Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Sn SMad! ym Mansainjon.

IDwyowf o anghofio'f bvA

Advertising

,Gorea Gympo, yp an Oddiea?'tre

News
Cite
Share

Gorea Gympo, yp an Oddiea?'tre S'7, HELENS JUNCTION,: Priodas Aur.- Digwyddiad pur anghyffredin yn hanes y priodedig" yw cae! byw i ddathlu amod y fodrwy ym mhen yr banner can mlynedd end dyma fu yn hanes par yn St. Helens Junction, Mr. David a Mrs. Catherine Jones, 1 14, Peckers Hill Road. Nid bodlpn gan eu p!ant ydoedd i'r garreg nlltir hon ym mywyd eu rhieni gaci ei phasio heb ei gwisgo ag arbenigrwydd mwy na chyfPredin. Felly, penderfynwyd gwahodd eyn- ryehioiaeth gref o Gymry'r eyich I gyd-Iawenhau a dath!u'r amgyichiad a gw!edd<, a sain can a molia&t. Nos fau, Chwef. 24, cyfarfu tua banner cant o wahodd' edigion yn un o ystafeUoedd y Co-Operative Stores, St. Helens, a'r ystafel! wedi ei gwisgo a'i dillad goreu, a'i byrddau yn llwythog o drugareddau. Llywyddwyd gan y Parch. J. Peron Jones. Atgof- iodd ef rai SeitMau diddorot: -mai haaau o arda! ramantus yn agos i Gohwy yr oedd arwr ac arwres y noson honno eu bod wedi treulio y rhan fwyaf o'u bywyd priodasol yn ac o gwmpas eu cartref presennol yn St. Helena Junction. Bu Mr. David Jones yn dal perthynas a gtofeydd y cylch am ftynyddoedd lawer. Magwyd ganddynt deu!u lliosog—pump o feibion a, dwy ferch: y cwbl yn fyw oddigerth y mab hynaf, yr hwn a fu farw yn agos i ugain mlynedd yn oh Trig y ferch hynaf yn yr Unol Daleithiau, a'r mab ieuengaf Samuel, a ddeil swydd o gyfrifoideb dan pvmni mawr yn Buenos Ayres. Y mae David Jones wedi Henwi y swydd o aaenor a thrysorydd eglwys M.C. St. Helens Junction am dros ugain mlynedd, a'i dy a'i deulu wedi bod yn gartref caredig i'r achos. DHynwyd ag anerchiadau dawnus ac effeithiol gan Mri. Thomas Roberts, Huyton; David Hughcs, St. Helens; Jacob Jones, Southport; David Roberts, Clock Face; Wm. Hughes, St. Helens; Owen Roberts Peter Griffiths; John Morgan, Sutton, Rhwngyrhaihyn cafwyd adroddiadau da gan Miss Bessie Williams a Mr. John Edwards a hefyd wasanaeth y cantorion godidog Miss Canie Richards, Mr. Willie Hughes, Mr. a Mrs. Penrhyn Hughes, a Mr. Arthur WIIson.; bysedd cain Mrs. Wilson wrth y berdoneg. Pasioddy cwmni: Ein bod yn agor Try so rf a Anrhegu i gyf- Iwyno ar lyrder rhyw arwydd gweledig t'r ddeuddyn hyn i gofio am eu priodas aur." Yr ysgrifennydd yw Mr. Edwin Edwards, 306 Robins Lane a'r trysorydd Mr. John Edwards, 17 Junction Lane, Sutton a derbynnir unrhyw rodd gan y naill neu y Hall. Hwyr- ddydd goleu a digwmw! i'r par. E-.ISTF,,DD-FOD WIDNES.-Cynhaliwyd unfed Eisteddfod ar hugain Widnes yn y Borough Rink, ddydd lau diweddaf. Er gwaethaf y rhvfet, caed nifer da o gystadleuwyr. Hywyddion prynhawn, Mr. S. G. Owens; hwyr, y Maer (Cyng. J. Hedley). Arweinyddion: prynhawn, y Parch. Emam Evans hwyr, y Parch. W. Roberts, Rootle. Budd- ugwyr :—Canu'r berdoneg, dan 12 Annie Cook, Widnes. Her-unawd, dan t6: Miss Maggie Jones, BIrkenhead. Canu'r crwth, dan 14: Miss E. Cooper, Widnes. Unawd contralto, There's Rosemary. Miss A. Joynson, Widnes. Canu'r piano, 12 I !6 Miss Millie Harper, Widnes. Adrodd, !X i 16, Men of England: Miss Mabel Masaen, Bootle. Unawd soprano, When Birds go South Miss M. Jones, BIrkenhead. Cor Plant, Merry Playtime, Hail: Ysgdl Simms Cross, Widnes (arweinydd, Miss Thom- as). Crotchet Petticoat: Miss Thomas, Widnes. Adrodd, droa 16, Cardinal Wolsey's Speecbto CroM- well Mr. J. Stokes, Widnes. Corau Ysgol (am yr ?,7o l (am yr her-darian, Night has passed away:: Wesley Church, Widnes (arweinydd, Mr. Barber). Can ystum, dan 14: Ysgol Simms Cross (Miss M. Knowles). Unawd tenor, APuilano Love Song Mr. John Lindop, Lerpwl. Deuawd (T.B.), The Call to 4rms: V. Waiker a J. Dunlop, lerpwi. Tea 6&sy M<M Peattie, Widnes. Her-unawd: Miss Jenny Arm- strongy Warrington. Wythawd, (? God, we bat,e heard with our ears Parti Mr. Hugh HoweU, Gars ton. Tea Cloth: Miss Salt, Widnes. Unawd baritone, Just like the rose Mr. T. Pennihgton, St. Helens. Cushion Cover: Mrs. Royle, Widnes. Cor Cynu)t- eidfa, <? where shall rest be found: Wesley Church, Widnes (Mr. J. W. Barker). FARNWORTII, GER BOLTON.-Cynhaliwyd Social nos Sadwrn ddiweddaf, a drefnwyd' yn bennaf gan Misses Annie Jones (Barnes) ac Ethel Parry. Liywyddwyd gan Mr. T. Parry, yn absenoldeb Mr.Wm Thomas. Cafwyd adroddiadau, caneuon, sketch ddoniol, a Iluniaeth rhagorol yn ystod y cyfarfod. Cymrwyd rhan gan Janie Roberts, Gwyneth WH)- iams, Blodwen Williams, Edith George, BIodwen a Myfanwy Parry, Mr. E. LIndtey. Daeth Uond yr ysgoldy ynghyd, a diolchwyd i bawb gan Mri. R. Humphreys ac E. Williams. ASH'TON-IN-lIIAKERF1ELIJ: Te a Chyngerdd.1 —Cafodd eglwys M.C. Carmel gyrddau ardderchog ddydd Sadwrn, Chwefrol 26. Yn y prynhawn, eis- teddodd tua dau gant wrth y byrddau huliedig o bob danteithion, wedi eu darpar gan Lis bwyllgor o'r Pwy!!gor Adeiladu; a'r hwyr cafwyd cyngerdd Cymreig o radd uche!, dan tywyddiaeth y Cymro twymgalon Mr. Wm. Morris. Cymrwyd rhan mewn adrodd gan Masters Glyn Jones a W. H. Morris, a Mr. J. H. Jones mewn dadleu gan Mri. Oi H. Jones, W. J. Lloyd a J. H. Jones mewn canu gan Miss J. E. Jones, Sutton Miss Katie Jones, Miss M. E. Thomas, Y Milwr Williams (o Bare Garswood), Mri. John Lloyd a Thudor T. Jones. Canwyd gyda'r tannau gan Mr. W. J. Hoyd, a chafodd y fath cymeradwyaeth nes ei orfodi i ddod yn 01 bob tro; deSBodd yr ysbryd Cymreig yn mam angerddo! dros y Je. CyleilMl Mr. Arthur Jones, a diolchodd Mr. Peter Thomas a Mrs. GJaslyn Jones i bawb, yn arbennig i Mr. a Mrs. Roger Jones, am eu haeifrydedd, ac i'r canwr pen- hiHion. Da gennym ddeall i'r anturiaeth h&n droi yn Hwyddtant mawr. Mac clod yn ddytedus i'r trysor- ydd a'r ysgrifennydd gweithgar, Mrs. Roger Jones a Mr. D. C. Roberts. Yr elw i gronia y cape! newydd bwriadedig, pan el y rhyfet heibio-Colli Mom yn Israel Brawychwyd y drenan hon fore Saboth gan y newydd trist am farwolaeth Mrs. Margaret Roberts, tf)2 Bolton Road, a ddigwyddodd mewn modd hynod o sydyn. Er yn wan ei hiechyd ers biynyddoedd, yr oedd wedi codi bore Saboth ac wedi mwynhau ei thamaid fel arfer, a phawbyn brysur yn y ty,yn hwyHo i'r capel, pryd y disgynnodd ar ei hochr o'i chadair ger y tan, a bu farw yn y fan. Genedigol o Fostyn ydoedd, ac yn 64 mlwydd oed. Y mae Iddi bedwar mab ac un lerch i alaru am un oedd yn wir fam yn Israel. Y cwbt wedi tyfu I fyny, ac yn addum i'r hen chwaer hoffus. Dau ohonynt yn enwog fel cantorion yn y parthau hyn William yn arweinydd y gan yn Hermon (W.), a Peter yn arweinydd y gan yn Carmel (M.C.), Me hefyd yr oedd y fam yn aelod ffyddlon a gweithgar ar hyd y btynyddoedd. Cteddir ddydd lau, Mawrth 2. Y mae cydymdeimlad dyfnaf Cymry Ashton a'r plant yn eu profedigaeth chwerw. WARRINGTON.-Chwefrol 21, cafwyd darlith ddiddorol iawn gan Mr. R. Roberts, Earlestown, ar Rat o Ddiwygwyr Cymru, yn bennaf am yr enwog John Jones, Talysarn, a rhai o gymeriadau gloywon Dolyddelen. Cyfarfod gwir dda, ac ysbryd y Peth byw" i'w deimlo yn nerthol iawn yn y cwrdd. Diotchwyd yn gynnes iawn i Mr. Roberts.—.R..R.

t O'r Hen Sir, sef Sir Foa

Advertising