Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
Davies s, 30 Low Hill. Showrooms, No. 28- IMPORTANT NOTICE. 28 DAYS SALE OF Secondhand PIANOS THE FOLLOWING SECORD-HAND PIANOS NOW OFFERED AT SPEC- IALLY REDUCED PRICES DURING OUR 28 DAYS SALE OFFERS ,A SPECIAL OPPORTUNITY TO SECURE A GENUINE SOUND INSTRUMENT AT A BARGAIN BRICE. I SECOND-HAND Piano Bargains Originally Sale Price 12.5 WALNUT Case, 7 octaves, ivory keys, sweet tone, by Hutchm- son, panel front, brilliantly £, 117 polished, suit beginner 11/17 .£27 ROSEWOOD, 7 octaves, ivory keys, panel front, by Stoddart;i iin sweet tone, modern appearance -ill/10 -430 EBONISED Handsome iron frame, by Cramer full com- pass; trichord; panel front and*- sconces XtfJ-V £ M WALNUT, full size, panel and sconces, 7 octaves, ivory keys, powerful tone, by Grover &j. l x/"J A Grover; grand instrument .¡..t 14 14 £ 32 WALNUT, Modern, ivory keys, octaves, panel front and sconces, irofe frame, full tri- chord, check action, sweet and powerful tone by Bogg,  cester .—?i< 10 .£3&. WALNUT Handsome Case, 7 octavos, panel front Ralph Allison & Sons superior tone and touch a first class instru- „ 1 r? /l meat; well-made and finished 7/10 J38 WALNUT First Class Piano by Niedmeyer sold by Van Grui- sen, Bold Street; ivory keys, 7 octaves, fine tone, responsive o touch, highly finished ^lo/ 1UA JC90 CONCERTI SEMI-GRAND by ) ErrarU Walnut Case, ivory keys, splendid tone and res- pohsive touch; in perfect condition and well preserved ?iO/iO MS COLLARD,& COLLARD, Rose- wood case, 7 octaves, ivory keys, panel front and sconces, sweet o-i q /i tqne, modern appearance .10/1U £ 48 ROSEWOOD, iron frame, high class, by Hopkinson; sold by Van Gruisen ivory keys, latest improvemencs, superb tone oon /"l n and elastic touch .?.'?U/iU â6t WALNUT, oblique overstrung,  ?ron frame, trichord piano, by 'Nev?Te)yor; rich tone, res- ponsive touch, a Bne instru- ment, with all the highest qual- « ifications possible, like new.£29/10 J5f KIRKMAN, so id Walnut up- right, iron frame piano, beauti- ful tone, elastic touch, splendid instrument in every detail per- „n_iinll feet satisfaction guaranteed. 27 /10 MB HOPKINSON, superb rose- woocl piano, upright, iron grand, full compass, trichord, an ideal piano, in perfect condition, o QC 11A as new; fully guaranteed. 26/10 J45 PIANO PLAYER, beautiful mahogany case, Minerva piano- player, in perfect order, condi tionas new, 65 notes, with 18 rolls of music, with ahog. any stool. DAVIES'S, 30 LOW HILL. THE ABOVE ARE ALL OFFERED FOR 'CASH, WHICH OFFERS THE PUR- CHASER THE GREATEST BENEFITS POSSIBLE. TEL. 716 ANFIELD. j f Telephone Royal 1M7 Metablishoclistb ROBERT ROBERTS XSTATB AGENT, II Netberfield Road Soutfe Has Property to Led Is rarlous parts of tk own. Mortgages arranged. Vahiaaloai oaa* 205 Established 1884. 'Phone 1140 Bootle 541 WOOSNAM ROBERTS. f.A.I, Estate Agent, Bootle Estate Office, Personal, Practical, Prompt, and Reliable Management of all Classes of Real Estate, 52 STANLEY ROAO, BOOTLE (I doors from Bedford, Road) Telegrams WOOSNAM. BOOTLK.' Telephone No. 7908. J. LEWIS JONES. ESTATE AGBNT VALUBR, 60 Victoria St., Liverpool. Properties carefully managed. Rants per aooaliy ooileoted. Purchases and Sales at gofelated. Mortgages arranged and Insures" effected, THOMAS a JONES. ■STATU AQRNTS VALUffiRS. IMVSSTMSIIT swit.sinfoo. 