Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

W GOSTEG.I vw GOSTEG. I

DYDDIADUR. |

iyhoeddwyr y Cymod Y Saboth…

Advertising

Advertising

BARA BRITH

Advertising

fo Big y Lleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Parhad o tudal. 5. ac un o'i rinwcddau mwyaf oedd nad oedd mewn aur ac arian ddim swyn iddo, mwy na cherrig yr afon. Gwr mawr ei ddylanwad oedd John Wesley, ac fe adawodd ar ei ol ddwy lwy arian a'r Cyfundeb Wesleaidd..Dyn mwya'r ganrif "gyntaf oedd yr Apostol Paul gwneuthurwr pebyll, hen grefft wael, ac a orfyddai arno weithio ddydd a nos weithiau er enniJl ei fywol- "iaeth. Ond pam y soniwn am y rhain ?—Un hth le i roi ei ben i lawr oedd Gwaredwr y byd." tt O.L." TN PEMBROKE.-Darlithiai'r Parch. O. L. Roberts ar Lioyd George gerbron Cymdeithas Lenyddol eglwys Saesneg Pembroke—cyn-gorlan Dr. Aked-nos Iau ddiweddaf; y Parch. Donald Fraser, gweinidog y He, yn y gadair; ac amryw o'r aelodau'n cyflwyno'u diolch cynnes ar y diwe'dd. Gan gofio mai ag estron- iaid Sacsonaidd y siaradai, addasodd Mr. Roberts ei genadwri at gyflwr gwybodaeth y rhai oedd ger ei fron; oirheiniodd gerrig milltir gyrfa'n gwron o ddistadledd aelwyd y pentref gwledig i binacl amlyg- rwydd Iwropeaidd a thros y byd pwysleisiai ei gred yn nilysrwydd argyhoeddiadau crefyddol Mr. Lloyd George yn ei onestrwydd fel gwladweinydd; ac a ddangosodd fel yr oedd magwraeth grefyddol a gwladgar yr Hen Wlad yn lliwio'i holl lwybr a'i holl areithiau. Cafodd y Pembrokeiaid wybod am y tro cyntaf erioed beth oedd ystyr Cadis'r Mis, Cymanfa Bregethu, Dydd lau'r Cadeirio mewn Eisteddfod, ac yn y blaen; ac yr oedd yr ochrau hyn i'n gwron yn bethau newyddsboniddynt. Nid oedd y llywy ddna'r lleill a siaradodd ddim yn gwbl unfarn a'r darlithydd am bob cwrs a gymerth Mr. Lloyd George dywedodd pawb eu meddyliau'n rhydd a diamwys a chafodd y darlithydd yntau gyfle i dalu'r pwyth i bob beirniad wrth ddiolch i'r llywydd a hwythau ar y diwedd. H BIRKENHEAD A'R EISTEDDFOD.—Cyfarfu nifer o Gymry Birkenhead yn ysgoldy Clirton Road, nos Wener ddiweddaf, i ystyried llvthyr Syr Vincent Evans, Llundain, parth cynnal Eisteddfod Genedl- aethol 1917. Baich y llythyr hwnnw ydoedd hyn os byddai'r dref yn gollwng yr wyl heibio, y byddai'n rhydd i unrhyw dref arall ei hawlio yn Aberystwyth fis Awst nesaf, ac mai bach o siawns a fyddai i Birken- head am y r hawg wedyn. Caed trafodaeth helaeth o'r ddeutu, gan y llywydd (Mr. J. H. Jones), y ddau ysgrifennydd (Mri. Isaac Davies a Ben Thomas), Mri. Gomer D. Roberts, Evan Roberts (Rutherglen, West Derby), y Parch. J. Ewart Jenkins (gweinidog eglwys Undodaidd Bessbro Road), Mri. Wm. Jones (Glover Street), J. W