Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

GOSTEG.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

GOSTEG. B] DRI GOREU,-Wrth son am emynau dymn. ateb- Syr Owen M. Edwards, Gol. Cymru, i ohebydd a ofynnai gwestiwn iddo y dydd o'r blaen MAIR MOBGANNWG.—Yn sicr, o'r Dcheudir y daeth ein hemynau lliosocaf » melysaf. Eto, wrth feddwl am y tri hoffaf gonnyf fi, gwelaf mai o'r Gogledd y douant.—" Cyfamod hedd, cyfamod cad '• arn Duw Bydd melys cofio y cyf- a.mod ac "0 tyn y gorchudd yn y mynydd hyn." 0 Sir Ddinbych, sir Drefaldwyn, a Sir Feirionydd y deuant, onite ? Ond y mae'n debyg mai anaml iawn y cewch hyd yn oed ddau yn cytuno ar y tri emyn hoffusaf. Dengys hyn gyfooth y rhan emynyddol o'n hemynau." Ac yr wyf innau'n cofio mai Dros y bryniau tywyll, niwlog, Yn dawel, f'enaid, edrych draw," y byddai'm tad yn chwannog iawn i'w "ledio yn y cyfarfod gweddi nos Lun or talm ond sbio i lawr ar y bryniau hynny mae ef ers yn agos i ugain mlynedd bellach. Ac mor wahanol eu golwg o'r Ucholder hwnnw. DYN DAMEG Y NYTHOD.-Dair wythnos yn ol,ymddangosodd llith ddamhegol a phell ei hergyd yn Y BRYTHON ar Nythod, a'r enw Gwas y Gog wrthi. Yn awr, gan fod Mr. L. Wilson Roberts, Edeyrn, yn bur bysbys wrth yr enw hwnnw, ac mai dyna'r enw a arddelai ar hyd y blynyddoedd wrth ysgrif ennu ar Natur a'i Phlant i'r BRYTHON (ac i'r Cymro cyn hynny), teg cyhoeddi mai nid efe a sgrifennodd Ddameg y Nythod, ond gwr arall ieuengach ac heb wybod neu ynteu heb gofio fel y buasai'r wlad yn cydio'r enw wrth yr an ianydd cyfarwydd a theithiolsydd yn nythu yn Lleyn. Pe buasai ef wedi dal ati i sgrif- ennu, yn lie peidio ers. cyd, ni fuasai'r anghaffael wedi digwydd ac felly, ail ddech- reued., canys dyma'r Gwanwyn wedi dod, a'r adar yn gweiddi Twi Twi ar ei bonsil. Y DA'N GAEL A'R DRWG YN COLLI.-Wrth ddarllen hanes y Cymry a Phrydeiniaid eraill yn ymladd yn niffeithdir Mesopotamia, a gweld rhyw ohebydd yn dywedyd eu bod tua'r fan lie y byddai Gardd Eden cyn y Cwymp, fe gofiwn sylw Homo Ddu—(y diweddar Barch. Wyndham Lewis, Caerfyrddin)—wrth bregethu un o'i bregethau blynyddol ym Moriah, Caemarfon, ers llawer blwyddyn wen Natur y Drwg yw colli, a natur y Da yw eral. Gardd Eden yn enghraifft. Yno, onite ? y pechodd d.yn gyntaf erioed y mae'r ardd honno ar goll byth oddiar hynny, ac er eu gwybodused., nid oes yr un Ingpector of Schools ym Mhrydain "na'r byd a fedr ddodi ei fys ar y map. a dywedyd ymhlo y mae hi." Un byw a threidcliol ei ddawn oodd yr Homo, ac a gerddem yn droednoeth drwy ddeng milltir o ddrain cyn y'i collem. Clywsom bwyth ac atbwyth cyfeillgar rhyngddo fo a'r Prifathro Thos. Chas. Edwards ar lwyfan Seiat Fawr y Sulgwyn un flwyddyn ond nid oes mo'r lie heddyw i fynd dros yr hanes hwnnw, na linnau'n ei gofio'n ddigon da i fod yn gywir. RHAN Y LLYDAII'IAID.