Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Ein CAnedi ym Manceinion.

IClep y Clawdd sef Clawdd…

Ffetan y Gol.I

Gorea Cympo, yr an OddieavtreI

News
Cite
Share

Gorea Cympo, yr an Oddieavtre I HOLLINWOOD, GER OLDHAM.—Nos Sadwm, y x8fed cyfisol, cynhaliodd pobl ieuainc eglwys Gynull- eidfaol Gymreig y lie eu cyfarfod amrywiaethol. Mr. J. Morris yn y gadair, ac ymhlith pethau eraill, aed trwy'r rhaglen a ganlyn CAn, Mr. T. Thomas; cystadleuaeth darllen goreu, Miss Williams, Shaw; 2, Mrs. A. Thomas. Can, Mr. J. Evans. Can, Miss Williams, Shaw. CAn. Mr. Aneurin Thomas. DethcHon ar y gramophone, Mr. W. P. Davies, Man- chester. Cystadlu darllen penhillion, goreu, Miss Williams 2, Mrs. Thomas. Deuawd, Misses Emily Evans a M. Hughes. Cftn, Mr. Lewis Thomas. Arholiad Beiblaidd goreu, Mr. L. Thomas. Diben- nwyd gyda Hen Wlad ty Nhadau. Cyfeiliwyd gan Mr. A. Thomas. Cyfarfod gwir ddifyr a diddorol.- Brython Arall. EBENEZER, PRESCOT.— Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol y Saboth diweddaf ar ei hyd, pryd y cymrodd y rhaicanlynolran: dechreuwydganyrarolygwr, Thos, Ellis Whitley, y bore D. J. Foulkes y prynhawn. a J. Williams yr hwyr. Adroddwyd gan Bronwen Jones, Tryphena a Gwyneth Williams, Marian, J. Henry ac Alfred Blackwell, Clifford Jones. Cym- rwyd rhan mewn canu gan D.J. Foulkes, Ben Roberts, Miss Edith Thomas, Frank Thomas, Anne Evans, Anne Roberts. Canwyd darnau gan y plant, o dan arweiniad D. J. Foulkes, allan o Ganiedydd yr Sul, yn swynol. Holwyd gan John Williams ar Matt. xxviii, yn dda iawn, a'r plant gan T. E. Whitley, ynlIe y brawd Shem Jones, oedd yn wael, ond sy'n gwella. Caed gair gan Isaac Williams, E. Jones a J. Williams. Chwaraewyd ar yr organ gan. John Williams ac yn eu tro gan Trevor a J. W. Whitley a Miss Sarah Thomas. Cafwyd cyfarfo-d da, ond nid oedd y presenoldeb ddim i fyny a'r hyn ar ddylasai fod: y rhai absennol gafpdd y golled, Yr oed'd y plant yn hynod dda, a chafwyd cyfarfod di- ddorol ac addysgiadol.-Prescoty". SOUTHPORT.—Cynhaliwyd Social nos Fercher (Mawrth 15), dan nawdd eglwys Gymraeg Portland Street. Cadeiriwyd gan faer y; dref (y Cynghorwr Ball), ac ar y llwyfan gydag ef yr oedd y Faeres a'r Parch. R. Davies (gweinidog). Amlygodd y Maer ei hyfrydwch o gael bod mewn cwrdd Cymraeg. Teim- lai'n agos iawn at y Cymry, a chyfrifai ymhlith ei gyfeillion pennaf weinidogion o Gymry y cawsai'r fraint o eistedd da'n eu gweinidogaeth. Nodai yn arbennig y Parch. Trevor H. Davies (ei gaplan), y Parch. H. Maldwyn Hughes, D.D., a Dr. Hugh Price Hughes ac nid oedd dim yn fwv amlwg yn eu plith fel Wesleaid yn Lloegr na'r afael gref yr oedd yr ysbrydiaeth Gymreigwedieigael arnynt fel Cyfundeb. Llongyfarchai yr eglwys ar yr olwg lewyrchus oedd ami yn ei holl gysylltiadau, a'r safle y mae wedi ennill yn y dref oherwydd y gwaith a wneir ganddi, a da oedd ganddo welednifer mor dda o'r milwyr yn bres- ennol, i ddangos eu gwerthfawrogiad o'r teimladau da a goleddid atynt.Yn y cyngerdd a ddilynodd gwas- anaethwyd gan Misses Shoned ac Alwena Roberts (Liscard) ar y piano a'r delyn. Soprano, Miss Ethel Taylor; canu gyda'r tannau., Miss Gwen Taylor, B.A. Doniau lleol: adroddiad, A Constable's Tale, Miss L. Jones tenor, Mr. Phil Christian baritone, Private McEwen, milwr clwyfedig. Mwynhawyd eu datganiad gymaint fel y cafodd pob un encor bob tro. Yr hyn a'n swynai fwyaf, hwyrach am eu newydd-deb, oedd y canu gyda r tannau. Mwyn- haodd y Maer a'r Faeres hvn yn fawr, er nad oeddynt yn deall y geiriau. Diolchwyd gan Mr. W. D. Owen a'r gweinidog i'r Maer a'r Faeres, i'r cyfeillion caredig a'n swynodd a'u doniau, ac i'r ysgrifennydd, Miss A. K. Jones, am baratoi rhaglen mor chwaethus. Dibennwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nbadau a Dux gadwo'r Brenin. Gwnaed elw sylweddol i'w rannu rhwng trysorfa'r eglwys a Chysuron y Milwyr.

Advertising

.Tre m, IV.-,Might is right.9