Roberts (Wallasey, Rhyl gynt), P. H. Jones, F.I.C., Hugh Evans, B.A., W. R. Pritchard, W. R. Holland, Rd. Hughes, R. J. Griffiths, Thos, Davies, R. Vaughan Jones (ysgrifennydd Cymdeithas Genedlaethol Lerpwl). Pasiwyd i ymdrechu ar un- waith gael rhestr o feichiafon hyd bumcant o bunnau; ac os y'u ceid, yna fod cynnal yr wyl ar raddfa lai,sef am ddeuddyddneu dri,rywbryd tua diweddhaf 1917. Cydsyniodd Mr. Thos. Davies i fod yn drysorydd, yn lie Mr. Gomer Roberts ac addawyd iro5 o feichafaeth yn y cyfarfod cyn ymwasgar. it BLAS r WLAD.-Cynhalioid eglwys M.C. Laird Street gyfarfo,d pregethu nos Sadwrn a'r Sul diweddaf-y Parchn. G. R. Jones, B.A.,B.D., Lerpwl, a W. J. Williams, Llanfair P.G., yn traethu nos Sadwrn; Mr. Williams fore a hwyr y Saboth; a'r Parch. J. Talog Davies y prynhawn, yn Saesneg. Collasom oedfa nos Sadwrn, ond cawsom dair v Sul. Y mae'r efengylydd o Fon yn un pur gartrefol a di- rodres ei ffordd; ami i feddwl gwreiddiol a da yn fflachio'n sydyn a syfrdanol; a'r pregethwr yn mynd gyda'r esboniadau cyn belled ag yr elai y rheiny, ond yn myndei hun wedyn, ac ymhellach o lawer na rhai ohonynt. Yr oedd traethiad y bore-sef ar Grefydd y Filltir Gyntaf (milltir Dyletswydd foel) a Chrefydd yr Ail Filltir (y filltir wirfoddol a thros ben) yn frith o feddyliau bachog, ac ambell gymbariaeth wledig- megis honno am forwyn Cae Darbv-yn sicr o lynu'n ddigon hir ynghof llawer un i fwydo gwreiddiau'i galon nes ei gael i gychwyn am grefydd yr ail filltir. Tair pregeth a bias iach y wlad ar bob un. Campus o bregeth a gafwyd y prynliawn,-cenadwri amserol, cyflead clir, iaith ddillyn, ddirodres, a gonestrwydd wedi ei dymheru a mwyneidd-dra ysbryd. Onid mynnu dod i Catharine Street o'r De yn ddistaw bach ac heb gyfarfod sefydlu a ddarfu ? Sut bynnag, ni all pregethwr pregeth fel hon fod yn guddiedig yn hir. ft PWrLLGOR A WNAETH EI W AITH.- Cyfarfu aelodau Pwyllgor Ymrestrol Cymreig Lerpwl a'r cylch yn ystafell Mri. Elder, Dempster brynhawn dydd Iau diweddaf, dan lywyddiaeth Mr. David Jones. Dangosodd yr ysgrifennydd (Mr. R. Vaughan Jones) yn ei adroddiad fod y pwyllgor wedi ymroi o ddifrif i wneuthur y gwaith yr ymgymerodd ag ef, canys fel ffrwyth y cylchlythyrau a anfonwyd wrth y cannoedd draw ac yma fis Hydref a Thachwedd di- weddaf, caed gan Gymry'r cylch ymuno'n deilwng o'u. rhifedi a'r Fyddin. Ac nid yn unig hynny, ond hwyl- uswyd ffordd y bechgyn i gael dymuniad eu calon, sef caffael ymuno a'r catrodau Cymreig, yn arbennig y rhai sydd dan lywyddiaeth y Cadfridog Owen Thomas yngNghonwy a Chinmel. Gofynnwyd i Mr. W. O. Thomas fod yn yr Haymarket i'r diben hwnnw ac fe fu yno'n gyson am bum diwrnod o bob wythnos hyd derfyn y