Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

I.,VY D Gad CAPL4N. I

o Lofft y Stabal.

ifSMFELl Y BFIRDPI

Cymry Rhodesia.-I

News
Cite
Share

Cymry Rhodesia. I [ODDIWRTH M. WILLIAMS, BRITISH SOUTH I AFRICA CO., SALISBURY]. Cadwodd Cymrodorion Salisbury, Rhodes ia, Wyl Ddewi a gwledd i gorff ac enaid rhyw ddeg ar hug&in wrth y byrddau, ac yn clebran Cfymraeg bob un. Mr. J. A. T. Walker—gwr hynaws o G.erfyrddin-yu y gadair a'r hwyl yn graddol godi bob cynnyg nes berwi dros y crochan cyn y diwedd. Yfwyd iechyd da'r "Branin a Thywysog Cymru," a Rhodesia a'r "Boneddigasau;" canwyd pigion hen alawon Cymru a nydd- odd y Parch. Evan Thomas (yntau o Gaer- fyrddin gynt) a Mr. D. Chwefror Jones osteg o benhillion bob un a thraddododd Mr. Huw Williams (gwr glan a gwreiddiol ei Gymraeg, llodnais ei ysbryd a llenoraidd iawn ei fryd, o wlad Syr Henry Jones, Dewi Will- iams y Clawdd Terfyn, Dr. Cernyw Williams, etc.) araith-foliant hyawdl iawn i Rhodesia, sydd a'r fath &ur yn ei chrombil ac ami i Gym- ro ymysg y miloedd sy'n ei dyllu allan goreu gallant, ond yn codi eu pexnau o'r pridd woithir.u i edrych oes yna Lan neu Gapel yn rhywle, ac sy.n dod i gyrddau'r Cymrodorion i gael dracht o ddwr yr Hen Wlad rhag i'w hejiaid sychu'nllwyr yn llwch y m*n melyn. Ciowyd y cwrdd a Hen Wlad fy Nhadau &c 0 1 bach a wyddooh chwi'r Cymry gartref mor dlws y mae hi'n edrych o Rhodesia bell yma. Wele grynhodeb o araith y Bonwr Huw illiams ar Ogoniant Rhodesia W" Testun ardderchog ydi hwn 'mhobol i. Wna i ddim son heno am y gytheni aur sydd ynghudd ynghrombil ein rhan ni o'r hen ddaear yma nac ychwaith am y melinau mawr diorffwys sydd yn malu'r graig ddydd a nos. Glywsoch chi isel swn y melinau o bell yn nistawrwydd y nos ? Glywsoch chi hwy yn eu hymyl, oriau man y bore, yn rhuo fel tonnau gwynfrig yr Atlantic yn rholio ar y traeth ? y Ni thraethai am y mealies a'r myglys sydd weithian-ysywaeth-yn gwywo gan y sychfcer a'r gwres. Am ba beth y llefaraf, ytte ? Am ba beth ond am y wlad ? Hogyn o'r wlad ydw i. Welsoch chir wawr yn lledaenu eillwydni lledrith ar ysgwyddau y mynydd yn Loma- gondi ? "Welsoch chi lewyrch pelydr haul yn codi ar wynebau y pinaclau gwenithfaen, a chorun au y bryniau crynion ? Pob craig lwyd wedi ei gwynfydu a'i gwedd-newid gan hyfrydol oleuni amrantau'r bore, yn agor, a'r hen brospector yn plygu pen a chalon gyda pharch- edig ofn. Dyna Rhodesia "Glywch chi gan y morynion yn y cyn- haeaf ? pob un yn codi ei gogor i gyfwr y gwynt i nithio'r Ropoko ? a'r hen bobol yn llwyr ysgubo'r llawr dyrnu Ilychlyd ? Dy ia Rhodesia Glywch chi isel swn t malu yn y bwthyn foreuddydd ? Welwch chi'r fam ar ei gliniau uwch ben y meini, yn hwmian hwiangerddi, a'i baban ar ei chefn ? Dyna Rhodesia Walweh chi ciawelweh y defaid yn eu corlannau cya dydd, mewn tawel hedd yn cnoi cil ? "Glywch chi'r blaidd yn udo yn nhrymder nos, nes rhwygo calon gan brudd-der ofnadwy ei ddolef ? Dyna Rhodesia Welsoch chi'r dymestl yn dod lawr y dyffryn ar adenydd y gwynt mewn llwch a mwg a llais taran ? Welsoch chi'r stiff yn y dafarn ? Welwch chi y gwagenni wedi outspannio ar fin y ffordd, a'r ychen blinedig yn 'mys. twyrian gyda'r wawr ? Dyna Rhodesia "Welwch chi ? Glywch chi garnau'r Zebra yn dod lawr godre y bryniau caregog ? "A miwsig hen alawon, Yn swn eu pedwar troed." Dyna Rhodesia t Welwch chi rianedd o Gymru yn canu alawon mown gwlad ddieithr Ddy'gwyl Dewi ? Dyma Rhodesia [Os gwelwch Vincent Roberts (Gwrecsam) rywle tua'r Affrig yna, dywedwch wrtho fy mod yn d isgwy 1 gair ganddo ers talm. An- fonwch chwithau'n amlach o Rhodesia a dywedwch wrth H. W. fod ein darllenwyr yn gyrru yma i ofyn, Pam na cheweh chi gan ddyn Affrica yna sgrifennu rhagor, d wed wch ? canys yr oedd ei lithoedd rai blynyddoedd yn ol yn gystal a dyn Clawdd Terfyn bob dydd y codo o'i wely. Dowch, yr Huw.—Y GOL.].

Advertising