Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Tne. 1 1 t W E OLD pOST OFFICE PLAtt, ^|pr LARGEST SELECTION-LOWEST PRICES TELEPHONE 3075 ROVAL.
Drwodd a Thro.
Drwodd a Thro. CREPACH A NNIOLCH GA E WGH-- Y mae gwynt y dwyrain a'r barrug yma'n codi crepach ar fy nwylo," ebe Huw wrth Wil. "Päid a thuchan," ebe Wil, "fe wn i am grepaeli gwaeth ac anos ei ddioddef lawer -y crepach a aiff dros galon ei fam am fod y bachgen acw'n medru bod mor oer a dilythyr ati hi na finnau byth er pan aeth o oddicartre. Mwy miniog na brath neidr ydyw plentyn anniolchgar ac oer at vr hon a'i hymddug. ++ H j-j- I FYNWES Y FA.Y.-Hyshysir fod y Parch. Illtyd -Jones, gweinidog eglwys M.C. Saesneg Trinity, Ton y Pandy, wedi troi'n Eglwyswr, a chael curadiaoth. A chwyn y clerigion a fagwyd yn yr Eglwys erioed ydyw hon fod Mr. Troi-ei-Got yn cael ffafraeth bob amser, a'i ddyrchafu i'r lleoedd uchaf a IVasaf o'u blaen hwy, er mwyn bod yn gym- heUiad i eraill ddisgyn i fynwes esmwyth yr Hen Fam. tt it ++ UN 0 GAETHION YR APPAM."— Yr oedd yna un Cvmro, beth bynnag,ar fwrdd yr Appam, y Hong a ddaliwyd gan y Germaniaid, sef Mr. J. L. Williams. Borth, Abe ystwyth, oedd ar ei ffordd adref o Forcados, Gorllewin Affrica. 11 ++ + + I SILVANIA.-Dywedir fod Mr. J. H. Davies, prif lyfrbryf Cymru, wedi prynnu hynny oedd yn weddill o lyfrgell y diweddar Ddr. Silvan Evans. H H J* SUDDO DAN IS ELDER.—Mewn trong- holiad ar gorff Mr. H. W. Pritchard, Llys Gwilym, Dinbych, ddydd Tau diweddaf. dy- farnwyd iddo ladd ei hun mewn ffit o orffwyll- edd. Efe oedd goruchwyliwr busnes glo Mri. Ellis a'i Fab-iVr. Rd. Evans cyn hynny; a'r dystiolaeth vdoedd ei fod yn wael ac isel ei ysbryd ers misoedd lawer, ac i'w ferch ei gaol ynghrog yng nghwt yr ieir yng nghefn y ty. Tystiai Mr. Harrop, dros y ffirra, fod yr arian a'r cyfrifon yn hollol gywir, a phob dimai dyledus ar gael. H tt H FFARWEL I'R "BONA F-rDE.Yn llys trwyddedol Ffestiniog, ddydd 1au di- weddaf, a llys Prestatyn yr un diwrnod, dangosid fod lleihad sylweddol yn rhifedi'r meddwon a erlynwyd ac fod tafarnwyr y ddau le wedi cadw'u tai yn hynod o dda, ac ystyried popeth. Ond yn y lie olaf, fe'u rhy buddiwyd i fod yn barod erbyn Bwrdd y Control, ac na fyddai'r fath beth o hyn ymlaen a theithiwr bona-flde sef y bodyn celwyddog hvvnnw a fydd yn teithio am ei fod yn sychedig, ac nid yn sychedig am ei fod yn teithio, chwedl rhywun mor dwt amdano. t+ it tt TYLLAU'R RHWYD YN RHY FLY- DAN.—Yng Nghyngor Tref Conwy, ddydd Mercher diweddaf, cwynid fod y Pwyllgor Cyfarwyddiadol—y tribunal penodedig dan gynllun Arglwydd Derby, i wrando apeliadau rhai a fynnent gael eu hesgusodi rhag gorfod ymuno a'r Fyddin,—yn rhy feddal eu calon- nau, ac yn gwneud tyllau eu rhwyd mor fawr a llydan nes fod pob fpysgodyn yn medru mynd drwodd. Ac felly, na waeth heb dribunal o gwbl, os eid i wrando pob rhyw rith o'reswm ac esgus coeg, rhag ofn rhyw hwn-a-hwn neu hon-a-hon. ti U tt .4 FYNNAI SWYDD, DIODDEFED SEN.