tymor i ymuno'n wirfoddol. Galwyd sylw at ei bresenoldeb yno drwy'r BRYTHON a'r wasg Saes- neg ac y mae'n ddiogel dwyed iddo gyfarwyddo cannoedd o fechgyn yn ystod yr wythnosau hynny; a rhyngddo ef ac ysgrifennydd y pwyllgor, chwydd- wyd llawer iawn ar rengau'r catrodau Cymreig hynny. Er pan ddaeth cynllun y Group i rym, bu Mr. Thomas yn gyson yn yr Haymarket, ac yn ddyfal ddisyfl i gyfarwyddo a helpu'r Cymry ieuainc ymhob modd dichonadwy iddo. Buasai Uu ohonynt wedi cael eu taenu ymysg catrodau Seisnig anghydnaws onibai iddj fo ofalu am chwarae teg iddynt. Aeth Mr. Thomas hefyd i Lundain dros y Pwyllgor, i weld yr awdurdodau ynghylch y gorchymyn newydd a ddaethaifod pawb yn y cylch i ymuno a chatrodau'r cylch. Yroeddbyn yn doraddewid, canys rhoisent eu gair cynt y caffai'r Cymry ymuno a'r catrodau a ddewisent. Drwy garedigrwydd Mri. Ellis Davies a G. C. Rees, cafodd seiat a Mr. Tennant, is-ysgrifen- nydd Rhyfel, a ffrwyth honno fu tynnu'r gorchymyn yn ol, a chaniatau i'r Cymry gael ymuno a chatrodau Cymreig. Ymae'rgair hwnnw wedi ei gadw'n ffydd- lon hyd yma, ac yn dal mewn grym o hyd. Ymgyng- horodd ugeiniau o'r bechgyn a Mr. Thomas yn ei dy ef ei hun, a bu dwsinau hefyd ar neges gyffelyb yn nhy ysgrifennydd y pwyllgor, yn Bootle; a llawer llythyr o ddiolchgarwch a ddaeth oddiwrth y bechgyn am yr help a'r cyfarwyddyd a gawsent, canys rhy Iy. weth a d'niwed yw llawer ohonynt yng ngwydd y swvddogioncbogeu gwedd a chwyrn eu gair. Bwriedjr i'r Pn-Ilgor gadw wrth ei gilydd ermwyn helpu'r gwyr priod hwythau fel y'u gelwir i fyny.—Diolchodd y cyfarfod yn gynnes iawn i Mr. Thomas a'r ysgrifen- nydd am eu hymdrechion dyfal a diball, a phasiwyd i apelio am danysgrifiadau i ddwyn y draul o ugain punt a rhagor yr aed iddo. it BENDITH BANKHALL.-Dal. ;lwyddo a chael eu gwerthfawrogi tuhwnt y mae cyngherddau croes- awu'r milwyr a'r morwyr Cymreig clwyfedig ac arall a gynhelir bob pythefnos yn ysgoldy Bankhall. Daeth cynifer a chant a phedwar ugain 0 fechgyn y Khaki i'r cyngerdd nos Sadwrn ddiweddaf, erbyn chwech ar gloch; Miss Gee, cyn eu myned at fyrddau'r wledd, yn eitl harwain i ganu emyn ac alaw mewn dull hoffus a der* byniol iawn gan y bechgyn. HWY'll cael dewis eu can, a hithau ar y llwyfan yn cadw'r amser a'r hwyl a'i llawffon awgrymiadol. Clywyd T Mochyn Du, T Btotbyn ar y Bfvtl, ac a eel o alaw i alaw nes cyrraedd eitha'r ymchwydd wrth gwafrio 0 fryniau Caersaletn, a Miss L. Kyffin Williams yn cvfeilio. Mrs. Venmorc a roddai'r wledd y tro hwn ac ni fu ball ar flas ac amrywiaeth. Mr. R. Vaughan Jones a arweiniai, a chymrwyd rhan yn y cyngerdd a cldilynodd gan Miss Dora Rowlands—y hi'n canu'n hen ganeuon gwerin yn y dull