Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

IW GOSTEG.

OYDDIADUR.

Cyboeddwyr y Cymod

Advertising

DAU T I.I'R. AfON.

News
Cite
Share

DAU T I.I'R. AfON. Ddydd Sadwrn cyn y diweddaf, yn y Graig (ty ei chwaer), Porthaethwy bu farw Dr. Nathaniel R. Roberts, meddyg hysbys iawn yn Lerpwl ar hyd y blynyddau cyn iddo ymneilltuo flwyddyri yn ol drwy afiechyd. Preswyliai yn 19 Mulgrave Street. Daeth i Lerpwl o Fangor yn bur ieuanc bu'n feddyg ymweliadol i'r City Hospital, Grafton Road, am dair blynedd ar hugain llanwai amryw swyddi eraill; a chyfrifid ef yn ddarlithyddlrch' 1 ei awdurdod ar bynciau clefydol. Cleddid ddydd Mercher) diweddaf ym mynwent Smithdown Road. Y mae 341 0 aelodau a gwrandawyr eglwysi Anni- bynnol Cymraeg Lerpwl a'r cylch wedi ymuno a'r Fyddin a'r Llynges. Eglwys y TabemacI sydd ar ben y rhestr gyda So Grove Street yn ail, 35 a Park Road yn drydydd, 32. Oes rbywun a wyr ystadegau'r enwadau eraill ? CYMDEITHAS LENYDDOL PRINCES ROAD.—Dar- lith ar Fywyd Cymru yng ngoleu y Penhillion Telyn, gan y Parch. D. D. Williams, a gafwyd nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf. Mr. R. Lloyd Phillips yn y gadair, a Mri. J. J. Thomas, John Hughes a G. W. Hughes yn canmol a diolch amdani. Bwriodd Mr. Williams olwg ar nodweddion y Cymro, a'i ddull o fyw yn ystod y cyfnod, gan adrodd pennill neu ddau i brofi pob gosodiad a wnai. Darlith goeth, hwyliog, ac adeiladol dros ben. KENSINGTON.—Er gwaethaf y tywyllwch Eifftaidd, cynhaliodd Cymdeithas y Bobl leuainc eu cyfarfod fel arfer nos Fercher ddiweddaf, a chafwyd hwyl dda ar yr holl waith. Canwyd yn swynol gan Mr. W. R. Job-ei hun a'i barti-Mri. R. Griffiths, Mallow Road; Edward Griffiths, Prospect Vale; Misses Dora Parry, Jennie Jones, Dilys a Myfanwy Jones; cafwyd dialog gan Misses Dora Parry a Jennie Jones, ac adroddiad gan Mr. Hugh Job—yr oil yn dda iawn, ac agos oil yn y Gymraeg. Yn goron ar y cyfan, cafwyd gwasanaeth medrus Miss E. A. Williams, Park Road, ar y berdoneg. ) Chwefrol 24, ar ol pedwar diwrnod o waeledd, bu farw Mr. Wm. E. Hughes, 4 Winchfield Road, yn 42 oed. Ail fab ydoedd i'r diweddar Mr. a Mrs. John Hughes, 72 Upper Pitt Street, a magwyd y plant yn Crosshall Street. Bu'n aelod yn Princes Road, ond yn awr yn aelod yn Webster Road. Cydymdeimlir a'i weddw ac a Harold a Jackie, y bechgyn, ac a'i dair chwaer. Claddwyd yn Allerton ddydd Llun, a gwas- anaethwyd g," a y Parch. W. Owen, Gyffin. Cludwyd ei weddillion gan Mri. T. W. Thomat, D. Griffiths, G, Jones, a D. R. Daries.—R,J.G.

I Basgedaid o'r Wlad.

Family Notices

Advertising

I I i0 Big y -?Lleifiad.