-A phan ofynnwyd i un o aelodau'r Cyngor, oedd siopwt, i sefyll ar y pwyllgor, dyma'i ateb :— Na wnaf, wir; canys wolwch chwi, pe danai rhywun gerbron i apelfc^m oily ngdod a'i berthynasau neu ei gydnabod yn gws- meriaid i mi, byddai dichon i hynny fod yn demtasiwn i mi ganiatau apel na ddylesid ei chaniatau, ar un cyfrif. A thystiodd Dr. M. J. Morgan i amryw o'i gleifion ofyn iddo yntau paham y beiddiodd basio eu meibion hwy fel rhai addas i'r Fyddin. Yr wyf wedi tramgwyddo 'dwn i ddim faint drwy'r sir yma am yr un peth," ebe'r Doctor, gan ddangos hen gongl mor gas y mae !dyletswydd yn gwthio dynion cyhoeddus iddi. Ond dyma hi: osamswydd, rhaid diotfdef sen, ymhob man. U ++ GLEWION YR IAITH.-Y mae Ar- ddangosfa a Chynhadledd i hyrwyddo addysg mewn Cymraeg i'w cynnal dan nawdd Undeb y Cymdeithasau yn Ysgoldy St. loan, Caer. dydd, Mawrth 8. Ceir arddangosfa o lyfrau a chreiriau am Gymru a'i hiaith x;vtillun- wersi ar ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion gan Mr. O. Davies, Caerdydd, a Mr. J. H. Manuel, Llanidloes canu penhillion gan Blant Ysgol y Cymer a Nos Lawen nos Sadwrn, sef o ganu Alawon Gwerin, Dawns Gymreig, a chwarae rhan o ddrama Enoc Huws. Arthen Evans, sy'n trefnu, a'i gyfeir- iad ef yw 15 Somerset Place, Parry. M ii n n ? F?RN? ÝN OL EI F??.4D.— Dyma ddywed Dr. Gwylfa Roberts yn y Tyst wrth sgrifennu ar fel y mae'r Oenhadaeth Dramor yn dioddef drwy'r rhy fel Adroddwyd wrthyf yr hanesyn hwn am yr anfarwol David Rees, Llanelli. Dis- gynnodd o'r pulpud i wneud y casgliad. Dygodd y plat oddiamgylch ei hun, fel y byddai'n arfer gwneud. Yn yr oedfa eisteddai hen frawd tawel o 'r enw Dafydd "Griffiths, a dygasai holigynhilion ei fywyd gydag of. Pan aeth David Rees heibio iddo, tynnodd yr hen frawd y cydaid aur allan o'i boced, a thywalltodd y cwbl ar y plat. Yr oedd yno hanner cant o bunnau Gweithiwr ydoedd—saer maen, 'rwy'n moddwl; agwyddai David Rees ei amgylchiadau'n lied dda. Pig- i odd yntau bunt allan ohonynt, a rhoddodd "y g" eddill yn ol iddo. Eithr dododd Duw banner cant o bunnau y dydd hwnnw gyferbyn ag enw David Griffiths ar lyfr y nef." H tt it I GADW'R GERMAN DRAW.-Yng nghyfarfod Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon ddydd Iau diweddaf, tan lywyddiaeth Mr. Wm. George, pasiwyd i anfon Uythyr cryf at y Swycldfk Addysg i Lundain yn orefu arnynt dynnu'n ol eu gwrthwynebiad i awdur- dodau ysgol Llandudno dalu seithswllt yn yr wythnos i ddyn cymwys oedd yn y dref honno am roi dwy wers ynyr wythnos, awr bob un, mewn coginio ac arlwyo byrddau. Amcan hyn ydoedd cadw'r Germaniaid draw yn y dyfodol, canys dywedid y cyflogid cryn gant ac ugain o'r tramoriaid hynny yn Llan- dudno'n unig bob haf fel chefs a waiters, ac yr enillai pob un rywIe o'r pedair i'r saith