Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

' / ..; '■ . .III Drwodd a…

Ghwith Atgof am Alafon.I

News
Cite
Share

Ghwith Atgof am Alafon. I I Cyfaill pur a dyn diogof. I I- 4 r » GLYWSOCH chi am farwolaeth Alafon ? oedd y gair cyntaf a sibrydwyd yn fy nghlust ar ddechreu'r seiat y nos o 'r blaen. Tarawyd fi a syndod mawr. Euthum yn fud, ac nid agorais fy ngenau. Am funud neu ddau, nis gwyddwn yn iawn ymlile'r oeddwn, ai yn y corff, ynteu allan ohono. Dychmygwn fy mod yn rhywrle dieithr, pell, yn chwilio am yr ysbryd pur oedd newydd adael ei babell fregus, a chymryd ei adgn gref o Wyndre Abergele, i Wynfa Duw/ Pan ddychwelais o'r tir breuddwydiol hwnnw, yr hyn a ddy- munaswn uwchlaw popeth fuasai cael mynd yn ol i'r ty, i feddwl ac i wylo. Haws oedd meddwl na siarad, a haws wylo na'r ddau. Y geiriau a ddaeth i fy meddwl ar y pryd, ac sydd yn arog eto, oodd adnod Dafydd am Jonathan, pan gwympodd y gwr ieuanc, ardderchog hwnnw ar fynyddoedd Gilboa. "Gofid sydd arnaf amdanat ti, fy mrawd cu iawn fuost gennyf fi." Yr oedd i Alafon lawer o gyfeillion. Dyna ddarllenir yn y newyddiaduron, a dyna'r dystiolaeth glywir ar bob Ilaw ac yn hyn, yr oedd yn eithriad yn ei oes. Ychydig ydyw'r dynion y mae iddynt lawer o gyfeillion ond yr oedd gan Alafon lu mawr ohonynt credai pob un o'r rheiny mai efe oedd eu cyfaill goreu ar y ddaear, ac yr oeddynt yn credu'n iawn. Cefais innau'r fraint o fod yn un o'i gyfeillion, annheilwng mae'n wir, eto un ohonynt ac yn y cymeriad hwnnw yr ysgrifennir y geiriau hyn. Nid wyf yn son nemor amdano heddy w fel progethwr, lienor, a bardd, llawer llai ceisio penderfynu ei safle yn y cylchoedd anrhydeddus hyn da N hamdden eto i sylwi arno yn amrywiol weddau ei fywyd defnydd- iol a hardd. Nid yr hanesydd, na'r beirniad, sy'n ysgrifennu heddyw, ond cyfaill, yn. traethu ychydig o'i atgofion am gyfaill, a gymrwyd oddiarro yn llawer rhy fuan. Yn lied ddiweddar y deuthum i gydnabyddiaeth bresonol ag Alafon gwyddwn amdano ers blynyddoedd fel lienor a bardd, ac edmygwn ef yn fawr, yn arbennig ar gyfrif glendid a choethter ei waith. Ond ni wyddwn i ddim am y dyn ei hun, ond yn unig i'r graddau yr oedd ei farddoniaeth yn ei ddatguddio. Tua phedair blynedd i rwan, ysgrifennodd ataf ynglyn a mater neilltuol; cychwynnodd hynny ohebiaet-h rhyngom, ac euthom yn gyfeillion mynwesol, er heb weled wynebau ein gilydd oddigerth unwaith erioed. Yn fuan wedyn, trefnodd Rhagluniaeth i mi ddod i fyw am y bryn ag ef, a bwriwyd ni gryn lawer i gymdeithas ein gilydd yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Bum gydag ef gartref, ac oddicartref c lywais ei ochenaid leddf, a'i chwerthiniad iach gwyddwn am ei groesau a'i obeithion gwelais ef i lawr yn y cysgodion prudd, ac i fyny ar y mynydd- oedd, yn y