Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Ein Cpnedl ym Manceinion.

I Ffetan y Gol. I

Caffaeliad Earlsfield Road.

News
Cite
Share

Caffaeliad Earlsfield Road. Y Parch.Thomas Michael-, I B.A.BD Ei dras a'i yrfa addysg. II I IE, dyma wedd wyneb bugail newydd eglwys y I Bedyddwyr Cymraeg sy'n addoli yn eu teml yn Earlsfield Road, sef hen ddiadell gant oed Windsor Street gynt, sydd wedi gwladychu mown ardal newydd a chynhyddol ar gyrrion y ddinas, lie y mae iddi argoel am dwf a llewych da yn y dyfodol. Y mae'r adeilad newydd yn un swynol ei olwg a hwylus oi ystafelloedd ceir yno ganu cynulleidfaol da, lie y mae asbri eirias yr anian Gymreig yn cael ei ffrwyno a'i lyfnu a gwybodaeth a chelf- yddyd, dan arweiniad Mr. J. T. Jones, pen- naeth C6r y Cymric a choir yno swyddogion a phraidd awyddus i wneud eu heithaf i gael yr hen borfa i ail lasu dan dywyniad yr Ysbryd Glan drwy ddawn ac ymroddiad y bugail newydd sydd a cherrig milltir ei yrfa fel y canlyn :— Brodor o Gilgerran, Sir Benfro, a pheth o waed Thomas John, yn ei wythiennau, gan ei fod yn wyr i chwaor yr efengylydd anfarwol hwnnw, na fu ei dan- beidiach na sobrach rhybuddiwr rhag y Hid a fydd erioed mewn pulpud. Wyth mlynedd yn ol, aeth Mr. Michael i Ysgol Ragbaratoawl Caerfyrddin matriculatiodd ymhen y ddwy flynedd, gan gael mynedfa i Athrofa'r Bed- yddwyr yng Nghaerdydd. Graddiodd yn B.A. ymhen y tair blynedd ac ymhen tair blynedd arall, dan arweiniad y Prifathro Edwards, aeth drwy borth cyfyng y B.D. Ei Ordeinio. I Pregethoddy Prifathro W. Edwards, D.D., Caerdydd, nos Sadwrn, a'r Parch. J. Thomas. Cilgerran, fore a nos Sul; ac yn y prynhawn, am 2.30, cynhaliwyd y Cwrdd Ordeinio y Parch. D. Powell yn llywyddu. yn 11e'r Parch. Joseph Davies, Birkenhead, oedd yn wael ei iechyd y Parch. Myles Griffiths yn dech- reu drwy ddarllen a gweddio Mr. W. B. Jones yn rhoddi hanes yr alwad y gweinidog newydd yn arddel ei gyffes, gan dalu teyrnged dlos a diolchgar i'w rieni a'r cyff ysbrydol y deilliodd ohono ac y cafodd feithriniad mor ddwfn-grefyddol ganddynt; ac yn datgan y sicrwydd a deimlai ynddo'i hun iddo glywed llais ei Dad Nefol yn ei alw i'r weinidogaeth ac i'w gorlan gyntaf fel bugail. Ac ebe fo wrth ddibennu ei gyffes wylaidd Un efengyl, un bregeth, sydd gennyf, sef Iesu a Hwnnw wedi ei groeshoelio. Dowch yma am byth, ac nid i aros I Ile gwell. Wedi i'r Parch. P. Williams (Pedr Hir) weddio ar ran yr eglwys a'i dewisol, caed Cyngor campus i'r bugail ieuanc gan y Prif- athro Edwards, yr hwn a dystiai i Mr. Michael dreulio chwe blynedd yn y Coleg iddo basio'i arholiadau oaledion y naill ar ol y Hall; ond ei fod yn rhy wylaidd a gostyngedig i ddywed- yd yr un gair am y gorchestion hynny wrth eu hannerch y prynhawn hwnnw. Diolchai Dr. Edwards am lane fel Thomas Michael, ac am y teuluoedd duwiol sy'n meithrin y per- arogl sy'n codi bechgyn o'r fath i'w rhoddi'n rhoddion