Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

o Big y Lleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

o Big y Lleifiad. OEDFA'R EPAIL.Dyma blic bach o lythyr y Sergt. Llew Davies sy gyda'r Fyddin Gymreig yn Ffrainc (ac un o aelodau eglwys M.C. Stanley Road) at gyfaill yn y dre :— Cawsom wasanaeth wythnos i'r Sul diweddaf mewn hen efail, a dim ond go leu cannwyll yno ond er hynny, darfu i bob un fwynhau'r gwasanaeth. Y Parch. Llewelyn Lloyd oedd yno, ac y mae pawb yn moddwl yn uchel iawn ohono. Yr oedd yno lawn cystal canu ag sydd yn Bootle, ac y mae hynyna'n ddweyd 11awer, onid yw ? LLE OEWOH FWY NA 5%.—Mvndyn fwyfwy poblogaidd y mae cyngherddau croeso i'r milwyr a gynhelir bob pythefnos yn Ysgol- dy Bankhall. Yr oedd yno lawn deucant a hannor o fechgyn y catrodau Cymreig sydd yn ysbytai a gwersyllfau'r cyffiniau yn bros- ennolnos Sadwrn ddiwoddaf ac un ohonynt yn datgan teimlad y gweddill wrth droi at Mr. R. O. Williams, trysorydd y mudiad, a dywedyd, "nad anghofient byth mo garedig- rwydd Cymry Lerpwl." Mrs. Shaw, South- port, yn rhoddi'r to a'r lluniaeth y tro hwn, a diolchwyd iddi am ei chalon hael ic i'r llu chwiorydd cyson eu caredigrwydd wrth y byrddau bob tro. Mr. R. Vaughan Jones a arweiniai'r cyfarfod y Parch. R. W. Rob- erts, B.A.,B.D., a draddododd yr anerchiad eroesawol; a'r retain a gymrodd ran Sergt. W. D. Williams (sydd ar ei ffordd i'r Aifft bellach, wedi hybu o'r anhwyldeb a gafodd ym medlamy Dardanels) y Preifat David Jones, yn canu ei hen alawon gwerin mor gartrefol y Preifat Gronow (dyna i chwi hen enw a hanes iddo !), Miss L. Kyffin Willliams, Miss Maggie Hughes, Miss Cissie Parry, Miss Rogers (ar y erwth), Miss Thompson, Miss Lilian Humphreys, Master Trevor Morris Mr. J. Halton Morris, Mr. Jack Hughes, Mr.T. O. Morris, a Miss Nellie Lewis,A.R.C.M. wrth y berdoneg. Ond wrth ddarllen am fwynhad y milwyr dewr, cofiwch fod angen pwrsllawn i'w croesawu a'r ffordd i ddangos eich gwerthawrogiad o waith mor dda, a wneir mor ddyfal a didrwstar hyd ygaeaf, ydyw anfon offrwm eich calon i Mr. R. O. Williams, London City & Midland Bank, Castle Street, gynted fyth galloch. Y teimlad braf a gyfyd yn eich cydwybod, dyna fydd eich llog ar eich arian. Ac y mae hwnnw'n werth mil o 5% y Llywodraeth. -a- "BUM GLAF AO YMWELSOCH A I All. "-Golynnodcl pwyllgor y cyngherddau uchod (drwy eiysgrifennydd, Mr. R. Vaughan Jones) inifer o weinidogion y cyloh ymweled &'r amryfal ysbytai i ddiddanu a ohysuro'r clwyfedigion Cymreig sydd yn y sefydliadau hynny ufuddhasant yn ebrwydd ac welo'u hymweliadau o ddechrou'r flwyddyn hyd ganol Chwefrol:—Alder Hey a Highfield, y Parch. David Jones, a'r Parch. G. Wynne Griffith, B.A.,B.D., 