Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

YsgolSul a Phulpud. Cymru.

Ar ddaint v Gribin. I

News
Cite
Share

Ar ddaint v Gribin. I Y MAET Caplan Llewelyn Lloyd, oedd gyda'r Fyddin Gymreig yn Ffrainc, wedi dychwelyd adref yn gwla'i iechyd. Yr oodd (of yn efeng- ylydd poblogaidd cynt; ond bydd rhyw flas newydd ar y genadwri o hyn ymlaen, oher- wydd yr hyn a welodd ac a brofodd ar odre'r Armagedon. Mawr yw s6n y bechgyn am Oodfa'r Efail, sef a gawsant gydag o y dydd o'r blasn yn swn yr ergydion, a'u bywydau magis yn hongian rhwng deufyd. -o Caed John Davies, Pant glas, yn farw dan drwch o luwchion eira ger y Bylchau, ar ffordd Pentre foelas, a'i gorbyd a'i ferlen gerllaw. Yr oodd yn bymtheg a thrigain oed, ac yn ffarmwr ac arolygydd y ffyrdd. Y mae Syr Watcyn Wyn wedi rhoddi byw- oliaeth Llandysilio, Llangollen, i'r Parch. W. Aeron Davies, ficer Rhosesmor. Enw tlws yw Aeron, a gobeithio fed yr un flas ar ei bregethau. ■ Cafodd Mr. J. Rowlands, postfoistr Cricietb, goflaid o anrhegion gwerthfawr gan bobl y dre wrth ymadael i fod yn bostfeistr Hodnosford, swydd Stafford; a'r Archddiacon Lloyd Jones, Syr Ellis Nanney'r Gwynfryn, ac eraill yn rhoi geirda eithriadol iddo am ei gwrteisrwydd gwastadol wrth bawb, yn lle'r tursio cwta a deddfol yma a geir gan lawer o sych-swyddogiony Llywodraeth. Eligoreu'r galon yw tipyn o arwyddion fod pobl yn gwerthfawogi'eh gwasanaeth. Dyma un o Itoff destynau'r Parch. Evan Roes (Dyfed) Er gorwedd ohonoch ymysg y crochannau, byddwch fel esgyll colomenod wedi eu gwisgo ag arian, a'u hadenydd ag aur melyn." Dyna le i fardd ledu esgyll ei Awen. Mr. Edward Jones, Maes mawr-Ilywydd Cymdeithasfa'r Gogledd-oadd blaenor y ddirprwyaeth a aeth dros Gymdeithas Ddir- westol Maldwyn at brif gwnstabl y Sir i erfyn arfto estyn y cwtogiad ar oriau agor y tafarnau i'r holl sir, canys dim ond yn y Drenewydd y mao'r ewtogi mewn grym. Addawodd y Pen Pliemon edrych i fawn i'r peth. + Dyma'r gwyr sydd wedi eckel eu hethol yn Bwyllgor T-ileithiol Mon, Arfon, a Meirion dan gynllun y Cadfridog Owen Thomas, i gadw chwarae teg i'r mtlwyr Cymreig ifon-V Parch. J. Williams, Brynsiencyn ac E. H. Griffith, rheithor Llangadwaladr, a Dr. Thomas, Amlwch. Arfon Dr. Wynne Griffith, Pwllheli; Mri. W. George, Cricieth, ac Issard Davies, Caernarfon. Meirion: Syr Osmond Williams, yr Henadur Wm. Owen a Dr. J. Jones, Dolgellau. Yng Nghaemprfon y cynhaliwyd y cyfarfod lle'r etholwyd y gwyr uchod, ac yr oedd yn gyfarfod brwd'ac yn argoeli'n dda. Gwir y clywyd peth o swn Satan y Sect yno am ych- ydig funudau, ond wedi eglurhad yr yegrif- ennydd But na chawsai clerigwyr yr Eglwys Wladol rybudd blaen llaw fel y cawsai'r capeli, rhwymwyd y Satan draed a dwylo ac