Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

9 11 ■=sBsssmm—1-^"^^bbmji.11'1-Drwodd…

News
Cite
Share

9 11 =sBsssmm—1-bbmji.11' Drwodd a Thro. RHAG OWILYDD I LANDUDNO.- Dywedodd Mr. E. W. Johnson bethau go hallt wrth lywyddu cyfarfod blynyddol carig- en Llandudno o'r Gymdeithas Genedlaethol i Atal Creulondeb at Blant. O'r deuddeng mil pobl sydd yn y dref, dim ond rhyw bitw bach o gynhulliad ddaeth i Neuadd y Dref, pryd y dylasai fod dan ei sang. Yr oedd yn. warth i wareiddiad fod eisiau'r fath gymdeithas 9 gwbl, canys yr oedd chwilod a phryfetach distadla'r ddaear yn gwybod sut i ofalu am eu hepil. H H it HEL ESGUS A "THALU'R HEN OHWECH."—YY oedd Mr. W. J. Roberts yn y cyfarfod uchod dros y Fam Gymdeithas o Lundain, yr hwn a sylwai fod y Gymdeithas wedi derbyn arian y milwyr mewn saith cant o achosion, i'w dosbarthu yn lie gwragedd a mamau oedd wedi profi eu hunain yn gwbl annhoilwng idrin yr arian. Peth arall a ddy wedwyd yn y CJ farfod oedd hyn fod yna rai rhesymau gwreiddiol a gwrthun dros ben yn dod i lawysgrifennydd ygangendrosdynnu tanysgriifadau yn ol. Un gangen, heb fod gan milltir o Landudno, wedillwyr ddarfod am fod yLlywodraeth bechadurus wedi pasio Deddf y Dadgysylltiad, ac wedi anfon llythyr at gangen Llandudno i ddweyd na fedrent gyd- weithio na chyfrannu ati mwy. Pa gysondeb oedd mewn cosbi'r plant yn y ffordd honno a pha aberth na gwladgarwch oedd yn y dyn a dynnai ei hanner gini o gist y Gymdeithas Gristnogol a bendigaid hon er mwyn ei thafiu a'i thincian mor drystiog i gist y dry- sorfa ryfel ? Ffordd go sal a dialgar i dalu'r hen chwech," ac yn dangos mwy o sol dros yrEglwyna thros ei Phen. u tt tt LOES MR. E. T. JOHN.-Lladdwyd y Lifftenant John, S.W.B., yn y rhyfel wythnos i ddydd Gwener diweddaf, ac y mae'r cyd- ymdeimlad dyfnaf a'i dad, Mr. E. T. John, A.S., yn ei brofedigaeth. Gobeithio v 'bydd i'r loes a'r aberth hwn dewi peth ar safnau'r boblach safnrwth hynny a fu'n sennu'r aelod drosDdwyreinbarthDinbych ei fod yn an wlad gar am ei fod yn wrthwynebydd mor gryf i'r Mesur Gorfod Milwrol. Yr oedd felly ond yn gwneud mwy, serch hynny, ar linellau gwirfoddol, i hyrwyddo llwydd y rhyfel na'r cant namyn un o gorgvn y wasg a fu'n cyfarth arno. Ni phrynnodd o yr un papur erioed i'w ddal ei hun ar drostan y byd nac i gyhoeddi a chlodfori pob peth a wna ac a ddywed. tt tt tt CLOSIO A CHYNHESU.—Yng Ngwyl Ddewi Llanfairfechan, siaradai Ymneilltuwr (y Parch. Garrett Roberts) yn ysgol yr Eglwys; a Mr. W. G. Roberts, gwarden yr Eglwys Wladol, yn Ysgol y Cyngor. Pa bryd y daw Llan a Chapel i beiiio a sbio a ph*sio'i gilydd fel gwahangleifion ? if tt tt NA PFUSTWCH.-Yroeddrhywunwedi anfon at Gyngor Dinas Bangor am gael Neu- add y Penrhyn at ymryson ffusto, sef boxing competition ond pasiodd y Cyngor y byddai peth o'r fath yn anweddaidd ar adeg fel hon. Ffusto yw gair y De am y dyrnu mileinig hwn ac y mae hynny'n ein hatgoffa mor chwithig y seinia'r gair hwnnw yng nghyf- ieithiad Wm. Salesbury o'r Testament Cym- raeg. Curwch, ac fe agorir ichwi," ebe'r cyfieithiad presennol; ond Ffustwch, ac fe agorir i chwi, ebe'r hen William ar ymyl y ddalen, er mwyn closio'r Hwntws at ei gyf- ieithiad, mae'n debyg. 