bunt yn yr wythnos. A phlant Llandudno'u hunai lawer ohonynt, yn gweiddi "Cocos!" a Phenwaig fires "nes crygu am rhyw chwechyn neu chwrligwgan y dydd. Dyna ffyliaid cysglyd a diniwed ydym yn gadael i gyflymgwn fel y rhain gipio'n tamaid o'n genau. It I Hi H tt GRESYN AM GOLLI "L.J.Pasiodd Undeb Athrawoju Colwyn Bay a'r cyffiniau benderfyniad fel hyn yn eu cyfarfod diweddaf. Ein bod yn llongyfarch Mr. L. J. Roberts, M.A., Arolygydd Ysgolion ei Fawrhydi, ar ei ddyrchafiad i fod yn senior Inspector dros Gymru, ac yn rhoi ar gof-a-chadw ddat- ganiad o'n gwerthfawrogiad o'i waith dros addysg wrth arolygu chwe sir y Gogledd. Dan ei gyfarwyddyd, cynhyddodd yr ysgolion yn gyflym mewn effeithiolrwydd, a phrofodd yntau yn gyfaill pur i'r athraw- on a'u disgyblion. Ein hunig resyn ydyw fod ei ddyrchafiad yn mynd ag o ocldiav y Gogledd i Forgannwg drwchus ei phobl a phob llwydd a bendith a'i dilynq yno. Beth yw arian ac uchter llwch y byd yn ymyl cael serch calon ac edmygedd y sawl y llafur- iasoch yn eu plith fel y cafodd yr "L.J." hawddgar oddi draw ac yma ? ti tt ti AM EI CHYNNAL.—Y mae Cym- deithas Amaethyddol Dyffryn Conwy am ddal at eu harfaeth, a chynnal eu harddangosfa Awst y 23ain. Derbyniwyd £ 765 y llynedd, ac yr oedd deupain punt wrth gefn ar ol talu'r treuliau ig yd. 11 it it ti it ti GWELL DA NA DISGLAIR.-Y mae Pwyllgor Addysg Sir Ddinbych wedi dyfarnu oriawr arian i bob un o'r rhain am droedio i'w hysgolion sir am saith mlynedd heb golli cymaint ag un tro :— E. Evans, Gwersyllt; H. Rawson, Tany- fron S. M. Roberts, Abergele H. Pridd- ing a M. Lewis, Holt A. Birch a J. Will iams, Acton Park G. Williams a J. E. Vaughan, Acrfair T. S. Pritchard, J. Williams, a G. Williams, Brymbo M. E. Edwards, LlanarmOn P. Shingler, Colwyn Bay J. Bantley, Garth A. Jones, Bryn- eglwys J. D. Morris, Rhiwlas R. J. Davies, Minera 0. Edwards, G. Lee ac I. Jones, Llangollen S. A. Jones, R. D. Peters, P. Hale a C. Edwards, Penygelli J. Williams, Bersham H. F. Bickley, Pentre Broughton. Am blentyn disglair, da neu beidio, yr awcha gormod o rieni; ond os na bydd o yn dda cystal ag yn ddisglair, chwi gewch waith ediiarhau am roi mwy o foethau a braint iddo nag a roesoch i'w frawd, oedd yn arafach hwyrach, ond a drodd yn sadiach ei garn mewn crefydd ac egwyddor nag y troes y llall oriog a chryf ei fympwy. Cymrwch chwi ofal rhag dim o'ch ffafraeth i un plentyn rhagor y Hall y mae gras y ffyddlon cyson yn fwy o sicrwydd am gysur yn y pen draw na hwb cam a naid y llall disglair wrth faglu a mynd dros ei ben. XX it ■ ti 4- 4 j t i t WRTH FYND I BENT I R.~Yng Nghapel Mawr M.C. Criccieth, yr, wythnos ddiweddaf, estynnid pyrsaid o aur i'r Parch. Wm. Williams wrth iddo symud i Bentir, ger Bangor, ar ol bugeilio'r gorlan am ddwy flynedd ar hugain. Siaradodd holl weinidog- ion Ymneilltuol y dref a dygodd Mr. 0. T. Williams, cadeirydd Cyngor y dref, dystiol- aeth uchel i'w waith selog ddifwlch. TYDI A DY DRETH.