Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

Basgedaid o'r Wlad. ■I 1

News
Cite
Share

Basgedaid o'r Wlad. I 1 ORIEL AW R ALUN Dirwes.Y mae rhyw gynnwrf wedi dod i'r oriclau yma yn ddiweddar ynghylch y Cymanfaoedd Dirwestol. Dywed rhai mai un ddylid gael, a honno'n anenwadol. Cwyd :rr Hen Gorff ei wrychyn braidd yn erbyn dileu ei un ef, ei bod yn hyn na'r un anenwadol, yn fwy Cymreig, yn fwy crefyddol, ac yn gwneuthur gormod o ddaioni i'wrhoddi ifyny. Y cwestiwn yw, pa un ai dwy ynteu un yw y goreu. Pa un ai un gan bob enwad, pe bai modd cael hynny, ynteu un gan yr lioll enwadau, a wna fwyaf o ddaioni ? Os mai un Gymanfa an- enwadol a wnai fwyaf o les i'r wlad, dylai Sion Gorff roddi heibio barch i henaint ei Gymanfa ef, ac ymuno -os ymuno—mewn gwirionedd a'r boll enwadau. Pam, tybed, na chynhaliai pob enwad Gymanfa Ddirwestol? A pham hefyd na wnai y rhai sydd heb yr un eu rhan yn well gyda'r un anenwadol ? Atebed rhywun. Te a Gwedii Daeth arogl te blasus i fyny o'r Wyddgrug i'r orie!au yma yn fisol ar hyd y gaeaf. Te'r boneddigesau. Dywedodd rhywun wrth fynd heibio mai ei amcan yw dod a hwy i well adna- byddiaeth o'i gilydd, ac i well cyfeillgaiwch. Ni wyddom ddim beth yw ei ddylanwad, ac ni wyddom beth yw materion y trafodaethau a'r ymddiddanion ynglyn ag ef. Byd nes y cawn wybod, cawn dybio a dyfalu. Ond beth bynnag am y te, tystiolaethir yn gryf fod Cyngor yr Eglwysi Rhyddion yn foddion llawer o ddaioni. Trefnir ganddo i gynnal cvfarfod- ydd gweddi yn y tai. Nid peth hawdd hyd yn oed i weinidog, gwraig gweinidog, na neb arall, yw treiglo o dy i dy, a gadael bendith ar ol. Ond tystiolaethir yn ddifloesgni fod treiglo o dy i dy yn yr Wyddgrug a'r cyffiniau yn y cyfarfodydd gweddi hyn yn foddion bendith. -Llygadu: Deallaf fod un o eglwysi Dwyrain Dinbych yn llygadu i fyny i un o'r orielau am weinidog, a bod ei llygaid wedi disgyn ar un o dalion ein tir. Nèwydd cyfrinachol ar hyd yr orielau yma yw hyn eto, a beth fydd y canlyniad, amser a ddengys.-Didr),iydd. 0 SIR FFL,.INT.-Nos ydyw hi ar grefydd yma, beth bynnag am siroedd eraill Cymru. Ewch man y myniioch ar y Goror, dyna glyweh cwyno ar y cynulliadau, yn enwedig rhai'r wythnos. Ni bu adeg well yn hanes y Sir erioed yn fasnachol: try olwynion trafnfdiaeth yn gyflym, a chysuron cartrefi heb ball; ond am Eglwys Dduw, mae hi yn isel a gwael ei gwedd.-illab y Bone, O'R liEN SIR, SEF SIR FON.