iawn, heb andwyo'u gogoniant cartrefol drwy rhyw berfformiadau diweddar a chelfyddydol, a'i chwaer yn cyfeilio iddi. Hefyd gan Miss Edith Venmore, yn dra derbyniol ar ei hymddangosiad cyntaf yn y cyngherddau hyn, a'i chwaer, Miss Phyllis Venmore, yn cyfeilio iddi; y Chwaer Watkins, Mr. a Mrs. Ivor Owen, Mr Glyn Jones, Mri. Ted Davies. Ehedydd Eilion (canwr pen- hillion), Mr. J. P. Welfare (crythor campus), y Priefat Ablett (S.W.B.), y Preifat D. Jones (R.W.F.), aMiss Nellie Lewis, A.R.C.M., yn cyfeilio. Cafodd y talentau hyn arddeliad da ac encor droeon. Estyn- nodd y Parch. Wm. Henry groeso cynnes i'r milwyr ar y dechreu diolchodd Mr. Hugh Lloyd (cadeirydd y pwyllgor) i Mrs. Venmore am ei haelioni graslawn ac wrth ateb drosti, caed gair tirion tuhwnt am ymilwyr a'u haberth gan Mr. James Venmore, Y.H., sydd & dau fab iddo yn y Fyddin-un o'r ddau, Lifft. J. F. Venmore—ynghanol yr ymladd, a newydd ennill y Military Cross am ei wroldeb. Ie, ben- dith a werthfawrogir fwyfwy yw'r cyngherddau hyn ond cofier y rhaid wrth arian niawr i ddwyn y draul, ac y bydd y trysorydd dyfal, Mr. R. O. Williams, London City & Midland Bank, Castle Street, yn falch o'i galon am bob rhodd ac offrwm a anfonir iddo at amcan nad oes mo'i deilyngach yn unman. tt 0 BELL, BELL.—Gwelwn oddiwrth goptau o'r Eveinng Telegram, Toronto, fod Mr. Arthur H. Cham- bers, mab ein cydjddinesyddMr. Heber H. Chambers, yn ysgrifennu colofn o newyddion a nodion Cymreig iddo bob wythnos. Hanes cadw Gwyl Ddewi sydd yn un ohonynt, lie y gwelwn grynhodeb o anereMad y Proff.J. H. Michael, M.A., yntau'n uno gyn-weinidog- ion y Wesleaid Cymreig cyn ei fyned drosodd i gadair Prifysgol Toronto. Y mae newyddiaduraeth yn grefft gyson ag anian lenyddol a disgrifiadol y Cymro a rhyfe-dd nad elai rhagor iddi i ddisgleirio ar brif bapurau'rby'd.. tt CYMANFA'R SUN IIALL.-Daeth tyrfa fawr lawn, er nad llawn cymaint ag arfer, i Gymanfa Ganu flynyddol M.C. y cylch, a gynhelid yn y Sun Hall, nos Lun ddiweddaf; Mr. T. Hopkin Evans, Mus.Bac. (Oxon.) Castell Nedd, yn arwain Mr. R. W. Jones yn arwain y gerddorfa Miss Edith Jones, L.R.A.M., wrth y berdoneg Mr. W. J. Roberts (Douglas Road) wrth yr harmonium y Parch. H. H. Hughes, B.A., B.D., yn y gadair y Parch. Wm. Henry yn darllen a gweddio ar y dechreu Mr. Jas. Venmore, Y.H., yn llywydd y pwyllgor, a Mr. Wm. Parry, Seaforth, yn ysgrifennydd. Dyma a ganwyd: Llanddowrar: King's College: Questa Tomla; Urbs Aurea; an- them, Pwy yw y rhai hyn ? (ac a ganwyd fel galarnad -requiem-am y bechgyn a laddesid yn y rhyfel, ac oedilynt wedi esgyn Fry i Gymanfa a Chynulleidfa y Rhai Cyntafanedig); Dycbzoeliad Presburg Llan- gristiolus (" Cyfansoddodd