Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

DYDDIADUR.

iyhoeddwyr y CymodI

Advertising

Y CYFAHFOO MISOL.J

Heddyw'r Bore I

Advertising

DAU rü,'li AFOIM.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Parhad o tudal 5. CYFARFOD PREGETHU PARK ROAD.—Nos Sadwrn a'r Sul diweddaf, daeth tyrfaoedd Iluosog ynghyd i wrando cenadwri'r Efengyl a draethwyd gyda nerth a sicrwydd mawr gan ddau o bregethwyr cryfaf yr enwad. Bore Sul, pregethwyd gan y Parch. Ben Davies, Panteg, ar Ymarfogi a r un meddwi-y medd- wl oedd yng Nghrist Iesu, ac wrth ei wrando teimlwyd mor annhebyg yw ein meddyliau ni sydd yn esgor ar gynifer o adfydau yn y byd. Traddodwyd drachefn nos Sadwrn a'r hwyr y Sul ddwy bregeth gan y Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon, nas anghofir mohonynt gan y rhai a'u clywodd pregethau oedd yn deffro awydd cryf ym mhawb i adfer Crist i'w le yn y bywyd personol ac yn y byd sydd yn eiddo iddo. Ni chlywyd Mr. Jones erioed yn pregethu gyda mwy o ddylanwad. Yr oedd ei sylwadau fel llusern yn chwilio allan gonglau pellaf dirgelion pob calon yn y gynulleidfa, ac yn creu dyhead gwirioneddol ymhob enaid i beidio â phechod fel y dylai pob pregeth gywir wneud. Teimlwyd nerthoedd y byd a ddaw yn ymweled a ni dan ei weinidogaeth, ac yn cael ei fynegi yn y canu bendigedig yn yr oedfa nos Sul, pan yr unai pawb 0 galon ac o un ysbryd i ganu clodydd yr Hwn yn unig sydd yn deilwng o fawl a gwasanaeth y rhai sydd yn ei ddilyn. Ftrwythed yr Efengyl ogoneddus a glywyd ym mywyd pawb a'i gwrandawodd. CYFARFOD PREGETHU Y TABERNACL.-Cynhal- iodd yr eglwys yn y Tabemacl, Belmont Road, ei chyfarfod pregethu blynyddol nos Sadwrn a'r Sul di- weddaf. Nos Sadwrn, pregethwyd yn yr ysgoldy gan y Parch. Ben Davies, Panteg. Bore Sul, am 10.45, yn y capel, gan y Parch. Stanley Jones, Caer- narfon. Yn yr hwyr am 4.45, gan y Parch. Ben Davies. Er gorfod gwneud i ffwrdd ag oedfa'r pryn- hawn, a newid amser oedfa'r nos, cafwyd cynulleidfa- oedd lluosog, a phregethu ardderchog. Yr oedd y ddau bregethwr yn gwbl adnabyddus i'r cylch, ac yr oedd y ddau dan yr eneiniad yn amlwg. CVMRU FYDD UP. PARLIAMENT STREET.-TreuI- iwyd nos Wener ddiweddaf mewn ymgomwest wedi ei threfnu gan y chwiorydd. Methodd Mrs. J. G. Rowlands ddod yno i arwain, a chadeiriwyd yn ei He gan Mr. J. E. Owens. Wedi cystadleuon difyr y rhan gyntaf, ymneilltuwyd i'r llyfrgell i gael lluniaeth. Yna'n ol i wrando Miss Mabel Roberts yn canu Proposal a Spring Song Mr. Gethin Owen yn canu Trumpeter, 11-69 Express, Mother Macree, a Sands of the desert growing old; Mr. R. H. Williams yn canu penillion, a Miss Roberts, Botanic Road, yn adrodd yr Excursion i Fanchester, a How Daddy outwitted the priest. Miss Edith Jones, A.R.C.O.,L.R.A.M., yn tynnu mel o'r tannau man." Y lluniaeth wediei anfon gan Mrs. J. G. Rowlands. Diolchwyd yn gynnes ac yn hwyliog i bawb gan Mr. Ellis P. Evans, trysorydd y Gymdeithas. COLLED MERTON #RoAD.