Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

PT GOSTEG.

DYDDIADUR

6yhoeddwyr y Cymod

Advertising

I TELERAU' AM HYSBYSIADAU.

[No title]

I i Gonea Cvmro, vp on Oddieantre

News
Cite
Share

Gonea Cvmro, vp on Oddieantre TTLDESLET.—Ar y ddau nos Lun diweddafj breintiwyd eglwys M.C. Tyldesley ag ymweliad rhai o gewri'r genedl. Pregethwyd ar y nos Lun cyntaf o'r ddau gan y Parch. W. E. Prytherch, Abertawe, yn rymus ac effeithiol iawn i gynulleidfa ragorol. Yr oedd hen ddoniau Sir Gaer yn amlwg yn yr oedfa, ac anodd credu fod y pregethwr eneiniedig wedi swyno'i genedl ers tair ar ddeg a deugain o flynyddoedd. Daliodd ar hyd yr holl flynyddoedd hyn yn rheng flaenaf y prif wyliau, a deil i gael ei chwennych hyd heddyw i'n prif wyliau. Ac eto y mae yn un o'r dynion mVlryaf Hednais a gostyngedig. Nos Lun ddi- weddaf, daeth y Parch Elfed Lewis, M.A., yma am oedfa, ar ei daith i'r Central Hall, Manchester. Yr oedd yma nifer dda heb ei glywed enoed. Daeth tyrfa dda i'r oedfa hon hefyd, a chawsom buBo ein I byrddau & danteithion Duw. AnoddcredufodElfe,? yn y welnidogaeth ers 36ain o flynyddoedd. Mae ol yr odfeuon eisoes ar y cyfarfodydd eglwysig-cyn- nydd mewn profiad a rhif. LEIGH.-Cynhaliodd eglwys y M.C. gyfarfodydd arbennig Ebrill 2il. Cawsom fenthyg capel eang y Primitive Methodists, a gwasanaethai eu cor disgybl- edig yn oedfa'r prynhawn. Canodd Miss Miriam Porter Tr Arglviydd yw fy Mugail, a Miss Annie Davies, R.C.M., Manchester, ddwywaith,-Nearer my God, to Thee, a Lead, kindly Light. Llywydd y prynhawn oedd Maer Leigh. Traddododd anerchiad chwaethus a galluog. Yn yr hwyr, pregethwyd yng nghapel M.C. Ullswater Street gan y gweinidog, y Parch. Hugh Jones, i gynhulliad lluosog (oedfa Saes- neg). Canwyd gan Miss Annie Davies, Manchester, ddwywaith yn yr oedfa hon hefyd, sef Entreat me not to leave thee, ac Abide with me ")t.iJi'Jl'¡¡¡'¡;¡¡¡,¡¡ithi¡¡¡¡f¡¡, BETHEL CA.), A SHT ON -1N-M A KERF IELD.- Terfynwyd tymor y Gobeithlu nos Sadwrn dd;weddaf Ar ol mwynhau danteithion blasus paratoedig gan y chwiorydd, cafwyd cyngerdd diddorol ac adeiladol. Llywyddwyd yn ddeheig gan y Parch. Emlyn Macdonald, Gilfach Goch, Morgannwg, ar hyn o bryd ar ymweliad a'i hen fam, sy'n gorwedd ers wyth no s au. Mae Mrs. Macdonald yn un o aelodau ffyddl ona eglwys Bethel. Ar ol anerchiad adeiladol gan y llywydd ar "Yr Eglwys a'r Gobeithlu," cymrwyd rhan mewn canu ac adrodd gan Miss Eleanor Griffiths, Mary Lloyd, Lizzie Pughe, Mrs. Gordon Macdonald, Mri. Hugh Hughes a Gordon Macdonald, a chafwyd datganiadau gan barti y Gobeithlu. Gwasanaethwyd wrth yr offeryn gan Mr. John Williams. Diolchwyd gan Mri. Thomas Williams a Richard Hughes. Cyfeir- iwyd yn garedig at Mr. Char es Hughes, y llywydd dewisol,a fethai fod yn bresennol oherwydd afiechyd. Swyddogion y Gobeithlu am y tymor oedd Mr. John Williams, David Pughe, Robert Williams; ac iddynt hwy yn bennaf y rhaid priodoli llwyddiant ycyfarfod. Cyflwynwyd gwobrwyon i'r plant am ffyddlondeb a defnyddioldeb yn ystod y tymor gan Mr. Gordon Macdonald, arweinydd y gan. Nos Sul, pregethwYd gan y Parch.E Macdonald; cynhulliad da a chenad- wrian serol a grymus, ^—tJnoedA yno. — PRESCOT.