Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

- - - -Y Ciol Oddicartref

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Y Ciol Oddicartref Gwib i Faelor a'r Amwythig. Puteinio r gwir ar dalcen. I tafarn Dydd lau GWERYRODD y Merlyn, sythodd ei glustiau, a bywiogodd drwyddo pan glybu agor drws ei ystabl heddyw'r bore ac y taflwyd y cyfrwy dros ei fwng wrth ei ollwng am wib a charlam fach i Faelor yng nghyntaf, ac yna ymlaen drannoeth i Ben Tre'r Mwythig, sef i'r Gyn- hadledd a, elwid ynghyd o Dde a Gogledd Cymru gan y Cadfridog Owen Thomas, Glyn Dwr y Fyddin Gymreig, Cyrhaeddwyd Gwrecsam ddeg ar gloch y bore, ac ystablwyd yn y Gwynfryn, Ruabon Road, lie y cafwyd proseb glan a Ilawn o ebran croeso Cymreig nad ellid byth mo'i dirionach a pherarogl Crist yn sancteiddio pob ymddiddan. Gwedi cinio, cydiwyd yn y ffon a cherddwyd i Holt a Farndon, bro'r mefus a dyfir wrth y miliynau'r ffordd honno, ac y cyfiogir cannoedd ar gan- noedd o wehilion trampaidd y trefi a'r wlad yno i'w hel bob ha'. Ymhen rhyw filltir neu ddwy o gerdded, dymn, basio tafarn, ac ar ei sein ddwy ddelw ddynol eu ffurf, llun tair croes, a Magnanimiier crucem sustine (dygwch eich croes yn eofn) yn gy- swynair o'u hamgylch. Ac erbyn meddwl, pa saw! brawddeg dda a gwirionedd dwys a I outeimwya wrtn gaei ei aoai ar sein neu ctaicen f I Synagogau Satan ? Hwdiweh enghraifft neu I ddwy a naid i'm cof wrth basio hon heddyw I (1) Car pob cywirdeb, a welir yn Gymraeg ¡ ar dalcen y Trevor Arms, ar waelod J Marford Hill, rhwng Caer a Gwrecsam— cyswynair teulu'r Treforiaid, hen deulu Bryncinallt, oedd a pheth o'u gwaed yn y Diwc o Wellington, yn ol ei ymffrost of ei hun mown cyfarfod Cymreig yn Llundain yn 1819. (2) Y mae Afr. Gael ar Goel wedi marvo Mr. Talwr Drwg a'i lliddodd—gwelais hwnyna ar dalcen un o dafarnau Llydaw lawer blwyddyn wen yn ol, yn y Ffrangog ond sut bynnag am Lydaw, nid yw cael cwrw a gwirod ar goel ddim wedi darfod yn nhafarnau Gwrecsam, y Ddeddf Newydd neu beidio. » (3) Heb nefol north nid alcr saetli. Ymhle y ceir hyn ? meddwch chwL Nid yng Nghymru, ond yng Nghvmraog serch hynny, ar y lamp uwchben rhiniog y Brom- borough Hotel, hanner y ffordd rhwng Birkenhead a Chaer, ar Walker's Three X Ales fel cadwyn gythreulig o anghydna ws o gwmpas geiriau mor nefol eu hawgrym. (4) Dyma'r englyn sydd ar dalcen y Penrhyn Arms, Sarn Meillteyrn, gwaith Owain Llelyn, Bod Nithoedd :— Os cwrw cvyf a yfi,-iaell ydyw, A chadarn i'th lonni; Pair hoywder i'th dymer di, Gwel ei fudd,—gwylia feddwi. Ond taflai un o weilch y fro mai cofia feddwi" fuasai oreu gan wr y dafarn, pe modd cynghaneddu hynny a gweddill y llinell H T-F- +J- T T T I* + i* I Lletme Cfaipu a Llo egr yn cusanu'l gilvacl. Dal i droodio ymlaen, nes toe dyma gvr- ¡ raedd y meysydd mefus ar un tu i'r ffordd", a thir pori ar y tu arall, lle'r oedd gyr o ddefaid bras, blonhegog, yn ymgrafu a Iladd eu cosi ar fon ion coed a adewsid i'r diben hwnnw. A dyna draethawd o fwynhad oedd yn Uygaid ami i hwrdd a mamogwrth rwbio'u gyddfau ol a blaen ar hyd y polyn. Gwna'n fawr o'th bleser byr, ddafaden fwyn, ebwn innau dros y clawdd, "canysbyehan wyddosl; mai cyllell y cigydd fydd yn lladd