6 o ymweliadau bob un, gwelwyd 20 o gleifion Birkenhead Borough, y Parch. D. Tecwyn Evans: 3, 1 Tranmere, y Parch. Joseph Davies, 5, 4; Northern Hospital, y Parch. J. O. Williams (Pedrog), yn wythnosol, a gwelodd 6 o glwyfedigion eto, Mr. Hugh Lloyd, 5, 9; Royal, y Parch. D. Adams, 6, 6 Myrtle Street, y Parch, Ed. Davies, 2, 2; Southern, y Parch. J. Vernon Lewis, 11, 3 eto, y Parch. D. D. Williams, yn wythnosol, 6 Seaforth, Moorland House, y Parch. Wm. Henry, 8, 12 Holt, y Parch. H. H. Hughes, B.A.,B.D., dim un milwr Cymreig yno Stanley Hospital, y Parch. M. Griffiths, 8, 5; Westminster Road, y Parch. John Owen, 5, 6; Venice Street, y Parch. Isfryn Hughes, a Windsor Street, y Parch. H. H. Hughes,—dim Cymry wedi cyrraedd hyd yma. Tystiai'r holl ymwelwyr fod y milwyr Cymreig yn cael pob chwarae teg a charedigrwydd; ac ebe Pedrog, yn ei ad- roddiad nodweddiadol ohono'i hun :— Pan f6nt yn iach, mwynhant fwy ar U games nag ar weld pregethwr, ac yn enwedig ar gwmni'r nyrsus. Anodd iawn cael at rai o'r gweilch. Er clod i'r nyrsus y dywedaf hyn." Byddai'n dda cael ambell lyfr crefyddol i'w roddi i'r milwyr. Y mae y rhai sy'n gallu mynd allan o 2 hyd 4.30 yn y prynhawn, yn agored i gael eugwahodd i gyfarfod pan ellir trefnu hynny."—Mr. Hugh Lloyd. Gwahoddasom y owbl ohonynt i Edge Lane fwy nag unwaith. Mae amryw o deulu- oedd yr eglwys yma yn gwahodd y naill neu'r Hall ohonynt, ac amryw ohonynt yn dilyn y moddion yma bob Saboth.Y Parch. D. Jones. Dylwn ddweyd fod cyfeillion eglwys Waterloo wedi rhoddi te a phrynhawn difyr amryw weithiau i tua 45 o'r milwyr claf A chawsom y fraint fawr o'u sirioli, yn Gymry a Saeson, yn yr ystyr uchaf hefyd. Y Parch, W. Henry Yn y cyswllt hwn, dylid crybwyll fod nifer o'r eglwysi wedi arlwyo te ac adloniant i'r clwyfedig o dro i dro, megis Grove Street, Chatham Street, David Street, Webster Road, a diau fod eglwysi eraill wedi gwneud heb i'r ysgrifennydd glywed amdanynt. Dymvina'r pwyllgor ddiolch o'u calon i'r ym- welwyr ac i'r eglwysi. Y mae'r chwiorydd a ganlyn wedi addaw yr ymwelanA yn swyddog- ol a rhai ysbytai i'r un amcan, sef Mill Road, Mrs. Wm. Thomas Tropical School, Mrs. R. 0. Williams Westminster Road, Mrs. Myles Griffiths; Fazakerley Ward C, Mrs. W. J. Roberts. Gobeithir o dipyn i both allu trefiiu I di,on o chwiorydd i ymweled a'r holl ysbytai, canys cofiwch wrth ymweld a'r milwyr clwyfedig eich bod felly yn ymweld a'r Hwn a ddywedodd "Bum glaf ac ymwelsoch a mi." PREGETHU'N DYGYMOD AG EF.