho. Teimlwn fod ein colled ar ei ol yn fawr. Pwy bynnag a adwaena: Mr. Frimston a'i parchent. Yr oedd ynddo elfennau i ddeffro cyfeillgarwch ac i'w wneud yn drwyadl. Gwr egwyddorol, trwyadl syth,in'i allai oddef giveled neb ya g vneud cam. CuÀ i humbug l'i holl enaid. Meddai it-ilentau dioglair; daethant i'r golwg yn ei fasnach, ac mewn cysylltiadi a'r eglwys gwelediad clir, barn aeddfed, a phender- fyniad didroi'n ol. Bu fyw i ddelfrydau uchel; yr oedd yn ddwfn grefyddol. Meddai ffydd gref yn Nuw ac yn ei ragluniaeth. Credai mewn gweddi, ac yr oedd ei glywed yn arwain mewn gweddi yn foddion gras. Ai yn uniongyrchol at yr Orsedd; yr oe'dd rhyw unplygrwydd a hyder yn ei weddi, yn brawf ei fod yn arfer a gweddio. Gwnaeth ei ffydd ef rfi grjrf 1 i wynebu anawsterau. Pan yn wrieuanc, dysgodd d6 ar otto o'r ieuenctyd mewn elfennau cerddoriaeth, i'w cymhwyso i berffeithio Caniadaeth y Cysegr. Bu'n ffyddlon fel athro yn yr Ysgol Sul hyd nes y torrodd ei iechyd i lawr. Gwnaeth ei ran yn dda fel blaenor. Yr oedd yn aelod o bwyllgor gweithiol y Genbadaeth Dramor; ac elenide oedd llywydd y pwyllgor, a theimlir colled fawr am ei arweiniad doeth a'i rag- welediad clir yn y cysylltiad hwn. Cu ac anhwyl oedd yn ei gartref, ac awyr falmaidd yr aelwyd yn ber- arogl o'i gymeriad. Bydd colled fawr am ei gymeriad yn yr eglwys ac yn ei gartref. Gadawodd weddw, un mab, a thair o fercbcd, dwy ohonynt wedi priodi, a'u gwyr ar faes y frwydr yn Ffrainc, i alaru ar ei ol. Cydymdeimlir yn ddwfn a hwy gan bawb a'u hadwaen NpddedyNeffo drostynt. Moliannwnninnau Dduw amdano. 3-AM MR. THOMAS HUMPHREYS.— Ddydd Sadwrn diweddaf, bu farw Mr. Thomas Hum- phreys, Harrowby Road, Seaforth. Bu'n wael am rai misoedd, ond daeth y diwedd yn sydyn syrth- iod'd i hun dawel, fel plentyn bach yn mynd i gysgu ar fron ei fam. Brodor ydoedd o Arfon disgynnaio hen gyff adnabyddus, ac a fu yn fawr eu gwasanaeth i grefydd a phob gwaith da. Efe yn ail fab y diweddar Mr. Richard Humphreys, Plas Llanfaglan. Bu'n amaethwr cyfrifol am y rhan gyntaf o'i oes; tua 32 mlynedd yn ol, rhoddodd amaethu i fyny, a daeth i fyw i Bootle, gan ymuno a'i frawd hynaf, y diweddar Mr. William Humphreys, fel master carter a forwarding agent. Ar ei ddyfodiad i Bootle, ymunoddef a'rteulu ag eglwys M.C. Stanley Road, He y bu'n hynod ffydd- Ion a gweithgar ar hyd yr amser. Gwr tawel, caredjg, cyfaill cywir, ydoedd crefydd wedi gwreiddio ynddo o'i 5febyd, a'i wneud yn foneddwr Cristnogol. Gedy weddw, sef merch y diweddar Barch. John Owen, Ty'n Hwyn, un mab ac un ferch,1 i alaru ar ei ol. Dyma'r cartref a'fu'n ddedwydd iawn am lawer o flyn- yddoedd wedi ei fylchu. Derbynied y teulu gyd- ymdeimlad puraf pawb o'u hadwaen, a nodded y Nef fyddo dros y cartref eto. Cymerwy»d ei weddillion ddoe (ddydd Mercher) i dy ei hir gartref ym mynwent Tai Duon, Arfon. Y terfniadau yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones, Stanley Road. 4-MRS. E. J. EVANS.—Bu annwyl briod y Parch. E. J. Evans, Walton Park, farwyn e u preswyl- fod, Bryn Tawel, Highfield Road, ddydd Sadwrn diweddaf, ac a'i cleddid ym mynwent Southport ddydd Mawrth yr wythnos hon. Daeth tyrfa luosog i gapel Walton Park erbyn 12.30, He y cynhal- iwyd gwasanaeth dan lywyddiaeth y Parch. J. Owen, Anfield, yr hwn sydd i draddodi'r bregeth-gofia am dani yno nos Sul nesaf. Darllenodd y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D., ran o'r Ysgrythyr; caed anerchiad gan y Parch. 