dy gosi di a'th oenig rai o'r dyddiau nesaf yma." Ond y CAvbl a ddarfu hi oedd mynd ymlaen i bori mor ddiddig am ei bod hi mor ddi-ddallt. Cerdded drwy Holt nos cyrraodd yr afon Dyfrdwy sefyll ar ganol y bont, lie y mae Cymru a Lloegr yn cusanu'i gilydd sefyll ag un goes yn sir Dlinbych, y Hall yn Sir Gaer a'r goes oodd yng Nghymru i'w theimlo mor gynnes rhagor y Hall oedd yn Lloegr. Hen frwydrau Cymry a Saeson yn cynniwair f 1 lluniau byw y naill ar ol Y Hall drwy fy meddwl; a minnau fel pe bawn yn gweld gwaed fy henafiaid yn cochi'r cerrig oedd dan fy nhraed, ac a daerwn fy mod yn clywed ubain car a gelyn wrth foddi yn yr afon islaw. Y mae'r dynion ddau tu'r bont yn eithaf hoddychol a'i gilydd heddyw, ond y frwydr rhwng iaith y ddwy genedl yn cael ei hymladd o hyd, a'r ijen Gymraeg wedi colli ei threnche8 ar y gwastadedd yma, ond wedi castellu'n ddiogel ddisytl tu ol i gaerau mynyddoedd Cyrn y Brain a'r Berwyn, draw acw. I tt tt tt I Star!\d a ft f'huQQt Cerdded ymlaen i Sir Gaer nes dod i olwg Beeston Castle, a godwyd ar glogwyn rhwng Caer a Crewe i geisio atal yr hen Gymry rhag rhuthro fel dywalgwn dros wastadedd Lloegr. Yna troi'n ol dros y bont, & chychwyn cordded am Fangor is y Coed, lie lladdwyd y myneich mor greulon gan Edward y laf, os gwir y stori. Pasio buarth ffarm, lle'r oedd haid o foch yn turio a mwynhau'r A domen dail, Ac ebwn innau gan siarad a. fi f'hun Yr ydych yn llewcian peth aflan ac atgas yr olwg ond na hidiweh, y mae gan Natur rhyw fferylliaeth "gyfrin ac anffaeledig sy'n troi'r cwbl yn gigfwyd a chynhaliaeth fiasus i filoedd. Gwnewch chwithau'n fawr o'ch tamaid,canys fe ddaw yna ddyn at eich cut toe; a chan weiddi Gis Gis I" eich pratio a chosi'ch clustiau mor garuaidd fel tae, er mWyn iddo eich twyllo i ddod yn ddigon agos ato iddo blannu ei dwea at y earn yn eich gyddfau, i mi a'm bath gael brecwest. Ac erbyn meddwl, y mae yna fferylliaeth arall ac uwch drwy'r Cread yma i gyd sy'n medru troi afiendid moesol y byd yn ogoniant a harddweh, or mor aflan yr edrych y domen a minnau sy'n ymdreiglo yn ei chanol heddyw. Pasio tafarn yr Hand and Heart. "Hand and Heart," wir Hand and Heart-Breaker, yn hytrach, canys pa sawl llaw a barlyswyd a pha sawl calon a dorrwyd gan dy ddiodydd ? Ac ni fu erioed gywirach enw na'r Bitter Ales sydd ar dy ffenestri—cwpan chwerwder a oholledigaeth i filiynnau'r byd. Wedyn, pasio perllan ar ol perllan a'u blagur yn addewid am doreth o ffrwythau'r ardd, maes o law a cbofio galw'r Seiat yn Berllan y Brenin un tro, set wrth feddwl amda,ni pan fo'r saint i gyd yn berffaith. Yr oedd yr haul bellach yn dechreu mynd dros ei geyrydd. Trowyd o ffordd Fangor is y coed cyn cyrraedd yno, a chyflymwyd am Wrecsam rhag i gyrten y nos ddisgyn dros ffenestri'r gorwel. Pasiais bias bragwr ar y chwith ond er lleied fy inwthyn, y mae'n fil esmwythach i fyw ynddo nag mewn plasty gorwych a godwyd ag arian a gwaed eneidiau ar bob sofren ohonynt. Cyrhaeddwyd y Gwynfryn, a theuliwyd y noson o hynny i'r gwely yn gwrando Robert Jones, un o ferthyron galluog Streic Chwarel y Penrhyn, yn mynd dros y stiwardiaeth Seis- nig a'r sectyddiaeth Gymreig a barodd gy maint dioddef a cham yn yr