Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

DAU T U'R AFON.I

Clep y Clawdd,I sef Clawdd…

I .■— iHeddyw'r Bore

News
Cite
Share

■— Heddyw'r Bore 0 DRE AMBROSE LLOYD.—A ni ar fin mynd i'r wasg, dyma bwt pendant oddi wrth awdurdodau Neuadd Dre'r Wyddgrm i ddweyd y bydd yno beth grasol a diddorot iawn yn digwydd yn Ystafell y Cyngor hwnnw ddydd Mawrth nesaf, y 29ain, am saith ar gloch y nos, sef hyn Y mae yno painting hardd o'r diweddar John Ambrose Lloyd wedt ei gwblhau ac ynghrog dan lian main ar bared yr ystafell a dydd Mawrth, daw ei fab, Mr, C. F. Lloyd, Mus.Bac., Newcastle -on -Tyne, yno i'w estyn yn rhad-rodd i'r dre drosto ef a gweddill teulu'r oerddor. Dadorchuddir y painting gan ei briod, Mrs. C. F. Lloyd llywyddir gan Mr. Oscar Jones, cadeirydd v Cyngor a bydd y cyfarfod yn un cyhoeddus a gwahoddiad i bawb ddod yno i weld wyneb mwyn y cerddor hyglod a roes tre'r Wyddgrug i Gymru. AMHEUTHUN BBENEZER, ARPON. —Nos Sadwrn, Chwefror 19, yng nghapel Ebenezer, perfformiwyd oantawd dlos Dafydi y Bugail-lanc (G. F. Root) gan gor o gant, dan arweiniad medrus Mr.W.R.Lewis; a cherddor- fa dan arweiniad Mr. Tom Lewis, Bootle, ym cynorthwyo. Datganwyd yr unawdau ac yn y blaen gan Miss Annie Lewis, Annie Roberts, Katie Williams, Mri. Rd. Thomas, R. M. Rowlands, y Preifat Evan Jones, Joseph Lewis, a'r arweinydd. Gwasanaethwyd wrth y berdoneg gan Miss Mem Roberts, ac wrth yr harmonium gan Mr. H. Moses Jones. Per- fformiad rhagorol yn mhob ystyr. Ariander yn llywyddu, a'r gweinidog, y Parch. J. Morgans, yn arwain. POBL GYPRIPOL.-Darllenai Mr. E. Madoc Jones, M.A., prifathro Ysgol Ramadeg Beaumaris, bapur ar School Trigonometry ym Mathematical Association Gogledd Cymru. a gyfarfu ym Mangor, dan lywyddiaeth y Profit, G. B. Matthews, F.R.S. Bu trafodaeth ar ol y papur, Mr. S. J. Evans, M.A., Llangefni, ac eraill, yn cymryd rhan. Nid rhyw lawer o anian sydd yn y Cymry at ei gilydd at y mathematics y maent fel Daniel Owen, yr Wyddgrug, a ddywedai pan aeth i Goleg y Bala nad oedd ef ddim yn greadur cyfrifol. + A TEB WCH P W Y.-Nowydd i gynulleid fa Bresbyteraidd Croesoswallt droi adref o'r moddion nos Sul ddiweddaf, gan adael dyrn- aid ar ol mewn cwrdd gweddi, dyma dalp o garreg, dunelli o bwysau, yn disgyn o ran ucha'r adeilad ar drothwy'r capel, gan beri dychryn enbyd, ond heb anafu neb o dru- garedd. Pe digwyddasai ddeng munud yng nghynt, tebyg y lladdesid amryw. Pwy a'i cadwodd rhag disgyn yng nghynt ? + RHYL EI HAUL A'I TH 11 WOD.- Y mae Mr. J. D. Polkinghorne,dys dweyd tywydd Cyngor y Rhyl, wedi ystadegu vr hin, gan ddargosynei adroddiad y cafwyd 1,645 o oriau heulog y llynedd-mwy o 23 awr nag yn 1914, sef pedair awr a hanner o haul ar gyfer pob dydd. Ond barn a rheg y Rhyl ydyw'r tomennydd tywod a helir o hyd gan Morus y Gwynt, nes ei fod yn costio o bedwar i bum cant o bunnau'r flwyddyn am ei rawio i ffwrdd, a storm arall yn ei awio'n ei ol ar 01 I yr holl draul a'r drafferth.