—Llawer o glod sydd i berfFormiad Cwmni Drama Penuel (B.), Llangefni, gydag Ar y Groesffordd. Hwy sydd yn mynd a hi ym Mon, ac am yr eildro yn Neuadd Dref Caergybi, gan yr Annibynwyr, a'r Parch. R. P. Williams yn llywyddu. Owain Cybi yn canu gyda'r tannau, a Miss Evan Griffith chwim ei byseddyn rhoi'r cywair iddynt-wyres yw hi i'r bardd byw R. Mon. --Yma ac acw, a'r pellter yn fawr oddiwrth ei gilydd, ydyw hanes teulu Mr. a Mrs. Rd. a Mary Jones Bodffordd: y tad a'r fam yn byw yr ochr hon, a phump o'u plant mewn sefyllfaoedd anrhydeddus yr ochr arall bell i'r Werydd donnog. Un o'r meibion —y Parch. D. R. Jones—yn weinidog yn Garvin, Minn., a ddaeth trosodd saith mlynedd ar hugain fn ol ir Americ, a bu am deirblwydd yn fyfyriwr yng ngholeg Moody yn Chicago. Dyna adar yr un nyth wedi hedeg ymhell, ac heb obaith dod yn ol i'r hen nyth cynnes ym Mon.——Y ffugchwedl ferfedd piau hi yng Nghaergybi fel llawer llearall, fel y prawf y ffaith hon: al'an o'r 1,295 Hyfrau a roddwyd allan i'w darllen o lyfrgell y dref y llynedd, yr oedd 1,093 yn nofelau Nid rhyfedd fod cymaint edlychod o feddyliau mewn llawer man, pan feddylir saled eu bwyd. Eu nefoedd yw eu nofel," medd rhywun. Teimlir chwithtod yn Llanerchymedd ar ol Mr. John Owen, o ddinas Y BRYTHON, ac a dariodd yno oddeutu 32 mlynedd ac yn dra adnabyddus a der- byniol gan y Cymry, ac a droes lawer nid yn unig ymysg esgidiau, ond ymmydcerdd a Hen. Yn fab hynaf Ehedydd Mon, ac yn frawd i Ap Ehedydd, ac i Cuhelyn Mon, Llanddeusant, ac fel hwythau yn ym- ddiddori mewn can a thelyn.-Brawychwyd yr hen dreflan, a thorrwyd ar hedd ei Saboth, pan ledwyd y newydd am farw sydyn un o ddynion ieuainc add- fwynaf y Llan, Mr. John McNeil, a drigai gyda'i fam yn y King's Head Hotel, ac efe onid 32 mlwydd oed. Ymunasai a'r GwyrMeirch, ond oherwydd dihoenedd daeth adref.-Y dydd o'r blaen, rhoed y dorian ar ewyneb un o drigolion hynaf a pharchusaf Amlwch, Miss Mary Lewis, Tredarth, a hi yn 89 mlwydd oed. Bu am ran helaeth o'i hoes yng ngwasanaeth Gwredog a gwnaeth gofal y teulu ei nawnddydd hir yn siriol a theg. Y Parch. H. Williams, y Fron, yn gweini yn ei hangladd. Pruddhawyd calon ami un yng Nghaergybi pan glywyd huno o Mr. John Williams, y diver daeth- o waelod y m6r i fyny lawer tro, a daw eto i fyny o waelod bedd yn amser da y Nef. Aeth i lawr yn ei anterth, yn ddeuddeg a deugain oed.- Gwerth eiddo'r diweddar wr da, Mr. R. J. Edwards, yr ynad hedd 0 Gaergybi, oedd deng mil a phedair punt ar bymtheg a deugain. Diddorol iawn y Hythyr a anfonwyd gan y Capten Williams, llywydd y Tarra, a suddwyd gan y gelyn, sydd ers amser gydag eraill yn garcharor dan ofal y Tyrciaid. Cenmyl garedigrwydd y swyddogion Tyrcaidd: yn gorfod byw mewn ogof, heb ymolchi am ddyddiau yn cael )"run fraint a'rmilwyr, sefllandcwpan 0 flawd, a Hond cwpan o reis bob dydd, ond ar adegau yn cael ychydig gig. Dywed fod y dynion yn bwyta malwod, ond nadydoeddef wedi cael digon o stuinog i awchu am yr ymdreiglen iysnafog honno.-Llygad agored. "SSJBtWSWWP 0 ABERYSTWYTH.—Am y Twrch Trwyth, darlith y Tabernacl, ac leuan Gzvyllt.