Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

I Ein Cpnedl ym Manceinion.…

I Clep y Clawdd I

News
Cite
Share

I Clep y Clawdd I sef Clawdd Offa I [GAN YR RUWN.L Y CARCHAR A'R DAFARN.Mae'r rhain yn berthynasau agos i'w gilydd. Dywed y Glep y caeir carchar Rhuthyn, a hynny am ddau reswm. Ond, atolwg, onid oes dau ddeg o resym&u dros gau tafarndai'r dref ? Os yw dau reswm yn ddigon i gau carchar. credaf fod dau gant yn ddigon dros gau tafarn. Hwyrach fod Rhuthyn yn rhy agos i Ddinbvch i weld hynny. HUN ANGOFI ANT MABON.—Dywed.ir fod Mabon yn ysgrifennu ei Hunangofiant yn y Lloyd's News. Ond pam, yn enw pob doeth. ineb, yn y Lloyd's News, sef y llwydyn Sais hwnnw ? Cymro i'r earn yw Mabon, a Chymru sydd yn cymryd diddordeb ynddo. Y BRYTHON yw y papur i hyn, a thrwy hynny y delai'r Shoni Hois i ddarllen y newyddiadur anenwadol mwyaf gwladgar a chroew- oi iaith yn yr holl wlad. Y mae llawer stori felysr hyd yn oed tun. r Clawdd yma, am y Mabon mawr na ddaw hwyrach byth i mewn i'w hunangofiant, sef yw un o'r rhelny y modd y syrthiodd drwy lwyfan yn Pentre'r Brython ers llawer dydd, wrth annerch y cyf arfod am y tro cyntaf yn y eyffin ipu hyn, ar ran wyr Osborne Morgan. Dyna hwyl oedd L vno. i HEN GEN AWES.-—Stori dda oedd ger- bron y Llys am fam yn osgeuluso'i phlant yn y Pvlios y dydd o'r blaen. Yr unig esboniad oedd yr hon un.-sef y ddiod. Yr innocents annwyl yn dioddef cam a chalodi n'r fum yn diota. Pa hyd, 0 wlad y goddefir hyn o fewto dy dir ? Dyma'r EilWiyn creulomf a welod.d ein daaer erioed. Carcharwyd hiam ddeufis, ond gollyngwyd John Barleycorn yn rhydd. Pa'm, tybed ? Y cwrw yw'r gel-yn pennaf a pheryclaf yn awr, ac nid y C&iser YR EFENGYLYDD LL.EGACH.T)i-xi;g gan lawer am selni y Parch. H. E. Roberts, y Rhos. Nid yw yn ei rvm ers tro. Hei'lWe iddo gael adfer yn Aber yr Ystwyth. Gosyd ozone Bau Aberteifi dipyn o vim yn ei babell.. AR GOLL.-Taflwyd ardal dawel y Trefor i gyffro wythnos yn ol, oherwydd methu cael tine na, thon o hanes y brawd Tal Jones. Adiiabyddus a hoffus oedd gan yr ardalwyr ymhell ac yn agos. Collwyd of ar amrantiad, ac nid oes hyd yn hyn yr un trywydd wedi cyrraedd amdano. Gusanodd ei rai annwyl ar yr aelwyd, medd y Glop, drosodd a throsodd, ae yna, fe aeth allan i'r nos, a chaeodd y gwyll amdano. Ti'ist yw hyn, wedi alaeth diweddajryr anffodus R. O. Davies, Llangollen. Goboithio nad oos niwed nac anffawd wedi digwydd i Tal. TARANWR BWCLE.' Llo iawn yw I. Bwelø am enwogrwydd. Bu gweinidog i'r Indepen' yn taranu ar y Rhy fel, a gwnaeth son mawr' amdano'i han. Daliwch ati, Dafydd, yr ydych yn cael sylw, ac nid heb achos. Atolwg, beth ddaeth o'r rhagflaen wyr a fu yma—sef y Mrdy a'r Emrys, ac or- aill ? Ni chlywyd gair o'u helynt byth wedyn. A ydynt ar dir y byw, tybed. ? Yr unigun sydd weijicodi'ibiguwchben ebargof- iant wedi ymadael oddiyma yw'r Elfed llafurus. FFAIR FFYLIMD.—Yng Ngwrecsam. y cynhelir hon yn fiynyddol a pha le mwy priodol a chynhefin ? Nid oes angen dweyd y bydd y fath ffair a hon yn boblogaidd. Tyt. lluoedd yno or Rhos, wrth gwrs, ac o bob man bron. Ond gwrthwynebwyd y ffair y flwyddyn hon gan feddyg o'r dref. Atolwg, ai efe yw'r unig wr call yn y cylch ? Gosoo- odd y meddyg ei resymau dros ei rmtal tafl- wyd y mater i bwyllgor, ac fe gewch ehwi weld mai'r fiyliaid garia'r dydd, new nid Hutyn mo f'enw. Pa synnwyr caniatau i ryw gleriach fel yma ddyfod tros y wlad i helcyd ymaith ag arian y tlodion, gan adael haint, llau, a llw yn eu lie ? Mae'n ddigon pell ar y dydd bellach i roi terfyn ar yr ynfytbeth yma. Mae dydd y roundabouts ar ben. Right-about-face yw hi'n awr. Clod i'r meddyg am y Palinode amserol. Gobeithio y cefnogir ef gan holl eglwysi'r cylch, a phob caer o amgylch y Clawdd. SASIWN DDEONY&DOL.