-Y 30am cynfisol, yn ysgoldy Eben- ezer, cynhaliodd y Gymdeithas Ddiwylliadol ei chyf- arfod olaf am y tymor. Llywyddwyd gan Mr. Ed- ward Jones. RhagJen: unawd, Bywyd trwy edrycb ar aberth y groes, Miss Annie Evans. Adroddiad, Bugail Mwyn, Gwyneth Williams. Cystadleuaeth cyfieithu i'r plant, Bronwen Jones a J. W. Whitley,yn gyfartal oreu; 2, Annie Evans. Alaw, Lili lon,Mr John Williams. Adroddiad, Bydd onest: Bronwen Jones. Alaw, Ton y Melinydd, Mr. D. J. Foulkes. Cystadleuatth cyfieithu i rai mewn oed: 1, Mr. T. E. Whitley. Alaw,'Roedd mam yn colfeidio ei baban bach glan Miss Maggie Foulkes. Rhoddodd D.J. ddat- ganiad campus o hen alaw T Melinydd. Diolchwyd. i r ysgrifennydd a'r trysorydd am eu Ilafur yn ystod y tymor. Dibennwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau Mr. D. J. Foulkes yn arwain.-E.W. UNDEB DIRWESTOL MERCHED LERPWL A'R CTFFINIAV: CANGEN ASHTON-IN- MAKERFIELD.-Mawrth 29, yn ysgoldy Hermon (W.), cynhaliodd y gangen hon de a chyngerdd uch- raddol. Daeth cynhulliad eithiradol o dda ynghydi'r ddau gyfarfod, a theimlwn yn hynod o ddiolchgar i'r gangen am eu teimladau da. Am 7 yn yr hwyr, dan lywyddiaeth y Parch. E. Wynne Owen, aed trwy'r rhaglen a ganlyn Unodd y gynulleidfa ynghyd i gann Onward, Christian Soldiers. Yna cafwyd ped- warawd, Ti tvyddost beth ddywed fy nghalon, gan barti o Sutton Oak. Unawd; Ffrilod, Mr. R. P. Hughes, Sutton Oak, yn rhagorol iawn. Unawd, Unwaith eto yng Nghymru anmoyl, Miss M. E. Jones, Sutton Oak, yn swynol dros ben. Can ddigrif Master A. Milson, Sutton Oak. Unawd, T Milwr Clutyfedig, Mr. Griff Roberts, Sutton. Unawd, Love's Old Sweet Song, Madame H. Griffiths, Sutton Oak. Deuawd, Plant y Cedyrn Mri. Hughes a Roberts. Cafwyd anerchiad rhagorol gan y llywydd, a chredwn y gwel- wn ei effeithiau mewn ychwanegiad buan at rif aelodau'r gangen. Unawd, Nant y Mynydd, Mr.R. P. Hughes. Deuawd, Life's dream is o'er, Madame Griffiths a Miss Jones. Vnav, i, Dear Home Songs, Miss Jones. Can ddigrif, Master A. Wilson. Unawd, T Golomen Won, Madame Griffiths. Diolchwyd yn garedig i bawb am eu cynhorthwy gan yr ysgrifenn- ydd, Mrs. J. M. Roberts a Mrs. M. J. Parry. Unawd Niagara, Mr. Griff Roberts., Deuawd, A night in Venice, Madame Griffiths a Mr. H. P. Hughes. Ter- fynwyid trwy ganu Hen Wlad fy Nbadau. Cyfeiliwyd yn fedrus gan Mrs. Wilson, Sutton Oak. Ar y terfyn, aeth y cantorion ac eraill i fwynhau cwpanaid o de, wedi ei darparu gan y llywydd, Mrs. Maurice Rob- erts. Gwnaed elw sylweddol at gyllid y gangen.— J.M.R. j _M:,==:===--=- <

Advertising