0. J. Owen, M.A., yn talu gwrogaeth uchel iawn i grefyddolder ac ymroddiad Mrs. Evans a chaed gair gan Mr. J. C. Roberts ar ran yr eglwys, yn datgan eu colled a'u chwithtod mawr amdani, a'u cydymdeimlad dyfnaf a'n hannwyl fugail yn ei drallod a'i hiraeth. Ac yna dibennwyd drw3, weddi gan y Parch. J. H. Morris. Trefniadau'r angladd yng ngofal Mr. P. Lloyd Jones. CYFARFOD MISOL LERPWL.-YI! Crosshall Street, Ebrill jed; llywydd, y Parch. J. H. Morris. Cyi- ymdeimlwyd a rhai mewn profedigaeth a Mr. O. R. Williams, Edge Lane, wedi colli ei unig chwaer; Mr. J. Jones, David Street, wedi colli ei briod Mr. Owen Hughes, Webster Road, yn wael; Mr. Hugh Thomas, Middlesbrough, yn wael; y Parch. Wm. Owen, cyn-weinidog Webster Road, wedi colli ei fam; Mr. Frimston, Princes Road, yn bur wael a Mr. Ed. Smallwood, yn wael iawn. Pasiwyd longyfarch Mr. James Venmore ar Iwyddiant ei fa. ar faes y frwydr.-Caed sylwadau ar y diweddar Mr. Peter Davies, Seacombe, gan Mr. John Owen, yn rhoi gair uchel iddo fel crefyddwr a masnachwr a thai gofalus. Bu'n flaenor am 14 mlynedd; gwnaeth ei ran yn dda. Yr oedd iddo ddwy ffon i borthi'r praidd,—ffyddlondeb ac addfwynder. Dilynwyd gaa y Parch. R. Aethwy Jones, M.A. Pasiwyd i anfe. cydymdeimlad y Cyfarfod Misol a'r teulu. Galw- odd y Parch. D. D. Williams, sylw at Gymdeithas Hanes y Cyfundeb yr ysgrifennydd, y Parch. M. H. J ones, B.A., Ton, yn dymuno i sylw gael ei alw ati, a'r dymunoldeb i ni ymgydnabyddu a hanes ein CyfUB- deb a'i wyr mawr, er mwyn creu diddordeb yndds. Bwriada'r Gymdeithas hon ail ysgrifennu hanes ein Cyfundeb ar ol chwilio i'w ffynonellau, a bwriedir cyhoeddi cylchgronau chwarterol i gynnull yr hanes at ei gilydd. Y cylchgrawn i'w gael am danysgrifiai o 55. yn y flwyddyn. Cadamhawyd yr apel gan y Parch. R. Aethwy Jones, Ymddiswyddiad y Parch. W. M. Jones darllenodd yr ysgrifennyda lythyr oddiwrth ysgrifennydd eglwys Parkfield, yn datgan eu gofid oherwydd ymadawiad eu gweinidof llythyr oddiwrth y Parch. W. M. Jones yn gofyn am lythyr cyflwyniad iddo i Gyfarfod Misol Trefaldwy* Isaf. Pasiwyd ar gynhygia,d y Parch. D. Jonetl,- efe'n sylwii ddau o weinidogion Lerpwl fyned o'i flaen i'r un Cyfarfod Misol, sef y Parchn. John Evans, Garston, ac Owen Jones, B.A., Chatham Street, a bu'r ddau yn fawr eu bri yno. Teimlwn yn sicr y ceidw'r Parch. W. M. Jones ein hurddas yn Sir Drefaidwyn. Cefnogwyd gan Mr. Wm. Venmore, ac ategwyd gail Mr. J. Roberts, Parkfield. Diolchodd y Parch. W. M. Jones am y teimladau da synnai ei fod yn fyw heno ar ol y ganmoliaeth a gawsai y noson cynt.- Cenadwri o eglwys New Brighton, yn gofyn i'r Cyfar- fod Misol anfon brodyr yno i wrando'i llais ar y priod- oldeb o ddewis wyddogion. Pasiwyd i roi caniatad: a'r rhai can'ynol I fynd yno nos Fawrth, EbnIl igfecf, llywydd y C.M., y Parch. D. D. Wil'iams. Mri. Hugh L'oyd ac R. T. Williams. Rhoddodd y Parch. Wynne Griffith, M.A.,B.D., adroddiad o'iymweliad ag eglwys Fitzclarence Street, yn dweyd fod y Parch. G. R. Jones, B.A.,B.D., wedi ei ddexvis yn weinidog. Pasiwyd i'w gadamhau, ac i roddi gwahoddiad i Mr. jones. Darllenwyd adroddiad pwyllgor lleol y Genhadaeth Dramor gan Mr. J. W. Rowlands, a phasiwyd y casgliad i fod Mai 2 ac adroddiad pwyllgor y Capel gan Mr. Stephen Roberts, a phas- iwyd, Dewiswyd y Parch. J. H. Morris yn llywydd y Seiat Fawr. CYMANFA YSGOLION VS AN)lU3VNWy.