67 Lord Street, Liverpool ffelaphone No. -1868 Bank. Properties Bought and Sold. Mortgage arranged. Volustionamods. R"tponlleeto,' Txu M7 Axsmtxi. HSVABIJLSKXB 1872, Stephen Roberts & Son M9TATB AQSNT* TALUBBS 137 Everton Road, Liverpool Properties carefully managed. Boats pel socally Oolleoted. Farohasae aad BAI* negotiated. Mortgages arraogad aad Is roraneoo afleoted Henry Jones, ESTA.TE AGENT, VALUER & PROPERTY AUCTIONEER, 3 Lord Street, Liverpool Tall BAXK 4984. 0. JONES WILLIAMS, F.A.I., ESTATE AGRNT & VALUER, I 11 Boundary Place, Moss St Liverpool. Bat. 1889. II Telephone z 967 Royal T»ls?h>ae S536 Bank JONES HUGHES, ESTATE OFFICE, 13 Whitechapel, Liverpool FREEHOLD LAND FOR SALE Advances Made. R. E. HUGHES, Batate Agent.^Surveyor 49 Valuer, Charing Cross, Birkenhead. Telephone No.-H B'head. Has Houses to Let and for Sale in various part. of the Town and out distriots Also Land to 1M SoM for Building purposes. Advanow mde to Sold for BuWildin t, laid out. It-t.,QUoW, wO Pl()pey ca-f uy Mg.& LAOIISS BLANCH 4RD PILLS Art arlftlled tot all InegslarltlM, &e., thily spudi 1) afford raUat and avnt (ail to alleviate all nfferfagi   Peaa,ro, PU OoeM? sit; App *1 BLANCHARtrS 2 are the best of all pm tar WomM." sold ta boxes, ifli by BOOM* Kauhn, IATKI'I Branahw. and IM Obanlbfa. or post fraa, um* prlee. fro. LEGLIP IAAPTVIJ U. I aidai "Y DDRAIG GOOB." THOMAS II JONES, Bookseller, 16 BROWNLOW HILL (opposite Midland Adelphi Hotel). Largs stook of Welsh Books, new an; annond haaid. ANwrD, PESWCH, INFLUENZA-Mae y rhain gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddioddef oddiwrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadi. Y mae'r hen feddyginiaeth "DAVIES'S COUGH MIXTURE eto ar y blaen, ac yn cael ei gwerth- fawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felys, yn cynhesu y frest, ac yn rhyddhau'r phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. is. I d. a 2s. yd (postage, 3d.)-HUGH DAVIES, Chemist, MachynIleth. BMOLRAT.-=At Ladd Tyrchod. Ysgrifenna John Pryse, Maes y me.rch: "Blinid ni acw gan dyrchod cynhyddent bob blwyddyn, fel yr oedd y tir a golwg ddifrifol arno, ac yr oedd amaf gywilydd ohono; ond clywais fod Mr. Hugh Davies, Chemist, Machynlleth, wedi dyfeisio peth i'w lladd yn ddidrafferth iawn.—Ei enw ydyw Molrat,' mewn packets is 6d. yr un. Prynnais backet, a rhoddais ef yn ot y cyfarwyddyd am ben pryfed genwair a rhoddais y rhai hynny yn Uwybr y twrch. Ni chod- odd y twrch mwy."
I4a%o Big y Lleifiad.
I 4a% o Big y Lleifiad. CTMHARIAETH T BLAENOR.-Cly,iz, air uchel iawn yn ddiweddar, a llawer tro cyn hynny hefyd, i Mr. Edward Smallwood, y blaenor hybarch o I eglwys M.C. Rake Lane, fel gwr o ddawn amrywiol a defnyddiol; fel cyfrannwr hael a chyson at yiAchos; ac ynddo rhyw hawddgarwch a chrefyddolder di- ragrith a'i gwna'n eithriadol ei barch gan bawb a wyr amdano fo a'i sel ddi-stwr. Cof gennym ei glywed yn cynghori setiad 0 flaenoriaid newyddion yn y Cyfarfod Misol rai blynyddoedd yn ol, a hynny yn ei ddull cartrefol a buddiol ei hun ac wrth ddal ar y pwys i bob blaenor fod ganddo lywodraeth ar ei dafod, ac nad oes dim byd mor ddiurddas a gweld gwas Duw yn colli ei ras wrth golli ei dymer, dyma fo'n dyfynnu y sylw a ganlyn a wnaeth Spurgeon mewn cyswllt cyfTelyb :— Scripture saith, Resist the devil and he will flee from you but resist a deacon or two I know, and he will fly at you." Dyna Spurgeon i'r dim. tt tt tt PAMFFLEDTN r GENHADAETH.