a'i bwriwyd bendramwnwgl i'r dyfnder. Ond y mae gan yr ellyll esgyll i ddringo, a gwyliwch ef. Y mae ambell Gymro'n ddigon dirmygus o fach i chwilio'r Testament Newydd i. edrych pa en wad oedd y Crist Ei Hun, 0 diar mi! Mewn cyfarfod o Eglwysi Rhyddion y Rhyl, dan lywyddiaeth y Parch. H. Evans (Cynfor), protestiwyd yn erbyn gwaith Cyngor y dref honno'n apelio at y Bwrdd Llywodr- aethol am iddo lacio'r cyfyngu ar oriau i dafarnau. Yn hytrach, ebe'r cyfarfod. estyn. ner y gwaharddiad dros y wlad i gyd, fel y bo pob tref ac ardal ar yr un tir. -4>- Synnwn ddim nad Ilys trybini' fyddai'r darnodiad goreu ohono, cany s trybin llyd ddigon yw y rhai sydd yn mynd o flaen ei faine," abe Dr. Gwylfa Roberts wrth ofyn yn yTyst pa air Cymratg ollid ei gael am tribunal. Y Peilin, ebe gohebydd. gwreiddiol yn Ffetan y Gol. ar tudal. 2. Pan geisid gollyngdod i Mr. Llew. Owain' Gol. Y Genedl a'r cyd-bapurau, rhag gorfod mynd i'r Fyddin, gofynnodd Prif Gwnstabl Caernarfon i Mr. J. Jones, cyfarwyddwr y Cwmni, tybed a ddioddefai'r wlad pe cy- hoeddai'r Cwmni dri phapur bob wythnos yn lie pump. 'Dwn i ddim." ebe Mr. Jones, ond nid yw hanner dwsin o bapurau'n ormod gan rai pobl eu prynnu, yn enwedig os yn disgwyl gweld eu henwau ynddynt." <?weM eu henwau-'does dim ond operation lem yr Ail Enedigaoth a all wella neb o'r clwy cyffredinol yna. Dwrdio hyd y progetlinu Dwrdio hyd y pregethau yn oedfa ddwbl y City Temple nosWyl Ddewi wnauno oheb- yddion Seren Cymru, ond yn canmol y canu i'r ucholion. Hwyrach fod y gyhebydd fel Eos Prydain y Codwr Canu yn y ddrama honno, yn meddwl mwy am y Sol/fa nag am Salvation. ■o- Dwys iawn oodd y seremoni a fu yn Eglwys Llanbeblig, Caernarfon, y dydd o'r blaen, sof dadorchuddio ffenestr dlos oi Hun a'i lliwiau yn goffa am y diweddar Lifft. Morys Wynne- Jones, mab ficer hawddgar y dref, a laddwyd yn y rhyfel fis Hydref, 1914. -0- 1 Yr oodd un o gyn-olygyddion papurau Caernarfonwedi troi at yr EgIWY-fi ddiwedd ei oes, ac a wrandawai'r Ficer yn Llanbeblig ambell dro ac os heb yr un geiniog yn ei logell, ysgrifennai, Diolch yn fawr í chwi am eich progeth ragorol," ac a'i taflai i'r blwch casglu pan ddeuai hwnnw heibio. Dyna'i oftrwm o. ■o- Pasio i ddal i gadw sejndorf i genu ar y Sul wnaeth Cyngor y Rhyl, or gwaethaf protest amryw o'r aelodau a lysenwid yn sych- Biwritaniaid ac yn y blaen am eu sel Sabothol. Y mae'r ymdderu yma am grefydd a chadw'r Sul yn peri mwy o grasineb ysbryd ac o lye. nafedd edliwus na phwnc yn y byd. Yng Nghyngor Lleyn, dywedwyd pethau hoilltion enbyd am waith perchen ryw dyddyn yn gadael i hen wraig fyw mewn bwthyn mor dyllog ei d6 a llaith ei furiau. Ar sachciu y eysgai'r druan oodrannus, ac a losgai'r gwellt o'r rhai hynny er mwyn cael llygedyn o olau a gwres yn y twlc tywyll. Y mae cut cwn y perchennog yn barlwr o le rhagor yr hoewal warthus. 