helynt cas hwnnw. ..L- .L .L.L i 4   + 4- ++ ++Ddydd Gwener HudoUaeth yr Amwythig. Hanner awr wedi un yr oodd y Gynhadledd i fod yn yr Amwythig heddyw, ond anelwyd yno erbyn un ar ddeg, er mwyn cael dwyawr neu dair o wybeta o gwmpas ei heolydd, a sbio ar ei hadeiladau swynol a hynafol yr olwg. Y mae'r afon Hafren yn wledd ynddi ei hun, wrth lifo heibio mor urddasol a hamddenol; a Rhagluniaeth wedi ei gosod fel gwregys am wddf y dref. Dacw hen enw Cymraeg y dref i'w weld ar adeilad y Clwb Cychu-Pengwern Boating Club. Un o blant yr Amwythig oedd Charles Darwin a dyma ddelw bronze fawr ohono ar fuarth y Musoum wrth fvnd o'r orsaf i fyny'r allt i ganol y dref. Y mae dan ei gnu o eira, heddyw'r bore, ac yn ganmil gwynnach nag y gwelais ei baentio gan ambell efengyl- ydd, selog dros ei shiboleth diw inyddol. Mor swil a distaw y buasai pe 'r gwyddon mawr yno'n gwrando'r ceiliog yn ei Coward's Castle. Dacw Shrewsbury Grammar School yr ochr arall i'r aton. ac ar un o'r llecynau glasaf a harddaf'yn y deyrnas. Ynddihi y dysgwyd Cyrnol Fred Burnaby, awdur y Ride to Khiva, a laddwyd ym mrwydr Abukla,' yr Aifft- a'r F.B." wedi ei gerfio gan ei gyllell efe i hun ar y ddesc lie y dysgai, ac yn cael ei gadw yn gysegredig iawn. tt it it TT ,T Pllcio'i flew o'r boil. Pwy welwn yn gyntaf un ar Pride Hill ond Mr. R. Vaughan Jones, cynrychiolydd Cym- deithas Genedlaethol Lerpwl i'r Gynhadledd. Rhoswch funud," ebwn, "gael imi gael Guide to Shrewsbury yn y siop yma." Wrth aros iddynt chwilio am gopi, dyma foneddiges i fewn, a'r siopwr a hithau'n troi i soa am y rhyfel. Ac ebe fo, yn debyg i hyn :— Do you know, I was in Wales the other day, and heard how much against the war the people are. One old woman prayed in the prayer meeting thanking the Lord she had a son who would not join the Army." Ac ebe hithau, my lady, a swn surni holl- wybodol yn ei llais :— Yes and the preachers in Wales are like the priests in Ireland they have the people in the hollow of their hands, and preach against the war." Cododd fy ngwrychyn Cymreig ac er nad oedd a wnolo fi ddim a'r un o'r ddau na'u hymgom, bytheiriais dros y siop yn debyg i hyn :—■ Excuse me, but you are 1 alking with great contempt and cocksureduess about a country of which you are profoundly ignorant whose language and spirit you do not understand, and at which you look through spectacles coloured with pre. judice and scorn. You simply hear these tales and fictions at second-hand. The fact is, Wales has contributed more men to the Army, in proportion to her population, than you and your boasted England. Have some regard to the truth of what you say before uttering it so glibly." Swiliodd y gwr yn bur swat a tbrodd i siarad yn fwyn a melfedaidd am y Cymry ond yn rhy hwyr, 'y ngwas i, ebwn innau a chan beri iddo lanhau ei spectol, neidiais o'r siop, tynnais y drws yn glep ar f'ol ac a'i gad- ewais yn sbio'n bur hurt oblegid cael plicio blew ei gern o'r b6n mor chwyrn a diddisgwyl. it tt 11 I Acèldama; Mwythig. Ffwrdd a Vaughan ionez a finnau wedyn o gwmpas y dref buom yn sbio'n hir ar y t £ lie y dywedir ar ei dalcen ddarfod i'r Cymro Harri Tudur-y Brenin Harri'r VIIfed ar ol hynny—gysgu