-Y mae'r trethi a ddyry'r Rhyfel a'r Llywodraeth yma arnom yn drymion eu gwala ydynt, y maent ond ddim yn agos cyn drymed a'r dreth a ddyry'n balchter ni'n hunain arnom, cofiwch. 11 it tt CAM A'R CYMRY.—Yng Nghyngor Gwledig Llüyn, ddydd Morcher diweddaf, pasiwyd penderfyniad. unfryd o gondemniad ar waith yr awdurdodau milwrol yn gomedd i Gymry y rhan honno o'r wlad gael ymuno a Bataliwn Gwynedd, a ffurfiwyd o bwrpas ar gyfer bechgyn y ffermydd a'r parthau gwled- ig, end oedd a'i swyddogion yn Saeson un- iaith, a hwythau wedi rhoddi eu gair ar y dechreu mai Cymry'n medru Cymraeg fyddai'r swyddogion. Yr oedd cannoedd o fechgyn Lleyn yn Gymry hollol uniaith, a chywilydd o beth oedd eu bwrw i gatrodau Seisnig anghyd naws eu hiaith a'u cwmniaeth ganddynt. tt tt it EISIAU'U CHWiPIot— Yn llys trwy- ddedol blynyddol y Drenewydd, Sir Drefald- wyn, ddydd Gwener diweddaf, galwodd yr Is Brif Gwnstabl Williams sylw'r Faine at gamwri gwarthus a gyflawnid gan rai o staff milwrol y dref, sef mynd a'r milwyr oedd adref o'r rhyfel o gwmpas o dafarn i dafarn i yfed. Siarcod noethlymun ydyw'r fath ddynion, ebe Mr. Williams ac a ddylai fod ganddynt well gwaith nag arwain y dynion,—oedd yn hanner noethion, rai ohonynt, pan gyraeddasant gartref-o gwmpas i lymeitian. Gofynnai am i'r Fainc rybuddio'r tafarnwyr i beidio ag estyn,diod i'r cyfryw, gan ei fod ef ei hun wedi gwnued popeth a allasai gyda'r awdur- dodau milwrol.—Dywedodd y cadeirydd (Mr. Rd. Lloyd) ei fod yn warth i wisg y Brenin fod dynion yn y Drenewydd a allai roi'r fath esiampl i ddychweledigion o'r rhyfel Rhybuddiodd y tafarnwyr i fod yn effro i'w dyletswydd yn y cyfeiriad hwn, a gobeithiai na chlywid rhagor o gwyn am y peth. it tt tt DIRGELWCH LLANGOLLEN.~Ni chaf wyd dim goleu hyd yma ar ddiflaniad Mr. J. 0. Davies, cadeirydd Cyngor Llangollen, sydd ar goll ers deng diwrnod. Y mae llawer o chwilio wedi bod amdano ar hyd y ffridd- oedd, ac y mae'r teulu yn cynnyg arian am unrhyw hysbysrwydd amdano, it tt ti NANSI A'I THEL YN,~Uwer golygfa swynol a welwyd o ganrif i ganrif ar heolydd hen dref hybarch a hanesyddol yr Amwythig —Shrewsbury os mynnweh ond yr un a barodd fwy o wrando a llygadu na'r hon a welid yno ddydd Sadwrn diweddaf, sef Miss Nansi Richards (Telynores MaldwynY yn canu ai thelyn yma ac acw ar hyd yr heolydd yn ei het gorun hir a'r becwn brith, nes bod mawr sbio a thyrru ati gan y protid Salopians. Er mwyn y milwyr clwyfedig yr aethai Nansi yno ar ei chenhadaeth, ac a ddiddanodd lu ohonynt yn yr ysbytai heblaw ar yr heolydd. (,?.ofw,vd ca6gliad trwm at drysorfa'r Groes Goch a'r Delynores yn rhoddi ei gwasanaeth godidog yn rhad ac am ddim. Bendith amoch, a brysiwch yma eto, Nansi," ebe'r milwyr yn un cor gyda'i gilydd, wrth iddi droi adref i Faldwyn. Ac yr oedd clywed hen alawon Cymru yn cael eu cwafrio mor fwyn a medrus yn cau briwiau.