Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

IW GOSTEG.

OYDDIADUR.

Cyboeddwyr y Cymod

Advertising

DAU T I.I'R. AfON.

I Basgedaid o'r Wlad.

News
Cite
Share

I Basgedaid o'r Wlad. PONT r BODCIN.-Ddydd Llun diweddaf, yn llys ynadon yr Wyddgrug, diddymwyd trwydded tafarnglanralon. Gwrthwyiiebwyrydrwyddedoedd Mr. D. Jones, Hartsheath Mr. Wm. Jones, blaenor eglwys yr Annibynwyr; a'r Parch. G. O. Roberts (W.), a Mr. F. Ll. Jones yn ymddangos drostynt fel cyfreithiwr. Yn yr un llys, diddymwyd trwydded y Queen's Arms; yr un tri yn gwrtbwynebu hon hefyd, a'r ddwy dafarn i gael yr iawn yn ol barn y pwyllgor. Dyma ddwy dafam yn llai, beth bynnag, yn y cylch hwn a diolch byth am hynny.-Goheb. CEFN MAWR: Darlitb ar Dafydd Evans, Flyttonbenry.-Orig ddiddorol oedd honno a gafwyd y noson o'r blaen, sef Chwefrol 16, yn gwrando ar y cymrawd hoff, Mr. Samuel George, Tan y graig, yn darlitliio am y tro cyntaf ar y testyn uchod, yn Eben- ezer, Cefn mawr. Yr oedd y darlithydd yn lied adnabyddus o'r blaen fel pregethwr cynorthwyol tra chymeradwy gyda'r Bedyddwyr ers llawer o flynydd- oedd, ac ami y clywyd ei lais yn dadleu o blaid Rhydd- frydiaeth ar y llwyfan gwleidyddol, a gwnai hynny i bwrpas bob amser ond fel yr awgrymwyd yn barod, hon oedd ei ddarlith wyryfol," a thystiolaeth pawb a'i clywodd oedd e; fod y tuhwnt i'w disgwyliadau. Yr oedd llawer o gydnawsedd yebryd rhwng y darlith- ydd a'i wrthrych, a hynny, bid sicr, yn fantais fawr i wneud y defnydd goreu o'r neilltuolion a'r hynod- rwydd eithriadol hwnnw a berthynai i Dafydd Evans yn anad undyn byw arall, a'i osod gerbron mewn ffordd ddiddorol ac addysgiadol hefyd. Ni synnwn na fydd galw am wasanaeth y cyfaill hyfwyn mewn llawer ardal gyfagos a phell 0 ran hynny, He y mae'n adnabyddus eisoes, ac nis gwyddom am ddim a allai roddi mwy o fwynhad a budd, ac ar yr un pryd a fyddai yn wrogaeth i un svdd wedi gwasanaethu eglwysi gweiniaid ei enwad ei hun ac erail) am banner canrif, a hynny mewn modd diymhongar a gwerth- fawrogol. Caed cadeirydd dan gamp yn R. Bates, Ysw., y Bazaar, a gwnaeth sylwadau doeth a deheig. Diolchwyd gan Abon, Mri. W. Owens, S. Mitchell, a'r I Henadur E. Jones.^—Gobeb. LLANDRILLO.-Priodas: Chwefrol 19, yng nghapel yr Annibynwyr, gan y Parch. Ivan T. Davies, priodwyd Miss Harriet Jane Edwards,, merch hynaf Mrs. Jane Edwards, Ceidiog Cottage, a Mr. Thos. Evans, Woodhey, Rock Ferry. Gwasanaethwyd fel morynion gan Miss Maggie Roberts, Celyn, a Miss Lizzie Edwards (chwaer), ac fel gwas gan Mr. R. E. Davies, Bodelith, Llandderfel. Wedi'r seremoni, aed i gartref y briodasferch i fwynhau'r neithior. Yr oedd yn bresennol, heblaw y rhai a enwyd cisoes Mrs. J. Edwards (mam); Mr. R. Roberts (ewythr); Miss Polly Evans (chwaer y priodasfab); Mr. a Mrs. Edwards, Glanalwen Mr. a Mrs, Jones, Cynwyd; Mr. a Mrs. Price Roberts a L. P. Roberts, Cynwyd a Mrs. Parry, Llandderfel. Ymada wodd y par ieuanc yn y prynhawn i Landudno, i dreulio'u mis mel. Pob ilwvddiant iddynt. Manvolaetb.—Drwg gennym orfod cofnodi marwol- aeth Mrs. Rowlands (annwyl briod Mr. Rowlands, y Wern), Chwefrol 19: yn 7. mlwydd oed. Dioddefodd gystudd maith, ond ymostyngodd yn dawel i'r Ewyllys Ddwyfol. Ganwyd a magwyd hi yn y Bala; a brodyr iddi hi ydoedd y diweddar Andronicus H Mr. Goronwy Jones. Prestatyn. Claddwyd ym myn- went Llangower, Chwefrol 22. Gwasanaethwyd gan y Parchn. D. Thomas, Llandrillo, a Robert Davies, Cwm. Mae ein cydymdeimlad dyfnaf a Mr. Rowlands a'i ferch a'i ddau fab yn eu profedigaeth.-Cylaill.

Family Notices

Advertising

I I i0 Big y -?Lleifiad.