—T Byd i Grist oedd teitl anerchiad y Parch. J. H. Morris, Lerpwl, yng Nghymdeithasfa Beaumaris fis neu ddau yn ol; a honno wedi ei chyhoeddi bellach yn bam- ffiedyn er lies y Genhadaeth Dramor. Ac anodd fyddai cael dim mwy effeithiol i ddeffro'r anystyriol a sbardynu pawb arall i gofio'n well a chyfrannu mwy at y Gwaith Da yn yr India a phobman arall. Y mae'r ffeithiau am gyflwr y byd, ac am y beryglon oddiwrth gynnydd addysg ddidduw a Mahometan- iaeth isel ei safon, yn cael eu gosod gerbron yn fedrus ac effeithiol iawn, hyn o sylw yn enghraiff t Flynyddoedd yn ol, seilid yr ape! genhadol ar dosturi at gyflwr o anwybodaeth o Dduw. Gallwn ni ei seilio heddyw ar y perygl 0 tvybodaetb heb Dduw." Ond er dangos y peryglon a'r anawsteravi, Rhaid i'r Iesu deyrnasu yw cred a chywair y pamffledyn er y cwbl i gyd. Y mae'n werth ei gael a'i ddarllen. t tt tt r PARCH. RD. JONES, MANCOTT.—Bu ef farw ddydd Llun diweddaf, wedi dihoeni'n hir. Yr oeddyn ddeuddega thrigain oed, acynun o weinidog- ion amlyaf eglwysi Saesneg M.C. Sir Fflint. Bu'n llywydd Henaduriaeth swyddi Lancaster a Chaer; a chymrai ran amlwg gydag addysg y sir. Yr oedd yn frawd hefyd i'r diweddar Mr. R. W. Jones (Dio- genes), Garston. J J tt n DEW I SOL EVERTON BROW.-Nos Lun ddi- weddaf, sefyd.id a chroesawid y Parch. Philip Oliver Williams yn weinidog Eglwys M.C. Saesneg Everton Brow, yn ddilynydd y Parch. D. W. Morgan, B.A. Rhagflaenid y cyfarfod a gwledd ddanteithus ac yn y cyfarfod dilynol yn yr ysgoldy, llywyddid gan y Parch. J. Talog Davies; dechreuwyd gan y Parch. R. G. Jones; a chaed anerchiadau gan Mr. Rogers, Gwrecsam, y Parchn. J. H. Morris (llywydd Cyfarfod Misol Lerpwl), O. Lloyd Jones, M.A., B.D., G. R. Jones, B.A.,B.D., J. Owen (Anfield), E. Lewis, Mri. T. H. Lloyd a J. W. Jones. Diolchwyd dros yr eglwys gan Mr. J. D. Evans a Mr. Di tton; caed hanes yr achos a'r alwad gan Mr. f. Gill Jones; methai y Parchn. H. Ridehalgh Jones, M.A., S. O. Morgan, B.A.,B.D., R. Elias Jones a Gwilym Evans fod yn bresennol; ac ymysg y llythyrau yn dymuno Duw'n rhwydd i'r eglwys a'i bugail, caed un oddiwrth eglwysi cylch Gwrecsam, arwyddedig gan y .Parch. W. Bayley Roberts, ac oddiwrth y Parch. Oswald Evans, y pregethwr-filwr sydd yn Ffrainc. Cydnab- uwyd y teimladau da gan Mr Oliver Williams, ar ei ran ei hun a'i briod. Y bugail newydd yn fab y diweddar Barch. John Williams, Caer; brawd iddo yw'r Dr. Oswald Williams, sy'n genhadwr yn yr India; a dygwyd gair uchel i'w ymroddiad a'i gymeriad unplyg a duwiolfrydig. H tt tt CrMRr BIRKENHEAD A'U HEISTEDDFOD —Daeth nifer o aelodau'r Pwyllgor Rhagbarotoawl ynghyd i Ysgoldy Parkfield nos Iau ddiweddaf, i ystyried pa gam a gymrid gyda golwg ar gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol. Gwyddis fod Aberystwyth am wyl ddau-ddiwmod fis Awst nesaf; ond oherwydd y rhyfel a'i pharlysdod, teimlad mwvafrif v cvfarfod oedd mai peidio