^orff a chalon y bech- gyn yn well o'r hanner na moddion y meddyg, canys Rhwng tair cornel y delyn—mae oesol For miwsig diderfyn Tonnau heirdd yw'r tannau hyn I dristwch nofio drostyn'. tt it tt ABERYSTWYTH rtl HWrLIO ATI—Pen- derfynnodd Pwyllgor Cyffredinol Aberystwyth fod yr Eisteddfod Genedlaethol i'w chynnal yny dref eleni, yn ol cais Cymdeithdeithas yr Eisteddfod, sef ar yr wythnos sy'n dechreu gyda'r 14eg o Awst, ac mae'r is-bwylkorau wrthi'n cwtogi ychydig ar y rhaglen er cyfyngu cyfarfodydd yr Wyl i ddau I ddiwmod a thair noson. tt tt tt Dwrs.4, MAN: WRTE YR ALLOR.- Ddydd Llun cyn y diweddaf, priodid Miss Mary Dew, trydedd ferch Mr. S. R. Dew, y cyfreithwr hysbys, Mr. Douglas Colin York, ym Mhrifeglwys Bangor. Y priodfab o Buenos Aires, wedi bod yn y rhyfel a chael ei glwyfo wedi gwella ac yn priodi cyn ail ddechreu ar ei ran yn yr ymladd mawr. ttnn CAMP A RIIFAIP.-Pan oedd Wm. Smallwood, plastrwr, gerbron ynadon Llanelwy yr wythnos ddiweddaf, ar gyhuddiad o fod yn feddw mewn ty trwyddedig, sylwodd Cyrnol Howard (cadeirydd y fainc) mai y fo oedd y gweithiwr goreu a'r adyn meddwaf yn Llanelwy. Gwir yr hen ddihareb, mai goreu'r camp, gwaethaf y rhemp. ti it tt LLIFOGYDD LLANRWST.—Rhwng y cawod- ydd glaw a bistyllodd drwy'r dydd ddydd Sul, a grym y llanw a chwithid i fyny o'r mor, llifodd afon Conwy ymhell dros ei glannau, gan gladdu llinell y L. & N.W. dan gymaint dwr nes chwalu'r ffordd haearn am bellter, a thorri Llanrwst fel ynys oddiwrth y byd. Ond modurodd y gorsaf-feistr i Benmachno, ac a gafodd motor-bus perthynol i'r cwmni yno, ac felly alluogwyd y teithwyr i fynd a dod,a r ol oriau o goll amser. it n tt ti it LLIFON rN GAPLAN.-Y mae Swyddfa Rhyfel wedi penodi'r Parch. W. G.' Owen (Llifon) yn gaplan i filwyr Cymreig Kinmel. Y fo'n fugail eglwys y Bedyddwyr Cymraeg yn Abergele a Llan- ddulas; yn hysbys fel arweinydd Eisteddfodol, ffraeth a pharod ei ergyd; ac yn frawd i'r Parch. 0, G. Owen (Alafoti) y gwelir plethiad o chwith atgo am dano mewn colofn erall.
Advertising
H ERFOD RHYFEL." Nid oesraid talu prisiau uchel am Ymeny Fiesh, Wyau, a Fowls. Os byddwch yn talu ymweliad a St. John's Market, bydd yno Ymenyil Fres, Wyan, a Fowls o Sir Fôn ac Arfon, am brisiau tra rhesymol gan H. R. WILLIAMS & Co., 4L5 St. Joha s Market, Liverpool. Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLBGAt]'y)f MHBIFYSOOL CYMRD). Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. DECHREU A!R Tymhor nesaf ar Ddydd JL7 Mawrth, Hydref 4ydd, 1916. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynygir amryw 0 ysgoloriaethau (amryw o honynt yn gyfyngedigi Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr arholiad le yn Aberystwyth ar y 19eg o Fis Medi, 1916. Am fanylion pellach, ymofyner a— J. R. DAVIES, M.A., Cofrestrydd.
