Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

DAU T U'R AFON.I

Clep y Clawdd,I sef Clawdd…

News
Cite
Share

Clep y Clawdd, I sef Clawdd Offai I [GAN YR HUTYN.] I Y SOTEN.-Dywedodd cadeirydd i Lys Trwydded y Fall ym Mhenarlag fod oynnydd mewn diota ymhlith y gwragedd. Cyng- horai bob tafarnwr i'w hysgymuno o'r tai, hyd yn oed pan n87 byddynt dan effeithiau y diodydd meddwol, oblegid, meddai, gwell eu cefn na'u gwydd, a'u lie na'u pres. Rhaid fod rhai gwragedd wedi disgyn yn isel i'w gwneud yn annheilwng o le yn nhy y diafl. Dylasai hvn sobri y Gwr Drwg ei hun. FFERU'R FFAU.Geilw Cwrdd Chwar- ter Annibynwyr Dinbych a Fflint ar y Liquor Control Board i dynnu'r llyffetheiriau yn dynnach am fferau'r ffau. Tynnach, tyna- nach! meddent. Llew rhoibus yw'r ddiod gadarn, ac nid diogel neb tra hwn yn rhydd. Tynnach, medd y wlad. DARLITHIA U'R CLAWDD yr wythnos cynt Cwmni'r Pererinion, gan Mr. W. Caen- og Jones Cymru a'i Chestyll, y Parch. Meir. ion Jones, yng Nghoed Poeth; Melltith Prydain, y Parch. D. Ward Williams, yng Ngwrecsam Francis Thompson, y Parch. E. Howell, B.A., yng Ngwrecsam. COLLI'I G YMAR.—Dyma groesffawd Mr. T. P. Griffiths, Penffordd, tir oruchwvliwr y sir. Dangoswyd cydymdeimlad cyffredinol ag o. Daeth tyrfa i'r cynhebrwng. Caed oedfa gladdu yn y capel (Seion), Hope, y Par elm. O. Lloyd, T. M. Jones (Gwenallt); J. J. Morgan, yr Wyddgtug, yn cymryd rhan. Mae alaeth y plant a'r tad yn ddwfn. BRIW TALITIRN.-Collodd y Parch. Talwrn Jones, Brymbo, ei briod hoff a hynaws yn ddisyfyd. Annwyl oedcl. 0 glais trwm! Hebryngwyd ei gwaddillion pridd i'w genedig- ol fro, M6n. Yr oedd Mon yn sanctaidd le i Talm rn cynt, ond yn awr mwy sanctaidd fydd. Pwysa ar dy Dduw, Tal. annwyl, a'th anwyl- iaid pur. Pwy gydvmdeimla fel Efe ? SYCIIEDU AM SABOTH.-O syched bendigedig S a hwnnw mewn lie rhyfedd. Ond felly yr oedd tafarnwr ar ymyl y Clawdd yma, yn llys Rhiwabon y dydd o'r blaen Mynnai gau ar y Sul er mwyn cael Saboth. Ddiotwyr ffol, pam na sychedwch chwithau ? Mae gan yfwr enaid cydwerth a thafarnwr. Myn tafarnwr gael un dydd o saith. Arnoch chwi y mae'r bai na fuasai'n cael saith. Os ceuwch chwi, fe geua pawb. Er hynny, clod i'r Kyffin am gofio'i enaid ei hun. Mi synnwn i ddim na ddaw o isefyll uwch ben eneidiau eraill maes o law. Ni fydd dyn sydd wedi dechreu meddwl am a gweld gwerth ei enaid fawr o dro tucefn i fwrdd y brag. UFFERN GW REG SAM.—Felly yr oedd pennawd yn eich rhifyn diweddaf, Mr. Gol., yn gosod allan gyflwr diodlyd y dref uchod. Cant namyn dwy o wragedd mewn un tafarn- dy yn ystod awr o amser a hynny o dan lygad ae o fewn gwyl y llys. Tystiolaeth y lIys yw. Ond beth am y nifer yn holl dafarndai y dref ? Nid rhyfedd i'r BRYTHON ddweyd Uffern Gwrecsam." Erchyll sen 0 dref, mathrer dy drwyth. PRIS Y GLO YN CODI.