Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

' / /T aith DrM a'r Rhyfe!.…

I Gorea Cymro, yp ua Oddieaptre…

News
Cite
Share

I Gorea Cymro, yp ua Oddieaptre I CREWK.—^Cynhaliwyd y Gymdeithas Gen, edlaethol ei Dygwyl Ddewi eloni Mawrth 4 dan lywyddiaeth Mr. W. V. Williams. I ddechreu, mwynhawyd cwpaned flasus, a bar- atowyd gan y chwiorydd deheig a siriol. Yn y cyngerdd a ddilynodd cafwyd unawdau gan Madame Mollie Williams, Mrs. P. A. Davies, Misses Arfona Da vies ac &thoI Evans, a Mr. T. H. Owen hefyd adroddiadau chwaethus gan Miss Gwennie Roberts, War- rington, a Mr. Trefor Owen, Crewe; dat- ganwyr penhillion, Mr. T. Salisbury Jones, Crewe, a Miss Olwen Parry, Bootle; telyn- ores, Miss Myfanwy Parry, Bootle. Yr oedd y beirdd yn eu hwyliau goreu, yn canmol y morched am ou danteithion, ac yn pwyo'r Kaiser at waed. Cafwyd dau ddetholiad campus gan y Cor, dan arweiniad y cerddor medrus, Mr. Robert Roberts, Edleston Road ac yr oedd areithiau y cadeirydd a'r arwein ydd yn llawn tan Cymreig. Yr arweinydd oedd y Parch. W. Penrhyn Williams, yr hwn, heblaw ei fod yn bregethwr cymeradwy, sydd hefyd yn areithiwr hyawdl, yn ddatganwr swynol, yn ddarlithydd gwreiddiol, ac yn arweinydd medrus. Cynhygiwyd diolchiad- au gan y Parch. R. Williams. Gwnaeth yr ysgrifennydd, Mr. R. Roberts, Henry Street, ei waith yn ganmoladwy.—D&wi. | GWYL DDEWI YN BIRMINGHAM.—Er oered a garwed yr hin, daeth Undeb y Bry- thoniaid a'u cyfeillion yn gryno iawn i'r Lecture Hall, Queen's College, Paradise Street, nos Fercher cyn y ddiweddaf, i fwyn hau cyngordd gwladgar ac ymgomwest. Cyfar- fod rhagorol, llawn o dan Cymreig, ac yn amlwg fod Ysbryd Dewi Sant wedi disgyn yn bur helaeth ar bawb oodd yno. Yr oedd y cantorion yn rhai tra adnabyddus i holl Gymry'r ddinas, a chawsant dderbyniad brwdfrydig Miss Williams Price, Mr. Jen- kyn Richards, Mr. D. M. Roberts (telynor), Miss Vanwy Chard, Miss Peggy Shaw, Miss Eira Morgan, Miss Hilda Bosley, Madame Nellie Pritchard cyfeilydd, Miss Jennie Pritchard. Yr oedd dawns y tair geneth mown gwisgoedd cenedlaethol—Miss Hilda Bosley (Alban), Miss Peggy Shaw-(y Werddon) a Miss Eira Morgan (Cymru) yn hynod offoithiol a swynol. Cafwyd hefyd hwyl anar- ferol a ponhillion Telyn ar yr alawon Pen Rhaw a Serch Hudol. Cafwyd anerchiad byr a phwrpasol gan y Meddyg Lloyd Owen, ar rai o nodweddion Dowi Sant. PasiWyd hefyd bleidlais o gydymdeimlad a gweddw a phlant y diweddar Mr. John Morris, trysorydd yr Undeb, a blaenor y gan yng nghapel M.C. Cymraeg Suffolk Street. Casglwyd tri gini at Netley Hospital. Cyfarfod o radd uchel, a thystiai -pawb. ei fod y goreu a gynhaliwyd ar gyffrlyb achlysur ers biynyddoedd. j, EARLESTOWN.