a'i chynnal o gwbl fyddai oreu'r flwyddyn nesaf, eithr gan ddal ein gafael ynddi a chael y cyfle cyntaf y bo modd, hwyrach yn 1918. Ond er yr oedi amhenodol, teimlid fod un petb y gellid ei wneud yn awr ac ar hyd y cyfwng-awgrymu a chasglu testynau, yn barod erbyn y prysurdeb mawr. Bydd ysgrifenyddion y, pwyllgor-Mr. Isaac Davies a Ben Thomas, 4i Wo,odlands—yn falch o bob testyn ac awgrym, neu gellir eu hanfon i Olygydd Y BRY- THON. tt tt tt PWTTH I'R HANESWTR SEISNIG. Episodes of Welsb Wars, dyna destyn darlith Mr. W. Garmon Jones, M.A., Prifysgol Lerpwl, gerbron Cym- deithas Genedlaethol Cilgwri (Wal asey) yn ysgoldy capel M.C. Saesneg Martin's Lane nos Fercher ddi- wddaf; Mr. Aneurin Rees yn y gadair; a'r Parchrj Emlyn James a R. W. Davies yn diolch ar y diwedd. Elw'r ddarlith at gael rhol anrhydedd o aelodau'r Gymdeithas sydd wedi taro dros eu gwlad. Cyn- hulliad lluosog a gwrandawiad astud ar hyd yr awr. Cychwynnodd y darlithydd lle'r oedd llyfr gorchestol yr Athro J. E. Lloyd, Bangor, yn diweddu—sef ar ol cyfnod Llewelyn ein Llyw Olaf. Yr oedd hanes a llenyddiaeth y Cymry yn dangos fod ymladd yn gryf yn eu gwaed, nac yn ol i neb yn Iwrop am wynebu angau dros ryddid ac annibyniaeth. Soniwyd cryn lawer am Edward I; fel yr oedd wedi gweld gwerth bwa saethwyr enwog Gwent; fel yr aeth a deuddeng mil o Gymry'r bwa hir gydag ef i Ysgotland; deg o'r deuddeng mil yn Gymry; ond brilliant English victory" ebe'r haneswyr Seisnig am y fuddugoliaeth fawr honno, heb gymaint ag awgrym mai gwroldeb ac anelu angeuol saethyd dion o Gymru a drechodd y Sgotiaid. Yr oedd wyth mil o Gymry wedyn ym mrwydr Dunbar, a miloedd yn Crecy a Poithers, Ffrainc, gyda'r Tywysog Du. Ac yr oedd y disgrifiad o gyflead y ddwy fydcnn--y Ffrengig a'r Brydeinig- ym mrwydr Grecy, yn iasol,dros ben. Saethydd on Cymru droes y fantol yno eto, ond "another brilliant English victory" ebe'r darlithydd, a choegni crafog yn ei bwyslais wrth gystwyo'r haneswyr Seisnig am eu rhagfarn yn ceisio crafu'r clod i gyd i'w cenedl eu hunain. [A diau fad y darlithydd craff yn sylwi, pan ddigwyddo Sais gyflawni rhyw anfadwaith yscymun yng Nghymru, mai terrible Welsh crime y geilw papur- au Lloegr hynny wrth arlwyo. hanes y frawdlys i'w darilenwyrj. Clowyd gyda Brwydr Maes Bosworth, lle'r unwyd y ddwy gene dlynesgyniadCymro,Harri'r VIIfed, i Orsedd Prydain, ac y cydnabuwyd cenedl- aetholdeb Cymru. Ceiswyd Ilindagu hwmnv am yn hir a deddfau gorthrymus a'i fygu ag erledigaeth; ond profodd yn rhy gryf, ac y mae yn fflamio yn ei phlant heddyw mor anniffodd ag erioed. Ac wrth anfon ei miloedd meibion i wrthwynebu'r traha sy'n ceisio blotio Belgium a Poland a Serbia oddiar y ddaear, y mae Cymru'n cadw'i henw da fe magwrfa glewion dros ryddid a hawliau cvsegredig cenhedloedd bychain. tt xt H DARLITH DEWI w 2NDrwg gennym ddeallfod yr Athro J. Morris Jones, M.A., Bangor, yn analluog i gadw'i gyhoeddiad gyda'r Gymdeithas Genedlaethol, sef i ddarlithio ar Ddevsi Wylt. Afiechyd yn y teulu a'i Uuddiodd. tt tt tt AT BUMCANT Y MOTOR AMBULANCE.— Mr. Ellis W. Jones (Waterloo) 5 o c Cymdcithas Croes Goch Douglas Road (M.C.) 500 Ysgolion Sul Grove St. a Heathfield Rd z 10 o Ysgol Sul Douglas Road 1 o o Fy ngwraig a finnau" 1 c c Casglwyd .