wawr a'r awelon. Erbyn hyn, yr oeddwn yn ei adnabod yn weddol drwyadl, nid am fod vtnrhyw graffter yn perthyn i mi yn y fford(I honno, ond am ei fod ef mor Iftn, mor bur, mor dryloyw. Mae ambell gyfaill y rhaid ei wylio'n barhaus yr ydych yn teimlo fod yn ei natur ryw gilfachau cudd, a chonglau tywyll, a cheunenfcydd dyfnion, vn cymell ysbrydion malais a bradwriaethj i gartrefu yno, nes yr ydych yn arswydo rhag mynd i mewn iddynt..Ond am Alafon, yr oodd y ewbl yn y golwg nid oedd yno ystafelloedd cloedig, nac ogofeydd peryglus yr oedd ei holl natur yn agored ger ein bron, a phelydrau gwirionedd yn ei goleuo i'w chyrrau pellaf. Yr oedd Alafon yn weithiwr diwyd a chyson gweithiai bob dydd a thrwy 'r dydd, agweith- iai ymhell i'r hwyr. Efallai iddo wneud niwed i'w iechyd drwy hynny, yr un fath, ysywaeth, a llawer un arall. Nid wyf fi erioed wedi fy argyhoeddi o'r fantais o weithio hyd yr "oriau man mae'r golled gryn lawer yn fwy na'r ennill. Os am gorff iach a meddwl clir, dylai pob dyn fod yn ei wely awr neu ddwy cyn hanner nos,' ac allan ohono drachefn yn lied fuan wedi'r glasiad. Amser gorffwys y(tyw'i- nos gorffwys mae natur yn y nos a chan fod dyn yn rhan o natur, nis gall droseddu yn ei herbyn hi hob dorri deddfau ei fywyd ei hun, ac y mae torri'r rheiny yn meddwl cosb Gweithiai Alafon yn hwyr meithriniodd yr arferiad honno pan yn ieuane ac fel pob arfer ddrwg, hi drodd arno yn y man, ac a'i llywodraethai a gwialen haearn. Heblaw hynny, yr oodd yn caru ei waith yn fawr iawn. Ni welais i neb erioed mor angorddol hoff o'i waith ac yr wyf braidd yn sicr mai unig ffynhonnell ei lawen- ydd yn y cyfnod y cefais i y fraint o'i adnabod oedd ei waith a'i Waredwr. Ei fyfyrgell yn yr Ysgoldy oedd y man goreu ganddo ar wynob y ddaear yroedd meddyliau mwya'r oesoedd yn y cyfrolau heirdd ar estyll honno, ac ym- gollai yntau mewn cymundeb dwfn a hwy, yn nistawrwydd ei ystafell, a Thim y gath yn gorwedd yn ddioglyd yn ymyl ei draod. AfAe'n. sicr na fu dau erioed mor annhebyg i'w gilydd ag Alafon a Thim, na dau erioed yn fwy hoff o'r naill y Hall. Gweithiai Alafon yn ddiorffwys o fore hyd nos, ac ni chymrai hamdden i ddim ond gyda'i brydiau bwyd ond ni wnai Tim yr un ffrwythad ond lladrata a chysgu. Gwalch direidus oedd Tim, a chwaraeai rai triciau, hyd yn oed a'i feistr caredig, oedd yn ymylu ar ddiffyg egwyddor, a dweyd y goreu amdanynt. Pan ddoi'r cinio i'r bwrdd, a digwydd o'i berchennog droi ei gefn, ond odid na byddai rhyw gyfran o'r arlwy ar goll erbyn y dychwelai. Mawr fyddai'r miri am beth amser yr awyr yn 11awn cyffro, a phopeth yn arwyddo dinistr a chelanedd ond terfynai'r storm mewn goll. yngdod i Tim, a maddeuant llawn a rhad, ar yr amod nad oedd beiddgarwch o'r fath ddim i ddigwydd mwy. Bum heibio'r Ysgoldy y dydd