—Nos Sadwrn cyn y diweddaf, dathlwyd Gwyl Ddewi, trwy gynnal cyfarfod cystadleuol i'r plant. Cynhulliad da yn y Primitive Schoolroom y canu a'r adrodd yn cael canmoliaeth y beirniaid. Arweinydd, Mr. A. Woodward, Warrington, a chafwyd rhodd sylweddol ganddo. Beirniaid canu, Mr. Abram Jones, St. Helens adrodd, y Parch. W. Pandy Thomas, Rainford celf, Mr. R. 0. Williams, a Mr. David Jones. Cyfeilydd, Madame D. Profit. Y path cyntaf ar y rhaglen oedd deuawd ar y piano, Welsh Airs, gan Madame D. Profit, a Master H. Emlyn Jones cychwyn da, a daliwyd yn yr un cywair hyd derfyn y cyfarfod. Dyma'r buddugwyr Unawd i rai dan 10, Carol Fair 1, Blodwen Griffiths 2, Queenie Bradley. Eto, i rai dan 15, Merch y Pysgoiwr 1, Jessie Ley land 2, Edna Smith. Adrodd, i rai dan 10 oed, Y Gan, y GwyU, a'r Goleu Blodwen Griffiths. Eto, i rai dan 15, The Cripple Boy: 1, Bessie Williams, St. Helens Junct. 2, Reginald Rylance. Bocs sebon O. Eynon Jones. Rhangan, i bedwar, Owsg, fy Noli Parti Molly Griffiths. Rhangan i wyth, Y Fordaith Parti Madame D. Profit. Canodd Miss Annie Wilkinson, Pemberton, a chaf- wyd adroddiad gan Mrs. Bennicke. Diolch- wyd gan y Parch. R. Parry Jones a Mr. Wm. Pierce. A'r Saboth, fel arfer, unodd y gwa- hanol enwadau, a threuliwyd Saboth dymunol -y bore, Cyfarfod Ysgol,—holwyd y plant gan Mr. Wm. Pierce, a'r rhai mewn oed gan Mr. Rd. Jones ac yn y ddwy oedfa ddilynol pregethodd y Parch. W. Pandy Thomas, y prynhawn yn Saesneg, a'r hwyr yn Gymraog, yng nghapel M.C. Tamworth Street.-E.J. BoLToN Priodas Aur.—Mae Mr. a Mrs. Evan Jones, 231 Deane Road, wedi treulio'r cwbl o'u bywyd dedwydd priodasol yn y dref hon, a rhai blynyddoedd cyn hynny. Mr. Jones yn flaenor yn yr eglwys Gymraeg bron o'i chychwyniad, ac efe, erbyn hyn, yw y swyddog hynaf perthynol i'r Cyfarfod Misol. Ni wnaed fawr o stwr ynglyn a'r peth, oher- wydd llesgedd Mr. Jones a'r rhyfel. Cys- godau'r hwyr ddisgynno'n esmwyth ac araf ar y ddau, a'r Ganan nefol yn gartref tra- gwyddol iddynt. TYLDESMEY Capel y M.C.—Dathlwyd Gwyl Ddewi Mawrth 4, gan nifer dda o Gymry twym y cylch. Caed yr hyn a elwid Ymgomwest y Blychau," a throdd yr holl weithrediad vu yn llwydd perffaith. Hefyd caed cyfarfod uchraddol am 6. Arweiniwyd gan y Parch Hugh Jones, y gweinidog, a chaed anerchiad ganddo ar berthynas Dewi Sant a chrefydd Cymru ac a'r Deffroad Cymreig. Cafwyd adroddiad gan Idris Puw, ei dad a'i fam o gysgod Cadair Idris. Canwyd alawon a chaniadau Cymru ddwywaith gan Mr. Wm. Pierce (Bl. Ffestiniog) a Mr D. Pryce Will- iams (Penmachno). Cawsom restr o hen alawon Cymru yn feistrolgar gan Mr. Simon Jones, yr organydd. Enillwyd ar ddarllen gan Miss Deborah Jones (Aborllefonni). Canwyd can yn swynol gan Miss Jennie Hughes, ao un arallgan Miss Ellen Litherland. Canwyd y crwth gan Mr. R. O. Jones. Canwyd Bring i fyny yma gan Miss Hughes, Farn worth Cartref