£32.0 Yn eisiau. 180 £500 H H ti BECHGTN r CENIN A'R BWCH.-Daeth Lerpwl i gyd bron i ben y drws ddydd Mercher di- weddaf, i rythu mewn syndod diddorol ar y seithcant a hanner agos o fechgyn y Royal Welsh Fusiliers (jydd fataliwn) yn troedio'r heolydd. Eu bwch, llaes ei farf a miniog ei gyrn, yn flaenaf un; yna seindorf y* gatrawd yn canu Gwyr Harlech ae amryw alawon eraill; ac yna'r milwyr, a chenhinen werdd yng nghap p)b un o'r seithcant a hanner. Arhoswyd y-baid ar yr Exchange, lie y mawrheid ysmartrwydd milwrol y gatrawd gan yr Arglwydd Faer, Arglwydd Mostyn (cymol y fataliwn), y Cyraol Jones-Williams ac amryw fawrion eraill. Nage," ebe'r dyrfa fawr a lygadrythai arnynt, nid dan gap a phais y Sgotyn y trig bob glewder, ond dan fron dewrion llai eu brol a'u hystwr o Wlad y Cenin a'r Bwch." tt tt tt DAU T U"R AFON. CYMRU FYDD ANFIELD.—Dathlodd y Gymdeithas Wyl Ddewi ar y 29am cyfisol, yn ei hystafellodd yn 102 Belmont Road. Gwahoddedigion yr wyl oedd Mr. E. T. Griffiths, M.A., athro Ffrangeg yn Mhrif- ysgol Manceinion, a brodor o Sir Aberteifi, ynghyda'r Parch. G. Roberts Jones, B.A.,B.D., gweinidog yr eglwys Saesneg yn Spellow Lane, a brodor o Borth- madog. Cafwyd anerchiadau gwresog ac amserol gan y ddau. Ymoso'dai Mr. Gri fith ar y Cymro hwnnw a elwid ganddo ef yn Skim Milk Welshman. Nid gwisgo ceninen a dathlu gwyl oedd yn gwneud Cymro, ond bod yn bur ar bob amgylchiad i dra- ddodiadau goreu'r genedl. 4Ei neges i'r cyfarfod yd- oedd, yn ei eiriau ei hun, Mind your own husiness, neu <' Byddwch drwyadl drylwyr." Paham, meddai y sieryd Cymro yn Saesneg os bydd angen siarad pan gyferfydd ddieithrddyn yng Nghymru ? Da gwneud fel y gwna'r darlithydd, sef siarad yn gyntaf bobpmseryngymraeg,acyna os bydd raid troii'r Saes- neg Dywedodd hefyd beth a glywyd gennym droe- on o'r blaen, ac yr oedd ef, bid siwr, yn awdurdod, sef fod gwybodaeth o'r hen iaith yn gymorth amhrisiad- wy i feistroli ieithoedd eraill: wvr I J -¡ .1" ei iaith ei hun yw'r un a sieryd ieithoedd eraill oreu Cy lysair Parch. G. Roberts Jones ddydd Gwyl Ddewi a. dydd cyntaf y gwanwyn yn hapus tros ben ac fel pregethwr Methodist, yr oedd ganddo dri phen i'w anerchiad. Yr oedd arwyddion cyntaf y gftvan- wyn yn awgrymiadol 0 lawer perh yug nghymeriad y Cymro. Mae'r CymrO yn amlochrog, ac edrychai'r Sais ar hynny fel math o anghysondeb ynddo ond y gwir oedd ei fod yn gyfoethog yn ei nodweddion ac yn Hawn o'r gobeithiol. Cydiai y Cymro ei iaith a'i wladgarwch yn dyn wrth ei grefydd, ac am hynny yr oedd ei nodwedd yn gryfach ac yn dal. Cafwyd detholion yn ystod y cyfarfod o Rhys Lewis: Miss Nellie Roberts yn rhoddi Cyngor Wil Bryan i Rhys," a Mr. R. 0. Williams a Mr. Goronwy Owen yn rhoi Ymgom Tomos Bartley a Shem Uwyd "— y tri yn ol eu harfer. Canwyd penhillion telyn gan Mr. R. O. Hughes o Prescot; cafwyd unawdau a deuawdau gan Miss Cissie Jones, Miss Nellie Lewis, Mr. R. Vaughan Jones, a Mr. Sam Evans, gyda chynborthwy Miss Alwena Roberts ar y berdoneg. Gwnaeth y cyfan eu rhan yn rhagorol ac fel y dylai f ocl ar Wyl Ddewi yr oedd y cyfarfod bron yn drwy- adl drylwyr Gymreig. Trefnwyd y rhaglen gan Mr. a Mrs. W. Cemyw Jones, ac y mae clod yn ddyledus iddynt am gyfarfod gwir Gymreig unwaith eto. Cadciriwyd yn