Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Ein Cpnedl ym Manceinion.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Ein Cpnedl ym Manceinion. i EBRILL. 15- CymanÎA' r:O 0 heith luoedd Cenhaden y Sul Nesaf. Y METRODISTIAID CALFINAIDD Moss SIDE—10.30 a 6.30, S T Hughes. Caergybi PENDLETOX—10.30, T R Jones, Caerwvs 6 It Williams HEYWOOD STREET-IO.SO, R Williams, 6 E W Roberta VICTORIA PK—10.30 E W Roberta 6 1 R Jones -T.MoEr-lo.so a 6 W AMU not ON"—10.30 a 6, FARNWORTH-IO-Wa 6 J S Roberts EARLESTOWN-I0,45 a 5^0, ASHTON-USBER-LV.NE—10.45 a 6.30. • EOLWTS UNDEBOL EOOLES-ll aj[6.30, YR ANNIBYHWYR OHOHLTOS RD-10.30 a 6.15, BOOTH ST—10.30 J Morris 6.15. M Llewelyn QUEEN'S ROAD-10,30 a 6.15 Cyfarfod Gweddi LD DUNCAN ST, SALFOBD-10.30 M Llewelyn 6.15 J Morris HouairwooB—10.30 a 6.15 Y WESLEAID DKWI SANT—10.30 J Felix 6, Efrydydd, HOREB-IO.80 G Tibbott, 6, J M Williams SEION-10.30 Efrydydd 6 D R. Rogers BETTLAH—2.30 J M Williams, 6 J T Ellis CAIFARIA—10.30, T Hefln Evans. 6. J Felix VVEASTK—-10.30, D. R. Rogers 6.30, G Tibbott Y BEDYDDWYR UP. MEDLOCK ST.—10.30 a 6, J H Hughes LoNGSIGHT-IO.30 a 6.30, Pregeth RoDmIs LANE, SUTTON-IO.30 a 5.30 MORGAN JOHN RHYS.-Caed agos i ddwyawr o ddarlith gan y Parch. T. Shank- land, Bangor, yng nghyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol nos Wener. Er meithed yr amser nid oedd ef na'r gynulleidfa wedi blino. a mynegodd na thraethodd yr hanner o'r hanes oedd ganddo. am Morgan John Rhys, yr hwn, er iddo farw yn 44 oed, a adawodd y fath gynhyscaeth o hanes, trwy ei wladgarwch a'i lafur, fel na allai'r darlithydd roddi ond crynhodeb byr gerbron. Diau y bydd yr hyn a draethwyd yn foddion i beri inni astudio a oharu mwy ar enwogion y dyddiau gynt. Hawdd gweld fod Mr. Shankland wedi gwneud hynny, oherwydd rhoddodd fraslun newydd iawn o ddigwyddiadau pwysig a phrif wron. iaid y 18fed ganrif. Dyn y ganrif honno oedd Morgan John Rhys fe'iganed Rhag. 8, 1760, a bu farw Rhag. 7, 1844. Yfodd Morgan John Rhys y dylanwadau deffroawl, ac y mae y gwaith enfawr a rhyfeddol a wnaeth trwy anawsterau mawr yma, ac yn yr America, bron yn anhygoel, a'r eyfan oherwydd ei gariad angerddol at ei genedl a'i wlad. Mae'r ddarlith hon gan Mr. Shankland yn un y dylai pob rhan o Gymru eichlywed, a c yn sicrmae ynddi fywyd a'n gwna yn well Cymry, ac yn falchach o'n cenedl. Cadeirydd y noson oedd Mr. E. D. Evans, a diolchwyd gan y Mri. John Jones (Cynwyd) a Rd. Williams, Pendleton. DWYREINIAETH Y BEIBL.-Darlith ddifyr ac addysgiadol iawn gafwyd nos Sad- wrn yng nghapel Chorlton Road gan y Parch. Keinion Thomas, ar Yr Aifft a'r Ysgrythyrau. Gwisgwyd nifer o bersonau yn y wisg frodorol, a chanasant amryw weithiau. Eglurodd Mr. Thomas lawer o'r arferion dwyreiniol wyneb yn wyneb ag adnodau, nes oedd pob gair yn cyfleu rhyw oleuni newydd a mwy naturiol nag a feddyliodd neb o'r blaen. Hawdd gweld mai trwy astudio bywyd y dwyrain y datguddia'r Hen Lyfr i ni ei gyfrin- achau prydferthaf. Daeth cynulleidfa luosog ynghyd. Y oadeirydd oedd y Parch. Wm. Thomas, gweinidog un o eglwysi'r Annibyn- wyr Seisnig. Diolchodd am y cyfle i gael siarad iaith ei fam, ac i wneud rhywbeth i'w gydgenedl. Llefarodd y Parch. M. Llewelyn hefyd eiriau pert iawn ar y diwedd. Cafodd plant Gobeithlu Moss Side fynediad rhad i'r ddarlith, trwy ymdrech Mr. T. Williams, Roberts Avenue.