Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising

f o Big y Lleifiad. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

DAU T U'RAfON. PARK ROAD.-Nos Lun ddiweddaf, ymwelodd Cymdeithas Lenyddol y Tabernacl a'r chwaer gym- deithas ym Mharc Road, i ddadleu'r broblem ddyrys A yw Gwareiddiad diweddar yn jetbiant t Agorwyd, ar un ochr gan Mr. R. O. Jones, Tabernacl, yn cael ei gefnogi gan Mr. W. O. Roberts, Park Road; nr ochr arall gan Mr. Joseph Roberts, Park Road, yn cael ei gefnogi gan Mr. O. Herber Roberts, Tabernacl papurau ac anerchiadau dan gamp ymhob ystyr, a theilwng o'r ddwy gymdeithas yn eu man goreu. Siaradwyd gan amryw ymhellach, yn ddifyr a da. Cafwyd mwyafrif o'r farn mai nid methiant fu Gwar- eiddiad diwedctar. Y cadeirydd oedd Mr. J. T, Jones, o eglwys y Bedyddwyr, Earlsfield Road a pha le y ceid ei gymhwysach ? Diolchwyd yn gynnes i'r cadeirydd gan y Parchn. J. Vernon Lewis ac O. L. Roberts. Wedi hynny, mwynhawyti te a choffi a danteithion blasus, a'diolchwyd i'r chwiorydd am ddarparu'r arlwy hon gan Mr Evan Morgan a'r Parch. W. A. Lewis, o'r Tabernacl. Noson wleb a budr, ond cynhulliad rhagorol. Ychwaneg o ymgymysgu fel hyn wnai ddirfawr les.-Un oedd yno. CYMDEITHAS LENYDDOL CHATHAM STREET.— Cynhaliod'd v Gymdeithas uchod ei chyfarfod terfynol nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, gyda chyfarfod rhagorol. Llywyddwyd gan y gweinidog. Datgan- wyd gan Miss Nancy Davies (Chatham Street), Miss Jennie Jones (Edge Lane), Mr. O. R. Hughes (Chat- ham Street) a Mr. J. E. Pritchard (Euros y Delyn) yn canu penhillion yn eithriadol 0 dda. Cafwyd deuawd hefyd gan Mr. Pritchard a Miss Jones, ac ailalwyd arnynt; Master Willie E. Roberts yn canu'r crwth adroddwyd hefyd gan Mr. Glyn Davies (Chatham Street), Miss May Roberts, Mr. Eddie Evans (Edge Lane) a Mr. W. R. Hughes (organydd Chatham Street) yn cyfeilio. Cafwyd arlwy ddanteithus i'r corff, Misses Chaloner a Katie Lewis yn gofalu am « hyn. Bu'r tymor yn hynod lwyddiannus ar ei hyd, a chafwyd rhai cyfarfodydd adeiladol iawn, ac a hir gofir gan y rhai oedd yno. Talo'dd v gweinidog wrog- aeth uchel i'r ysgrifennydd, Mr. R. E. Roberts, am ei ymroad, diflino ynglyn a'r boll gyfarfodydd. BONEDDIGESAU EGLWYSI CYMRAEG LivERPoot A'R RHYFEL: CYDWEITHREDIAD CALONNOG.— Dydd Iau, y i6fed cyf., cyfarfu'r pwyllgor perthynoi i'r Undeb uchod, o dan lywyddiaeth Mrs. James Ven- more, er derbyn y nwyddau a ddarparesid i'r Milwyr a'r Morwyr yn ystod y ddau fis diweddaf. Dengys rhif y nwyddau, sef 1486, fod ymdrech neilltuol yn cael ei wneud ynglyn a'r mudiad hwn, ac y mae'r chwiorydd sydd yn gweithio mor egnio] yn haeddu pob cefnogaeth. Dyma'r deuddegfe-d tro iddynt gyf- arfod i'r un amcan, ac y mae'r gwaith a wnaed gan- ddynt er dechreu'r Rhyfel yn brawf o wirionedd yr ymadrodd Where there's a will, there's a way. Hys- byswyd fod Mr. Arthur Venmore,un o'r trysoryddion, yn ymneilltuo o'i swydd; acfel amlygiad o werth- fawrogiad y chwiorydd o'i lafur parod a medrus ef ynghydag eiddo Mr. Owen Evans, dewiswyd y ddau yn is-lywyddion. 0 hyn allan, Miss Kate Owens, Bluadellsands, yn unig fydd yn gwelthredu fel trysor- ydd y mudiad. VITTORIA STREET.—Cynhaliodd Eglwys Anni- bynnol Vittoria Street, Birkenhead, gyfarfod pregethu tri-enwadol, nos Sadwrn a'r Saboth diweddaf; y Parch. J. J. Roberts, B.A., Clifton Road yn pregethu nos Sachvm; y Parch. Joseph Davies, Woodlands, bore Sul; y Parch. R. W. Davies, Lis* card, y prynhawn a'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., y nos. Y pregethau'n hyfryd a'r naws yn esmwyth, a'r had wedi cael dyfnder daear, gobeithio Y mae Mr. D. Chas. Evans, prif demlydd Cyfrinfa Gwynedd, Laird Street, Birkenhead, yn mynd at y Fyddin i Bare Kinmel; a nos Fawrth yr wythnos hon, cafwyd swper ffarwel blasus ei ddysglaid a'i ddanteithion a hwyliog iawn ei ganu a'i adrodd a'i gyfarchiadau. Y Prif Demlydd yn y gadair; y rhain yn cymryd rhan: Misses Lizzie Roberts, A.L.C.M., Eunice Thomas, Eluned Evans, Tegwen Evans, Mri. Evan Evans, Humphrey Roberts, a Lewis Edwaeds; Mrs. J. Evans, Glenart, a Mrs. R. J. Griffiths a'u cynorthwywyr yn hulio'r byrddau a'r Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., a Mr. J. E Roberts yn diolch i bawb ar y diwedd.

DAU T U'RAfON.