Dr. Parry bethau eraill mwy poblogaidd hwyrach, ond ni chyfansoddodd ef erioed gystal ton a hon," ebe'r arweinydd cyn codi ei fatwn); anthem, Gwywa y Gwelltyn, nes llenwi pob calon a dwyster gweddaidid Maerdy Diolchaf i; Lux Beate cydgan, And the glory of the Lord Telyn Dafydd; Andalusia a therfynu 3 gweddi gan y llywydd a Gosber gan y gynulleidfa. Amrywiwyd ychydig ar y rhaglen hefyd drwy ganu Penlan, er cof am e hawdur, y d weddar Broff. D. Jenkins, a'r ar- weinydd yn talu ei deymged o barch i allu ac ym- roddiad y cerddor ymadawedig, megis y gwnai yrig Nghymanfa'r llynedd am y diweddar Mr flarr37 Evans. Y mae'r arweinydd yn elyn anghymodlawn i bob stwr a pheswch afraid ni chaniatai guro na llaw na throed,—sobrwydd meddwl a chalon addolgar yn esgor ar weddeidd-dra ymddygiad-dyna gywair cymanfa ganu iddo ef, ac a fynnai ei gael cyn cychwyn ar bob ton ac arfthem. Ond nid yn y Sun Hall yn unig y canwyd y tonau nos Lun,eithr yn y ceir ar y ffordd adref, a'r Saeson yn mawrfwynhau'r ddwys-os- lef Gymreig a ddisgynnai mor hyfryd ar eu clyboedd o'rnaill dram ar ol y llall. Do, fègafwydanerehiad pwrpasol a gweddaidd iawn ei rediad a'i ysbryd gan y llywydd, ac yriddo lawer o gyfeirio at y bechgyn draw yn y drin a'r ffosydd, y buasai mor dda ganddynt fod yn y Sun Hall heno. Coffhaodd sylw o lythyr un o ymladdwyr Gallipoli yn debyg i hyn :— Pan oeddwn yn symud ymlaen efo'm platoon tu ol i'r Fyddin, dyma glywed swn cor o Gymry'n canti Abervstwyth drwy ganol twrw'r shells a'r ergydion > gyd. Ac fe fydd y bechgyn a ddychwelant o'r ofnadwyaeth yn deal! y penillion hyn yn well na ni sydd mor glyd arnom ga rtref.-Rbyw fras-gofnod yw'r uchod o'r hyn a ddjgwyddodd nos Lun; daw adolygiad y cerddor hyddysg G.W.H. ar y canu a'r cwbl yn Y BRYTHON nesaf. ft DAU TIJ'R AfON.1 CWYN COLL,-Mawrth 20, bu farw Mrs. Jones priod Mr. John Jones, 15 Colebrooke Road, un o flaenoriaid hynaf eglwys David Street, gynt 415 Hill Street, yn 82 oed. Ganwyd hi yng Nghaernarfon, symudodd y teulu i Lerpwl pan nad oedd hi ond naw oed ond cadwodd hi ei Chymraeg mor loew a phe buasai wedi treulio ei hoes rhwng bryniau Eryri. Ymaelododd y teulu yn yr hen eglwys yn Bedford Street bryd hynny, dan weinidogaeth Henry Rees a John Hughes y Mount, ac yfodd yn helaeth o'u hys- bryd. Wedyn bu dan weinidogaeth Dr. Owen Thomas, a melys ei hatgofion am y cewri hyn. Pan ddechreuwyd yr achos yn David Street, daeth hi a'i phriod a'u papurau o Princes Road yno, a mawr oedd eu sel a'i brwdfrydedd gyda'r achos. Byddai ar y blaen gyda phob mud ad, ac yn gyson yn yr holl gyf- farfodydd. Meddyliai yn fawr o'i dosbarth yn yr YsgôJ sur, a'r athro: gwelsom ddarlun o'r dosbarth yn Nhrysortall