Gwreichion Ffraethineb.I
Gwreichion Ffraethineb. I O "Gofiant Watcyn Wyn," gan Penar I El brif gwyn yn erbyn y Coleg oedd prinder cyfle'r Gymraeg. Ni allai ddygymod a hyn un ai-aser. Paii yn darlithio yn Rhydychen ar "Ganu gyda'r Tannau," gwnaeth beunill i Eos Dar i'w ganu, a phwy na wely 1 ergyd ? Rhyw grugyn mawr o'r Groegwyr Yn enwog fel Lladinwyr. Heb wybod dim am iaith eu mam— Na soniwch am eu synnwyr. Yr oedd yr ysgoldy fel yr ysgolfeistr ei hun, yn syml. Hen ysgubor a fuasai'n perthyn i fferm- wr, Mr. Brodie gynt, ydoedd, a elwidBryn- mawr, ac wedi ei chymhwyso i fod yn ysgoldy. Buasai yn British School un waith ac oherwydd rhyw reswm, rhoed ffenestri yn y tô. Ac meddaiymwelydd wrtho ar dro, "Beth yw'r gwydrynasyddynnho'rysgoldy ? "Fach- gen," ebe yntau, dyna ysgol pregethwyr iti i'r (tim-golou oddi fry. j, Pe digwyddai i ambell fachgen nad oedd yn brin yn y nwydd yr anogai Wil Bryan Rhys Lewis i'w sicrhau-cheek-nid hir y byddai'r athro cyn tynnu'r gwynt o'i waed, ac yn gwbl ddigyffro. Ond cymerai drafferth i beri i'r bachgennyn gwylaidd deimlo'n gartrefol. Deuai mor agos ato yn ei ymddiddan nes teimlo o'r ysgolor ieuanc nad oedd o'r braidd wedi gadael aelwyd ei dad. Yr oedd ei heulwen ef yn disgyn ar yr ysgol agored, lawn, yr un mor rhadlon; ac fel yr awgrymwyd e is oes, nid chwarae hawdd oedd diogelu awdurdod ynghanol rhyddid rhydd fel hwn. Ar dro, daeth cacynen i mewn i'r ysgol, a digwyddai fod yno ddisgybl a'i enw Peter, ac fel y chwaraeai'r creadur bach o gwmpas y disgybl, meddai't athro, "Cyfed, Petr, lladd a bWyta." Ni byddai dim yn fwy o dreth ar gorff gwan a natur ddynol gref yr athro na phrynhawn trymaidd, y;1 arbennig yn ei flynyddoedd diweddaf; ac os deuai'r esgus lleiaf dros gychwyn gwen ar gwmni, nid yn ofer y cai ddod. Ar brynhawn llethol felly, crwydrodd asyn o'r pentrCT i gyffiniau'r ysgol, ac yno fe rois yr oernad deilynggf o'i hiliogaeth a allas- ai hyd yn oed asyn difoes ei roi. Ac tneddai'r athro, gyda chwarae bach yn ei lygad blin, "Listen, brethren." a dyna chwerthin iachus dros yr holl ysgol am rai munudau. Ie, brethren," dyna'r ergyd Credai mewn defnyddio cyfle fel hwn I ddeffro natur disgybl, am y tybiai fod hynny 'n helpu ei ddiddigrwydd a'i gynheddfau. Un prynhawn, pan ar ganol gwers mown gramad- eg Cymraeg, a hi yn drymaidd a dihwvl, dyna Pegi-gast hydrin a chadwrus teulu'r bardd oedd hi—i mewn i'r dosbarth a chan godi ar ei draed i'w throi hi allan, meddai ef yn sydyn, Leave it there. now, boys, let us have a lesson in dogmatics," ac yn rhoi cymorth i Pegi i fynd i newid awyr. A dyna'i ergyd i'r Llenladron :— Lladratant ar bawb ond. eu liunaiii,, ri gwael,— Lladratent oddivno ttic rhywheth i'w gael. *:{::): Arferai gadw'i bregeth o'i flaen, wedi e11 hysgrifennu ar ddalennau rhyddion. Un tro, a'r pulpud rhwng dau ddrws cyfagos, daeth gwynt cryfy gan agor y ddeuddrws yn sydyn, a gwasgar y dail i'r set fawr. Gwenodd y pregethwr yn yswil, ac meddai, Mae mwy o fynd yn yr hen bregeth fach nag own i'h feddwl." Cafodd brofiad tebyg i hyn yn Nol- gellau, pan ddigwyddodd i ddalen neu ddwy o'i bregeth lithro dros ymyl y pulpud, a disgyn ar gefn y gadair odditanodd. Estynnodd yntau ei law yn hamddenol i'w cyrchu, gan ddweyd rhwng cromfachau, Dyma beth yw pregethwr yn dilyn ei destyn, beth bynnag." Cofiwn bregethwr bach byw, gwyllt, wedi ei gadael ychydig yn hwyr cyn mynd i fyny o'r set fawr i'r pulpud, ac yn y Beibl dwy-ieithog ar yr aatell yn methu dod o hyd i'w destyn, a chan y saint wedi peidio. "Canwch eto," meddai, 'rwy'h methu a gweld 'y nhestun yn y Beibl od yma ac meddai Watcyn Wyn dan y pulpud ar darawiiad, Wei, gad- ewch i ni ganu 'te. 0 agor fy llygaid i weled. Pa sawl sant agorodd ei lygad i weled yr ergyd, ac a fethodd gael ysbryd digon difrifol i ganu, ni wyddom