0 chwith y bydd hi ar y ddau yn y Byd Ne.^af. mae'n fwy na thebyg. Os oes un ohonoch chwi dadau yn doehreu llymeitian a chware a'ch glasiad cyntaf, cofiwch englyn Elfyn i'r rneddwyn Tro-t y plant ar y plwy—yn wir drist;, Ac ar, drwyth ofu&clwy Y gwiiodydd llygradwy Y gwaria'u tad eu gwrid hwy. Os nad yw'r 11 moll olaf yna'n' ddigon i bod it droi'r gwydryn a'i wyneb yn isaf, nid wyt ti ddim yn deilwng i fod yn dad. Dyna i ti, y n dy wyreb. Pasiodd Cwmni Tramffyrdd Llandudno, drwy bleidlais o 343 yn erbyn 253, ymhlaid gofyn i Gyngor y dref honno am gael rhedeg y ceir ar Ddydd yr Arglwydd neu am ran ohono o leiaf. Dydd yr Arglwydd, wir Dydd Mamon a Bacchus yn hytrach. Faint feddylioch chwi a holiodd Cymry Llun da in ddydd Gwyl Ddewi diweddaf at gysuron y Fyddin Gymreig ? Dros bum mil a hanner o bunnau. Drwy hudoliaeth gwisg a gwen y merched y caed y dreth. Nid oes yr un cybydd yn Llundain a fedr ddal llygad bach y chwiorydd hynny-un yn enwedig. Y mae'r awdurdodau gwladol a milwrol a'u holl egni'n ceiuo perswadio amaethwyr Sir Fflint i gy flog j merched ond. dal yn gyndyn y mae Ilawer o'r ffermwyr, a digon hawdd dweyd ar eu gwep mai Twt! ydyw eu syniad am y lodesi. Yn Ninbych, ddydd lau diweddaf, hysbys- wyd fod cyfanswm tewyth y casgliadau o'r ocsiwn ddiweddar or budd Trysorfa Amaeth- yddoly Groes Gochyn cyrraedd £ 1,210 18 6, a'r trouliau'n ddim ond £3 11 10. Dyna'r goreu o'r un yn y Gogledd. Y mae trigolion Colwyn Bay, Lan a Chapel, wrthi'n hel arian at godi rhywbeth yn goffa am y diweddar Ganon Hugh Roberts, fleer y lie am dair blynedd ar hugain, a gwr hawddgar gan bawb, oblegid ei fwyneidd-dra doethineb. Er mwyn cynilo, y mae Carchar Rhuthin j'w gau am beth amser, a'r gwasanaethyddion i'w symud i garcharau eraill. Yr unig ga.rchar agored wedyn yng Ngogledd Cymru fydd carchar Caernarfon. Aath cryn haid i sbio ar y briodas khaki a welidyng Nghapel Caersalem, Llanfairfechan, ddydd Mercher diweddaf, sef y Lifft. Val Baker, 12th R. W.F., Llanfairfechan, a Miss Dilys Eamod, Plas Villa, o'r un llan. Y Parch- edigion Mordaf Pierce, Dolgellau, a W. E. Williams, Llanfairfechan, vn eweinvddu. v Y mfee'r Capt. Tom Parry, A.S., wedipen- derfynu gwrthod ei bedwar cant o bunnau o gyflog fel Soneddwr, ac felly gau safnau'r bobl barod i edliw. Gartref yn yr Wyddgrug y mae bellach, ac 61 elwyfau a chaledi Gallipoli yn amlwg ar ei gorff ctu-iedig. Siopwr trwstan i'w ryfeddu oadd yr hybarch John Jones, Talsarn a phan oedd ei briod allan, ac y daeth rhyw wreigan i ofyn am geiniogwerth o dap, dywedodd y prageth- wr wrthi na wyddai o sut y gwerthid y peth, ac