Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Ein CAnedi ym Manceinion.

IClep y Clawdd sef Clawdd…

News
Cite
Share

Clep y Clawdd sef Clawdd Offal J [GAN YR HUTYN.j I TREIBUVNO r TREIBIWNALS.—Gwelodd yr Hutyn ers tro y rhai'd rhoi ffrwyn ar ffroen y rhain, a ffrewyll ar eu ffreg. Gwna Bwrdd Lleol y Llywodr- aeth hynny'n effeithiol iawn yn ei gyfarwyddiadau iddynt yr wy thnos ddiweiddaf. Ilwyrach y b>-dd rhai yn cuchio o'r herwydd. Dyma broblem bwysicaf y rhyfel, sef sue yn daoeth a pharchus ymddwyn yn deg at yr cydwybodusion. Fe fydd y math yma ar ddynion yn brinion iawn ar of y rhyfel, ac fe fydkl galw amidanynt. Y digydwybod, diddyn yw. STREIC r GLO.—Mae'r Glep yn glib iawn ar y streic yn y Sowth. Bcchgyn vw'r Deheuwyr am streics, a hynny, meddir, am fod grit ynddynt. Nid yw'r Sowthman am oddef pob cam hyn yw'r esbon- iad pam y mae cynifer ohonynt yn y ffosydd yn hyrddio'r Hun yn ei ol. RHTDDID l'R IAITH.—Wid oes ond un iaith, sef yw honno, Y Gymraeg, iaith y BRYTHON a Gwynfa. Yn ol gorchymyn Swyddfa Rhyfel, ca'r Gymraeg yn awr free pass tros y Gogled dfor, ac y ceir anfon lly thyr o'r ffos yn Ffrainc i'r bwth diaddurn yng nghesail y bryn. Bydded i bob Cymro fanteisio ar y rhyddid. Ysgrifennwch yn Gymraeg, fechgyn, fe wna les i'ch calonnau, heblawsioncio llawer ar ysbry/1 a throed rhieni a rhiain. Cewch ddweyd beth fynnoch yn iaith Dewi Sant. DAEAR NEW TDD A NEFOEDD, NEWYDD. —Cred llawer y ceir popeth yn ncwydd gwedi'r el y Rhyfel erchyll hwn heibio, ac un o'r rhai hynny yw A.G.G. y Daily Nez's. Disgwyl ef fyd newydd medclai. Ymddibynna hynny'n hollol ar ba fyd y mae ef yn byw ynddo'n awr. Na, na, ni fydd dim llawer yn newydd arol y rhyfel. Fe fydd mwy lawer o bethau newydd tra pery. Difwyno a dinistrio a wna pob rhyfel o blygain hanes hyd fachlud amser. Ni edy Rhyfel ddim ar ei well. Bydd geni a threng, hau a medi, megis cynt; popeth yr un fath, gyda hyn o wahaniaeth, y byddis yn Uymach a thlotach. Melltith pob malltod. YR HOGrN A'R KAISER.-Dywedy Glcp fod hogyn bach yn un o ysgolion y Clawdd wedi gwrthod, er gwaethaf y meistr, roddi prif lythyren wrth enw'r Kaiser. Nid yw yn haeddu capital K, medd y Hanc, ac nis caiff. Well done boy. Mae colli'r capital yn ei enw yn fwy o go lied na cholli Berlin, am fod colli cymeriad yn fwy na cholli tref. Y mae wedi colli'r cyntaf, fe gyll yr ail hefyd, ac nid hynny'n unig. PWYLLGOR LLYFRAU.—Creadur ara deg a diffrwst iawn yw'r Hen GorfT. Mac son tua'r Clawdd fod ganddo bwyllgor llyfrau yn nhref y brag Gwraig Sam, y dydd o'r blaen, a chynrychiolwyr yno o holl ranbarthau'r cread. Son ac ymorol am Iyfr y bydd SHON GORFF, ac nid am gyfarpar. Well done Shoni. Hwyrach mai tydi yw'r uriig un sydd heb golli dy ben, a'th fod yn gweld ymhellach na'r rhelyw ohonom. Efallai mai trwy lyfr, ac nid trwy'r cledd, y gorchfygir yr Ellmyn yn y diwedd. Dywed y Glep mai trwy lyfrau yr ymosododd ef gyntaf arnom ni, sef eiddo Tricky a Nicky. A oes neb a ysgrifenna lyfr ? Nid rhyw erthyglau gwan, difant. DYFODOL CRISTIONOG.4ETH.