-eyn fl haliwydCymanfaGerddorol Plant EglwysiAnnibynnol Lerpwl a'r cylch yn Grove Street ddydd Sadwm di- weddaf, a chaed hin hyfryd a chymanfa flasus ar hyd y ddau gyfarfod. Y Parch. T. Price Davies a arwein- iai, a hynny'n effro a deheig iawn, a'i lygaii yn cynniwair pob congl nes cael llonydd a chware teg i'r cystadleuwyr bob tro. Mr. J. T. Jones, Vittoria Street, a arweiniai'r canu Mrs. W. E. Jones, Miss Roberts, a Mr. T. H. Barker yn cyfeilio Mr. J. H. Jones yn bamu'r adrodd, a Mr. T. Armo. Jones, Med. R.A.M., y canu. Holwyd y plant gaa Mr. E. Christmas Davies, Park Road; cadeiriodfl, Mr. Salmon Evans y prynhawn, a'r Parch, D. Adamsf B.A., yn yr hwyr, gan draddodi anerchiad cry eithriadol ar berthynas yr eglwys a'r Fasnach Fedd- wol, ac ar anystyriaeth dybryd Prydain. Mr. E. H. Roberts, Liscard, yn agor drwy weddi'r pry nhawn, a'r Parch.J.J.Roberts, B.A., yrhwyr. YroeddMr. W m. Morris, ysgrifennydd y Gymanfa, wedi mynd i'r Fvddin ers ysbaid, a chymerwyd ei le gan Missf Bertha Charlltcn. Llwyddodd Mr, Morris i gael gollyngdod ac agyrhaeddodd erbyn cyfarfod yr hwyr; a diolch- wyd vn gynnes iawn iddo ef a Miss Charlton am eu lafur mawr ac ewyllysgar, me.7is y gwnaed hefyd í bawb a gymrodd ran, ac i gyfeillion Grove Street am eu croeso a'u lluniaeth hael. Yr oedd yno nifer weinidogion y cylch yn bresennol yn y ddau gyfarfod, a neb yn fwy presennol na Dr. Owen Evans, yrhwna ddibennodd gyfarfod y prynhawn. Galwyd roll-call y Gobeithluoedd yn y prynhawn, a mintai o bob lie, ar alwad yr arweinydd, yn codi ac adrodd pawb ei gy- swynair-eu motto, yn swynol tros ben. Atebodd plant Vittoria Street, Tabernacl, Prescot, Kensington, Grove Street, Trinity Road, Clifton Road, Park Road, Martin's Lane, Great Mersey Street, Heathfield Road, Marsh Lane. Methodd Ashton-in-Makerfield a chyr- raedd oherwydd trefniadau'r tren. Ar ddiwedd y ddefod dlos hon, cydunodd y plant i ganu emyn dir- westol ar don Nefol Gor, y geiriau o waith Pedrog. Dyma'r tonau eraill a ganwyd yn ystod y dydd; Ardystiad, Baner yr Oen, Gael fanerau Dirwest, Bod- awen, Lyndhurst, Plymouth, Voryd, Tmdeithgan Byddin Dirwest, Codwn y Groes, Tmlaen, ymlaen, cbwi. filwyr Duw a Spanish Chant. Fel liyn yr ynillwyd y gwobrwyon ar ganu ac adrodd: Ganu: Unawd, Seren Fechan," i rai dan 10 oed: i, Marian Price, Martin's Lane 2, Nancy Williams, Kensington 3, Leslie Thomas, Trinity Road. Deuawd, Fy mwa yn y cwmwl a fydd" i, Marion a Rowena Price, Martin's Lane 2, Nancy a Doris Williams, Kensington 3, Master D. Davies a Miss E. Edwards, Vittoria Street. Parti 0 6, Iesu'a agos"; Vittoria Street. Adrodd Y Plentyn a'i daid (R. H. Jones): i, Muriel Mair Evans, Martin's Lane; 2, Master G. Mills Jones, Kensington; 3, Megan Jones, Heathfield Road. Gwna dy ran (Gurnos), o 10 i 13 i, Master E. T. Davies, Park Road; 2, Master D. Davies, Vittoria Street; 3, Gwyneth Williams, Marsh Lane. Seithenya Feddw (Hawen), 013 i 16: i, Myfanwy Davies, Vittoria Street; 2, Mena Williams, Marsh Lane 3, Evelyn Thomas, Marsh Lane. Llu mawr yn y rhagbrawf, y ddau feirniad yn cael dwyawr galed o chwynnu'r goreuon erbyn y llwyfan; ac yn canmol croywder Cymraeg a'r dalent a'r deunydd da oedd yn amryw o'r egin erbyn y dyfodol. Prif anrhydedd y Gymanfa bob blwyddyn, fel y gwydidis, vw pa Obeithlu a enilla'r her-faner. Seilir y dyfarniad ar prun fyddo wedi enniIl y cyfanswm uchaf o farciau yng nghystadleuon y canu a'r adrodd. Emllwyd hi dn thro'n olynol gan blant Park Road, sef 1910-1913 ni fu cystadleuaeth yn 1914; Vittoria Street a'i henillodd y llynedd a Kensington eleni, a chafodd eu cynrychiolydd (ni chawsom yr enw) X gymeradwyaeth gynnes y dyrfa wrth dderbyn y faner. Parhad ar tudal. 6.