Plant ddwy ffynedd neu dair yn ol a'r cwbl, chwech neu saith ohonynt,wedi myned dros yr addewid. Cafodd ei bendithio a thymer dawel a charedig iawn, a hwnnw wedi ei gryfhau a gras, nes ei gwneuthur yn dra chymeradwy gan bawb. Yr oedd eicharedigrwyddiferchedieuainc yn ddihareb bu ei thy yn gystal a chartref i lawer o'r cyfryw pan ddeu- ent o Gymru ;j ymddygai fel mam i Iu ohonynt. Cafodd gystudd trwm, ond a'i dioddefodd yn dawela dirwgnach. Bu farw mewn tangnefedd, gan sibrwd y pennill, Ar ol gofidiau dyrys daith, cawn orffwys yn y nefoedd." Teimlir ei cholli gan lu o gyfeillion yn enwedig gwragedd gweddwon David Street, y gofalaimor dynei amdanynt. Erys ei choffadwriaeth yn berarogl am amser maith. Estynned yr Arglwydd ei aden dros ei phriod a'r teulu. Claddwyd hi ym mynwent Smithdown Road, Mawrth 23. Gwasan- aethwyd gan y Parchn. D. D. Williams, D. Jones a J, Evans. Treuliwyd y seiat nos lau i gofio ei rhin- weddau a'i chymwynasau. Dymuna'r teulu ddiolcii am bob cydymdeimlad S hwy yn eu profedigaetli. MARTIN'S LANF, LISCARD.—Cynhaliwyd cyfarfod cystadleuol hynod ddidtorol a llwyddiannus yma nos Fercher, o dan lywyddiaeth y gweinidog, y Parch. T. Price Davies. Ei amcan oedd cyflenwi' cysuron i'r milwyr ieuainc perthynol i'r lie, a chafwyd swm sylweddol iawn. Y beirniaid: cercldoriaeth, Mr. W. Gyffin Hughes, Lerpwl; rhyddiaeth, barddoni ac adrodd, y Parch. D. Adams, B.A. arlioli, Mrs. D. Reynolds, Wallasey; celf, Miss Eliza Evans, Lerpwl. Y rhai buddugol: Traethawdi bob oed," Rliy-felyng ngoleuni dysgeidiaeth Iesu Grist" Mr. J. T. Will- iams, Eto, i rai dan 22. "Cenadwri Jeremiah ac Eseciel": I, Miss Lily Williams; 2, Miss Eunice Jones. Eto, i rai dan 16, Hanes Iesu Grist", 1, Gwen Williams; 2, Madge Jones 3, Freda Price. Arholi: Safon V: i, Alwyn Pritchard; 2, Mary Jones. Eto, Safon IV i, Emlyn Davies 2, Percy Williams3, Sophia Davies. Adrodd: rhai rhwng 10 a 13 T, Alwyn Pritchard; 2, Sophia Davies. Dan 10 i, Willie Davies 2, Muriel Mair Evans; 3, Willie Williams. Her adroddiad: Freda Price. Barddoniaeth "Cyfiafan Belgum "-pedwar pennill I, Miss Maggie Williams. Englyn, Y Gwirfoddol- wr" i, Mr. R. H. Jones. Cerddoriaeth Unawd i rai dan to: i, May Hughes; 2, Marian Price. I bob oed, "Neges y Modeuyn. t, Catherine Hughes 2, Gwladys Price. Parti o 6, i rai o dan 16: i, Phil- harmonic Party. Unawd ar y berdoneg, dan 16: I, Gwen WiHIams;: 2, Elsie Lloyd. Dan 12: 1, Elsie Lloyd; 2 Gladys Hughes. Ce'f Tray C/o? i, Miss Kate Roberts. Table Centre Miss OIwen Williams a Miss May Roberts yn gydradd. Knitted scarf: i, Miss Doris Williams. Cyfarfod hwyliog iawn, yr ysgoldy eang yn orlawn yr ysgrifennydd oedd Miss Myfi Pritchard, a Miss Mary Jones yn drys- orydd.