Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

YSlAFELL Y BEIRDD J

News
Cite
Share

YSlAFELL Y BEIRDD J ayahrrchion gogyfer a'r golofn hon i'w oyf- eirw:PBDROG, 217 Piesoot Road. Liverpool Y Llong Danforol.-Y cyrch yn wallus. Edith Cavell.-Din-i ond y cyrch yn gwb ddidramgwydd o ran cynghanedd yn yr eng- lyn cyntaf a dim ond y llinell olaf yn yr ail- yn wir, gwall yw honno hefyd. Er Cof.-Rhy gyffredin o lawer, yn enwedig am wrthrych mor deilwng. Beth allsai fod yn fwy ystrydebol na hyn,- Heddyw cawn ar glawr y BRYTHON Hanes un nodedig iawn ? Y Gyllell Wair.-A. chyffelyb yw hwn,- A wnewch chwi, Mr. Vulcan, Roi min i'r gyllell hon, Fel gallwyf ladd pob German Sydd ar y ddaear gron ? Na. nid y N blinds Ystafell y Beirdd i lawr hyd yn hyn, ond yn y nos ac mae eu cael i lawr yn gweddu'n burion i ambell rigwm ddaw i fewn yma—heblaw'r rhigymau o'm gwaith i fy hun. Ple mae'r Caiser ?—Wn i ddim, wir, ac ni wyddoch chwithau chwaith. Pe cyhoeddid yr englynion hyn, ac iddo ddeall beth sydd ynddynt, ofnaf y buasai yntau yn ceisio'r bardd. Er fod yr englynion yn gynghanedd- ol, yn sicr ddigon maent yn rhy reglyd-rheg., feydd noethlymun sydd yma a rhaid inni beidio a dysgu plant Y BRYTHON i regi Y Pafod.-Rhyfedd i chwi wneuthur gwall mewn englyn sydd, ar wahan i hynny, yn rhagoro], a gwall mor hawdd i'w osgoi,- Ufuddaf was yw'r tafod. Paham na ddywedasoch Ufudd was yw y tafod ? CYMERADWY.-Mae nerthoedd y mynydd- oedd mawr, Y Rhyfel Presennol, Ap Qwyddon, Newid Fywyd, Syr Robert Peel, Cwyn Coll am E.M., Y Gannwyll, Yr Angor, Y Lwy Bren, Yr Hen Dderwcn, Llygad y Dydd, Y Tafod (wedi tynnu'r ddafaden wyllt honno ymaith), Ymson fy Mam, Ar Briodas Cyfaill, D. Lloyd George. Ac mae yma bentwr arall yn disgwyl eu nithio. I'M "CYD-FILWR" MOELWYN I MILWR," erioed, yw Moelwyn,-tynnu mellt O'i wn mawr Wna gelyn Deil bob herr a dewrder dyn,- Arwr iawnder, er undyn.-PEDROG. YRIODAS AP GWYDDON AG AWEN MONA. ANNWYL Ap, pwy a'i trapiodd ? sut y bu ? Ei ddenu oedd anodd Awen Mona yma wenodd, Ac elai i'r fagl o'i wir fodd. Y RHYFEL PRESENNOL. DYFERYN wedi ei fwrw—i'r llawr O'r Llyn o Dan hwnnw Mae'r Dwyrain firainyn ferw-weithion, A nifer y meirwon yn F6r Marw. J. J. TY'NYBBAICH. COFIO AR DDYDD CYFYNG CoFIR aelwydydd cyfain,—yng nghyfyng Ofid dydd wylofain Duw ry awel i druain, Ysig dront ymysg y drain. I oror wyw'r goreu'r ros,—o'i Wynfa, Enfyn Ef i aros Mewn eigion mae yn agos, A thraidd ei nerth wraidd y nos. Amledd o falm i wylaidd fod *a ddaw, Ar ddydd o ymosod 1, Heb ei hurio ca barod ■ Adnoddau Duw iddo'n dod Trwy y storm sy'n ein tristau,-rhydd lor Ei dda drugareddau Mae'i law o hyd yn amlhau Diddanwch ei rad ddoniau. Y dagrau sy'n gwau'n y gwynt,—i nef lor, Diferion o emrynt Tanbaid drueiniaid ar hynt, Diolchiadau'i lwch ydynt Penmachno R. LLOYD JONES EIN CARTREF GYNT. Y BWTH sy'ng ngodreu'r mynydd mawr A edrych tros y fro, A changau'r onn yn cwympo i lawr I orffwys ar ei do, A'r graig tu cefn yn siomi'r gwynt Ein cartref dedwydd ddyddiau gynt. 0 flaen ei ddrws mor brid yr ardd Fel Eden yn y coed, Ond trwy ei glaswellt iraidd, hardd, Ni cherddodd sarff erioed A thros ei llwybrau'r llawrwydd gwyrdd A blyg mewn boneddigaidd urdd. Cterllaw mae llyn, sydd lyfn a glain, Ac o'i gylch goedydd ir, A'r haul bob bore gwymp y rhain I'w ddyfroedd gloew, clir A phistyll bach yn murmur cerdd 0 flaen ei ddrws, is ywen werdd. Ni chawn o fewn y lannerch ddawn Celfyddyd yn ei bri, Ond yno anian bur a gawn Yn ei swyn pennaf hi; Per sain y ffrwd, a swn y gwynt, Y swyn ein Cartref ddyddiau gynt. Fy chwaer, a gawn ni fynd yn ol I'r hen baradwys dlos, Pan ddaw yr haf ali fill i'r ddol, A'i lygad dydd a'i ros ? Mae yno rywun, vv-yddost ti, A'i groesaw'n dda'n ein disgwyl Ni. jDolgellau EDNANT I

Advertising

Basgedaid o'r Wlad. -1

IMILWYR A MORWYR I -CYMRU.-I

Advertising