—At Olygvdd Y Brython, Syr,—Synnais yn fawr weled nodiad o'r eiddoch dro yn ol na fuoch erioed yn Aberystwyth, a gresynnwn am eich diofryd i gadw'r merlyn o'r porfeydd gwelltog ar lannau hudolus Ceredigion. Hvderaf y bydd mam eich cariad at yr Eisteddfod yn nydd ei gofwy, yn difa eich diofryd ac y clywir swn carlamiad y merlyn ar Benglais o dan belydrau haul tesog Awst. Pe buasech yn y Tabernacl, Aber- ystwyth, nos Fawrth ddiweddaf, yn gwrando ar y llyfrwerthwr amryddawn, Jack Edwards, yn ennyn tâncariad yng nghalon y plant at yr hen dadau fu'n arloesi y tir yng Nghymru gyda'r emyn a'r mawl, credaf y buasech yn barod i waeddi Diolch iddo ac y buasech yr anghofio'r Twrch yn swyn y gan. Ni chaed un amser well dwyawr o adloniant ac ys- brydiaeth- Gymreig. Cafwyd cydwead hapus o'r ffraeth, y digrif, a'r tyner-ddwys, wrth atgoffa'r hen arloeswyr cerddorol yng Ngheredigion. Pa nifer o ddarllenwyr Y Brython, tybed, a wyr mai yn Aber- ystwyth y dechreuodd leuan Gwyllt ei yrfa gerddorol, ac mai yno hefyd, y cyhoeddwyd Blodau Cerdd, rhag- redegydd y Cerddor, y cyhoeddiad sydd wedi gwneud cymaint o wasanaeth i gerddoraieth yng Nghymru. Un o bethau mwyaf tarawiadol y darlithydd oedd ei ddarlleniadpenigamp o ragyma dro dd leuan Gwyllt i'r Blodau Cerdd. Tarawai un rhan ar ein dust fel llais o'r tragwyddolfyd yng nghanol erchyllterau'r dydd, a daeth i'n meddwl ar y funud y carai darUenwyr Y BRYTHON gael golwg ar y rhag ymadrodd," a themtir ni i anfon copi ohono ichwi. Maddeuwch yr hyfdra ar ran un na sgrifennodd erioed o'r blaen linell bapur newydd.—Arfonfab. 11 Blodai* CFRDD At leucngtyd yr Ysgo Sabbothol.-Serchus Gyfeillion-Mac yn llawen iawn genyf gael cyfarfod a chwi ar faes hvfryd Cerddoriaeth; ac, er mai casglu "Blodau yw ein gwaith, hyderwn y bydd y rhai hyny y fath ag y bydd eu harddwch, er perarogl, a'u tynerwch, yn fcueddu i feithrin ynom hoffder at yr hyn sydd wir brydferth, i buro ein chwaeth, fel y byddo llvgredigaethau ein gwlad yn rhy ffiaidd genym eu harfer, ac yn effeithio ar ein serchiadau nes eu gwneud yn rhy dyner i lid na chenfigen i nythu o'u mewn, ac yn rhy wresog i ddim ond cariad a thang- nefedd i anadlu yn eu hawyrgylch. Mae yn ddiau fod gan Gerddoriaeth ryw ddirgel swyn dros y natur ddynol; a pha ryfedd ? onid iaith y teimlad ydyw ? a gwyddom yn dda, pan lefara y teimlad, fod effaith ryfeddol yn sicr 0 gael ei gynyrchu. Mae Cerddoriaeth, ganoedd o weithiau cyn hyn, wedi toddi hall serchiadau y galon ddynol, a'u bwrw yn un tryblith i'w mould ei hun, pa beth bynag a fyddai hyny. Ar brydiau, a llawer rhy ami ysywaeth, cymerai feddiant o holl deimladau y milwr toddai ac arllwysai hwynt yn ddylif tanllyd yn llonaid ei fynwes, nes ei hyrddio yn un eirias ffrwd i safn magnel ei elyn, ar faes y gwaed. 