Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

fo Big y Lleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

fo Big y Lleifiad. Set Byd a Helynt Cymry Lerpwl. ARMONIAID r CENTRAL IIALL.-Daeth tyrfa fawr ac awchus i gyngerdd Mr. T. Armon Jones, Med. R.A.M., a'i facwyaid yn y Central Hall, nos Sadwrn ddiweddaf,-a'r rhaglen fel y canlyn Cenhadwr yr Hall yn offrymu gweddi fer ac yn rhoi cywair ysbrydol i'r cwrdd: Y Cor (United Mission Choir, ac ynddo amryw Gymry) yn canu 0 Father, whose Almighty Power, tan arweiniad Mr. Armon Jones. Deuawd, The Singing Lesson, gan Miss Evelyn Evans a Mr. Armon Jones, yn bur gymeradwy. Can, Good Bye, Miss L. Scarisbrick. Can, England, gan Mr. Griff Owen y cadeirydd (Mr. J. H. Rawson, Garston)yn dywedyd drosto ei fod dan annwyd trwm; ond cafodd arddeliad digamsyniol, ac efe sydd nesaf o bawb heddyw i lenwi He EosMorlais fel tenorydd trwyadl Gymreig. Cân, Friend. Miss Eva Hudson: llais glftn a digon ohono, canu'ri ddidrafferth a ham- ddenol yr olwg, a geirio'n groyw ac nid mwmian yn annyall fel cacwn mewn bys coch. Adroddiad, The Bells, Madame Gladys Williams, a chyda'r fath swyn nes y mynnwyd ei chael yn ol, ac y rhoes ddisgrifiad oeneth fach ynadroddamy waithgyntaf, nesoedd y dyrfa yn ei dyblau o chwerthin. Can, When you come home, Miss Blanche Hillworth, Can, Break of Day, Miss Winifred May Jones, yn rhagorol. Can, Mountain Lovers, Mr. W. Wood, yn llyfn a swynol. ond nid mor eneidiol ag y gweddai i'r geiriau. Death of Nelsoi-t ar y comet, gan Mr.Clegg,-cati-ipusareihyd. lwastosqed,bytbe winds (Dr. Parry), yn rhagorol gan y Cor. Deuawd, Martial Spirit (Dr. Parry), Mri. Griff Owen ac Armon Jones, y ddau lais yn dda ar wahan, ond nid yn ym- doddi cystal wrth ddibennu. CAn, Do as they do in England, Miss Amy Crowman. Can, Honeysuckle Lane, Miss Evelyn Pritchard, croten fach tua'r tair ar ddeg yma, wyneb mwyn ac agwedd hollol ddifalch, digonedd o lais pur.ac yn cael dust a chalon y dyrfa ar unwaith. Bu raid ei chael yn ol. Cantores fach addawol dros ben,a chadwed mor batrwm o naturiol a diorchest. Can, Spring Tide, Miss Marion Holland; cafodd hithau encor cryf, ac a ga^odd AngusMac- dottald,-a phob argoel ar ei phryd a'i hosgo mai Ysgoten dalgryf yw'r gantores ieuanc hon. Married a Month, gan Madame Gladys Williams,-yr actio a'r adrodd yn un o'r pethau perffeithiaf a glywyd ar lwyfan, ac mor fedrus a'r theatrydd mwyaf proffes- edig. Cuddle Doon a gafwyd fel encor, a'r dafodiaith Ysgotig morbura phe wedi ei geni ar gorunBenNevis. Deuawd, At dewy morn, Misses Holland a Hudson: Ilusgo braidd, nac yn ddigon sionc eu symudiad. There's a land, Miss Evelyn Evans, yn lan a dymunol iawn. Good Company, gan Mr. Griff Owen, yn ym- daflu i'w gan a'i holl enaiid a'i gorff. Unawd campus arall ar y cornet gan Mr. Clegg. Until, gan Miss Gladys McLelland, a dibennwyd gyda'J;. anthem Trembling Soul (Isalaw) gan y Cor. Miss Elsie Ball a'r Mri. J. W. Whalley a Rex Tracy yn cyfeilio. LlongyfarchwydMr. Armon Jones gan y cadeirydd a'r cenhadwr ar ei alluoedd cerddorol uchel ef ei hun; diolchwyd iddo am eu cysegru mor Ilwyr i'r Achos Goreu a thystid ei fod ef a'i ddisgyblion wedi rhoi gwledd flasus a chwaethus eithriadol i'r ddwyfil astud oedd yno'n gwrando. A FO GLEW, GOCHLrWIR EI GLOD.