am iddi gymryd yn ol ei chydwybod. Cymrodd hithau un 11ath ar bymtheg. Ac wrth ddarHen hanes y Treibunalau yma led y wlad, gallesid tybio mai india rubber yw deu- nydd cydwybod llawer un, gan fel y tynnir hi ol a blaen wrth ateb y croesholwr. Y mae Martha L. Griffiths, y wraig oed rannus a gnfwyd wedi ei niweidio'n enbyd yn ei th £ yn yr Wyddgrug rai misoedd yn ol, wedi marw yng Ngwallgofdy Dinbych a llys y trengholiad a fu ar ei chorff wedi dwyn ded. fryd Llofruddiaeth Wirfoddol" yn erbyn John Bellis, y glower a lotyai gyda hi ac sydd yng ngharchar yn aros ei brawf. Nid oea dim ar y ddaoar mor anodd ei olchi a gwaed. .0- Cymro genedigol o gyffiniau Llandudno yw'r Gwir Anrhydeddus W. M. Hughes, Prif Weinidog Australia sy drosodd yma ac yn cael clap a chroeso lie bynnag y sioryd. Nid 068 ganddo rhyw lawer o Gymraeg, ebe fo ond y mae'n cadw hynny sydd ganddo'n ofalus. Y mae wedi derbyn gwahoddiad gan Gyrnrodorion Llundain i gyd-giniawa a hwy ym mwyty'r Trocadero, Nos Lun, Ebrill y lOfed, a Mr. Lloyd George wedi addo llyw. yddu. Y mae i'w groesawu yng Nghaerdydd hefyd a chyn dychwolyd i wlad bell ei fabwysiad, y mae am fynnu, ebe fo, caelpicio i weld bedd ei f&m ym mynwent Llansant- ffraid Glan Conwy. A pheth cryfach na charreg fedd ei fam am dynnu dyn ati o eithafoedd y ddaear ? Ac wedi dod at y garreg o Awstralia, dyma'i deimlad yn ddiau Yn wir, mi garwn orwedd, Er dy fwyn, yng nghwrr dy fedd. •< «- Gair yn cyrraedd fod Capt. James Bate- man, R.F.A. mab hynaf Mr. a Mra; Jones- Bateman, Eyarth a'r Pentre Mawr, Aber- gele, wedi marw o'i glwyfau yn Ffrainc. Major Edward Jerman yntau, sef o Fryn Celyn, Rhyd y clafdy, ger Pwllheli, wedi marw yn Fflanders. Y mae'r Parch. W. Gabriel Evans, curad Dinbych, wedi cael ei benodi'n un o ficeriaid corawl Llanelwy, yn ol £ 147 yn y flwyddyn. Caed Mr. Knowles, gwr yr Albert Hotel, Madoc Street, Llandudno, wedi ymgrogi yn ei gegin bore dydd Gwener diweddaf. Yr oedd yn bodair a deugain oed, a newydd ddod i gadw'r Albert o westy'r Harp, Conwy. Ei briod a'i gwelodd gyntaf, druan, a hi'n dod i lawr o'r llofft y peth cyntaf y bore.  Y mae pwnc y gydwybod yma yn rhoddi cyfle i lawer pwyth ac atbwyth yn y llysoedd a mannau eraill. Er enghraifft, dyma un o bwythi miniog y Parch. G. H. Havard, M.A., B.D., wrth gyfarch cyfarfod y Groes Goch yn y Rhyl nos lau ddiweddaf :— Yr wyf yn deall dyn a chanddo wrthwyn- ebiad cydwybodol gwirioneddol; ond nid wyf yn deall y dyn sydd newydd ddarganfod ei gydwybod yn ystod yr wythnosau diweddaf, pan ddaeth galw arno i ymladd." Dyma i chwi englyn ar Gydwybod, gwaith Lewis Jones, Llandaulas.