Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising
Cite
Share

f o Big y Lleifiad. DEW I SOL FITZCLARENCE STREET.-Nos Sul ddivveddaf, rhoddodd yr eglwys hybarch hon alwad i'r Parch. G. R. Jones, B.A..B.D., i'w bugeilio. Fe'i ganed yn y Borth, wrth odreu Moel y Gest, naw mlynedd ar hugain yn ol; dechreuodd bregethu'n ddwy ar bymtheg oed. Yn 1904, yn Ysgol Ganolradd Porthmadog, enillodd Ysgoloriaeth a aeth ag ef i Brifysgol Aberystwyth, a c yno, yn 1907, graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd. Yna enillodd Ysgoloriaeth Pierce ( £ 50) i fvnd i Athrofa'r Bala, lie wedyn y cip- iodd Ysgoloriaethau Syr Herbert Roberts a Robt. Rowland. Pasiodd arholiad cyntaf B.D. Cymru ddiwedd 1908, a'r un terfynol yn 1910; ac efe, meddid, oedd B.D. ieuengaf Cymru ar y pryd. Gol- ygodd Gylchgrawn Myfyrwyr y Bala am ddwy flyn- edd. Yn Ebrill, 1911, daeth yn fugail eglwys Cross- hall Street; oddiyno, ymhen rhyw ddeunaw mis, yr aeth yn fugail eglwys Saesneg Spellow Lane ac wele'i Inn Trindod o l-lughesiaid hyglod a iydd ynghlwm dros byth a hanes eglwys Fitzclarence Street, sef John Hughes y Mount, Dr. John Hughes, Everton, a'r Parch. John Hughes, M.A., sydd bellach yn Denver, Colorado, ond yn arfaethu bod yn ol yn Lerpwl beth bvnnag erbyn Sasiwn y Sulgwyn. ON] CH RFODODD CRIST.-Ancl'somi gape! Parkfield, Birkenhead, bore Sul diweddaf, i wrando un o fechgyn Mon—y Parch. J. E. Hughes, B.A., B.D. Felinheli—yn pregethu ar Le', Adgyfodiad yng Nghadzven Atbrazv- iaethol jT Eleizgyl. Petai hynny o ryw bwys. prin y gallem ni gydsynio a'r cyflead—y setting athrawiaethol; ond gallwn ddiolch, serch hynny, am bregeth feddylgar a chenadwri o'r iawn ryw. Dangos- wyd peth o'r gallu prin hwnnw,-gallu i drin geiriau unigol, a'u hagor fel coden gerbron y dyrfa nes bod y ffrwyth cadwedigol yn y golwg. Enghraifft: y gair helae/bion yng ngwaith yr Arglwydd," a'i ystyr o golli trosodd o weithgarwch ac nid rhyw hyn a hyn wedi ei fesur yn fanwl fel gwydryn ffisig fferyllydd. Pwy bynnag all agor geiriau fel hyn, yn lle'u gor- chuddio a'i bethau ei hun, y mae hwnnw'n rhwym o gael dust a llygad pob cynulleidfa. Ac un astu'd iawnoeddhon heddyw. MEDDTLIAV DA MEWN lAITH DLOS.- Dyna geir bob amser gan Elfed, ac yn neilltuol felly yng nghapel Grove Street nos Sadwrn a'r Saboth dlweddaf. Nos Sadwrn, darlithiai ar r Rhyfel a Diwygiad Mr. Evan Morgan, y Tabernacl, yn llyw- yddu Dr. Owen Evans a Mr. Daniel Morris yn diolch am y ddarlith a'r darlithydd a Mr. Edward Lloyd, Y.H., i'r cadeirydd. Nid teg fyddai bradychu'r ddarlith drwy ei chodi yma yn ei chfynswth, er fod cryndemasiwn i ohebydd blysig