11 XJ. IX .¡.:¡..¡..¡..¡..¡. CAM GYNHILO A DARNLWOU.—Yr oedd hi'n ddydd rhannu'r gwobrwyon blyn- yn Ysgol Sir y Drenewydd ddydd Iau f, a Mr. Wm. Edwards, prif arolygydd ol Cymru, yno'n siarad. Baich ei -rbuddior awdurdodau i gynhilo -1 iawn, canys aberthu moeth- oedd eisiau, ac nid darn- su'r ysgolion. t If > YN GYSON.-Er lae'n anodd peidio a "ribwnau draw ac ;mau'r sawl sy'n vnd i'r ymladd. Tyd:-y Vegetar- d cydwybodol i nd pan ofyn- am lygod a t lladd hwy a ar ben. gwaith y vfel ac eglyd ei wedi 'r byd Tbron aewn ti o'r rwy w. ac 1. URDD Y GROES WENUrdd Croes Won Cymru" yw enw'r Cadfridog Owen Thomas ar ei gynllun i gael gan blant Cymru hel at drysorfa cadw cliwarae teg ariannol ac arall i filwyr a morwyr Cymru yn awr a phan ddychwelont o'r rhyfel. it H tt RHYDDFRYDWYR COLWYN BAY.- Yng nghyfarfod blynyddol Cymdoithas Rydd- frydol Colwyn Bay, yr wythnos ddiweddaf, darllenid llythyr o Ffrainc oddiwrth Dr. J. H. Morris Jones, a dyma ddarn There are no politics now, and I hope II there are no parties. We are all, I trust, of what I will call the Smash-the-Hun Party." Talwyd gwrogaeth cynnes i Syr J. Herbert Roberts am ei lafur mawr ac amlochrog, a thyngwyd llw o ffvddlondeb disyfl iddo fel eu cynrychiolvdd cyson ac effro yn y Senedd. +J it tt GWYL PAIS A BECWN.-Yffordda gvmerodd Cymry Llundain i barchu a chofio Dewi Sant yr wythnos ddiweddaf oedd troi allan i'r heolydd i werthu llumannau a chard- iau er budd y drysorfa genedlaothol i ddarpar cysur a chlydwch i'r ymladdwyr o Gymru ar dir a mor. Y merched oedd ar y blaen gyda'r gwaith ac er cymaint ysblander a syndod a welodd y Brifddinas o ganrif i ganrif, ddydd Mercher diweddaf, am y tro cyntaf yn eu hanes erioed, y gwelodd y Cocnis gynifer a thair mil o ferched yr Hen Wlad, oil yn eu capiau gwynion, eu pais a'u becwn, eu hugan coch, a'u het gorun hir, yn dal y cardiau a'r Human dan drwyn a llygad pawb a basiai. Daliwyd Arglwydd Kitchener wrth iddo ddis- gyn o'i motor, ac a daflodd ddernyn melyn iawn i flwch Mrs. Hugh Thomas yn gyfnewid am ei Human sidan fach. Un arall a hynod- odd ei hun yn y cymell di-droi-draw oedd Miss Cordelia Rhys, y gantores hysbys gyda'r tannau. Mrs. Lloyd George oedd llywydd y pwyllgor ac yn cydweithio yr oedd llu o foneddigesau mwyaf ucheldras Cymru. Bu seindorf y Welsh Guards yn chwarae alawon Cymreig o flaen Plas y BreniD a chatwyd cyngerdd yn y London Opera House gyda'r nos Mr. Ben Davies, Mr. Ivor Foster yn canu, a seindorf y Welsh Guards. Yr oedd Dr. G. Hartwell Jones, rheithor dyfnddysg Nutfield, wedi darparu crynhodeb argraff- edig i hancs gorchestion y catrodau Cyjnreig o 1689 i lawr; a'r Frenhines Alexandria ymysg y dyrfa fawr a wrandaw- ai'r pamph'edyn yjiloael eiddarlien. RhWlig y cwbl, diau y cafwyd cannoedd lawer o bunnau i'r rhwyd ddydd Gwyl Bais a Becwn Cymry Llundain. H tt tt GWYL DDEWI YN FFRAINC.