- Yr oedd y Parch. Hugh Hughes ymysg y deg cennad a alwyd i bregethu yng Nghymanfa Wesleaid y cylch eleni eto, megis ami dro o'r blaen ac i rai sydd yn medru mynd ddeugain a hanner can mlynedd yn ol, synnent mor iraidd o gorff a fires o feddwl y deil yr efengyl- ydd eirias a diwygiadol o'r Hen Golwyn ond Hugh Hughes Birkenhead y bydd 11awer o'i hen edmygwyr yn hoffi ei alw, a hynny am mai yno'r ydoedd pan gawsant hwy eu ben- dith o'i bregeth. "GLYN DTVR" AM YR EILTRO.— Cafwyd ail berfformiad o ddrama genedlaethol Glyndwr (Pedr Hir) nos Fercher ddiweddaf, sef yn y Florence Institute, Mill Street, Tyrfa dda, ac ystyried noson mor hyllig ac oer ei heirlaw end beth bynnag oedd y rheswm, ni chafwyd cystal arddeliad y tro hwn ag a gawsid mor fyw a blasus yn y per- fformiad cyntaf yn y Gordon Institute, Stan- loy Road. Cymerodd Mr. J. R. Hughes, M.A. Ie Mr. J. O. Roberts fel Harri'r brenin a Mrs. R. E. Jones le Mrs. Phillips fel Modryb Angharad. Cafodd y cwmni gynhorthwy mawr gyda'r trefniadau y tro hwn gan Mr. E. E. Williams, o eglwys David Street; a dis- gwylir elw at yr amcan da oedd mown golwg-chwyddo cronfa'r motor ambulance sydd i'w rhoddi'n rhad rodd gan Gymry Lerpwl at wasanaeth y Fyddin. + CRYFION PULPUD GT. MERSEY.— Y Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon, a Dr. Gwylfa Roberts, Llanelli, a gadwai gyfarfod I pregethu eglwys Great Mersey Street nos Sadwrn a'r Saboth diweddaf,—y Gogleddwr o'r De yrt pregethu nos Sadwrn y ddau fore anosSul a'r Deheuwr o'r Gogledd brynhawn Sul. Cynulliadau da a'r ddau wrthi'n Cy. hoeddi'rCymod ar eitha'u dawn a'u difrifwch. Y mae lliw Armagedon y Cyfandir ar bob traethiad y dyddiau hyn ac felly yma, nes bod yn haws cael clust y gwrandawyr at wirionedd mawr nag y byddai cyn y Rhyfel. Nid oes dim dichon yr el y Genadwri byth yn ofer cyhyd ag y'i pregethir fel y gwnaed yma. Daw'r had o'r ddaear, prun bynnag a gaiff yr heuwr fyw i'w weld ai peidio. Parai'r bregeth ar Beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe," i un gofio am sylw'r Parch. D. Chns. Davies wrth i'r meddyliwr mawr ac analytic hwnnw draethu ar yr un adnod Y mae'r gwirionedd sydd yn fy nhestun i yn unlmor bwysig nes fod Dwyfol Ysbryd- oliaeth wedi chwilio am y gymhariaeth gryfaf yn y Cread i'w wasgu adref deddf hau a medi." Yr oedd yna wr poblogaidd iawn wedi pre- gethu o'i flaen ond aeth y bregeth o'r cof yn ei chrynswth gynted y dechreuodd yr analyst treiddiol hwnnw agor ei destyn. Gresyn fod terfynau'r gwaharddiad goleuol yn peri fod rhy fach o amser i ddau efengylydd mor gryf ou hadain gael cyfle i'w lledu'n llawn mown oedfa ddwbl. TYNNU LLUN ANN GRIFFITHS.