wneuthur hynny. Rhaid bodloni ar ddywedyd mai dyma'i damcan- iaeth Nid oes dim mewn rhyfel eihm; i ffafrio dyfdd- iad diwygiad; ond y gall ac y bu hi laweroedd o weithiaii, drwy ei gwasgfa, ei chaledi, a'i hofnadwy- acth, yn foddion i ddwyn pobl llawer gwlad i gywair addas i dderbyn diwygiad crefyddol. Profodd hynny o hanes Israel, Groeg a Rhufain, Lloegr a Chymru. Dyma'r enghreifftiau o Loegr a Chymru :—Yn 1588, blwyddyn y Spanish Armada-oedd a mwy o'i har- swyd o lawer yr adeg honno nag sydd a arswyd y Germaniaid arnom ni heddyw,—y cafodd Cymru ei Beibl yn Gymraeg, i'w ddilyn yn fuan a Beibl Awdur- dodedig y Saeson yn 1611. Yn 1815 y bu brwydr Waterloo, ac y daeth Napoleon-arswyd Iwrop a'r byd—i ben ei rwysg; dilynwyd y rhyfel hwnnw a chaledi digyffelyb drwy Brydain ond wedi dwy flyn- edd o ddioddef y caledi hwnnw, y torrodd Diwygiad Beddgejertyn 1817. Yn 1859,—sef ynfuanarol pair ofnadwy Rhyfel y Crimea a'r Indian Mutinyy cafwyd. un o'r diwygiadau cryfaf a ymledodd dros Gymru a rhannau o Iwrop a'r America. Ac ymhen rhyw ddwy flynedd neu dair ar ol Rhyfel De Affrica y cawsomDdiwygiad 1904-5 yngNghymru,—diwygiad a fu'n fendith iGymru a'r byd, er pob amherffeith- rwydd oedd ynddo.— ? RWSIA A FFRAINC 0 DDIFlllF, OND BETH AMDANOM NI ?—Gwerthfjwr iawn oedd yr wrogaeth a daloddy darlithydd i Ffrainc a Rwsia am eu difrifwch yn cydio yng nghyrn y Fasnach Feddwol, ac am yr awryddion a ddangosai'r ddwy wlad o ddiwygiad crefyddol. Syniad y dyn cyffredin yn y wlad hon (nid y dyn cyfarwydd a sefyllfa gym- harol y cenhedloedd) am Rwsia cyn y Rhyfel ydoedd hyn mai gwlad dywyll, anfoesol, a barbaraidd yd- oedd. Os felly, hi a roddodd batrwm ardderchog i Brydain, canys yno fe ddarostyngwyd y Fasnach Feddwol ar unwaith ac heb betruso, pan dorrodd y Rhyfel allan yma, er ein holl ymffrost o'n gwareidd- iad uwch a'n crefydd burach, fe brofodd y Fasnach yn gryfach J;la'r Llywodraeth. A phan oedd Rwsia yn yr encil fawr o flaen milwyr y Caiser, a'r olwg yn edrych yn ddifrifol o ddu, fe aeth y genedl, drwy alwad awdurdodau'r wlad, i gyd ar ei gliniau am wythnos gyfan o weddio a dyna'r gwir, esboniwch chwi o fel y mynnwch-mai o'r adeg honno y daeth tro yn hanes eu rhan hwy o'r rhyfel, ac yr ataliwyd y gelyn. A phe gofynnid i' r dyn ar yr heol sut wlad oedd Ffrainc a sut bobl oedd y Ffrancod. buan yr atebai: O, gwlad anifyddol remp, a'i Pharis ffasiynol yn sugnedd o bechod a balchter." Sut bynnag am hynny, y mae un o lenorion mwyaf poblogaidd ac anffyddol y wlad wedi troi'n Gristion [ yn y rhyfel; ac wrthi'n canmol Crist a'i grefydd fel yr I unig beth allai ei ddal ef a'i wlad dan y fath ruthr' Ac mor gynnes a llawn o ddifrifwch yw tymheredd y Ffrancod heddyw fel pan gyhoeddir,cwrdd gweddi yn y cathedral Pabaidd neu ynteu yn yr eglwys a'r capel Protestanaidd, llenwir yr adeilad bob tro ac ymhob- man. Ni chewch chwi ino hynny yn Lloegr na Chymru. A thybed nad ein digoelwch a'n gwynfyd cymharol sy'n cyfrif am ein hanystyriaeth a'n.han- addaster i dderbyn diwygiad ? FELLT DUIV.