-efe wedi dylanwadu ar lu o garedigion y plant i dalu drostynt. Rhodd. odd Mr. Williams hefyd lyfryn bach o hanes yr Aifft i bob plentyn oedd yn y ddarlith. Yni- ddangosent wrth eu bodd, a dyna dal da a gafodd am ofalu amdanynt. HAD HOLLINWOOD.-Nos Sadwrn, Chwefrol 12, bu cyfarfod diddorolac adeiladol iawn gan yr Annibynwyr yn Hollinwood, dan iywyddiaeth Mr. Lewis Thomas. Y plant a'r bobl ieuainc oedd yn cymryd rhan yn y gweithrediadau, gyda ohynhorthwy rhai hyn. Cy stadleuwy d mewn can u ac adrodd. Rhodd wyd gwobrau gan Mr. John Evans am bapurau ar Hanes Iesu Grist i rai dan 12 oed ac ar Fyglys i rai dan 16. Caed 11awer o ymgeiswyr a mawr ganmolwyd eu gwaith. Gall yr eglwys ieuanc ymffrostio yn y talentau sydd ynddi. Y Saboth dilynol, rhoed deheulaw eymdeithas i ddeg o bobl ieuainc yn ymrestru dan faner yr Iesu yn yr eglwys uchod. Golygfa ddymunol iawn ydoedd. Y Parch. John Morris, Salford, a wasanaethai. Blin gennym hysbysu fod un o aelodau hynaf a ffyddlonaf yr eglwys yn Hollinwood, sef y brawd W. Wyn Hughes, wedi cwrdd a. damwain. Pan yn croesi.r heol yn y tywyll- wch, ar y noson y tybiwyd fod awyrlongau'r Germaniaid uwchben y dref, aeth cerbyd drosto, ac a'i hanafodd yn dost. Mae'n gwella yn dda, ac eiddunwn iddo adferiad buan. OYLOR MOSS SIDE.-Dau ysgrifen- nydd y Cylch, Moss Side, yr hwn ofala am y milwyr ieuainc, yw Mri. T. Williams ac Ed. Evans; acanfonasantdrosy Cylchi bob un o'r eglwys a ymrestrodd lyfr y Gymanfa Ganu, a llythyr oalonogol, ynghyda chrynhodeb o bregeth y Parch. W. G. Williams, Cwmyglo, ym Moss Side, ar Math. v, 16. Anfonodd y Cylch Destament llogell hefyd i'r milwyr ieuainc na dderbyniodd un o'r blaen. Mae nifer y rhai a ymrestrodd o'r eglwys erbyn hyn oddeutu hanner cant. Cedwir gohebiaeth gyson a phob un, ac y mae yn ddiddanwch a chefnogaeth a brisir yn fawr ganddynt. Trist iawn mynegi fod un-y cyntaf-—o fechgyn eglwys Moss Side wedi cwympo yn y gad yn Ffrainc, sef y Preifat Huw Parry, King's Liverpool. Mab oedd i Mr. a Mrs. E. Parry, Bodathro, Aberffraw, Mon. Ei dad yn brif- athro ysgol Aberffraw, ac yn fiaenor gyda'r Methodistiaid yno. Mae priod Mr. J. Hughes, blaenor yn eglwys Moss Side, yn llinach y berthynas. Yr oedd Dafydd Rolant, Bala, yn hen daid i'r milwr ieuanc. Yr oedd Huw yn ddyn ieuanc siriol a diwyd, ac yn un a fawr hoffid, ac yn meddu dawn a gallu neilltuol. Cerflunydd ydoedd, a chanddo lygad i weled natur yn ei phrydferthwch, a llaw gelfydd i linellu ei feddwl yn dlws a chanfyddadwy bawb arall. Mae'r llythyrau diddorol o faes y rhyfel yn dangos yn amlwg ei fod yn meddu synnwyr cylfredin anghyffredin. Ym- hyfrydai yn derbyn Uythyrau o'r Cylch, ac oddiwrth gyfeillion a pherthynasau. Trallod mawr i'r cwbl yw'r newydd am ei farw cynnar, oddeutu 28 oed. Yr oedd yn aelod yn eglwys Webster Road, Lerpwl, cyn dod yma. Ym- ddengys iddo gael ei niweidio yn ddifrifol, ac ebai'r weinyddes amdano He passed away quietly and did not suffer. He will be buried here in a little cemetery on the side of a hill." Y Cylch crwn a fylchwyd-y blaenffrwyth oedd Huw, A'n lleddfwaedd hirAethus sy'n esgyn at Dduw. Er cwympo yn aberth, cynhydda ei glod, Mae dydd y dialedd i'r gelyn yn dod. Er cymaint yw'r syched am waed sydd mor ddrud Er rhuad taranau'r gyflafan trwy'r byd, Mae angel tangnefedd yn gwylio'r pryd hyn Yn rhywle yn Ffrainc," y bedd ar y bryn ———.—

I Ffetan y Gol. I

Caffaeliad Earlsfield Road.

Advertising