ddeheig gan Mr. Richard Williams, Laurel Road, IIywydd y Gymdeitnas. Diolchwyd i bawb gan y Parch. J. Owen a Mr. Hugh Lloyd. Cyfeiriodd Mr. Owen yn bwrpasol a thyner at ein cyfeillion ieuanc absennol sydd yn sefyll tros eu gwlad. Ar ddiwedd y cyfarfod mwvnhaodd pawb arlwy mewn ystafell arall; a tfierfynwyd un o gyfarfodydd goreu y Gymdeithas a dathlaid teilwng 0 Wyl Ddewi Sant. Daeth gair y Sul diweddaf fod un arall o aelodau eglwys Stanley Road, Bootle, wedi syrthio yn aberth yn y rhyfel: John Williams, 2 Starkie Street, mab y diweddar Ex-Sergeant Thomas Williams, Porth- madog.a Llanbens ar ol hynny. Yn fuan ar ol i'r rhyfel dorri allan, ymunodd a'r 7th King's Liverpool Regt., agos i flwyddyn yn ol, ac aeth allan i Ffrainc. lie y co'lodd ei fywyd. Gedy weddw ieuanc, un plentyn bach, mam weddw, brawd a nifer o chwiorydd i alaru ar ei ol. Ddydd Mawrth, Mawrth 7, bu farw ei chwaer, Mrs. Jacobsen, 10 Jessica Street, Bootle. Cleddir hi ddydd Gwener ym mynwent Longmoor Lane. DAVID STREET.—Chwefrol 29, rhoddodd chwior- ydd yr eglwys wahoddiad cynnes i filwyr clwyfedig gwahanol ysbytai pen deheuol y ddinas, i de a phryn- hawn llawen. Aeth nifer o frodyra chwiorydd i'w cyrchu, a daeth tua 50 o honynt at ei gilydd. Cafwydy rhan gyntaf yn gyfarfod adloniadol, dan lywyddiaeth Mr. E. R. Jones. Gwasanaethwyd gan Mrs. Mon- crifft, Mrs. R. A. Williams, Miss Davies, Mr. Major, ac amryw o'r milwyr, ac un Sgotyn yn ddoniol droe ben yn dwyn i gof dyn yr hen ganu baledi yn ffeiriau Cymru. Wedi mwynhau y danteithion paratoedig gan y chwiorydd, aed at weddill y rhaglen, a chaf- wyd hwyl dirfawr yn gweld saith o'r milwyr yn cys- tadlu am y goreu drimio het. Un o'r nu, ses, Sister Smith, wedi dyfod gyda'i bechgyn (chwedl hithau), a hi a'r clwyfedigion yn edrych yn hynod hapus, fel aelwyd Modryb Sian" (A'afon). Cafwyd gair o grocso gan y Parch D. D. Williams, a diolchwyd i'r chwiorydd gan un o'r milwyr. SERPENTINE ROAD.-Nos Wener ddiweddaf, cafwyd anerchiad rhagorol ar Flynyddau Cyntaf yr Achos gan Mr.Wm. Evans, Birkenhead--un o pioneers yr achosWesleaidd yn Seacombe. Aeth Mr. Evans a ni yn ol tua hanner canrif, i ddechreuad yr achos yn Oakdale anerchiad neilltuol o ddiddorol. Gwyr pawb am ei allu yn y cyfeiriad hwn, ac nid rhyfedd i'r Gymdeithas basio ar y diwedd fod Mr. Evans yn anfon y llith i'r Banerydd. Caed gair gan Mri. W. Madoc Jones, T. Parry Williams, a'r ysgrifen- nydd. Llywyddid gan y Parch. R. W. Davies. CWYN COLL AM Y DIWEDDAR MR. WM. OWEN. —Mawrth 2, ehedodd ymaith ysbryd un o'r gwyr uchaf ei barch a'i enw da ymhlith Cymry Lerpwl, sef y diweddar Mr. Wm. Owen, 31 Sydenham Avenue. Daeth y diwedd mewn modd alaethus ac annisgwyl- iadwy iawn, a thaflwyd llu mawr o'i gyfeillion a'i gyd- i w nabod 1 dristweh a galar dwys ar ei ol. Ganeaid ef yn yr America 54 mlynedd yn ol, ond gorfu i'w rieni droi'n ol am Gymru pan nad oedd ef ond babait oherwydd y terfysg ynglyn a r rhyfel cartrefol yn y wlad honno. Wedi taith ramantus a mordaith faith,, cyraeddasant i'r Hen Wlad, ac ymsefydlasant yn Llanrug. Hannai o hen deulu enwog. Gallai olrhain ei achau'n ol i rai 0 brif dywysogion Gwynedd, ac o'r un cyff yr hannai teulu Tanycastell. Daeth i Lerpwl i'r ysgol pan oddeutu I I mlwydd oed, ac