Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Tram 1.-Y Bobl Gynorthwyot

Trem II-Hyn a'r Hall am I…

News
Cite
Share

Trem II-Hyn a'r Hall am y Rhyfel. Pan ydym yn sgrifennu'r nodiadau hyn, nid oes dim neilltuol o gyffrous newydd ddigwydd oddigerth ymddiswyddiad y Cadfridog S. S. Long. Dyma'r dyn oedd ar hyd yr amser yn un o'r swyddi pwysicaf ynglyn a'r Swyddfa Rhyfel, ac a gydnabyddid ar bob Haw yn eithriadol o Iwyddiannus. Efe a ofalai am Gyflenwad a Throsglwyddiad ein milwyr i bob rhan o'r meysydd rhyfel, agos a phell. Gr pawb mai un o ryfeddodau'r rhyfel yw'r llwyddiant i anfon milwyr tros foroedd,a chyf- lenwadau o bob math gyda hwynt, o'r dech- reuad. Mae fod gwr o'i fath of, ac ar y fath adeg, yn ymddiswyddo, yn peri i bawb ymholi beth all fod yr achos o hyn. Diau y rhaid fod yr achos yn un pwysig. Ond y ffaith yw fod lien anhydraidd rhwng y cyhoedd a llawer o'r hyn a a ymlaen yn y Swyddfa Rhyfel, ac, yn fynych, nid yw'r hyn a dyr yn sydyn i'r amlwg ond effaith yr hyn a fu'n graddol ym. ddatblygu heb yn wybod inni. Gresyn, ar bob cyfrif, fod bylchau o'r fath yma'n cael eu gwneuthur mewn swyddau pwysig pan mae'r amgylchiadau'n galw am y cydweith- rediad a'r effeithiolrwydd mwyaf. Achosant ddirgryniadau poemis yn nheimlad y boblog- aeth yn gyffredinol, a diffyg ymddiriedaeth yn yr awdurdodau. Ac anodd deall yr hyn sydd tu cefn i firi diweddar y Cyrnol Winston Churchill. Credem ei fod of yn ormod o gail iog ar ddechreu'r rhyfel, ac, o ran hynny, addefodd ei hun yn ei araith ddiweddar yn Nhy'r Cyffredin ddarfod iddo'r pryd hwnnw ddywedyd pethau ynfyd. Er gwaethaf yr amrywiol bethau y gellir eu cyfrif yn wen- didau ynddo, ni allem ddarllen ei araith heb deimlo fel petai un awgrym trwyddi,—at yr hyn ni welsom gyfeiriad gan neb arall.—mai yn y Llynges yn unig y gallwn ymddiried am fuddugoliaeth ar y gelyn. Gall mai'n tuedd- fryd bersonol a barai inni deimlo felly. Ty- bed fod Churchill, wedi misoedd o fod wyneb yn wyneb a'r gelyn yn Ffrainc, yn teimlo amheuaeth yng ngallu'r Cynghreiriaid i'w drechu ar y tir ? Beth bynnag, hyd heddyw, mae methiant y golyn o flaon Verdun yn gadael inni sail go gadarn i obeithio'n wahan. ol, a bod y Caiser yn mynd yn wannach, a'r Cynghreiriaid yn gryfach. Clywir am ar- ddangctsiadau llyngesol Germani yn M6r y Gogledd diau na raid aros lawer yn hwy am rywbeth mwy difrifol t

Advertising