i'r eglwys. Trugaredd Duw a'i galwasai ef i'r weinidogaeth, er mwyn iddo, ef alw eraill. Cofied gyswynair fy nghyfaill Gipsy Smith I was saved to save. Beth fydd dedwyddwch pennaf y Nefoedd ? Ein bod ni'n achubedig ? Nage, ddim, ond y bydd yno rywun a achubwyd drwy'n hymdrechion ni, a gallu dywedyd, fel y wraig honno a alluogwyd i ddywedyd am ei thylwyth achub- edig, ffrwyth ei chroth hi ei hun Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi." Eich cymhwyster pennaf i bregethu'r Iechydwriaeth yw teim- lo'ch angen chwi eich hun ohoni. Y mae hi'n ddigon syml y gall plentyn ei deall ar un Ilaw ac yn ddwfn anhytraidd ar y tu arall. Y mae ei gwirionedd yn un fel y m6r ond mor amrywiol ei ffurfiau a'i gyflead a'r tonnau sydd ar wyneb yreigion; Hoffai enw'r Tadau ar y Beibl,-nid Llyfr Duw yn unig, ond Llyfrgell Duw ac y mae cangen o honno- branch library-wedi ei hagor yn y Nefoedd, canys ar yr hyn bethau y mae'r angylion yn chwenychu edrych." Rhaid i chwi bregethu rhywbeth heblaw melyster. Perygl y dydd- iau hyn ydyw ymaddasu gormod at farn a bias y cynulleidfaoedd; mwyneidd- io'r genadwri. Ond rhaid delio'n onest a'r Gwirionedd rhaid condemnio pechod a rhy buddio rhagddo ac er mai anodd ac atgas dywedyd dim yn galed wrth y bobl, eithaf naoesol a bucheddol eu rhodiad hwyrach sydd heb fod yn aelodau oglwysig, rhaid cofio sylw Bunyan, "fod llwybr i golledigaeth o ddrws y Nefoedd." Cydblethwch raff eich cenadwri o felyster addewidion Duw i'r edifeiriol a'i fygythion cosbawl i'r cyndyn a'r anufudd. Peidiwch & chywilyddio colli dagrau wrth ymroi i bryderu ac ymbilio ar ran cadwedigaeth yr oneidiau a fo'ngwrando arnoch, canys er fod Paul yn un o'r intellects cryfaf a greodd fy Goruchaf, nid medd- yliau'r Apostol oedd ei bethau cryfaf wedi'r cwbl, ond y dagrau a wylai o galon oedd yn fwy a gwerthfawrocach na'r pen, er mor gyflymgraff hwnnw. Dywedai ei fod yn fodlon bod yn anathema-sof yw hynny, yn felltigedig—er mwyn i Israel Duw fodar gael, -dywediad calon fawr na fedrai logic oergall y byd byth mo'i ddeall na'i blymio. Bydd- wch yn arweinydd i'ch eglwys, canys gwell un dyn mawr yn ei chanol i'w thywys a rhoi'r nod i'w gweithgarwch, na bod neb yn ei rannu ei hun yn hyn a hyn o ddynion bach, bach. Crynhowch eich galluoedd ar eich cenadwri. Mynnwch y llyfr goreu ar bob pwnc ac er mwyn cael ambell berl i sgleinio a'i goleuo, cloddiwch i gloddfa'r hen Biwritaniaid fel Dr. Owen, Howe, ac yn y blaen. Y mae rhy fach o gloddio iddynt hwy heddyw, ysywaeth. Chwiliwch yr Ysgrythyrau, nid am destun yn unig, ond gadewch i'ch enaid ymgladdu iddo'n ddefosiynol, ac mewn myfyr dwys ar eich gliniau. Fe ofala'r Ysbryd Glan y cewch dostun a phregeth. Peidiwch a disgwyl saint perffaith unfarn. Dau ddosbarth sydd ymhob eglwys gweithwyr distaw a beirniaid blebrog. Byddwch chwi yn natur- iol a diysgog yn eu canol, a'r dyn mwy at" naturiol ydyw'r hwn