-Fely byr-hysbysem yn ein rhifyn diweddaf, daeth gair i Mr. a Mrs. James Venmore, Anfield Road, fod yr awdurdodau wedi dyfarnu y Military Cross i'w mab, y Lieut. J. Frederick Venmore, am ei wroldeb ar faes y frwydr. Dyma'r ffeithiau'n fyr:— Noson Ionawr 30, anafwyd tri gwyliwr (sentry) ymlusgodd dau o'r tri i'r llinell Brydeinig yn ol, ond yr oedd y trydydd wedi ei glwyfo yn ei ddwy goes ac ni fedrai. Cynhygiodd Lieut. Venmore a'r Corpl. Williams, Caernarfon (yntau wedi cael y D.C.M.) geisio'i waredu aed hyd,ato dan gawod o fwledi'r Germaniaid. a chludwycf ef i ddiogelwch dros y gwifrau pigog a'r ffosydd. Digwyddodd peth cyffelyb bore drannoeth i sentri arall cyn- hygiodd yr un dau eu gwasanaeth eto aethant ar eu palfau ar hyd y ddaear dan yr ergydion a chwib- ianai o'u cwmpas, a deuwyd a'r truan clwyfedig o gyrraedd y gelyn. Saith ar hugain oed yw'rLieutenant; wedi gadael y Liverpool College a'r Hill Hill School, bu'n efrydu pensaernlaeth (architecture) yn y Brifysgol, ac oedd yn yr alwedigaeth honno pan dorrodd y rhyfel allan. Ymunodd a'r Pals i ddechreu, ac a gafodd gomisiwn yn y R.W.F. Rhagfyr, 1914. Dygymodd yn fuan a bywyd a dyledswyddau milwrol profodd ei hun yn swyddog neilltuol o fedrus ac effro; ac y mae'n hoffus tuhwnt gan ei gydymladdwyr. Y mae ei lu cydnabod yma ac yn y wlad yn falch o'i wrhydri a'i anrhydedd, a pha gordial melysach i galon rhieni na chael magu bachgen dewra diorchest ? Wele'i Iun Ac wele ddyfynia do lythyr y Lieut. Arthur Apsimon, perthynol i'r un fataliwn, ac a gawsom gan ei dad, Mr. Thos. Apsimon, Colwyn Bay bellach, West Kirby gynt, at yr hwn yr ysgrifennwyd y llythyr :—- I suppose you have seen that Fred Venmore has been awarded the Military Cross, and a Corpora] of the Platoon the D.C.M. Both of them well deserved it. Venmore is very popular with his brother officers and by the enemy he is wor- shipped. His is one of the best natures I have ever known. His humour is irresistible. If there is a risky job going he is asked to do it. He has been out on patrol 28 times. You may meet him in the day time, and that same night perhaps a dangerous job awaits him. Yes, he feels it, but never refuses, never protests. What- ever he feels like he laughs and jokes all the time. I think Stevenson would have liked him. It is not,' R.L.S. says, what a man does to himself that matters, but what he does to others.' A more kind-hearted chap than Venmore never lived. Do you realise what he and the Corporal did? They are in comfortable shelter behind the parapet. They have been on patrol and have just rushed in. They are breathless and agitated. A man is out there in no man's land shotin both legs. Venmore and the Corporal can hear his groans, Oh says Venmore, we can't leave him there.' Over they go, through our wire, till they reach him. A machine gun, with its deadly rattle, is searching for them. With difficulty they raise him and slowly they bear him to our lines. God knows how they got him through our wire, but despite the hiss of the bullets they succeeded. Then the Corporal went out again and brought the wounded man's rifle and equipment. They have brought honour on their battalion and on themselves.' + £ ++ I it ADRODDIADAU EGLWYSIG.—Y mae yma swp o'r rhain wedi cyrraed'd, a daw gair byr-a dim ond byr-ar bob un gynted geliir. it ++ i H 0 FEWN r PUMLWTDD I'W CHANT.— Hen Gymraes deilwng o baragraff oedd y ddiweddar Mrs. Samuel, a gleddi'd ym mynwent Flaybrick Hill, Birkenhead, ddydd Sadwrn diweddaf; y Parchn. Ifor Jones, Caer, a J. J. Roberts, B.A., yn gweinyddu Hannai o Fachynlleth; bu ei phriod farw ymhen tri mis wedi'r briodas; treuliodd hithau gryn ddeng mlynedd a thrigain yn Birkenhead-gryn d'deugain o'r deg a thrigain dan do a nawdd a diweddar Mr. a Mrs.Wm. Jones, Price Street-y hi'n chwaeri'w briod gyntaf. Er yn mynd ar ei phymtheg a phedwar ugain oed, daliodd ei chynheddfau'n gryfion eithriadol hyd y diwedd; darllenai'n rhwydd ac heb wydrau dilynai'r rhyfel a phob helynt byd ac eglwys a gofnod- id yn y papurau ac wrthi'n gweu cly\dwch i'rmilwyr a'r morwyr yr ydoedd o fewn y dim bron i'w marwol- aeth. tt ++ DEW I SOL OA KFIELD.