0 dduwies odidog! Camddefnydd anfad arnat oedd hyn a rhyfedd na buasit wedi cymeryd dy aden a chanu yn iach am byth i fro marwolion, am dy dreisioi gyflawni y fath erchylldra. Yr oeddwn y funud hon yn myncd i wneuthur adduned i ti yn enw dynoliaeth, na chawsit byth ond hynny y fath sarhad, hyd nes y teflais fy llygaid tua chyfandir Ewrop; yno gwelaf er fy ngalar, ei bod yn rhy gynar etto. Drachefn, a wehveh yr adyn draw ? hawdd darllen yn y fflnmiau acw sydd yn ymluchio allan drwy ei lygaid, fod ei galon yn berwi gan ddigofaint yn erbyn un o'i gyd-ddynion mae yn rhuo yn gyffelyb i grombil Vesuvius, gan fygwth ymdori yn ddylif o ymddial amo; ond dacw Gerddoriaeth yn dyfod ymlaen, a thrwy beiriannau cywrain y llais, neu dannau tyner y delyn, neu ryw offeryn arall, wele hi yn dyhidlo ei gwin neithdar- aiddi'w fynwes losgedig, ac yn tywalit allan el galon. mewn ffrydiau grisialaidd o ddagrau. Lie a ballai i ni fyned ymhellach ar hyd y maes hwn yn bres- ennol; efallaiyeawnhamddenynolllaw. Rhwydd hynt ichwi nes y cyfarfyddom eto ar yr Aelwyd." -leuar, Gxyllf, GWRECSAM Manvolactb Mr. Henry Yottes.- Mawrth 22, yng ngorsaf Acrefair, pan ar ei ffordd adref o'r Cyfarfod Misol ym Mhontcysyllte, bu farw Mr. Henry Jones, yn ddisymwth iawn. Yr oedd yn 63 mlwydd oed, ac yn bur adnabyddus trwy'r cwbl o Ogledd Cymru fel cynrvchiolydd Mri. Grimshaw & Co., Manchester, am lawer o flynyddoedd. Daeth i WrccJiam tua deugain mlynedd yn ol, ac ymaeiododd yn eglwys Seion, ac yma y bu yn ffyddlon iawn gyda phob rhan o'r gwaith o hynny hyd ei fedd. Dewis- wydef ynflaenoryn 1902, a chymrodde: ran a diddor- deb neilltuol yng Nghyfarfod Misol Dwyrain Dinbych o'r cychwyn. Efe ydoedd llywydd dewisedig y Cyfarfod Misol am ran olaf y flwyddyn hon, ond cyn dechreu ar waith y swydd hon, g^Iwyd ef adref at waith mwy anrhydeddus fyth. Claddwyd ddydd Sadwrn diweddaf, ym mangre'i febyd, Clawdd- newydd, ger Rhuthyn. Cymrwyd rhan yn y ty yng Ngwrecsam gan y Parch. J. T. Jones, B.A.,B.D., ac Evan Jones, ac yng NghlawddNewyddgan y Parchn. R. E. Morris, M.A., Edward Williams, B.A.,B.D., R. J. Jones, Llanelidan E. Williams (B.), Pandy'r Capel; a'r Mri. Edward Lloyd a J. Alban J ones-dau o'i gyd- swyddogion yn eglwys Seion. Dygwyd tystiolaeth sicr i'w gymeriad a'i waith. Cryfder, pur deb, a gonestrwydd oedd ei nodweddion ynghyda llawer iawn o garedigrwydd, ac yr oedd iddo barch cyffred- inol. Bydd bwlch amlwg iawn ar ei ol yn eglwys I Seion. Yn y Drefnewydd, ddydd Gwener, ymhen pythef nos ar ol ei annwyl briod (merch hynaf y diweddar Barch. Wm. Hughes, Coedmadog, Talysarn), bu farw Mr. D. J. Evans, (Prudential Assurance Co.), brawd hynaf Mr. E. W. Evans (y Cymro), Dolgellau. Bu'n preswylio yn Nhalysarn, Conwy a Thrallwng, ac yn wr defnyddiol mewn eglwys. Cydymdeimlir a'i ddau fab, Pierce a Charadog.—R.J.G. Gwahoddedigion Cymanfa Pasc Penmachno a'r cylch eleni ydyw y Parchn. Rd. Morris, M.A., Bala H. H. Hughes, B.A., Lerpwl; a J. E. Davies, Tre- ffynnon. Amhosibl gwell triawd. Duw cymanfa- oedd Cymru a ddel atynt. Marwolaetii A CHLADDEDIGAETH MRS. OWEV Gweddw'r Parch Robert Owen, Ty Draw, Wydd- grug.