Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Y Flwyddyn Fawr- 1 Blvvyddvn…

I tin Osnedl y-m Manceinion.…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

tin Osnedl y-m Manceinion. Cenhadon y Sui Nesat. Y METHOD1STIAID CALFINAIDD lfoSiO SIDE—10.30 a 6.30R Williams Pendleton PEXDLETOX—10.30, E W Eobert", 6 Owen Pritchard HEYWOOD ST—10.30 Owen Pritchard, Nefyn, 6 E W Roberts VICTORIA PK—10.30 a 6 Efrydydd LEIGH-10.30 a 6 WARRINGTON—10.30 a 6, FARN WORTH— 10-30 a 6 BAJILESTOW.N"—10.45 a 5,30, ASHTOX-DNDER-LYKB—10.45 a 6.30, 1- EGLWYS UNDEROL ECCLES—11 a 6.30, R: -T V.»-S SNRA ANNIBYNWYR CHORLTON RD—10.30 a 6.15, E B Jones Gwalchmai BOOTH ST-10.30 J Morris, 6,15, M Llewelyn QUEEN'S ROAD-10.30 M Lleweivn, 6.15 J Morris LD DUNCAN ST, SALFORD-10.30 a 6.15 Cyf Gweddi avLLINWOOD-IO.30 a 6.15 Y WESLEAID DEWI SANT—10.30 a 6 Cyf Pregetbu ffoREB-10.30 J Felix 6, SEION-10.30 W G Jones 6 J Felix BETOAH—2.30 J Felix, 6 J D Owen CAIIFARIA—10.30, D. R. Rogers 6. W Rowlands WEASTE—10.80, >1 6.30, D. R. Rogers Y BEDYDDWYR ITF. MEDLOCK ST.—10.30 a 6, J H Hughes LONGSIGHT-10.30 a 6.30, Pregeth ROBIN'S LANE. SUTTON-—10.30 a 5.30 DATHLU DEVBLTG. —Cynhaliodd Cymdeithas y Ford Gron gyfarfod nos Wener yn y Java Cafe, Corporation Street, i ddathlu ei phen blwydd, a chofio Gwyl Ddewi Sant hefyd. Mr. Hugh Jones oedd y cadeirydd; efe bob amser yn 'ffraeth ei air a'i ateb. Yr oedd nifer dda o gyfeillion gyda'r aelodau. Caed cyfarfod difyr ei ganu a'i anerchiadau. Canodd y Mri. T. D. Jones, Francis Williams, Roderic Davies, J. Barnett Jones, Harri Davies, E. W. Thomas, a chaed alaw gwerin gan y Parch. E. Wyn Roberts yn y modd y cenid hi gan ieuenctid bro'i febyd. Adrodd- wyd ychydig o hanes doniol Wil Bryan gan Mr. W. J. Jones a chaed anerchiadau barddonol gan eraiil. Sylwodd Mr. Rd. Williams ar waith teilwng y Gym- deithas hon, gan annog i barhau ymlaen oblegid trwy GymXleithas fel hon y cedwir ein cenedlaetholdeb yn fywyd ac yn gelf a edy ei ol ar y byd. Y Parch. M. T 1 if frrrfry m r. A J A 1 ..1- LleWf:.JYU a 5/xaii3C»uuiaUilU Ceiriog, i ddangos fod yr ysbryd cenedlaethol y can- odd ef amdano yr un ddoe a heddyw. Canodd inni helynt y rhyfel, a phorteiadodd gynt yr hyn a ddi- gwydd yn awr yn hanes ein harwyr yn y gad. Hanes brwydro yw hanes cyntaf ein cenedl, ac felly y bu o ganrif i ganrif ond y mae'n syn meddwl cyn lleied o ryfel gafodd sylw ein Heisteddfodau. Gydag ych- ydig eithriadau, rhyw destynau crefyddol, a phethau yn perthyn i'r Ysgol Sul a fu'r tasgau Eisteddfodol. Mae perthynas agos rhwng y cledd a'r delyn ac fel yr oedd Ceiriog yn clywed y fwyalchen yn canu uwch