ymhen tair blynedd cafodd le mewn swyddfa masnachydd cotwm. Yn raddol ac yn ddygn gweithiodd ei ffordd ymlaen, nes bod ers blynyddoedd bellach yr fasnachydd Uwyddiannus iawn, ac yn meddu ymddir- iedaeth pawb a ddelai i gysylltiad ag ef. Dyn da ydoedd Mr. Wm. Owen, yn ystyr lawnaf y gair yn foneddwr trwyadl wrth natur a thrwy ras, ac enillai nid yn unig edmygedd a pharch oherwydd uniondeb- ei gymeriad, ond serch a hoffter hefyd oherwydd ei symlrwydd a'i ledneisrwydd. Yr oedd yn nodedig am ei gywirdeb a'i unplygrwydd. Yr oedd ei air yn ddigon i selio pob dadl. Nis gallai'r un ysgrif gyfreithiol ei rwymo'n sicrach wrth unrhyw addewid yn ei fasnach nag y'i rhwymid eisoes gan ei gydwybod. a'i syniad uchel o'r hyn sydd uniawn a gonesta gwir. Gwyddai bob masnachwr o'i gylch y gallai ymddiried ynddo yn ddigwestiwn ac hyd yr eithaf. Croesodd y Werydd rai degau o weithiau ynglyn a'i fasnach, a themtiwyd ef yn galed ami i dro i ostwng ci safox, uchel er mwyn llwyddiant ei fusnes ond ei ateb fyddai bob amser, Os dyna'r pris' raid dalu am lwyddo, yna gwell gennyf fi fod heb lwyddo byth. Nid oedd yn wr cyhoeddus. Caru'r encilion yr oedd efe, Eto tynnai sylw ymhob cylch, canys disgleirial ei gymeriad glan fel lamp oleuedig, ac nis gallai foct ynghudd. Yr oedd yn aelod o'r Civil Guard; a phrofai hynny mor. ddwfn a chryf oedd ei syniad o. ddyletswydd, oblegid nis gallwn esbonio'r un ffordd arall fod gwr mor encilgar a thawel ag efe wedi cynnyg ei hun i'r gwaith hwn. Bydd bwlch ar ei ol yng nghylch masnach y ddinas teimlir ei goUi gan lu mawr o gyfeillion yma ac yn yr America a bydci chwithtod mawr amdano yn eglwys Princes Road, lie y bu'n aelod ffyddlon, yn gyfrannwr had, ac yn athro cyson yn yr Ysgol Sul am faith flynyddoedd. Mae ei wyneb siriol wedi diflannu o'n plith, ond erys ei goffadwriaeth yn berarogl melys a glan ar ei ol. Yr Arglwydd fo'n dirion wrth ei weddw yn ei galar a'i hunigrwydd ar ei ol, a chysured hi a'r teulu oil sydd yn hiraethu amdano.—Cyfaill. CYMRU FYDD UP. PARLIAMENT STREET.—I gofio Dewi Sant, cafwyd cyngerdd yn un 0 y-tefyll y Gym- deithas nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf. Cym- rwyd y gadair gan Mr. J. E. Owens, yn absenoldeb Dr. T. J. Williams. Datgeiniaid: Misses Mabel Roberts a Jinta Lewis, Mri. D. E. Owen, O. R. Hughes, Gethin Owen, a J. R. Morris. Canwr pen- hillion, Mr. Thomas Hughas. Canwyd y gramophon gan Miss Lizzie Jones, a'r berdoneg gan Miss Edith Jones, A.R.C.O., L.R.A.M. Dyma'r damau a ganwyd Arwyr Cymru Fydd, Paham rwy'n cafu Cymru ? Nant y Mynydd, y G-xczc ar y Fedwen, r Milter Clwyfedig, 7 fyny bo'r nod, Hen Wlad y Nhadau, etc. Cynhulliad da, a lluniaeth ar derfyn rhan gyntaf y rhaglen. Diolchwyd i bawb gan Miss v C. E. Pugh. PRINCES ROAr).-Cafodd aelodau'r Gymdeithas Lenyddol ddarlith benigamp ar Geiriog a Chymru nos Wener d diweddaf gan Mr. J. J. Williams, prifathro'r Ysgol Uch-Elfennol ym Methesda, gynt o Princes Road. Gwnaeth amryw sylwadau gafaelgar, gan ddangos gwendid a nerth ein Prifardd Telyn. Caw- som gyfres o enghreifftiau gwahanol o waith y bardd, a daeth crwtyn bychan o Fethesda ymlaen i ganu'r Bastai gyda'r tannau. Diolchwyd i'r athro gan Mri. Cledwyn Hughes a J. Smeath Thomas; llywydd, x Mr. J. J. Thomas.