-Yn ymadawiad Mr. William Roberts, 12 Orwell Road, a hunodd yn yr angau ddydd Gwener diweddaf, yn 64 mlwydd oed, bydd gwagle yn eglwys Merton Road, Bootle, nas llenwir yn fuan. Brodor ydoedd o ardal Llithfaen, wedi ei ddwyn i fyny mewn amaethdy bychan o'r enw Tir Gwyn. Yng ngwaith Setts Nant Gwrtheyrn y dechreuodd ennill ei fara pan yn lianc, a dringodd i fod yn is-oruchwyliwr yno yn Ued ieuanc. Daeth i Lerpwl yn 1883, at y masnachwyr coed adnabyddus, Mri. Joseph Owen & Sons, Melrose Road, ac yno y treuliodd y 32 mlynedd diweddaf, yn fawr ei barch ac wedi cyrraedd safle uchel yn y fasnach. Yr oedd yn gymeriad nodedig—yn grefyddol wrth natur, o feddwl treiddgar a dychymyg byw, a dogn da o sense of humour yn llawn o natur dda, parod ei gymwynas, a hael ei galon. Cymrai ddiddordeb arbennig mewn dynion ieuainc, a bu'n foddion i dynnu llawer llanc i'r llwybr uniawn, a'u cadw rhag mynd ar ddisperod. Dewiswyd ef yn flaenor gyda'r Methodistiaid yn Llithfaen pan nad oedd ond 26 oed, ac ymarferai lawer ag areithio ar ddirwest, yr Ysgol Sul, etc. I eglwys Stanley Road yr aeth ar ei ddyfodiad i Lerpwl, ac yno y bu hyd sefydliad Eglwys Rydd y Cymry yn 1901. Yr oedd yn un o arweinwyr y mudiad, ac un o sefydlwyr yr eglwys ym Merton Road, ac yno y bu yn swyddog gweithgar a dylan- wadol hyd y diwedd. Yr oedd yn un o'r siaradwyr goreu mewn cyrddau crefyddol, ac am rai blynyddau pregethai'n fynych, nes y pallodd ei iechyd. Pe wedi ymroddi i'r gwaith, nid oes ddadl na buasai yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd. Liefarai lawer ar; ddamhegion, a gallai ergydio'n drwm pan fydda angen. Nid dieithr ydoedd i'r wasg, ac yr oedd yn un o'r llythyrwyr goreu a welwyd. Gwr heddychlon ydoedd, yn hoffi'r encilion, yn bwyllgorwr aeddfed el fam, ac yn gyfarwyddwr doeth. Teimlir colled ar ei ol yn eglwysi'r cylch, ac yn arbennig ym Merton Road. Gedy weddw unig i alaru ar ol priod hoff ac addfwyn. Merch ydyw Mrs. Roberts i'r diweddar J. Wilson, postfeistr Nevin, a chyfnither i Mr. L. Wilson Roberts (Gwas y Gog), Abermaw, a'r brodyr Wilson Roberts, y masnachwyr te 0 Lerpwl. Cym- rwyd ei weddillion marwol i orffwys mewn hedd ym mynwent Nefyn. Cychwynnwyd o orsaf Lime Street am 8.30 fore dydd Mawrth diweddaf, ac yr oedd nifer luoosg wedi ymgynnull i dalu'r deyrnged olaf iddo Y Parch. W. 0. Jones, B.A., a blaenoriaid Merton Road, yn mynd gyda'r gweddillion, ynghyda'i weddw, ac eraill. Trefniadau'r angladd yng ngofal Mro P. Lloyd Jones, Stanley Road.Cyfaill.