Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

- - - -Y Ciol Oddicartref

I I i0 Big y -?Lleifiad.

News
Cite
Share

I I i0 Big y -? Lleifiad. GO DDA, TV M. RANDOLPH HEARST -Yn yr Oakland Examiner, Ion. 24, 1916, a ddaeth yma oddiwrth Mr. Rd. Jones, un o Gymry llengar a dirwestol California, gwelwn lith dwy golofn perchennog tusw o bapurau'r wlad honno—papurau sy'n pregethu llwyr- ymwrthodiad yn glir a diamwys, heb ofn colli ffafr na phrynnwr ac nid yn unig hynny, ond sydd wedi ymddiofrydu na chyhoedda'r un o bapurau'r owmni yr un fodfedd o adfertisment alcoholaidd. Iechyd i'w ddiofryd, canys y mae'n gant gwell a gonestach na ffordd ddeubig ein papurau ni yn Lloegr, sy'n arfer sgrifennu clamp o erthygl arweiniol goeg- dduwiol anghyfEredin ar tudal. 4, ond a wneir yn hollol ddiwerth gan y clamp o adfertis- mant y cwrw yma a'r chwisgi arall sy'n sgleinio mor fras eu Uythyren ar eu tudal. laf. Ie, iechyd i Wm. Randolph Hearst am ei ddiof- ryd, sy'n dibennu mor iach ddiamwys fel hyn :— Now, if our newspapers are opposed to whisky and such strong drinks, and if we are urging the people who read our papers to abstain from whisky and such strong drinks, we surely have no right to accept for pay an advertisement which c, urges our readers to partake of whisky or such strong drinks, or of any so-called U medicines containing alcohol or opiates cc in injurious and habit-forming quantities. '4 I intend, therefore, not only to reject all such undesirable advertisements, but to oppose the manufacture, use, prescription cc or sale of all such harmful concoctions, exactly as I stated in my letter of instructions. I have complete tolerance for those who think differently from me in regard to cc what is legitimate advertising, and in regard to what is proper sumptuary regulation, but I can only be guided by cc my own conviction of what is right and what is best for the community, and by cc that conviction I shall stand." -0 CLADDU DEWRION YN Y TWLL MA WR. Y mae pobl Birkenhead yn teimlo i'r byw oblegid clywed fod rhai o'r milwyr a drenga yn ysbytai'r dref yn cael eu claddu'n ddistaw bach yn y twll mawr," sef y bedd atgas ac anferth lie cleddir y tlodion yn eu crynswth ar gost y plwyf, mewn rhyw arch simsan neu sglodion ffawydd o gist, ac heb na charreg na phric i'w nodi ar wahan,—dim ond eu cyfrif fel etc. y fynwent. Ac yntau wedi dodi ei fywyd dros ei wlad. mawr o betb na chawsai'r bachgen dewr ddwylath o ddaear ei wlad i orwedd yn breifat ynddi nes i'r Utgorn Mawr ei alw i le mwy teilwng o'i aberth. LLYFU'R MER A THAFLU'R ES- GYRN.—Y mae'r si gladdu yn y twll mawr" yn f'atgoffa am a ddywadwyd parth un hen weithiwr aldrowyd o'i le heb hatling o bensiwa am ei fod yn ddeg a thrigain oed na bellach yn medru mynd a'i lwyth mor gyflym i fyny'r allt. Ac ebe'r hen wr, gan roi pwyth dwfn i wreigan y plas Fe roddais i ddeugain o fiynyddoedd f goreu f oes yn eich gwasanaeth chwi do, ac a weithiais yn galed a gonest am eich (t bripsyn dirmygus o gyflog; ond wedi u } ehwi lyfu'r rner yn lan o f'esgyrn sych- H ion, y peth goreu a fedrech chwi ei wneud oedd eu taflu i bydrun ddibensiwn yn nhomen yr unemployed." Parhad ar tudal. 6.