Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

YSlAFELL Y BEIRDD J

Advertising

Basgedaid o'r Wlad. -1

IMILWYR A MORWYR I -CYMRU.-I

News
Cite
Share

I MILWYR A MORWYR I CYMRU. I Cymry Ame, ica ar Cynllun Cenedlaethol. Cenadwri rat y Cadfridog Owen I Thomas. DDYDD Sadwrn, cafodd y Cadfridog Owen Thomas y llythyr canlynol gyda'r cable oddi wrth Gymry America o berthynas i'r Cynllun Cenedlaethol i ddiogelu buddiannau milwyr a morwyr Cymru :— At y Cadfridog Owen Thomas, Llywydd Byddin Cymru, Pare Kinmel, Gogledd Cymru. ANNWYL GADFRIDOG THOMAS,—Dymuna Cymry Chicago, gan fynegi teimlad cannoedd o filoedd o'u hiliogaeth yn yr Unol Daleithiau, roddi croeso cynnes i'ch Cynllun Cenedlaethol er diogelu buddiannau milwyr a morwyr Cj m ru a'u teuluoedd dros adeg y rhyfel ac ar ol hynny. Llongyfarchwn chwi ar ddyfeisio cynllun sydd mor wladgar a dyngar, a'r hwn, yn ei amcan cyffredinol yn ogystal agyn ei fanylion neilltuol, sydd yn corffori y goreu a'r uchaf yng nghenedlaetholdeb y Cymry. Dangosodd Cymry'r America eisoes, drwy gyfraniadau gwirfoddol a sylweddol at Drys- orfa Angen y Rhyfel yng Nghymru, ac mewn dulliau eraill, eu bod yn gwerthfawrogi yr aberthau mawr a wnaeth Cymru ar ran dynol iaeth yn gyffredinol. Yn y ffeith fod 200,000 o arwyr Cymru wedi cynnyg eu gwas- anaeth i'w gwlad er amddiffyn hawliau a rhyddid dyn yn yr argyfwng hwn a ddaeth ar y byd, gwelant fod Cymru heddyw yn parhau i fyrovesu y cariad hwnnw at ryddid a roddodd fod i'r Unol Daleithiau, ac sydd, er toriad cyntaf gwawr hanes, wedi hynodi Hil Gomer mewn modd arbennig. Amlygwyd y nod- wedd genedlaethol hon yn ymdrechion Cymru am annibyriiaeth yn y Canol Oesoedd, yn ogystal ag yng nghyhoeddiad Annibyniaeth yr America, gweithred a arwyddwyd gan gynifer o Gymry enwog, enwau ac actau y rhai a anrhydeddir hyd heddyw gan y byd gwar- eiddiedig. Mae gofynion amhleidgarwch cen edlaothol o angenrheidrwydd yn gwahardd i'n dynion ieujiinc yn y wlad hon gynnyg ou gwas- anaeth i chwi drwy ymuno a byddin odidog Cymru, yr hyn y byddai miloedd lawer o Gymry ieuainc yr America yn falch ogael gwneud. Ond nid yw, ac nis gall, gofynion amhleidgarwch wahardd i ni amlygu'r balch- ter cenedlaethol sydd yn cynhesu ein calon- nau, yn bersonol ac yn gymdeithasol, wrth ganfod yr ateb goddiog a roddodd bechgyn o'r un gwaed a ni yn Hen Wlad ein Tadau i alwad angen ein gwlad. Cas gwr na charo'r wlad a'i maco." Celtic hearts can never fail When Cambria calls To Arms Nis gall unrhyw ystyriaethau cyd-genedl- aethol ychwaith ein hatal rhag gwerthfawrogi ac amlygu ein hedmygedd uchel o'r Cynllun cenedlaethol a gwladgar mawr a osodwyd ar droed gennych chwi er budd a lies y rhai hyn- ny o'n cyd-genedl ar dir a mor sy'n cadw i fyny mewn modd mor odidog heddyw draddod- iadau goreu gorffennol ein cenedl. Nis galIwn ond gofidio fod ehangder Môry Werydd yn ein rhwystro i ddanfon, fel y dymtinasem, gynrychiolwyr i'ch cynhadledd genedlaethol, a hawlio lie i Gymry'r America ar eich pwyll- gor cenedlaethol. Os caniata'r amgylchiadau i chwi ddanfon dirprwyaeth o'ch pwyllgor cenedlaethol i'r Cyfandir hwn, gallwn eich sicrhau y cant dderbyniad croesawus a chynnes, acy ca eu hapel wrandawiad llawn o gydymdeimlad gan ddisgynyddion American- aidd yr hiliogaeth wareiddiedig hynaf yn y byd. Yn yr hyder cryf y bydd i'r Cymry ym mhedwar ban y byd gadarnhau'r syniadau a amlygir gennym uchod, ac y bydd i Dywysog- aeth Cymru yn arbennig, yn ei gwerin a'i bonedd, roddi i'ch mudiad ardderchog y der- byniad calonnog a'r gefnogaeth sylweddol a haedda, ac am yr hwn y gweddiwn.—Wyf, yr eiddoch yn wladgar, DAVID T. HARRIES. Llywydd Gymdeithas Cymry Chicago. 635 So. Elmwood Avenue, Oak Park, Chicago, Ill. 19 Chwef. 1916.

Advertising