—Y Saboth diweddaf, cynhaliodd yr eglwys ei chyfarfod pregethu. Y gwahoddedig ydoedd y Parch. Peter Price, M.A.,D.D.. Rhos, a chafwyd tair o bregethau grymus iawn ganddo, er ei fod. yn nyfnder profedigaeth, wedi claddu ei annwyl fam y dydd Iau cynt. Yng nghyfeillach yr hwyr, pasioddyr eglwys bleidlais o gydymdeimlad dwys a Dr. Price. Cynull- iadau mawrion, ac arddeliad amlwg ar y gwirionedd blasus. Dechreuwyd y gwahanol odfeuon gan y Parchn. T. P. Davies J. Hughes, B.A.,B.D. (M.C.), Bangor; a Mr. J. Williams, Binns Road, LerpwL- E.H.R. Mawrth 17, ar ol cystudd rnaith, bu farw Mrs. Ann Williams, priod Mr. Roger Williams, 17 Ridley Street, Birkenhead, yn 82 mlwydd oed. Chwaer ydoedd i'r diweddar Barch. Hugh Jones, a fu'n weinidog Eglwys Annibynnol Clifton Road am dros 17 mlynedd, a'i goffadwriaeth yn feh s ar ol chwarter canrif. Meddai hithau hefyd gymeriad cryf, a bu'n un o aelodau ffyddlonaf yr egJwys am 44 mlvnedd. Cludwyd ei gweddillion i Fangor, yr 2iain cyf., a chladdwyd hi ym mynwent Glanadda. Gweinydd- wyd gan ei gweinidog, y Parch. J. J. Roberts, B.A., yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. J. Ellis Williams, Pendref, Bangor. Gedy ar ol blant ac wyrion sydd yn cadw'n fyw draddodiadau'r teulu. Cip ar yr hysbysiad a ddengys fod gwledd 0 ganu ac adrodd eithriadol yn aros pawb a aiff i gyngerdd Mr. Armon Jones yn y Central Hall, Renshaw Street, nos Sadwrn nesaf: y doniau'n rhai hysbys ac yn warant am swyn a eafon. EASLSFIELD ROAD.-Nos Iau, y 23am, cynhaliwyd Ymgomwest gan yr eglwys i groesawu y gweinidog newydd, Mr. Thomas Michae!, B.A.,B.D.o Huliwyd y byrddau gan y chwlorydd yn ddestlus a dymunol, .ac wedi lluniaeth blasus, cafwyd cyfarfod diddorol. Wedi cael adroddiad gan Miss Owen, a chan gan Mr. Rhys Davies, rhoddwyd sefyllfa yr eglwys ger ein bron gan Mr. W. B. Jones (ysgrifennydd). O dan arweiniad medrus Mr. J. T. Jones, datganodd y cor antlieni T Blodeuyn Olaf yn swynol. Cafwyd anerchiad gan Mr. Owen, Oakside, yn cymell y cyn- Hun gwemidogaethol i'n sylw. Gweithred brydferth ar y rhaglen oedd cyflwyno rhodd 1 Mr. Rhys Davies, un o ffyddloniaid ieuanc yr eglwys. Gwnaed hyn gan Mr. A. R. Thomas at ran ein Cymdeithas Len- yddol, a gyll uh o'i goreuon trwy ymadawiad Mr. Davies i'r Fyddin. Niferolyfraucerddorol o eiddo'r meistri ceadd oedd y rhodd. Diolchodd Mr. Davies yn deimladwy am yr arwyddyma o serch y Gymdeithas. Can oedd y peth nesaf gan Miss Enid Davies. Diolch- odd ygwein;dog am ycroeso gwresog a estynnwyd i ddo Yna canwyd y Gosper i derfynu cyfarfod hynod ddiddorol, a diolchwyd yn gynnes i'r chwiorydd a fu mor ddiwyd gyda'r ddarpariaeth.—W. B. JONES.