o'r blaen, ac un o'r pethau a'm cyffyrdd- odd fwyaf oedd yr olwg hiraethus ar Tim. Neidiodd ar fy nglin, ac odrychodd ym myw fy llygaid, fol pe'n gofyn a fedrwn i roi rhyw oleuni iddo ar ddirgelwch ymadawiad ei feistr hoff. Druan o Tim Yr oodd Bodfan yn holi amdano yn y Cymro. Gwybydded y gwr dawnus fod Tim ar dir y byw hyd yma, ond ni synnwn i ddim llawer gly wed y nowydd ei fod wedi marw o dor calon, a hynny'n fuan. Dweyd yr oeddwn fod Alafon yn caru ei waith, ac felly yr oedd ac eto, nid oedd yn ddarllenwr mawr, both byimag yn oi flynydd- oedd diweddaf. Fe ddywododd rhywun fod dyn yn peidio a darllen o ddifrif ar ol pasio deugain oed efallai fod rhywbeth yn hynny, ond nid yw'n wir eyffrodinol. Nid oodd Alafon yn peidio a darllen am ei fod wedi colli yr archwaoth at hynny, ond am fod ganddo gymaint o waith arall i'w wneud, a chymaint o'i galon yntau ynddo. Ysgrifennai lawer iawn yr oedd yr ias wallgof wedi ei chau o fewn ei esgyrn. Blinai yn ymatal, ac nis gallai beidio. Yr oedd yn lienor o anian a greddf a gwnaeth ei ran yn ffyddlon i gyf- oethogi llenyddiaeth ei wlad am flynyddoedd maith. Efe oedd un o'r beirdd cyntaf wyf yn gofio yn ?T?so? y P??<. Edrych??? ymlaen yn eiddgar am y Dy?o?/ct fach bob mis, a'r ddau both cyntaf i sylwi arnynt fyddai'r lluniau a'r farddoniaeth. Fel rheol, ceid tri neu bed war o ddarnau barddonol, a dwy neu dair o gathod ymhob rhifyn, a byddai'r gystadleuaeth yn dyn iawn ambell dro, prun ai'r cathod ynteu'r farddoniaeth gai'r lie blaenaf. Ond byddai gweld anw Alafon yn setlo'r pwnc ar unwaith. Yr hyn a'm swynai i yn ei farddoniaeth y pryd hwnnw oedd yr ergyd o gynghanedd oodd ynddi; ac yr wyf yn meddwl i hyn lynu wrtho i'r diwedd. Gwirionai ar gynghanedd a phan gymbellai'r foneddiges brydferth honno ei hunan arno, rbis gallai ei gwrthod. Gelwir y gynghanedd yn fesur caeth ac etc, nid y mesur oedd yn gaeth i Alafon, ond efe oedd yn gaeth i'r mesur. Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau, yn arbennig i'r Geninen. Gwaith prudd-felys fuasai olrhain oi ysgrifau yn y cyhoeddiad cenedlaethol hwnnw, o'igyphwyn hyd yn awr gwnaothent gyfrol werthfawr iawn. Ysgrifonnai yn rhwydd a naturiol, e, byddai graen dda ar oi waith, ond dim llawer o addurn yr oedd ymhell oddiwrth fod yn stylist llonyddol. Buaswn i yn disgwyl tipyn ychwaneg o hynny ynddo nid oedd dim neilltuol yn ei arddull, ond yn unig ei bod yn lan a dianaf ac wedi'r cwbl, beth mwy na hynny sydd eisiau. Ysgrifennodd golofn "Lien a Chan" i'r BHYTHON am gyfnod maith, ac yr oedd honno yn un o'r pothau goreu yn y papur rhagorol hwn. Ond prif hyfrydnveli Alafon oodd barddon. i barddonai am fod barddoniaeth ynddo. Gall y rhan fwyaf ohonom beidio a, barddoni, os na bydd rhyw obaith am wobr o rywlo ond canai Alafon heb ddisgwyl