—Cad wyd Gwyl Ddewi yn swn y rhyfel yn Ffrainc yr wythnos ddiweddaf. Daeth nifer o filwyr y catrpdau Cymreig ac eraill ynghyd, dan lywyddiaeth y Caplan y Parch. Peris Will- iams (Gwrecsam), ac o'i gwmpas yr oedd am- ryw oedd yn efpydwyr yng Ngholegau Cymru cyn mynd i'r maes. Caed anerchiad hefyd gan y Proff. J. 0. Thomas, M.A., Athrofa'r Bala gynt, ar Brydferthwch Golygfeydd Cymru, a'r lluniau yn cael eu taflu ar y llian, a llygaid y bechgyn yn lleithio'n ddiau wrth Weld cym- oedd yr Hen Wlad mor fyw o'u blaen, a'r hen bistyll a'r buarth a'r ewbl yn gyrru eu calon i ddychlamu. Ac 'heblaw hynny, canwyd alawon gan gor meibion cynulledig o'r catrod- au, dan arweiniad y Preifat Iago Jones (Treorci). Aed dros Llwyn Onn, Gwyr Har. lech, Hen Wlad fy Nhadau, Aberystuyth, ac yn y blaen a'r ewbi gyda rhyw aidd ac eneni iad dyfnach na dim a ellid yn hedd a diogelwch Cymru ei hun. Canu megis ag un Haw yn dal y llyfr emynau a'r Hall y cleddau. Plant y Cystudd Mawr am ganu. tt tt tt SWIGEN Y SGOTYN.Dywe(lodd Mr. Lothian,—Sgotyn sy'n ffarmio yn y gymdog- aeth—bethau llymion iawn yn Nliribimlys Fflin t ddydd Sadwrn diweddaf, sef fod fferm- wyr Dyffryn Clwyd yn gywilyddus o gyndyn i ollwng eu gweision i'r Fyddin ac a ddiben- nodd gan frolio fel yr oedd ef ei hun wedi gollwng pump o'i weision. Yn clywed cy- maint o swn gwynt yn yswigen balchter y Sgotyn, cododd Mr. Morris (Rhuddlan) ac a roes fynawyd ei wawdiaeth Gymreig ynddi nes aeth hi'n fflat a llipa. A'r diwedd fu: cadeirydd y llys yn galw ar Lothian i dynnu ei eiriau'n ol am y Cymry, ac yntau'ngwrîeud, hefo hynny o wynt oedd ynddo'n weddill ar ol myniawyd Morris. tt tt tt EILUN YR ATHRAWON. Yng Nghaergybi, ddydd Sadwrn diweddaf, pasiodd Undeb Athrawon Mon ddatganiad o'u gofid gwirioneddol wrth golli Mr. L. J. Roberts, M.A., arolygydd ei Fawrhydi, o'r Gogledd, a'i fyned i Forgannwg. Mawrhaent ei hy- nawsedd boneddigaidd at bawb ac yn amlwg, oddiwrth gynhesrwydd eu geiriau, mai y fo oedd eilun yr athrawon drwy Wynedd i gyd. tt it tt EGLWYSIG. Y mae Esgob Edwards wedi penodi'r Parch. L. H. Oswald Pryce, warden Rhuthin, i fywoliaeth Colwyn Bay, yn lle'r diweddar Ganon Roberts ac wedi penodi'r Parch. T. Redfern, rheithor Dinbyeh. i'r ganoniaeth wag ym Mhrifeglwys Llanelwy, mm- it tt tt CARMEN SYL V A.-Dymaenw lien Brenhines Rumania, a fu farw'r dydd o'r blaen, ac oedd yn bur gynnes ei serch at Gymru a'i phobl byth oddiar e hymweliad oofiadwy a Llandudno yn 1890, ac ag Eistedd- fod Bangor yr un adeg. Ohervvydd ei ddyfal wch a'i fedr yn gwella'r Cadfridog Grasiano, llywydd ei llys a'i hosgordd, o'r gwaeledd a ddaeth arno, cawsai Dr. Dalton, Llandudno, lythyr llongyfarch tirion oddiwrthi bob JSTadolig ni ddisgwyliai yr un ar ol y rhyfel, gan fod ei phriod, diweddar Ffrenin Rumania, yn Hohenzollern Germanaidd. Ond rai misoedd yn ol, er y ewbl, daeth ei llun hi a'i phriod i Dr. Dalton, ac odanynt, yn llaw'r Frenhines, Our last portrait together. Urdd- wyd hi yng Ngorsedd Bangor, ac nid rhyw wag-addurn o enw mo'i henw hi, canys yr oedd hi'n llenores a barddones wych yn Saes- neg cystal ag yn ei hiaith ei hun. Rhai go dwp a delffaidd yw'r had brenhinol at ei gilydd ond yr oedd Carmen Sylva'n eithriad. -0-

Clep y Clawdd,

Advertising