-Pregetli,-ti Elfed fore a hwyr drannoeth yn Grove Street, ac yn Ileathfield Road y prynhawn. Oedfa'rhwvr yn un lawn a brith o aelodau pob enwad. Ac felly ni a ddeutbom i Rujam (Actau xxviii, 14) oedd y testyn, o'r hwn y tynnwy-d un o'r portreiadau mwyaf byw a naturiola dynnwyd erioed o le mor Iwm ac annhebyg i lygad pawb ond llygad bardd a gweledydd ysbrydol. Fel a'r fel, sef yn eu ffordd eu hun, o'u porthladd eu hun, ac yn eu hadeg eu hun o'r flwyddyn, a'u cymdeithion eu hun, y bwriadasai Paul a Luc fordwyo i Rufain ond mewn cadwyn, a thrwy'r Euroclydon a'r llongddryll- iad, a thrwy ddaint y wiber ym Malta, drwy lid gelyn a brad cyfeillion, y deuwyd wedi'r cwbl. Dyryswyd y cynllun dynol, ond cyrhaeddwyd yr amcan Dwyfol— ac felly-sef felly Duw sy mor wahanol i arfaeth a disgwyliad dyn—y daethpwyd i Rufain. Ond fe ddaethpwyd, a dyna'r peth mawr. Ac y mae'r dyrysu hwnnw ac "felly" Duw yn brofiad i bawb sydd yn cyrraedd gartre Fry. "And so we came to Rome; newidiweh un lythyren, a dyna bryddest bywyd yn berffaith-And so we came Home." Fe gofir pregeth Felly Duw" gan bawb a'i clybu tra bo. Gwasanaethai y Parch. D. Adams, B.A., yr un Saboth yn King's Cross, Lltindain a rhoed gair pert a chlodus i garedigrwydd saint yr eglwys hael honno gan Dr. Owen Evans, wrth ddiolch mor ddoniol a ei feddwl am v ddarlith nos Sadwrn. IE NEU .NAGE.-Nos yfory, cofiwch, y mae pwyllgor. rhagbarotaowl Eisteddfod Genedlaethol Birkenhea d i gyfarfod, sef yn Ysgold j Clifton Road,am 7.45, megis y dywedai'r hysbysiad yr wythnos ddi- weddaf. Y mae llythyr pwysig oddiwrth Syr Vincent Evans i ddod dan sylw deuwch yno i ddywedyd ie neu nage am ei gynnwys, a dowch a hyny ellwch o'ch cvfeillion gyda chwi. ? IAWN-SYNIO AM r BEIBL.-Nos Sadwrn ddiweddaf, yn Crosshall Street, cafwyd yr o!af o'r gyfres dalJithoedd a drefnwyd gan Undeb Ysgolion M.C. Lerpwl. Efengyl loan oedd y testyn a'r Parch T. J. Rowlands, M.A.,B.D., oeddy darlithydd; a'r Parch. G. Wynn Griffith, B.A.,B.D.. yn y gadair, yn lle'r Parch. L. Lewis; oedd yn wael. Wrth gynnyg pleidlais o ddiolchgarwca, caed sylwadau gan Mri. R. 0 Jones a Lewis Roberts, Bootle, a'r Pareh.' O. J. Owen, M.A., ac wedi hynny ar bethau perthyn- asol a'ifdarlithoedd gan y Parch. J. Owen