y Plant gan Miss Miriam Eds. Da oedd gennym hefyd glywed arwr llawer brwydr gerddorol, sef Mr. R. O. Will- iams (Ffynnongroew gynt) Leigh. Canodd Yr Omest a Breuddwyd y Frenhines gyda llawer o drydan. Disgwylir Miss Annie Davies, Manchester, a Mr. R. O. Jones yma Mawrth 19. Mr. S. Cerrig Jones oedd ar- werthwr y blychau, a Miss Miriam Edwards a Mrs. Lucy Puw, Mrs. O. Hughes, Mrs. J. Hughes, a Mrs. Bowker wrth y byrddau. Cafwyd pris da am y deisen dyb, rhodd Miss Miriam Edwards prynnwyd hi gan Mr. T. J. Hughes. Yr oedd Morfudd Jeffreys Jones i adrodd gosteg o benhillion i Ddewi Sant, gwaith y Parch. H. Jones, mewn gwisg Gymreig, ond lluddiwyd hi, a darllenodd ei thad hwynt yn ei He. Chwefrol 26, dar- lithiai'r Parch. W. Penryn Williams, Crewe, ar Yr hynod loan Jones, Rhuthyn. Cadairydd, Mr. D. J. Pryce, Warrington. Cafwyd dar- lith newydd a diddorol gwnaeth y cadeirydd ei waith yn fedrus a chyfrannodd yn anrhyd- eddus. Pregethai'r Parch. Penrhyn Will- iams yn Tyldesley drannoeth, a mwynhawyd ei weinidogaeth yn fawr. ATHERTON.-Bore dydd Llun diweddaf, gadawodd Mr. Willie Jones, 73 Douglas Road, am y Llynges. Bu am agos naw mlynedd. yu firm Mri. S. J. Watts, Manchester, ac yr oedd wedi dringo yno. Cafodd ymuno a'r Signalling Department, a bydd am rai misoedd yn paratoi yn y Crystal Palace. W ARRINGToN.-Mawrth 2, dathlwyd Gwyl Ddewi, yn ysgoldy y Capel Cymraeg, dan nawdd y Gymdeithas Lenyddol, Yn y pryn- hawn cafwyd gwledd doreithiog, ac yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol. Gwa- hoddwyd yr hollfilwyr Cymreig sydd yn y dref a'r cylch, a'r holl weinyddesau o'r gwahanol ysbytai, a daeth bron y eNA bl ohon. ynt. Mwynhawyd y wledd yn fawr, a thyst- iolaeth pawb ohonom oedd fod y gwragodd yn haeddu ein diolchgarwch gwresocaf am baratoi mor haelfrydig. Cynhaliwyd y cyfarfod amrywiaethol dan lywyddiaeth y Parch. R. Parry Jones. Caed caneuon gan Miss Blod- wen G. Jones, Miss Jennie Roberts, Mr. I Willie Hughes, Mr. A. Woodward, Mrs. E. E. Hughes darllenwyd penhillion i Wyl Ddewi gan Mr. R. Roberts pedwarawd, Mrs. T., I Morgan, Mrs. R. Roberts, Mr.W. Hughes a Mr. J. Griffiths. Can gan Mr. W. Hughes, Cyfeiliwyd gan Miss B. Parry Jones Nurse Humphreys, Machynlleth; a Mr. Willie Williams, Grapenhall. Datganodd y milwyr eu diolchgarwch gwresocaf i't Gymdeithas am ei charedigrwydd a diolchodd Mri. E. E. Hughes a R. Thomas i'r llywydd, yochwiorydd a'r datganwyr. PRESCOT.—Mawrth 2, yn ysgoldy Ebenezer darllenwyd papur gan Mr. Shem Jones, ar Ein pobl ieuainc: eu lie a'u gwaith gyda chrefydd. Cymrwyd rhan gan Mri. Isaac Williams. Rd. Jones, Harry Williams, John Williams, Thomas Ellis Whitley, Edward Williams. Llywyddwyd gan Mr. D. J. Foulkes. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad ag ysgrifonnydd y gymdeithas, Mr. T. Aubrey Da vies, sy'n wael ei iechyd. Diweddwyd trwy ganu Hen Wlad y Nhâdau, D. J. Foulkes yn arwain.-B. W. CAPEL M.C. MIDDLESBRO.-Nos Saboth, Chwefrol 27, cynhaliwyd gwasanaeth arboD. nig i gofio nawddsant y Cymry. Mae hyn yn arferiad gennym ers blynyddoedd. Edrychir ymlaen nid yn unig at yr wyl, ond at y Saboth o flaen yr wyl, pryd y casgl y llu Cymry sydd yn y dref i wrando pregeth ar waith a chymer- iad Dewi San t. Y pregethwr eleni eto oedd y gweinidog, y Parch. R. Pryce Jones, B.A., B.Litt., a chafwyd ganddo sylwadau gwerth- fawr ac amserol, a draddodwyd gyda grym. Yn ystod y gwasanaeth canwyd gan Madame L. Morton, Miss Edith M. Hall, a Mr. Edwin Finch. Nos Fercher, ar ddydd yr wyl, cyn- haliwyd ymgomwest yn neuadd y capel, o dan lywyddiaeth Dr. a Mrs. Edwards. Can. wyd yn Gymraeg gan y mwyafrif o'r talentau sef Misses Annie Davies, Edith Liddell, Nurse Blodwen Edwards, Miss Marie Evans, Mri. Featherstone, Tom Morris, a Harri Jones yr offerynwyr cerdd, Miss Menai Davies, L.R.A.M., a'r cyfaill G. Coady, o dre'r BRY. THON. Cyfeiliwyd gan ein horganydd, Mrs. Edward Evans. Siaradodd y cadeirydd yn uchel iawn am y Cymro, a chyfeiriodd at un ffaith ddiddorol: fod Cymru wedi cynyrchu mwy o V.C.'s nag unrhyw ran arall o'r Deyrn- as Gyfunol. Wedi'r arlwy, diolehwyd gan Mr. W. Jenkyn Davies, Sapper Ernest Thomas, R.E., a'r Parch. R. Pryce Jones. SOUTIFPORT-Bydcl yn chwith iawn gan lu cyfeillion Mr. John Hughes, 40 Laurel Grove, glywed am ei farwolaeth sydyn bore ddydd Iau diweddaf. Efe'n golofn yr achos Anri- bynnol Cymraeg yn y dref era blynyddoedd lawer. Sefydlodd yn Southfjort tua 50 mlypedd yn ol, a bu'n dra llwyddiannus yn ei fasnach fel adeiladydd, Ond yr hyn a geidw'i goffa'n annnwyl fydd ei lafur diflino a ffyddlon dros grefydd. Yr oedd holl ofal yr eglwys fechan a gyferfydd yn y Temperance Institute ar ei ysgwyddau. Bugeiliodd y praidd-y mwyafrif ohonynt yn enethod ieu- ainc mewn gwasanaeth—yn gyson o wythnos i wythnos. Yn hyn cafodd gynorthwywr teilwng yn y weddw a edy ar ei ol. Bwriadair ddau symud tua'r haf nesaf i ardal Llanuwch- llyn, ond galwyd ein hannwyl frawd i orffwys- fan well yng nghwmni Duw. Daearwyd ei weddillion brynhawn dydd Llun diweddaf, yng nghladdfa'r dref, pryd y daeth tyrfa o'i gydnabod i dalu'r gymwynas olaf iddo. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Vernon Lewis, B.A.,B.D., (Park Road) ac Albert Jones, B.A.,B.D. (Marsh Lane). Hysbyswyd fod amryw gyfeillion wedi danfon gair yn datgan eu gofid oherwydd eu hanallu i fod yno. Yn eu plith y Parchn. O. Evans, D.D., D. Stanley Jones (Caernarfon) ac O. L. Rob- erts. Nawdd y Nef fo dros y weddw a'r amddifaid, a thros yr eglwys fechan a gollodd arweinydd mor fedrus a ffyddlon.—Cyfmtt.

Advertising