- Ni oddef ei thangnefedd—i undyn Heb uniondeb buchedd Deil ei barn, hyd ael y JxJdd, I ariannu gwirionedd. Y mae rhywbeth pur dda yn yr "ariannu gwirionedd. yna, onid oes ? A dyma ddi hateb neu ddwy yn dangos ei dwy ochr- Gwell cydwybod nag Awen ond Cydwybod ci at y cosyn. g A yw crafiad y cyferbyniad yn eglur i chwi ? Os nag ydyw, gofynnwch i gymydog go gyfarwydd. ?..  ? ? .? Tipyn o helynt ac anhawster sydd o hvd gyd a'r milwyrCymrc ig a chael llythyru adref: o'r rhyfel yn Gymraeg. Yr oedd caniatad i hynny o Ffrainc, etc., wedi ei gael yn fuan ar ol dechreu'r rhyfel ac fel fifrwyth gofyn cwestiwn yn y Senodd y dydd o'r blaen, y mae rhyddid wedi ei gael bellach i filwyr yr Aifft a M6r y Canolclir yr un fath. Gresyn fod, dirmyg y Saeson, aeMioJig ar eu hanwybod- aeth o bob iaith ond yr oiddynt eu hunain, yn eu gwneud mor draws a drwgdybus. -<?- Y rose un o Gymry Llundain wedi sgrifeinnu hanes y Royal Welsh Fusiliers yn gyfro) ddiddorol a hardd ei lluniau; ac yn awr, y mae'r Major-Gen. G. Paton yn hwylio ,ti i ysgrifennu un gyffolyb am gatrawd h&n a hyglod y South Wales Borderers. Sefydlwyd y ddwy gatrawd yr un flwyddyn-1689, a, bu'r ddwy a'u rhan low ym mrwydrau mwyaf gwaedlyd y Cyfandir a'r byd, o hynny hyd hoddyw. Y mae hanes y Borderera yn dal yr ysbyty hwnnw yn Rorke's Drift, Deheudir Affrica, yn 1880, dan gawod o bioellau {assegais) y Zulus cryfion a mileinig, yn un o'r pethau glewaf yn hanes y Fyddin Brydeinig. Dyna'r pryd y codai'r Zulus gyrff eu brodyr oodd rhyngddynt. a'r Borderers ac a'u taflent yn eu crynswth i ddorbyn bleen bidog v Cymry, gael iddynt fotlat a'u codi at y rheng nesaf a ruthrai arnynt. Y mao Henry Matthews, alias Percy Clarkes, a llu o rith-enwau oraill, wedi cael ei fwrw I sefyll ci brawf ym Mrawdlys Stafford ar amryw gyhuddiadau hyllion o gael arian o ffermwyr y wlad draw ac yma drwy ymrithio ei fod yn gynrychiolydd y Llywodraeth gyda golwg ar fesur tir a'i drethu ac yn y blaen. Dyma'r dyn hefyd a weithiai ac a bregethai mor danbaid a ohodog gyda'r Y.M.C.A. yng Nghinmel nos y dechreu. odd y Cadfridog Owen Thomas, graff ei. ffroen foesol, ddrwg-amou mai Pbarisaad cegrwth ydoedd, ac a gaeodd el big yn y fan. Bu Syr J. Herbert Roberts, A.S., yn treulic egwyl yn Norfolck, lie y mae ei fab yn graddol hybu o waeledd erch y pneumonia. Dis- gwylir y bydd y mab yn dd.igoa cryf yn fuan j, gael ei symud adref i Fryngwenallt. ❖ Yr oodd un o lanciau Trefriw neu'r ardaf gyfagos yn gryf iawn ei gydwybod gerbron y Treibiwnal ddydd lau diweddaf yn erbyn rhyfel; ond wrth gael ei groesholi, addefodd y trwstan iddo fod mown ymladdfa lewye ei grys a llanc arall ar Bont Trefriw, ac iddo. wneud ei ortu i amddiffyn A gam. Ond curfa a gafodd ar y bont, ac yn y llys hefyd, nor, gorfod ystwytho i'r alwad, "yn ddrych o dristweh i edrych drosto."

Advertising