a Mr. R. W. Roberts, llywydd yr Undeb. Amlwg fod enaid y darlithydd yn ei fater. Traethddd gyda grym, defosiwn, ac arddeliad. Bwriocld drem i ddechreu ar y tair Efengyl cyntaf, gan cjdangos iddynt darddu ar y tair hfengyl cyiitaf. i fesur niawr o'r un ffynonellau, ac oherwydd cyffel- ybrwydd eu nodweddion a elwiryr Efengylau Synopt- aidd neu gyd-olygol. Yna olrheiniodd awduriaeth yr Efengyl. Dengys nodweddion y m^ddwl a'r arddull mai Iddew oedd yr awdur; manylder ei wybodaeth ddaearyddol mai Iddew o Balestina ydoedd a chan mor gyfarwydd y gwelir ei fod a hanes yr lesu a'i ddisgyblion, rhaid ei fod yn un ohonynt; ac wrth fynd ymlaen fel hyn, ar loan ac nid neb arall y disgyn coelbren yr awduriaeth. Ac a hyn y cytuna tra- ddodiad yr Eglwys Fore, ac ysgrifeniadau'rTadau. Traethodd wedyn ar y gwahaniaethau rhwng hon a'r lleill. Ni sonnia loan, er enghraifft, am y geni gwyrthiol, ond efe sydd yn son am y Cyn- hanfodiad a'r Ymgnawdoliad. Ysgrifennwydhi arol y lleill, pan oedd Gnosticiaeth a Docetiaeth yn dech- reu eddi eu pennau hyn yn peri fod angen am bortreiad newydd o'r lesu a dyma sydd gan loan. Nid hanesfaioel yn unig sydd ganddo, ond dehongliad ysbrydol o'i wrthrych ac ar gyfrif hyn, yr Efengyl hon yw'r Uyfr pwysicaf a gwerthfawrocaf a fedd yr Eglwys Peth newydd yn hanes yr Undeb yw y darlithoedd hyn, a llongyfarchwn y swyddogion ar eu llwydd. Cafwyd cynulliadau lled dda, ac ystyried y Rhyfel. Diau, pe hysbysesid hwy'n well, y buasent yn Ilawer Iluosocach Nis gallwn roddi teymged well i'r dar- lithwyr na dweyd iddynt roddi eu goreu. Dro yn ol, yn un o gynadleddau yr Undeb, cydnabyddai gwr oedd i draethu ar fater neilltuol na wyddai nemor am dano, ond iddo brynnu llyfr hanner coron arno, gan feddwl rhoi rhyw lyfiad ohono i'r cynhulliad. Gan nad pa mor fechan y gall ein cynyscaeth feddyliol ni Ievgwyr fod, y mae arnom eisiau rhywbeth amgenach na hynny ond yr oedd pob un o'r darlithoedd hyn yn ffrwyth blynyddoedd o astudiaeth. Boed i ni athrawon fanteisio arnynt drwy eu cymhwyso. Gwelsom mai yn y cylch moesol ac ysbrydol y mae dysgeidiaeth y Beibl yn safonol, na fydded i ni ei dreisio drwy honni ariffaeledigrwydd i bethau tym- horol sydd ynddo. I iawn ddirnad Paul, gwelsom mai angenrheidiol cymryd ei lyfrau yn y drefn amser. yddol, a chael gafael ar ei safbwynt a'r amcan oe4d ganddo wrth ysgrifenriu. Gwelsom fod swyddogaeth y proffwyd yn Israel yn llawer uwch na bod yn rhag- fynegydd, ac fod yn hen bryd iddo gael ei le ar raglen addysg ein hysgolion. Efengyl loan yw maesn ew- ydd yr Undeb, ac yr oedd y ddarlith ddiweddaf yn agoriad rhagorol iddo. Hyderwn y gwel yr