noson ar ei fiordd i ymladd Brwydr Maes Bosworth drannoeth, lie Bu galed y bygylu A'r hyrddio dewr, o'r ddau du. Ar ben Pride Rill, ar betryal y pedair croes. ffordd, y mae Aceldama'r Mwythig, sef y lie y dienyddid ac y torfynyglid bradwyr a gwrthryfelwyr yn y dyddiau gynt a phan welais yr ysgrif a ganlyn ar dalcen y dafarn sy bella(!i ar un o gonglau'r sgwar, fe sefais yn hir yn y fan er mwyn ceisio dirnad yr olwg oedd ar Dafydd, frawd ein Llyw Olaf Near this spot, David III, Prince of Weles, was executed 3rd October, 1283- He was tried for high treason by the Parlia. ment which met at Shrewsbury 30th Sept., 1283, and was sentenced to be hanged, drawn, beheaded, and quartered. This was the first Parliament in which the Com- mons were represented. London and twenty other cities and boroughs, including Shrewsbury, each returned itwo burgesses. Ac o fewn y ddwylath i'r man, dyma. ysgrif arall fel hyn :— Near this place, at the junction of these three streets, was the High Cross taken down in 1687. Here the Earl of Worcester, Sir Richard Venables, and Sir Richard Vernon were executed on Monday, 23rd July, 1403. After the battle of Shrewsbury (fought on the 21st), and the dead body of Herry Percy (Hotspur) was here placed between two mill stones and afterwards beheaded and quartered. Melys fuasai cael galw i weld ami i neuadd a chrair arall mewn tref sydd mor Uawn o hanes yr ymafiyd codwm hir agwaedlydafurhwng Cymru a Lloegr ond yr oedd bellach yn bryd cael tamaid a llymaid cyn anelu i'r Gynhadl- edd yn y Shire Hall. Ceir trem ar honno mewn colofn arall. Cafodd y Merlyn wahodd- iad cynnes i bori deunydd copi yng Nghaer- sws, dan nenbren Dr. Rees (Ap Gwyddon) a'i briod. Rhowch y tecell ar y tan, Awen Mona. Caed seiat for hefyd & Dr. Wynn Griffith, Pwllheli, iachawr fy nghorffyn a maddeuwr fy miliau, bendith arno. Gwelais Llifon yn ei khaki caplanaidd; ac a ddywedai fod y Praff. W. Lewis, Jones, M.A., y Parch. R. H. Watkins, Dinorwig, ac yntau wedi trefnu cyhoeddi detholiad o weitbiau'i frawd yn gyfrol goffa am yr Alafon hawddgar a glan ei feddyliau. < +? tt tt ++ Dydd Sadwrn. I Cyn troi adref. Galw i weld bedd Morgan Llwyd o Wynedd ym mynwent Rhos Ddu, a chael eithaf trefn arro, ond y dylesid fod rheiliau o'i gwmpas i gadw traed yr anystyriol rhag mathru llwch Cyfriniwr MawT y Cymry. Hwyrach y cymer yr Efail hJ-n mewn Haw; hWJT yw "gwir Gymry Gwrecsam ond drwg gennyf fod dau o'i gofaint llengar—Mr. Thos. Roberts, M.A., a Mr. Arllwyd Jones, B.A., yr Ysgol Sir wedi ymuno a'r Fyddin. Cofied y ddau anfon gair o'u profiad i'r BRYTHON. Fe gadwaf golofn o le i chwi, bob un. Diolch i Mr. John Harrison, Coed poeth, am ei lythyr oedd yn ystabl Lerpwl pan ddychwelais. Fe ddeuaf i Nant y Ffrith gyda hyn, i weld Parlwr y Cread, a'r ceunant coed iog sydd tano. Cewcb air cyn hynny. Bum yn chwilio am Yr Hutyn ymhob man, Bef y paragraffydd deheig a phert sy'n hel Clep y Clawdd yn becyn mor dwt a blasus bob wythnos ond methu'n lan a tharo arno. Gresyn, canys mawr hoffaswn gael gweld ao ymgomio a'r Sandde Bryd Angel hwnnw. Disgwyliaf ei gyfarfod pan ddeuaf i Fwlch Gwyn a Nant y Ffridd. I Llygad y Waivr J.H.J.

I I i0 Big y -?Lleifiad.