sydd a mwyaf o'r goruwchnaturiol wedi lefeinio'i galon. Dyma chwi wedi dod i'ch corlan gyntaf, a honno'n un ddymunol a da'i hargoel ond peidiwch byth ag adrych arni fel rhyw garreg sarn neu ragbaratoad i lamu ohoni i le gwell. Dyna gancr y weinidogaeth yn rhy fynych. Nid wyf yn bwriadu aros fan yma'n hir, canys ar fy ffordd i Lundain yr ydwyf," ebe un o'r hil hon y dydd o'r blaen, wrth ddechreu bugeilio diadell gymharol fechan a diysblander. Perchwch eich praidd edrychwch ar Earls- field Road fel y lie y mae'ch allor chwi yn cael ei godi, ac ar yr hon y rhaid i chwi gysegru eich duwioldeb, a rhoi'ch hun a'ch cwbl arni fel pe byddech i fod yma byth, ac nid ar[y ffordd i Lundain. Meithrinwch ddychymyg byw a gadewch iddo ehedeg fel eryr at Haul y Gwirionedd ond gofalwch, cyn iddo gych- wyn, fod ei nyth yng Nghalfaria. Os i fwthyn yr eloch, ewch a chyfoeth trugaredd efo chwi os at erchwyn y claf, bydded gennych falm y Net; os at y blinedig, eaffed ynoch esmwythdra i'w enaid a thangnefodd i'w obennydd. Byddwch yn bopeth neu ynteu yn ddirn, cyd ag y mawrhaer Crist. Ei groesawu. I Cynhaliwyd y cwrdd croeso nos Lun y Parch. D. Powell yn y gadair yr Hybarch Ddoctor Owen Evans iraidd ei gorff a'i ysbryd yn dechreu drwy weddi ysgrifennydd yr eglwys, Mr. W. B. Jones, yn dweyd ddarfod iddo dderbyn llythyrau oddiwrth y rhain yn dymuno Duw'n rhwydd i'r eglwys a'i dewisol wr Eglwys Blaen y Cwm eglwys Maerdy; y Parchn. W. G. Evans. Blaen y Cwm J. Vernon Lewis, B.A.,B.D., Park Road H. H. Hughes, B.A.,B.D.,Princes Road D. Bassett, Gadlys, Aberdar Dunstone, B.A., Caer- dydd E. T. Samuel, Caerdydd O. M. Owen, Birkenhead (cyn-fugail Windsor Street); Joseph Davies, Woodlands a H. R. Roberts, Edge Lane (y ddau olaf yn analluog i fod yno oherwydd gwendid iechyd); Edward Wat. kins, Llwchwr; Watkins, Caerdydd R. D. Hughes, B.A., ficer Dewi Sant, Lerpwl; a Mr. Jesse Roberts, Llangollen Yng nghyntaf peth, cododd y Parch. J. Thomas i anrhegu'r bugail newydd a. phyrsaid o aur a chyfrolau drudion y Dictionary of Christ and the Gospel, e.r ran eglwys ei febyd yng Nghilgerran, ac a ddygodd dystiolaeth uchel i grefydd y boneyff o'r hwn yr hannyw. Collasai ei fam yn ieuanc, ond llanwyd ei lie i'r ymylon gan ei dad yr hwn, pan glywodd am arfaeth ei fab ifynd i'r pulpud, a ddy- wedodd yn nodweddiadol fel hyn Wel, dos di ymlaen, ac mi dynnaf innau yn y rhaffau." Gwyn fyjd na fae'r wlad yn llawn- ach o dadau cyffelyb. Wedi gair cynnes gan ei frawd, y Parch. D. J. Michael, B.A., Blaen y Cwm, cododd cor yr eglwys, dan arweiniad Mr. J. T. Jones, i ganu'r anthem dlos, Deuwch, canwn i'r Arglwydd," nes rhoddi cywair llon-foliannus Fr cyfarfod. A Pwy ❖yr cystal a chydfyfyriwr beth yw gwir gymeriad pregethwr wrth iddo adael coleg ? ac yn nesaf, yn weddaiddl iawn, caf- wyd tystiolaeth tri chydfyfyriwr a'r bugail newydd yn Athrofa Caerdydd,—1, gan Mr. Isaac Pugh, bellach gyda'r