Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

Advertising

Advertising

Tpam I.-,, Pethau mawr i ddigwydd."

Trent ll.-Galw allan.

News
Cite
Share

Trent ll.-Galw allan. GASED gennym y syniad am orfodaeth," fel mai gofid inni ddarfod i'r Llywodraeth deimlo fod angen amdano. I ni, mae'n gosod agwedd newydd ar y rhyfel-er gwaethaf y ffaith eglur ein bod bob amser, o ran ein perthynas a'r Wladwriaeth, yn byw tan gyfraith gorfod, Beth bynnag, nid oes gennym fwriad ar hyn o bryd > feirniadii chwaneg ar y Lly wodraeth, na thuedd chwaith i feimiadu'r dynion ieuainc a dynnir o'u hanfodd o tani. Mae ynom gyd- ymdeimlad dwfn a hwynt, a chrodwn ein bod yn medru sylweddoli'n lied gywir eu teim- ladau. Gwyddom am rai sydd yn teimlo brwydr foesol ac ysbrydol danllyd ar y mater, ae mewn trallod o'r herwydd. Ond mae rhesymau a roddwyd gan rai yn erbyn ym- arfogi i ryfel o gwbl yn ymddangos i ni'n ynfydrwydd, heb arno arliw pwyll pen na chydwybod. Yn rhith bod yn dyner, mynnai rhai dynion fod yn ddidostur a chreulon, Prin y gallsai dyn gredu fod dynion a goledd- ent y fath syniadau yn ein gwlad o gwbl. Mor greulon rai ohonynt fel nad vmgeleddent druan ddyn tan ei glwyfau, ac na helpent gloff. i ysbyty os ceid mai milwr fyddai'r dyn. Ac mae'n beth a glywsom ni ein hunain, a hyilny droeon, nad priodol gweddio o gwbl dros filwy'r mewn rhyfel. Mae holl natur dyn—a'r hyn sydd oreu ynddi, yn ol ein tyb ni-yn fHam o ddigasedd yn erbyn yr ysbryd creulon hwa, ac yn enwedig pan ddangosir ef pan ddangosir ef yn enw lesu o Nazireth. *Does gan weini- dog ddim hawl i son am y rhyfel o gwbl," ebe rhai, ac nid un na dau a glywsom yn profi eu hynfydrwydd a'u hysbryd arglwyddol dros eraill yn y ffordd hon. Byddai'r bobl hyn yn darllen ac astudio yn y Beibl hanes rhyfel- oedd yr Iddewon, ac yn ymboeni i goisio deall Armagedon Llyfr y Datguddiad yn burion ond pan ddaeth yr Armagedon fawr hon ar draws eu hoes eu hunain, ceisiant gau eu llygaid, topio eu clustiau, ac ymsuddo ti rhyw orddyfnderoedd ynddynt eu hunain, fel na welont arliw ac na chlywont eco ohoni. Myn.iir gennym grodu nad oes a wnelo Duw ddim a'r rhyfel-" a gwbl." t Mae Rhaglun- iaeth .vedi ei throi o'r neilltu, nou, ynteu, wedi caniatau i fath ar nuisance ddod i'w byd nad allant hwy gymaint ag edrych arno, heb son am droi'n "scavengers" i'w garthu ym- aith. Gwir fod yn hawdd bod yn annoeth yn yr hyn a ddywedir am ryfel, ac y dylid bod yn ofalus mew-n pulpud i sylwi ar bopeth o saf- bwynt Cristnogol ond mae gwahaniaeth rhwng hynny a'r glebr arwynebol yn gwa- hardd i neb son am ryfel "o gwbl." O'nrhan ni, herfeiddiem unrhyw awdurdod a fynnai osod gormes ar ein hymwybyddiaeth Grist- nogol, a chyda golwg ar gofio'n dynion sydd mown rhyfel ar dir a mor, cyn y peidiem a gweddio drostynt, Glyned fy nhafod wrth daflod fy ngenau." Ond mae'r mater hwn i ni, fel liifeiriant, ac yn ami yn ein cludo i'w ganlyn, gan ein dwyn o'n cwrs bwriadedig ar y cychwyn. Yr hyn oedd o flaen ein meddwl ar ddechreu'r Drem hon oedd y dynion ieuanc, sengl a phriod, a elwir allan y dyddiau hyn, er mawr bryder iddynt eu hunain a'u perthyn- asau, a dyryswch mawr amryfal amgylch- iadau. Maent yn haeddu pob cydymdeimlad a chymorth, a dylid gwneuthur popeth erddynt. Teimlwn fwyfwy fod y ffaith o s ryfel yn ymwasgu'n nes atom, a baich y tra- llod yn trymhau arnom. Mae'r cymylau'n drymdduon, elfeftnau tymhestl yn ymwrdd trwy'r wybren, a phawb yn teimlo fod rhywbeth mawr ar ddigwydd."

Advertising