-Pwy brisiar diemwnt du ? Pris chwys, pris lludded, a phria gwaed y w. Collodd mwnwr mentrus 0 Goed Poeth eifywyd yng nglofa yr Gat-Owen pa ddydd. Disgynnodd y to yn ddiarwybod arno. Lladdwyd ef mewn amrantiad. Mae'r digwyddiadau hyn yn newid lliw y glo. Yr oedd y trancedig, Arthur Abram, yn 155 mlwydd oed. PWYLLGOR ADDYSG AC ADDYSG Y PWYLLG0R.—Voh\ryfedd, medd y Glep> sydd ar bwyllgorau addysg. Cyfnewidiol ynt. Dadwneir heddyw a wnaed ddoe, and vice versa, chwedl y Sais. Buont â'u holl egni yn lluosogi ysgolion yn ddiweddar. Dywed- ant yn awr fod angen llai, a gwneud un yn lie dwy, oherwydd fod gormod ohonynt. Mae'r athrawon hefyd wedi cynhyddu mewn rhif: rhaid cael llai, meddir, yn awr, gan roi gweli cyflog i'r rhelyw. Mae diffyg yr ysgolion yn codi oddiar ddiffyg y pwyllgor. Sef yw hyn ny, diffyg addysg. Y ffordd rataf ag ysgolion a'r ffordd ragoraf ag addysg ydyw cael dyaion a wyddant, dynion o addysg ac o tarn ar y pwvllgorau. ÕOGIO OOGINIO-Mae Clep y Clawdd yn rhemp ar yr economical cookery sydd yn cael cryn lawer o sylw'r ardaloedd hyn y dyddiau rhain neu fel y geilw'r Glep hi, y comical cookery. Un rhyfedd yw'r Glep am weld athroniaeth peth. Dywedir gan rai, a hynny'n bur seriws, os daw y math yma ar goginio i aros ym Maelor y bydd yma fwy o laddedigion lawer nag yn Fflanders na'r Dar. danels. Gwarchod pawb Credir gan rai taw y Kaiser sydd wedi dyfeisio y War Cookery, ac mai dan ei dal ef y mae'r pwyllgor. Hwyrach y cred mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol i orchfygu Prydain. Ni synnwn i ddim nad yw ef yn agos i'w le. Dyma'r raid fwyaf effeithiol ohonynt i gyd. Ddynion, byddwn ar ein gwyliadwriaeth Y FASNACH FEDD WOL.—Bu dadl frwd yn y Rhos pa un ai mantais ynteuan- fantais fai diddymu'r Fasnach Feddwol, ac a ydyw'r amserau yn gofyn am hynny. Car. iwyd gyda mwyafrif mai diddymu y fasnach raid. Well done, hogia'r Rhos Yn awr, wedi penderfynu hyn, rhowch eich hysgwydd yn y peth, ac allan a'r Fasnach. Tipyn o ysgwydd sydd eisiau yr ydym wedi cael digon o Glep. Cofiwch mai ffydd heb weith- redoedd, marw yw. CYNGRAIR RHYDDFRYDWYR Y RHOS.—Caed y cyfarfod blynyddol. Dal ei thir y mae Rhyddfrydiaeth yma. Gwna'r Cyngrair hwn les i'r lie, helpia i gynhilo. a cheidw'r bobi ieuainc o leoedd drwg. Dym a,' r League fwyaf llewychus ar ei bath yn ddiau yng Nghymru. Ei llywydd yw E. T. John, Ysw., A.S., Mae iddo bwyllgor cryf. Rhag- orol, boys. Y PULPUD A'R FAINC.