Undeb ei ffordd yn glir i, fynd rhagddo a'r darlithoedd. Pe ceid cyfres ohonynt ar un mater, pob darlithydd yn ei dro yn trin ar wahanol agwedd arno, a chyda hynny gwrs o efrydiaeth i'r athrawon yn gyfamserol, buasai yn gaffaeliad gwerthfawr i'n hysgolion. Gwnaod peth tebyggan Brifysgolion Llundain, Lerpwl, a Man- ceinion. Ffodus ydym fod gennym nifer o weinidog- ion ieuainc yn y cylch yn med.du'r cymwysterau. Nid adeg i fod yn ddifater at beth fel hyn yw y dydd- iau hyn. Dangoswyd yng nghynhadleidd yr Eglwysi Rhyddion yn Bradford fod yr Ysgolion Sul yn lleihau trwy'r deyrnas, a sylweddolwyd fold yn rhaid camu ar unwaith os am atal y Ileihid. 'Wiw meddwl gwneud hynny, fel y dadleuai Carey Bonner, wrth ddilyn yr un hen rych o hyd. Y mae addysg gyffredinol yn mynd rhagddi yn gyflym; rhaid i ninnau, os am ddal y to sydd yn codi gyda'r ysgol, addasu ein dulliau o gyfrannu addysg ysbrydol i gyf- arfod gofynion yr oes.-Gobebydd. GLASIAD A'R PUM PWNC.-Dyma fel yr an fonodd un o Gymry Bootle Wrth wrando y Parch. D. D. Williams yn dweyd hanes yr hen Gymry yn dadlu diwinyddiaeth yn y tafarnau yn oes Elizabeth, ni allwn i la na chofio un o straeon Ehedydd lal: nifr o ddynion yn Ilymeitio yng nghegin unodafarnau Llandegla, a'r Person wrth yr un gorchwyl yn y parlwr. Aeth yn ddadl boeth yn y gegin ar ailenedigaeth; ac o'r diwedd paratowyd i ymladd. 'Howld on,' ebe'r tafarnwr, er mwyn cadw'r heddwch, mae'r Person yn y parlwr yma, mi ofynnwn iddo fo.' Pawb yn fodlon, rhoed y mater ger ei fron. Beth yw ailenedig- aeth ? a dyma'r hen offeiriad yn dechreucosi ei ben yn bur syn. Ail-enedigaeth, ail-en-ed-ig- aeth,' meddai, 'wel ie, be ydio hefyd ? Mi glvwais i o'r blaen tawn i yn cofio, ail-en-ed-ig- aeth, 'Ddweda i chi be wna Î, dowch yma i gyd nos yfory ac mi drycha i fewn i'r peth, ac trt abonia fo i chi yr adeg honno." Ac y mae'n got gennym ninnau glywed y diweddar D. Davies (Delta) yn dweyd fel y byddai Cymry Ceredigioii pan oedd ef yn hogyn yn ffraeo'n ffyrnig- uwchben eu glasiad yn y tafarnau ar y Pum Pwnc, a sel y ddau-y Calfin a'r Armin-yn cynhydda i'r graddau y byddai'r peint yn lleihau. Na neb yn meddwl, yr adeg honno, fod dim byd o'i Ie mewn, trin athrawiaethau Gras tan lymeitio sug Gehenna. t itt tt AT FENDITH r MOTOR AMBULANCE.- Mr. John Jones, Maynelds. 5 o o Mr. John Evans, Denman drive 2 Z. o Mrs. Annie Jones, Kingsley road r i o Mr. Wm. Pugh. 1 0 o Mr. J. E. Owens o 10 6 Mrs. Pugh a Miss Gwladys Pugh o 10 o Ysgol Sul M.C. Peel Road 4 18 o Dosbarth Babanod Ysgol Sul Woodlands (B.)o 6 6 £ 6 14 6 Wedi ei gael £ 351 I'w gael 149 f500

f o Big y Lleifiad. I

DAU T U'RAfON.