Advertising
ADVICE FREE.-Mr& Stewart, Herbal Specialist) 91 Guinea. Street, Bristol. D. GRIFFITHS iD SON a 221 BrecK aLd. and 9 Mo" St.. L'pqol.^ Pianos & Organs by aU the leading makers. ?r imonth. From 8? fnunracoiras—AafieU dt ROYAL» ?? ( XSTOP ONE MOMENT V F? Oh, Dear Doctor?? Must My Darling Die There is very little hope, but Icy Tudor Williams' PATENT HULSUm Of DOJEI. WHAT IT IS I Tudor Williams' Patent Balsam of Honey, Is an essence of. the purest and most em.. oious herbs, gathered on the Welsh HiUa aod Valleys in the proper season, when their vil tues are in full perfection, and combined with Pure Welsh Honey. All the ingredients are perfectly pure. WHAT IT DOES Tudor Williams' Patent Balsam of Honey. Cures Coughs, Colds, Bronchitis, Aatltma. Whooping Cough, Croup, and all disorders .f 0 the Throat, Chest, and Lungs. Womderfa Cure of Children's Coughs after Meaele8. It is invaluable to weak-oheated men, debmto women and children. It suoeoeds whera an othet remedies faiL Sold by all Chemist* and Stores in 1/ 2/6, and 4/6 bottles; ol direct from Proprietor foir 1/3, 2/9, Great saving in purchasing tht large akn bottles. WHAT IT HAS DONE FOR OTHIICRS- 11 A Stipendiary and Magistrate in the County six- morgan remarks: I feel it my duty to in £ »en yon tnat I have been using your Tudor Williams' Bahua of Boney in my famüy, which Is a large one, fmt 8U)' years, and have proved its great value, ha?M<aed nothing else for Couo dormg Measlw, WhoopSgOa? and Bronchitis, and can hjhJy -miiiend.st to au P&ftjkta i., -A col3lpiawts.'d YOU NEED NOT SOTFBRI Disease is a sin, inasmuch that, if you, act xoay, at the right time, it can, to a great extent, be avoivd. He- Is the preventative. The first, moment yon start with Sore Throat, take a dose of Tudor Williams' Patent Balsam of Honey. It has saved thousands I it will save you. It fe wte- parad by a fully qualified chemist, and is, by vhdm ol its composition, eminently adapted for aa saws of Coughs, Colds, Bronchitis, Asthma, etc.Jt r—itihnn" a distinct influence upon the mucous lining 9i Ibe throat, windpipe, and small air vessels, lining of, ale but warmed pure air passes into the lungs. THE CHILDREN LIKE IT It is the product of the Honeycomb, abomi IaÜ7 treated to get the best results. THEY ASK FOR IT. So different from most Medicines. Nice to take Cures Quickly For vocalists and public speakers it has m equal, it makes the voice as clear as a bel. m i'g 1 Inventor: D. TUDOR WILLIAMS, R.S.D.L. Manufacture* t TUDOR WILLIAMS, Medical Hall, Aberdare, Wales WHOLESALE AGENTS MMsra. Robert Davies d Co, Grocers Grayson Street. L??MTpoo MeMrs-' Evans, Son*, Leacher 6 Webb Wholesale Druggista6 Hanover St Hvef?nx? M MM?sJ.o? hnThotnpMm?C?. ffigsai; "zK'ffiSiS St; *-°°° -re.e 751 AaQelo. P. Lloyd Jones FUNERAL DIRECTOR, I 364 Stanley Road, L'pool. TELEPHONE-261 SOOTLS. ITELLPIUONE-573 ANFIELD. J. T. JONES, Funeral Undertaker,  EVERTON? ,40 and 55 & Md5S&rect[]? LIVERPOOL. Funerals personally arranged to all parts. Telephones—Anlfeld. 309 snd 290. 155 KENSINGTON, LIVERPOOL. R. W. EVANS, ffuneral and Wedding IDirecfov, All orders personally attended to through. out at moderate charges. Highwrt testimonials can be seen. Removals to and from Wales, BARGAINS.-Underwoods, Remingtons, Yosts, Smith, Premier, Barloeks, Ihn- pires, Oliver, Blieks, Royal Standard, trom A2 new condition, See the REX £ 23 worth for 12 guineas. -LoNGmoRic, 41b North John Street, Liverpool, Sole Agency Caroua Portable Typewriters. For Bedsteads and Bedding. w. WHITTLE SON & STOTT, LTD., 116, 118 lao WHITECHAPEL, LIVERPOOL. 0 0 tI Telephone 2131 Royal.