gwobr yn wir, ei wobr of oedd ei gan ei hun. Enillodd wobrau mawr, a chollodd wo bran inwy ond er coUi'r wobr, fe gadwodd ei gan. Dechreu- odd ganu'n fore, a daliodd ati hyd yr hwyr. Un o'r pethau diweddaf a wnaeth oodd tri neu bedwar o emynau i lyfr tonau newydd Mr. Haydn Jones, y Seneddwr cerddgar o Dowyn Meirionydd. Gwelais y copi gwreidd iol, ac y maent yn dda odiaetlv caiff saint y dyfodol flas a bendith wrth eu canu. Ni chanodd ond yohydig ar ochr ddigrif bywyd credaf y dylasai wneud, oblegid yr oedd y dawn ganddo. Medrai Alafon ganu'n ddigrif urddasol. Buasai tipyn mwy o bothau fel Modryb Sian ynUes iddo ef ei hun, ac yn addysg i eraill. Gwnaeth lawer iawn o fedd- argraffiadau. Mae ugomiau 'o'i englynion wedi eu hargraffu a phin o haearn ar gerrig oer mynwentydd ein gwlad. Safai Mr. Puleston Jones a minnau ar lan ei fedd pan ollyngid oi arch i ddaear Brynrodyn, a beth welwn ar garreg fedd rhyw wraig dduwiol, yn ein hymyl, ond englyn o waith Alafon. EfaUai na chyfansoddodd yr un bardd yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf fwy o englynion nag of ond rhag i neb feddwl mai bardd yr englyn ydoedd, ac hob fod yn fawr ddim arall, mae'n rhydd i mi ddweyd iddo adael ar ei 01 swm mawr o farddoniaeth, yn awdlau cain a phryddestau gwych, rai ohon- ynt ynfil o linellau yr un. le, bardd oedd Alafon. Nid wyf fi yn mynd i geisio pender- fynu heddyw ymhle y safai ymhlith beirdd oi genedl fe wneir hynny gan wyr cymwysach na mi ar wahan i hynny, fe'i gosodir yn ei le gan amser yn araf deg, a thebyg y bydd ein dilyn wyr ymhen can mlynedd yn gwybod ei safle gryn lawer yn well na ni. Gellid dweyd llawer amdano fel pregethwr, ond nid oes hamdden i hynny heddyw. Hyn sydd sicr yr oedd yn anhraethol well pregethwr nag y tybid yn gyffredin ei fod. Dywedodd un o'r siaradwyr ddydd ei gynhebrwng iddo gadw allan o'r pulpud rai o'i ddoniau disgleiriaf diau fod hynny'n wir, ond llawn mor wir a hynny oedd yr hyn a ddywedwyd gan un arall, sef nachafodd Alafon ei werthfawrogi fel pregethwr i'r graddau y dylaasi, o lawer iawn. Mae rhinweddau ami ei fywyd glan wedi cael lie mawr yn y papurau yn barod, fel mai afraid i mi ydyw ailadrodd yr hyn sydd wedi ei ddweyd mor dda oisoes. Gwr Duw oedd Alafon. Bu fyw yn dawel, heb utganu o'i flaen, na galw sylw ato'i hun mewn un modd, a threiddiodd ei ddylanwad drwy y gymdogaeth, ond ni wyddai neb mor fawr oedd y dylanwad hwnnw, ties y cymrwyd ef i ogoniant. Mae'r bwlch yn llydan, a'r galar ar ei ol yn fawr. Mae'n bryd i mi sychu f'ysgrifell, a chychwyn i'm eyhoeddiad. Cwsg, fy nghyfaill Alafon melys fo'dy hun. Cymysgais fy nagrau a'r dorf fawr wrth orch- wyn dy orweddfan, ond disgwyliaf dy gwrdd- yd eto ryw fore gwyn, yn hardd dy wedd, a'th gan yn felysach nag erioed. R.H.W.

Advertising