—Ddydd Llun diweddaf, rhoddwyd gweddillion marwol y chwaer uchod i orffwys yng Nghladdfa Gyhoeddus yr Wyddgrug.. Yr oedd wedi cyrraedd yr oedran teg o 86. Bu'n byw am flynyddau yn y Gadair Elwa, ac yn Nolwgan yn Eifionydd. Oddeutu 35 mlynedd yn ol— symudodd i Waenynog, gei Din- bych, ac ar ol arhosiad byr ymMhrestatyn,symudodd i Ty Draw,Wyddgrug, lie y preswyliodd hyd farwol- aeth ei mab, Mr. Roger Owen. Bu'n byw ar ol hynny gyda'i merch, Mrs. Roberts, yn yr Wyddgrug; ac ers pedair blynedd cartrefai gyda'i mercb, Mrs. Eames, yn Upper Bangor. Profodd ei hun yn wraig a mam ragorol, a chyflavvnodd ei dyletswyddau teuluaidd trymion gyda gofal, diwydrwydd a ffyddlondeb arben- nig. Gwnaeth ei rhan i gynorthwyo ei hannwyl briod gyda gwaith y weinidogaeth. Ymroddodd i'w gwaith priodol ei hun yn ei chartref, ac ymegniodd i ddwyn ei phlant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Bu iddynt naw o blant: y mae'r hynaf yn adna- byddus a pharchus iawn yng nghylch Lerpwl, sef y Parch. Wm. Owen, diweddar weinidog Webster Road, yn awr o'r Gyffin, Conwy. Daeth dau neu dri ohonynt yn flaenoriaid, ac y mae un o'r merched yn briod i'r aelod anrhydeddus dros Fon, y Gwir Anrhyd. Ellis Jones Griffith. Cafodd weled claddu tri o'i phlant ar ol iddynt dyfu 1 oedran, sef Mrs.William Jones, Ruthyn Robert Owen, yr hwn a gollwyd ar y mor a Mr. Roger Owen, yr hwn a ddilynodd ei dad yny TyDraw. Yn ystod y blynyddocdd diweddaf yr oedd wedi colli ei golwg yn llwyr; ond er hynny, cedwid ei meddwl yn dawel ac ymostyngol, ac yn wir yn siriol. Ymhyfrydai mewn gwrando darlleniad o'r Gair, ac mewn mynychu moddion gras. Fel y cerdd- ai blynyddoedd aeddfedai ei pbrofiad, a hyfryd oedd ei chlywed yn mynegi ei theimlad yn seiadau Twr- gwyn, ac yn wir mewn cymdeithas gyda'i hannwyl gyfeillion. Yr oedd yn naturiol o dueddfryd of nus a phetrusgar (timid). Adroddai ei phrofiad unwaith yng nghlyw ei phriod, y Parch. Robert Owen, ac a amtygai amheuaeth gyda golwg ar ei chrefydd. Ac meddai Mr. Owen, ar ddiwedd y seiat, gan gyfeirio at yr hyn a ddywedai: "Mae Mary yn ameu ei chrefydd, ond nid oes neb arall yn ei hameu." Ac yn ddiau, dyma tarn pawb a'i hadwaenai. Cludwyd y corff o Fangor i'r Wyddgrug. Gweinyddwyd yn y tv cyn cychwyn gan yr HybarchDdaniel Rowlands, M.A., efe ryw dair blynedd yn hyn na'n chwaer. Yn y gIaddfa yn yr Wyddarug, gweinyddwyd gan y Parch. R. J. Jones, Twrgwyn; John Owen, Anfield Thomas Mor- gan a J. J. Morgan, Wyddgrug; a'r Parch. Ellis Lloyd, Bwcle. Yr oedd y Parch: G. Parry Williams, i M.A., y Wyddgrug, yn analluog i fod yn bresennol, oherwydd ei fod yn y Deheudir y Sul. Daeth llu 0 1 hen gyfeillion ein chwaer yn yr Wyddgrug i ddangos ( eu parch iddi, a gwelsom amryw o Fangor.

fo Big y Lleifiad.