-Dylem ni" Cymry gofio fod y Llydawiaid sy'n gwneud y fath orchestion yn y rhyfel o flaen Verdun yn berthynasau agos i ni o ran gwaed ac iaith. Dwy ran o'r un hen genedl ydym, a ysgarwyd odd iwrth ein gilydd ers canrifoedd bellach,— hwy'n Babyddion rhonc a ninnau'n Brotest- aniaid am ryw hyd. Yr oedd un o bapurau Lloegr yma yn adrodd eu hanes yn achub Douaumont y dydd o'r blaen, ac yn dweyd fel mai catrawd ohonynt hwy a ruthrodd ar warthaf yr Ellmyn, a'u hysgubo o'u blaenau. Ond Britons y'i galwai, yn lie Bretons, gan gamarwain rhai Saeson diwybod i feddwl mai'u clod Sacsonaidd hwy a genid. Byddai Napoleon arfer a dweyd mai'r ym. laddwyr goreu yn Ffrainc oedd pysgotwyr Llydaw ac a'u gosodaiyn y mannau peryclaf a mwyaf pwysig ymhob ymgyrch. Dyna M. Jaffrfflinou (Taldir), y lienor a'r bardd Llydewig a fyddai'n dod i'r Eisteddfod cyn y rhyfel, ond sy bellach yn yr Armagedon, ac yn cadwta wel ac a glyw ynddi mewn cof at eu nyddu'n gyfrol os y'i harbedir. A hai lwc y gwneir. GWR PEN Y BRYN.-Dyna.enwstoria ymddengys fesur pennod ers pymtheng mis yn yr Eitrgrawn Wesleaidd. Cawsom gyfle i ddarllen yr holl benodau gyda'i gilydd yr wythnos ddiweddaf, ac a flysiwn am y gwedd- ill bellach. Enw gosod sydd wrthi; ondpwy bynnag ydyw, y mae'n storïwr digon da y gall fentro arddel ei hun yng ngwydd gwlad. Y mae ganddo Gymraeg da, cywir ei idiom ond a bias archaic a Mabinogaidd braidd ar anibell air i stori o gyswllt £ farmwraidd?fel hon. Amlwg ei fod yn hen gynhefin a'r gwaith, ac yn deall y canonau nofelig, canys y mae'n gynnil ei ansoddeiriau; yn cymryd pwyll i feddwl ac i froddegu yn feistr ar ei bin, nac yn cael ei gludo arganllif ei ddawn,di- o'r ymfflamychu sydd mor chwannog i new- yddim arwynebol. Y mae'n rhywun a Wyx yn dda am fywyd y wlad a chanddo, gy- ffyrddiadau am good se afon am gasfciau a throeon trwstan plant a phobl; am arferion. anifeiliaid ac eisteddfod y buarth; a rhyw fedri weu'r cwbl i rwyd y stori: Nid peth&u smart a tharawiadol sydd yma, yn gymaint a phethau trwm ac awgrymiadol. Prin. y buasem yn esbonio cymaint ag a wneir ar ambell dudalen, canys yr eglurhad a dy wynno ohono'i hun ar feddwl y darllenydd wrth ddarllen neu wedi darllen sydd oreu. Hyd yr aeth y stori, ar y mwyaf sydd yma o wendid II a duwch byxryd yr ardal, a rhy fach,o'i gwyn a'i chadernid moesol; hwyrach y mantolir pethau cyn dirwyn y bellen i'r pen. Sut bynnag, y mae yma storiwr tfM&fie.iawn tu ol I i'r cwbl, ac ami ddarn a phortreiad. cystal a dim sydd yn y Clawdd Terfyn na Daniel Owen- DWY FREGHTAN FEL.-Gan i'r rhiin ddod yma ohonynt eu hunain, fe'u cyhoeddir, nid o falchter nac o feddwi'n ben- wan ar eu gwin, ond or mwyn y cymorth a roddant i gael y drol a'r llwyth i ben yr allt serth sydd o flaen pob papur Cymraeg ar adeg mor enbyd i'w bywyd a hon :— May I b3 allowed to say how much I enjoy reading the BRYTHON ? The fervid patriotism that it breathes, the excellence of the Welsh, the brightness of its style, and the flashes of humour that coruscate in its pages, always delight me. The last issue contains an article of exceptional interest to me—the account of a visit to Shrewsbury.Y Parch. G. Hartwell Jones, M.A., D.D., D. lAtt, Nutfield Rectory, Surrey. Eto, mewn llythyr at Gwilym Mathafarn, Lerpwl Can diolch am Y BRYTHON—yr oedd erthygl y Gol. yn felys dros ben. Lie caffo'r Cymro y cais.' buaswn yn ddiolchgar iawn am gipolwg ar yr erthygl nesaf ar yr un pwnc, yr hon u addewir ymhen oddeutu pythefnos. Yi. ddiddadl Y BRYTHON yw'r newyddiadui mwyaf llenyddol a feddwn, os nad yr unif un wir. Y Parch. R. W. Lloyd Owen (Mathajarn), Caergrawnt. CARN-FELLTITH Y SIGARET.