celanedd y frwydr, felly y mae cadw i fyny ein hen ynni cenedlaethol ar waethaf y rhyfel, yn gysur a gobaith i'n cenedl yn ei chyni. Y Parch. E. Wyn Roberts a sylwodd ar fuddioldeb Cymdeithas y Ford Gron, a chymaint o rai oddiallan iddi oedd yn gwybod amdani. Traethodd hefyd ar y priodoldeb o gofio Dewi Sant hyd yn oed yn yr amgylchiadau eithriadol presennol. Yr oedd ein Sant ni yn un ohonom ac o'n gwlad, ond nid felly seintiau y tair cenedl arall. Amddiffynydd egwyddorion dyfnaf ein ceiieflt oedd Dewi, a nod bennaf holl ryfeloedd y Cymry oedd yr amddiffynnol, nid yr ymosodol. Mae'r byd anifeil- aidd yn cael ei rannu yn ddau ddosbarth y naill yw yr ymosodol, a'r llall yr amddiffynnol; mae'r anifeil- iaid glan wedi eu creu gydag aelodau a gallu i am- ddiffyn, tra y mae eraiil gyda galluoedd i ymosod, cymharer yJlew a'r fuwch neu'r ceffyl., Mae'r un peth ynglyn a chenhedloedd, rhai yn ymosod a rhai; yn amddiffyn. Ymladd nid i ymosod, ond o raid i amddiffyn, yw hanes ein cenedl ni yn y rhyfel hwn. Caed ychydig sylwadau gan E. T. Griffith, M.A., i ddangos mai nid Mor o gin yw Cymru i gyd," ac na fydded i ni dwyllo ein hunain. Mae gan ein cenedl gyfleusterau ardderchog i ddyrchafu, ond fe'u hesgeu- lusir i raddau mawr. Un o'r ffyrdd goreu i godi ein gwlad yw cynorthwyo'r ieuenctid sydd yn Ilafurio trwy anawsterau mawr i sefyll yn gyfochrog ag ieu- enctid cenhedloedd eraiil ym myd addysg. COFIO'R BRE IG-ETH.-Cadwodd yr eglwys yn Lime Grove ei hen arfer o bregeth Gymraeg y nos o flaen Gwyl Ddewi. Y Parch. Jacob Hughes, St. Winifred, Birkenhead, oedd yn pregethu. Beth bynnag a ddywedir o blaid enwadaeth, rhaid addef fod cryn swyn mewn pregeth Wyl Ddewi yn yr hen eglwys. Ugain mlynedd yn ol-, cynhelid y bregeth hon yn yr Eglwys Gadeiriol, ac elai cannocdd o Gymry y dref a'r cylch yno i wrando. | HELPU'R NAILL r LLALL.-Nos Sadwrn ddiweddaf, cynhaliwyd cyngerdd yn ysgoldy capel M.C. Pendleton, er mwyn y gronfa i gynorthwyo'r mil wyr Cymreig clwyfedig a chlaf yny cylch. Caiff y cyngherddau gefnogaeth gref Cymry a Saeson. Y Cynghorwr Littler oedd y cadeirydd, a Miss Morfydd Williams yn cyfeilio. Canwyd gan g6r o wyr ieuainc Heaton Park; hefyd ca nodd Gwen Williams, Kitty Thomas, John Pickering, Owen Roberts adroddodd Enid Blackwell a J. Eaton. Y rhaglen yn faith a rhai caneuon rhagorol, ac yn ey plith caed CwmLletoelyn a Nant y Mynydd, i gadw'r tânCymreig i losgi ar yr hqn aelwyd. O'r 17 i'r 19 cyfisol, bydd cymanfa bregethu y Methodistiaid yn y pedwar capel. Pwnc addas y cyfarfod cyffredinol nos Sadwrn yng nghapel Moss Side fydd Heb. xii, 27, r pethau nid ysgydwir.

Advertising