I ^ BIRKENHEAD.
I BIRKENHEAD. I Nos Sadwm ddiweddaf, cynhaliwyd Cymanfa- Unedig y Plant yn Parkfield. o dan lywyddiaeth 7 Parch. O. J. Owen, M.A. Gweddiwyd ar y dechreu gan y Parch. J. J. Roberts, B.A. Adroddwyd nifer 0 adnodau gan ddosbarth Mrs. W. Edwards, Laird Street-Enid Evans ac Olive Jones, J. R. Davies a Tegid Evans, mewn Cymraeg pur. Holwyd yplalit gan y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D., a chaed holi ac ateb boddhaol iawn. Caed anerchiadau gan y Parch. Joseph Davies; canodd Miss Dilys Roberts (Woodchurch Road), a pharti o Clifton Road a Claughton Noad; adroddwyd gan T. Lloyd Jones, Parkfield, ac Elsie Owen, Rock Ferry. Canwyd yn swynol gan y plant, o don arweiniad Mr. Griff. Hughes (New Ferry) a Mr. W. Parry (ieu.), Clifton Road, yn cyfeilio. Dibennwyd gan Mr. W. Evans, Claugfaton Road. Cymanfa dda a phoblogaidd; y Parch. W. M. Jones oedd i lywyddu, a holii ond y mae wedi cwymp* ac anafu ei lin.—R.JiG. t LAIRD STREET.—Treuliwyd nos Wyl Ddewi y Gymdeithas Lenyddol yn bollol Gymreig. Rhagor- ivthou'r Siroeddoedd aryrhaglen. Coed papnrau rhagorol mewn iaith- a chynllun, ac yn sylwi ar safle diwydiant ac en-wogion y Siroedd: Mon, Mist Eunice Thomas, Treflys; Arton, Miss Hannah Jones (Nantlle); Meirionydd, Miss Eluned Jones, IJyead v wawr. Gwnaeth Mr. R. Hughes sylwadaa ar Faldwyn, a Mr. R. E. Roberts ar. Ddittbvcb, a chaed. sylwadau pellach gan Mri. Emmanu l' Evans, John Evans, David T. Jones, R. Roberts (Glasfryn), R. J. Griffiths, W. Jones (Alderley avenue), a W. Thomas Diolchwyd i'r tair chwaer am eu papurau llafurfawr y cadcirydd oedd y Parch. T. J. Rowlands, M.A.,B.D
[No title]
COFGOLOFN I ALAFON.-Y mae eglwys a chynulleidfa Ysgoldy wedi penderfynu codi cronfa yn ddoed at yr uchod, fel arwydd o'i pharch a'i gwerthfawrogiad o'i wasanaeth maith yn eu plith, ac hefyd er cyfarfod a'r cymhellton a wnaed eisoes gan lu o'i gyfeillion ymhell ac yn agos. Amcenir i'r gof- adael fod yn un deilwng o'r cymeriad hynaws a duw- iolfrydig, a rhoddir cyfle t'w hoU edmygwyr gyfrannu tuag ati. Ar sail ei barodrwydd ef bob amset at bob symudiad cymdcithasol a chenedlaethol, a'i garedig- rwydd diball, nid gormod yw disgwyl pob cefnogaeth yn hyn. Derbynnir cyfraniadau dros y pwyllgor gan Owen J. Jones, Ysgoldy, llywydd; Thomas Hughes, Y.H., Caernarfon, trysorydd; R. O. Will- iams, Ysgoldy, Cwmyglo, ysgrifennydd. I Yswiriaeth anferth y Prudential. Dengys ystadegau'r Cwmni uchod, ar tudal. 2, mor anferth fu'r fasnach a ddygir ymlaen ganddo mor gryf yw'r drysorfa sydd wrth gefn ac mor gynhyddol yw rhifedi'r cwsmeriaid a maint eu hyswir- iadau a'u buddsoddion. Y mae Cwmni fel hwn yn d ysgu miloedd o bob] i gynhilo mor gyson a graddol nes bod hynny'n dod yn reddf ynddynt, ac feljy'it gwneuthur mwy na dim at i'r wlad a'r Llywodraeth allu ymgynnal dan dreth y rhyfel. A dyna dair mil- iwn ar ddeg yn fenthyg i'r Llywodraeth,—cyfraniad anferth a bendithiol ei ffrwyth, ac a gydnabyddir felly mewn llythyr oddiwrth Mr. McKenna, Cang- hellor y Trysorlys. Y mae r daflen yn werth bwrw golwg drosti yn ei holl adrannau.