— Cafwyd yr englyn a ganlyn tufewn i Gofiant Ann Griffiths ymysg llyfrau y diweddar Mr. T. C. Jones (Alonydd), yn Woodhouse Street, ao yn llaw Alonydd ei hun :— Gwyllt o drem, a gwallt du drwoh,a rhyw Drwyn Rhufeinig cofiwch [fain Rhiain wiw, nid lliw y llwch, Ei hurddas yw ei harddweh. Llun dychmygol ohoni sydd yn ei chofiant* fel y gwyddis, seiliedig ar ddisgrifiad y Parch: John Hughes, Pontrobert. Gresyn na fuasal gennym photo iawn a gwirioneddol ohoni, modd y cawsem rhyw syniad am y gwawr ysbrydol a'r goleu byd arall a dywynnai mor danbaid o'i dau lygad, 1 DRAMODYDD MYNYDD SEION.- Cymro gwerth ei godi ar drostan Y BRYTHON a'r byd yw Mr. R. Pierce Jones, a lywyddai yng nghyngerdd Wesleaid Claughton Road, Birkenhead, y nos o'r blaen. Un o blant M6n y fo.mewn swydd uchel a chyfrifol iawn dan y Llywodraeth, sef yn bennaeth y Labour Exchange, a channoedd dan ei awdurdod. Efe hefyd yw awdur Helynt a Heulwen, y ddrama y bu cymaint actio arni ddau tu'r Mersey a mannau eraill; a chyn ei ddod i Lerpwl o Lundain, bu'n ysgrifennydd Undeb Cymdeithasau LlenyddolyBrifddinas am bum mlynedd. Y mae'n un o golofnau'r gorlan Wesleaidd ym Mynydd Seion, a'i bennaf hy fryd wch ydyw cael crefydda yn Gymraeg. Gan ei fod yn gredwr mor gryf yn y Ddrama, buasai'n dda gennyf ei weld o ac Arvon Hope (Mr. J.W. Roberts) yn rhoi eu deupen ynghyd i ffurfio Cwmni Drama sefydlog ar Lannau Mersey, gan ddetho] pigion y talent- au lu sydd draw ac yma drwy'r cylch, a'i gadw wrth ei gilydd i wasanaothu Duwies y Ddrama fel y cadwodd Mr. Harry Evans ei g6r hyglod i wasanaethu Duwies Cerdd. -0. HIRAETHU AM HARRY.—S6n am Harry Evans, pasiwn y Philharmonic Hall yr wythnos ddiweddaf, ac a welwn fod rhywun yn mynd i berfformio Omar Khayyam Gran- ville Bantock; a chaeodd y gwddf gan chwydd hiraeth wrth feddwl pa sawl gwaith y troed- iais i'r Neuadd honno i sbio ar ei wynepryd a nyddiadau'i gorff wrth arwain ac ysbrydoli'r c6r a'r gerddorfa. Gwelais un o'r aelodau ddydd Sadwrn diweddaf, ac a ddywedai fod Mrs. Harry Evans a'i dau febyn yn y Brif- ddinas. Coffhai fi hefyd am yr hyn a ganlyn. Ganwyd un o'r ddau noson rihyrsio'r Messiah, a dyma'r c6r, pan ddaeth y newydd i'r neuadd, yn taro i ganu For unto us a child is born, nes oedd yr arweinydd yn floesg o deim- lad a diolchgarwch. ARFAETH FITZGLARENCE STREET —Bydd y Parch. John Owen a G. Wynne Griffith, B.A.,B.D., a'r Mri. Wm. Pritchard (Bethlehem) a R. O. Jones (Stanley Road) yn anelu am Fitzclarence Street nos Sul nesaf, dros y Cyfarfod Misol, sef i glywed llais yr eglwys gyda golwg ar alw dilynydd i'r Parch. John ftughes, M.A., fel bugail. + ETO, AT Y 310TOR AMBULANCE.— Chwiorydd Edge Lane (M.C.) 5 0 0 Mr. G. Palmer Lewis 3 0 0 Pwyllgor Chwiorydd Eglwysi Rhyddion y Cylch, drwy law Mr. Arthur Venmore 2 10 0 Mr. John Edwards, Kirkdale Rd. 1 0 0 Ysgol Sul Bedyddwyr Bousfield St 3 10 0 Plant Ysgol M.C. Waterloo (ychc wanegol) 0 4 6 Wedi ei gael £ 335 I'w gael. 165 £ 500

DAU T U"R AFON.I