-Dyma fater ymdriniaeth cyfarfod blynyddol Eglwysi Rhyddion Gwrecsam ddydd Mercher diweddaf. Mae Eglwysi Rhyddion y dref fydenwog hon yn eglur iawn o flaen eu hoes. Maent eisoes yn byw yn y dyfodol pell, tra y mae pawb eraiU yn byw yn ofnadwy o bresennol. Atolwg, pa destyn yw hwn ar hyn o bryd ? Nid Cristionogaeth y dylodol sydd yn bwysig, yn awr, onp Cristnogaeth y presennol. Edrycher ar y presennol, acfeofala'r dyfodol amdano'ihun. Eto,igyd,ymae rhyw abandon gogoneddus iawn yn y ifaith fod nifer o eglwysi y dref boblog yn cyfarfod i drin mater mor ddibwys ar adeg mor ffrwysg, a hynny mewn tref ag y mae barracks mwyaf Cymru yn ei chrombil hi. Ni fydd- na Christionogaeth na dyfodol os nad enillir y frwydr hon tros ryddid a gwareiddiad. POB UN rN El DRO. Chi'n gynta' medd y priodwyr ar y Saboth diweddaf wrth y gwyr dibriod. O'r goreu, ond pa fath bregeth yw hon ar y Sul ? Rhag cywilydd i chwi, wyr priod a sengl, am halogi'r Saboth. i ddweyd pethau cas am eich gilydd mewn cyfarfodydd difudd ar ddydd yr Arglwydd, Oni chawsoch chwech dydd i hybu'ch cwyn ? Mae mwy o angen chaplains yn ein trefi lawcr nag yn ein trenches. Daeth llu mawr ynghyd; manteisiwydgan gannoedd i ysgoi'r Cysegr; gwrandawyd areithiau brwd ac anfudd-ond ys gwyr neb i ba les ? I ba beth v bu v golled hon ? Nid y math yma ar bobl sy'n debyg o ennill mewn ymgyrch yn erbyn teyrnas y tywyllwch. Onid plant y gwyll ydym ? Dyma'r dref sy'n trin Cristnogaeth y dyfodol." Beth am ei phresennol ? Ystyr CYMRWCH 'PANED.-Gwahoddwyd gwreig y milwyr am y trydydd paned gan y N.W.T.A., Rhos, y nos o'r blaen. Daeth nifer fawr ynghyd i'r Capel Mawr, a chafwyd hwyl de diail. Bydd chwith gan y gwragedd ddychwelyd o'u gwyr, gewch chwi weld. DOWCH YN EICH OL.-Cafodd Mr. William Jones (Ponkey), goruchwyliwr glo'r Westminster, wahoddiad yn ol i Bettisfield, He y bu o'r blaen am ddwy flynedd. Mae yntau wedi dweyd O'r goreu, mi ddof," ac wedi cychwyn tuag yno. Bydd colled ar ei ol, a hiraeth yn y Westminster, a chryn gaffael amo yn ei le newydd. Yr oedd gair da iddo gan ei uwch a' i is. HATLING CAPEL MAWR Y RIIOS.-Casgl wyd yn yr Ysgol Sul y flwyddyn ddiweddaf £ 572 yr holl gasgliadau, £ 1,446. DARLITHWYR Y RHOS.-O'T Carchar i'r Mynachlog, gan y Parch. Idwal Jones R. L. Steven- son, gan y Parch. Bailey Roberts, B.A.; Undeb yr Eglwys, gan y Parch. Rhys James.

Ffetan y Gol.I

Gorea Cympo, yr an OddieavtreI

Advertising

.Tre m, IV.-,Might is right.9