R.A.M.C. yn Llandrindod, a ddaeth yno'n unswydd yn ei khaki, ac a draethodd ei deyrnged yng Nghymraeg bersain y De, a' chyda rhyw natur. ioldeb a ffraethineb dirodres oedd wrth fodd y cwrdd. Y mae Michael yn fachgen duwiol, yn fachgen ffyddlon i'w gyfeillion, dim gronyn o'r Judas ynddo, ac yn ennill parch pawb oblegid y ddynoliaeth ddiwyrni sydd ynddo, ac nid oblegid y clwtyn Parch. a gydir wrth ei enw." 2, gan Mr. R. H; Richards, B.A.,B.D., yr hwn a sylwai na chlywsai mo'i gyfaill yn pregethu erioed, ond a'i clywsai yn gweddio ugeiniau o weithiau ac yr oedd defosiwn a grym ygweddiau hyn- ny'n ddigon o sicrwydd iddo of fod Michael yn addas i fugeilio eglwys. 3, gan y Parch. S. J. Leek, B.A., B.D., Cwmaman, a dystiai "na wyddai am well moddion i wella pawb o'u prudd-der pesimistaidd na dod i adnabod a chael mwynhau cyfeillach optimist mor ysbrydol a Michael." ysbWry:eddi ol i Miss Maggie Hughes ganu Cartref yn effeithiol dros ben, a Miss Samuel (merch diweddar gyn-weinidog hawddgar a defosiynol yr eglwys) yn cyfeilio, rhoes llywydd y cyfar- fod groeso i Mr. Michael i'r cylch fel y cyfryw, gan ei sicrhau, er pob amherffeithrwydd yn y saint, pob anhawster iaith ac arall a'i cyfar- fyddai, y byddai'n sicr o gael Cymry Lerpwl mor frawdol a charuaidd a Chymry unman drwy'r wlad. Dilynwyd wedyn ag anerchiadau gan Bedr Hir, y Parch. D. Adams, B.A., W. O. Jones, B.A., Edward Davies, Myles Griffiths, Mr. Robt Davies (eglwys Park rd), a Phedrog—pawb yn fyr a chryno, ac yn cy- medroli canmoliaeth a synnwyr gweddaidd. Nid oes mo'r gofod i adrodd traean o'r anerch- iadau,—dim ond dweyd eu hanfod a'u hergyd fel hyn :— Da gennyf glywed fod Mr. Michael ya weddiwr mor fawr, canys dyna'n hansem mawr ymhobman heddyw—angen gwyr a grym ysbrydol ynddynt. Y mae gweddirwr mawr yn gaffaeliad malvr.-y Parch D Adams. Siaradwch yn barchus o'ch gweinidog ar yr aelwyd yng ngwj-dd y plant, canys nid oes dim mwy deifioI i ddylanwad gweinidog na gwaith rhieni ac eraill yn ei gribo yn ei Myl7 es yng ngwydd y plant.—y .P<? Myles e??As. Y mae Mr. Michael yn bur ddioithr i mi ond pan glym ais fod cymaint o waed Thom- as John, Cilgerran, ynddo, fe glosiodd fy nghaJon ato, canys da y cofiaf fel y byddai fy nhad yn gwynfydu ac ail wynfydu uweh ben meddyliau'r efengylydd anfauwol hwnnw.-Y Parch. W. 0. Jones, B.A. 0 mor werthfawr elywed fod y dyn a'r cyfaill mor gryf ynddo. A'i fod nor ddifalch, er ei raddau a'i ddiwylliant, ØQlDyiiJ balchter Kultur Germani a'i damniodd ac onid oedd Cymru hithau wedi mynd i farchogaeth gormod ar geffyl gwybodaett# -Pedrog. Nid oes dim yn parlysu gweinidog fol diystyrwch, na dim yn codi ei galon i fod ar ei oreu feI tipyn o gydymdeimiad.- Y Parch. Edward Davies. Wedi i'r c6r ganu'r anthem Wele mor ddtrtmm yw trigo o frodyr ynghyd, ac i'r Parch. D, Powell offrwm y Fendith Aposfcolaidd, dflben* nodd y cyfarfod yn ei flas.

Advertising