-YN llys trwyddedol Rhiwabon, bu'r pulpud o flaen ei well yr wythnos ddiweddaf ond rhyfedd iawn, yr oedd "tro ar bethau. Yr oedd yno g*yn yn erbyn y fainc, ae yr oedd y pul- pud yn ei dwyn i gyfrif, yn neilltuol y cadeir- ydd, sef ei fod wedi addo ac heb gyflawni, Dyma un o arwyddion yr amserau, set yr eglwys yn uchaf lys ac yn gofyn i'r llys gwlad- ol roddi cyfrif o 'i oruchwyliaeth. Mae'r wlad yn dechreu gweld fod y gallu gan yr eglwys, ac nid oes dim ond eisiau ei arfer gyda doeth- ineb. Da ywnad yw'r gothwrs wed! ynn-estru. Mae eu heisiau yma i gadw llygad ar y gelyn mwyaf, sef yw hwnnw, nid Wilhelm, ond Alcohol. YN DYWYLL AR GREFYDD.—Gorch- mynnir tywyllu capelau yn gynnar yn awr y nos. Bu'n dywyll iawn ar grefydd tua'r Clawdd yma am flynyddau lawer. ond dis- gynnodd Goleuni Oddiuchod. Dyma dywyll- wcheto. Beth ddywedwn am hwn ? Wel, fe syrth yr addoldai i farn a'r cynllun, ond beth am y chwaraedai, y darlundai, a'r tafamdai t Ofnir y bydd y tywyllu cynnar yn gwneud hafog nid byehan ar bregeth ami i hirddawn, Bydd hyn yn help i gael y doniau byrion I TEWI HENGENNAD Y CLA WDD.- Bu farw'r Parch. O. B. Jones, F.R.G.S. (M.C.), Claddwyd ei weddillion yn Hanley ddydd Gwener diweddaf. Cyflawnodd ddiwrnod da o waith caled ar y Goror yma. Bugeiliodd dair neu bedair o eglwysi yn ardal Gwreceam, Gwr heddychlon, yn hoff o'i lyfrgell, oedd. Anrhydeddwyd ef gan y Geographical Soe iety, a dylasai fod wedi cael anrhydedd fawr gan ei en wad. Tawel hún ARWR Y GOGLEDDFOR: Charles Gerald Taylor, M.V.O., R.N.—Cafwyd gwas- anaeth gwir eithriadol a diddorol dros ben yn Rhiwabon yr wythnos ddiweddaf, sef dad- orchuddio coflech yn yr Ysgol Ramadeg i goffadwriaeth y diweddar C. G. Taylor, R.N., a gyfarfu a'i angau ar fwrdd H.M.S. Tiger yn ymgyrch fythgofiadwy y Gogleddfor, lonawr 24, 1915. Cyfiawnwyd y ddefod ar ran y Morlys gan y Capt. Greatorex, C.B., M.V.O., dvdd Mercher diweddaf. Yr oedd llawer iawn o drigolion yr ardal ynghyda dieithriad o wahanol fannau yn bresennol. Heblaw'r cadeirydd, A. E. Evans, Ysw., Y.H., Bronwylfa, yr oedd yn bresennol hefyd Svr Watkin W. Wynn, Bar Maer a Maeres Gwrecsam J. R. Roberts, M.A., prifathro'r Ysgol; W. G. Dodd, Ysw., Llangollen; yr Henadur Christmas Jones, a'r Cownselor R. A. Jones, yr hwn hefyd a gychwynnodd y mudiad ac a daflodd ei holl frwdfrydedd iddo, Darllenodd Mr. R. A. Jones lythyrau diddorol iawn oddiwrth Argl. Fisher, Winston Church- ill, ac eraill, yn datgan eu hedmygedd o'r dewrddyn, gan fawr gymeradwyo yr hyn a wneid er coffa amdano. Gosodwyd y goflech hon gan ei hen gyd-ysgolheigion. fel arwydd o'u hedmygedd ohono a'u serch tuag ato. Wedyn, cafwyd anerchiad byw gan Syr Watcyn, Mr. Roberts (yr ysgolfeistr presennol), yr Henadur Christ- mas Jones, a'r cyfreithiwr LI. Kenriok. Cynhygiwyd y diolch gwresocaf i'r llywydd a'r dadorchuddiwr gan Mr. W. G. Dodd, ac i Mr. R. A. Jones am ei holl ymdrech a'i ynni gyda'r gwaith hwn.

I .■— iHeddyw'r Bore