Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

gar -GOST IG.-1

DYDDIADUR. -I

Gyboeddwyr y Cymod

Advertising

ICyfarfod Miso! Lerpwl.

News
Cite
Share

I Cyfarfod Miso! Lerpwl. Mawrth 3ydd, yn Crosshall Street. Dech. reuodd Mr. J. C. Roberts, Walton Park.— Eglwys Parkfield yn cyflwyno'r gweithred- oedd i'w rhoi'n ol yn y safe Mr. Ellis Jones, Waterloo, yn hysbysu ei fod wedi llwyddo i gaal gan yr Insurance Co. ostwng y premiums o zCl i 15s. os bydd yr eglwysi'n gyffrodinol yn yswirio.—Mr. J. Hughes (Princes Road) yn rhoi rhybudd y bydd yn ymddiswyddo o fod yn drefnwr y Cyhoeddiadau ar ddiwedd y flwyddyn. Dymunodd y C.M. arno ail ystyried, a chyflwynwyd y mater i'r Pwyllgor Enwi.—Darllen llythyr oddiwrth yr Henadur- iaeth Saesneg yn datgan eu hawydd am i'r Parchn. Talog Davies a Ridehalgh Jones ddod i'r C.M. i osod mater gerbron, sef fod Ilawer o ieuenctyd ein heglwysi yn colli yn eu symud- iad oddiwrth y Cymry at y Saeson. Apeliodd y C.M. ar y swyddogion i fod yn ffyddlawn i'r rheol ac anfon at yr Eglwysi Saesneg pan fyddo aelodau wedi cael tocynau i'r eyfryw.- Galwodd y Parch. G. Wynn Griffith, B.A., B.D., sylw at weinidog o'r America oedd yn bresennol, sef y Parch. W. Phillips, Wales, Wisconsin, wedi priodi a merch un o flaenor- laid Newsham Park, ac yn bwriadu aros yn y ddinas am beth amser. Ei gyfeiriad ydyw 20 Woodvillo Terrace, Breck Road. Cafwyd gair gan Mr. Phillips.—Cydymdeimlwyd a Mr. Saunders Jones, Garston, wedi colli ei ewythr, y Parch. Rd. Jones, Mancott a. Mr. E. T. John, A.S., ar farwolaeth ei fab a Mr. Edward Price, Sunderland, yn ei wael- edd ac a Mr. J. W. Jones, Chatham Street.— Cais o eglwys Fitzclarence am frodyr i gymryd Ilais yr eglwys yn newis gweinidog yr, enw wedi derbyn eymeradwyaeth y PwyHgor Bugeiliol.—Pasiwyd adroddiad trysorydd y Cvfarfod Misol a phwyllgor ariannol yr eglwysi Wrth ail drefnu peth ar Gymanfa'r Sulgwyn, pasiwyd fod y gydnabyddiaeth i bob gweini- dog i fod yn £ 6 ynghyda'i dreuliau teithiol, a dymuniad arnynt fod yn bresennol yn y Seiat Fawr. Pwyllgorlleoeddnewyddion swydd- ogion, llvwydd, y Parch. O. Lloyd Jones, M.A.,B.D. trysorydd, Mr. J. W. Rowlands, Newsham Park; ysgrifennydd, Mr. R. T. Williams yr ysgrifennydd yn dwvn tystiol. aeth uchel i waith y Chwaer Evans, a'r llywydd yn awgrymu ar fod yr eglwysi yn rhoi cyfle i'r chwiorydd sydd yn gweithio gyda'r Genhadaeth ddweyd tipyn o hanes y gwaith.—Adroddiad pwyllgor lleol y Gen. hadaeth Gartrefol casgliadau 1914 £ 500 yn llai na'r treuliau, ac yn debyg o fod L600 yn llai eleni; y Parch. J. Owen vn rhoi'r mater yn gvnnes iawn o flaen y cyfarfod.—Yr eglwysi wedi pleidleisio o blaid i Mr. Enoch Rogers gael ei ordeinio.—Cyfrif y ddwy Drysorfa Mr. Hugh Roberts yn hvsbysu fod llai o 400 o'r Drysorfa Fawr vn cael eu dosbarthu, a llai o 800 o'r Drysorfa Fach, a'r Cyfarfod Misol yn cwyno o'r herwydd. Dibennwyd gan y Parch. W. Phillips.

Heddyw'r Bore I

Advertising

DAU T U"R AFON.I