-An. fonodd rhywun gopi yma. o Adroddiad Eglwys Annibynwyr y Rhos a'r peth a gododd fwyaf ar fy nghalon i o ddim ynddo oedd darllen y paragraff a ganlyn yn anerch- iad y gweinidog-Dr. Peter Price, M.A.-Pr y dechreu :— Y mae yn Ilonder i mi fod Eglwys Bath- lehem yn amlygu cymaint o gydymdeim- lad a'r Ieuanc. Gellir dweyd maiy peth mwyaf peryglus i ddyn ydyw bod yn ddyn ae yn enwedig yn ddyn ieuanc, Rhydd yr Eglwys eihegnion i'r Gobeithlu a'r Dosbarthiadau Beiblaidd, a'r Ftawd- oliatth Ddirwestol, a'r Anti-Cigarette y Deyrnas. Yn gymharol ddiweddar y sefydlwyd y League. Teimlwn fod grym yng ngeiriau "louan Gwynedd pan ddywoda.inas gallas. ai weled cysondeb yr ysmociwr yn con- demnio'r diotwr, gan fod y naill fel y llall yn gaethion blys. A pheth mor anghys- on a hynny ydyw Cristion yn garcharor blys Y mae'r Cigarette yn wenwyn, a chyfle pob gwenwyn ydyw y rhannau pwysicaf o'r Nervous System, ac wrth niweidio y rhai hyn gosodir y Rheswm a'r Ewyllys a'r Gydwybod o dan anfantiais. Megir eiddilod corfforol, meddyliol, a moesol. Y mae Alcohol a Nicotineyn arwain i'r un dynged, a'r olaf yn creu gogwydd at y cyntaf. Amddiffynner yr Ieuanc rhag y gelynion hyn. Amodau aelodaeth yn y League ydynt: (1) Peidio a smocio Cigarettes na u ceisio i neb. "(2) 11 Peidio ag yfed diodydd meddwol na'u ceisio i neb. (3) Cadw yn sanctaidd y dydd Saboth. (4) Arfer Iaith bur. (5) Bod yn foesgar (pqlite) mewn ym. ddygiad. (6) Peidio a mynychu y Cinema hob gan iatad y Su-yddogion. (7) Peidio a phrynnu na darllen llenydd- iaeth amhur. (8) Derbyn y Cronicl Cenhadol yn fisol. Tymor Aelodaeth-o unarddeg i ugain oed. Ceir Drum & Fife Band, Cricket Club, etc., yngl £ n a'r League. Nis gellir diogolu trwy attal yn unig. Y mae bywyd yn gofyn mynegiant. A'r ddeddf ydyw inhibition by substitution—- peidio trwy wneud." Y mae'n gofod yn fach a'r galw'n fawr ond rhaid oedd dyfynnu'r uchod oblegid ei onest- rwydd, a'i fod yn batrwm gwerth ei efelychu gan bob eglvvys drwy'r deyrnas. Y mae esiampl gweinidogion a blaenoriaid sc selodau filoedd yn fwy o gefn i'r felltith ysmygol yma na dim a all y byd ei roddi, acyngwanychu mwy ar rym eu cynghorion ar rinweddau eraill nag y maent hwy eu hunain yn ei ddir- nad, onite nid byth y gallasent sugno diddan- weh drwy le mor fain ac aflan ei sug. 0 bob peth gwan, y swannaLa glywsom ni erioed oedd bugail a swyddog ac aelod cref- yddolyn ceisio amddiffyn y cetyn a'r sigaret. Digon hawdd dweyd ar ei wedd a'i bwyslais mor fain a brau oedd edau'i reswm. GWXL YM MATHAFARN,Dim ond dificyg He a barodd oed i:r ail lith ar Y Wib Oddi- cartref i Fro Goronwy. Os bydd modd yn y byd. £ aw yr wy thnos nesaf, --0--

IFfetan y Gol.

Advertising