—Yr ydym ni, Mr. Gol., yn cael pob math ar bethau yng NgWrecsam yma: Sasiwna Ffair Ffyliaid, et@. Dyna i chwi gontrast! Disgyn y Sasiwn hon fel estronbeth ar glust Cymro. Cynefln yw a Hen Sasiynnau'r enwadau Ymneilltuol, yn enwedig eiddo'r Calfin, ond beth am hon- y Sasiwn Ddeonyddol Wel, yr oedd yno Ganon yn y gadair, a thestyn gwych gerbron y frawdoliaeth ddeonyddol i'w drafod, sef oedd h wnn w, Sut oreu i hyrwyddo budd ysbryd- ol ein milwyr ar eu dychweliad yn ol o fae8 y Rhyfol ? Testyn rhagorol iawn, teilyngach o well a dyfnach sylw nag a gafodd yn y Sasiwn hon cyffwrdd a chyrrion y mater a wnaed, a son am ryw fan bethau. Beth pe bae Ym- neilltuwyr y Clawdd yn cymryd at y mater gorbwysig hwn, gan fynd iddo'n ofalus a gweddigar ? Dyma un arall o'r problemau mawrion sydd yn sgil y rhyfel hwn. Y KINDERGARTEN ET0.~Mae pobl tua'r Clawdd yma yn ddwl iawn o berthynas i'r peth uchod.. Gofynnwyd i un beth oedd Kindergarten. "Ok," meddai, "it is a kind of garden." Wel, mae amryw ar y Town t Council sydd yn llawn mor ddwl ag ef ond pa angen dweyd pethau cas wrth ymdrin a'r mater, ac ymosod ar ei gilydd ? Dylasai pob un a ymesyd ar ei frawd mown pwyllgor gael ei anfon i'r trenches i ymosod ar y gelyn. Llesteiriwyd addysg y plant gan dymer ddrwg. Brifwyd pobl ddiniwed ac uniawn trwy ensyniadau anghy wir ac iselwael. Ffei! BETH DDAW 0 WRAGEDD Y MIL- WYR ?■—Darllenwyd llythyr y dydd o'r blaen yn y llys oddiwrth filwr ar y maes, yn dweyd yn bendant nad oedd am ddych- walyd at ei wraig wedi'r Rhyfel, oherwydd ei hanfoesoldeb, ei moddwdod, ai hankyddlon. dob. Gwell ganddo wynebu'r gelyn na'i briod, y gynnau. na'i Wraig ? Os goddefir iddynt fynod yn eu blaonatt fel yma, beth ddaw o'r plant ac o gymdoithas ? Rhaid cael cymdeithas ar gyfer y peth, sof Cym- deithas Buddiannau Gwragedd y Milwyr. BACO A DIOD.-Mao perthynas agos hefyd. rhwng y ddau yma. ClyWais Ddoctor enwog yn dweyd na wyddai am yr un modd- wyn nag oedd hefyd yn ysmygwr. Mae'r ddau ddrwg yma yn milwrio'n fawr yn erbyn ennill y rhyfel hwn. Anfonwyd, yn ddi- feddwl, worth cannoedd o bunnau o sigarets allan i'r milwyr, ac ysigwyd giau y bechgyn drwyddynt ac a'u gwnaed yn analluog i gyf- lawni eu gwaith yn effeithiol, na sefyll yn Wyneb y gelyn. Yn llys Gwrocsam, dygwyd milwr gerbron am absenoli ei hun heb gan- iatad, a'i reswm oedd ei fod mewn diod, ac wedi mynd gartref. Rhoddodd yr ustus arian iddo i gael 8moke wrth fynd yn ei ol yn lie gwella'r drwg, ei ddrygu, Ai'r cyfryw sydd i eistedd mown barn ? WELL DONE YR HEN IAITH 1-Y dydd o'r blae 1, cafodd yr heriiaith free pass dros y Gogleddfor, yn awr caiff free pass dros y Canolfor. Hi fydd yr unig iaith maes o law, o for i for. Disgwyliaf weled pob post- man cyn hir yn Gymro, a phob post office yn "Welsh Literary Society neu yn Efail. Ysgrifennwch bawb yn Gymraeg; os na ellwch, treiweh, fe synnweh fel y llwyddwch. 0 FRIW DWFN !-Syrthiodd Lifft. Davids, Rhosddu, ar y maes yr wythnos ddiweddaf, trwy ffrwydriad shell. Bachgen hawddgar oedd of, ac newydd briodi,-sof cyn myned allan. Bendith y Nef fo ar oi dad a'i fam ac ar ei briod ieua-nc, adnabyddus a pharchus gan bawb. [Diolch i'r Hutyn gwreiddiol am e. gymwynas. Dalied &+,i'n ddifwlclt, canys y mae dwy glust Maelo a'r wlad yn gwrando'i Glep.—Y GOL[.

Advertising

IFfetan y Gol.