—Y Parch. J. L. Jen- kins, Aberdar, sydd wedi ei alw'n fugail eglwys M.C. Saesneg'Oakfield Road, yn ddilynydd v diweddar Barch. T. G. Owen, M.A. M K it CAEL r GWR HIR I'R ADWY.—Y Parch. T. Idwal Jones, Rhos, oedd i ddarlithio ar r Pregetbwr a'r Gwrandazvr yn ysgoldy M.C. Liscard Road, Sea- combe, nos Fercher ddiweddaf ond a luddiwyd gan afiechyd poenus rhag medru dod. Caed gan Pedr Hir ddodi'r adwy, ac a'i llanwodd a'i ddarlith gamp- us ar Owain Glyn Dwr, lle'r aed dros nodweddion per- sonol y gwron, harddwch ei gorff, mawredd ei arfaeth- au a'i ddelfrydau, glewder ei galon, blinderau a threi- alon ei yrfa, ei ddysg a'i Gymreigiwch trwyadl, ei serch at ei Farged a'i blant a'i werin, ei foneddigeidd- rwydd at elyn, yr ami stori a thraddodiad a fwsoglodd o gwmpas ei hanes, yr aflwydd a'i gorddiwes, ei encil trista'igladdunasgwyrundyn ond Owen Rhoscomyl ymhle-" Yng nghalon pob Cymro y cladded Glyn Dwr," ebe'r hanesydd hwnnw mor dlws a chywir; ac o'r galon honno y mae'n codi i adgyfodiad gwell heddyw ac a gwyd yn uwch i'r lan fel y treigla'r oes- oeddyneu blaenau. Diolchwyd yn gynnes iawn i ddo ar y diwedd gan y Parchn. Rd. Lloyd, T. Michael, B.A.,B.D., a'r brawd Hughes. Mr. David Evans, Cynlais, Birkenhead, oedd cadeirydd y cyfar- fod; cyfrannodd yn hael a distaw bach, fel arfer a dywedodd air byr a digwmpas, yn union fel yr oedd. eisiau. it it ARLWr PARtCFIELD. Brynhawn dydd Mercher diweddaf, daeth cryn ddeugain o glwyfedig. ion milwrol yr ysbytai i ysgoldy Parkfield, Birken- head, i fwynhau gwledd o ddanteithion a arlwyid ar eu cyfer drwy haelioni Mrs. Jones (Elm House), Mrs. Gildasjones, Mrs. Hughes (Maldwyn) a Mrs. J. Evans (Shrewsbury Road). Ac wedi'r wledd, mwynhawyd doniau canu ac aldrodd Mrs. Fred Owen a'i merch addawol (Miss Dora Owen), Miss Wall, Mr. Williams (Parkfield) a Madame Gladys Williams. Caed gair o groeso a diolch cynnes gan y Parch. W. M. Jones a Mr. W; Garmon Jones, M.A. A wedd wyneb y clwyfedigion wrth fwynhau oedd y diolch cryfaf am arlwy'r pedair chwaer hael a charedig. ti it CYMANFAWYR r SULGWrN.—Dyma'r ddau weinidog ar hugain a ddisgwylir gadw Cymanfa, Sulgwyn y Methodistiaid: y Parchn. Rees Evans, Llanwrtyd; W. Thomas, Llanrwst; J. Glyn Davies, Rossett; J. Puleston Jones, M.A.; T. Jones, Rhos- tyllen; T. Mordaf Pierce, Dolgellau; W. Wynne Davies, Rhos Dr. Phillips, Tylorstown John Owen, M.A.. Caernarfon J. T. Davies, Llanidloes; W. D. Rowlands, Caerfyrddin; Hugh Williams, Amlwch T. Charles Williams, M.A.; T. Williams, Caergybi; M. H. Edwards a Morgan W. Griffith, B.A., Llun- dain; G. H. Havard, M.A., Rhyl; R. J. Jones, Bangor H. H. Hughes, B.A., Bangor R. Beynon, B.A., Abercrave; Lemuel Jones, Goppa; R. W* Jones, M.A., Bethesda. Pwncy Seiatfawr, "YDuw ffyddlawn a digyfnewid" (Esaiah liv, 7-10); y Parch. J. Owen i agor, a'r Parchn. Rees Evans, W. Thomas, T. Williams, T. C. Williams, J. Puleston Jones, a J. Glyn Davies i ddilyn. it It it I AT r MOTOR AMBULANCE.— I Mr. Evan Williams. o jo 6 Mr. R. J. Hughes 0 10 0 Y mae staff eangen North End Bane y Lon don City & Midland, yn garedig iawn, wedi penderfynu cyflwyno ffrwyth eu casgtiad wythnosol at y rhyfel i drysorfa'r Motor Æmbulance am y pedair neu bum wythnos nesaf a byddai'r pwyllgor yn dra diolchgar pe penderfyna i canghennau eraill y gwahanol fanciau wneuthur yn gyffelyb. +t it it K ++ it

I DAU T U"R ArON.

BIRKENHEAD.

I Basgodaid olf -Wlad, r"'"

! THE WAR AND BREAD