Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Drwodd a Thro.

News
Cite
Share

Drwodd a Thro. CREPACH A NNIOLCH GA E WGH-- Y mae gwynt y dwyrain a'r barrug yma'n codi crepach ar fy nwylo," ebe Huw wrth Wil. "Päid a thuchan," ebe Wil, "fe wn i am grepaeli gwaeth ac anos ei ddioddef lawer -y crepach a aiff dros galon ei fam am fod y bachgen acw'n medru bod mor oer a dilythyr ati hi na finnau byth er pan aeth o oddicartre. Mwy miniog na brath neidr ydyw plentyn anniolchgar ac oer at vr hon a'i hymddug. ++ H j-j- I FYNWES Y FA.Y.-Hyshysir fod y Parch. Illtyd -Jones, gweinidog eglwys M.C. Saesneg Trinity, Ton y Pandy, wedi troi'n Eglwyswr, a chael curadiaoth. A chwyn y clerigion a fagwyd yn yr Eglwys erioed ydyw hon fod Mr. Troi-ei-Got yn cael ffafraeth bob amser, a'i ddyrchafu i'r lleoedd uchaf a IVasaf o'u blaen hwy, er mwyn bod yn gym- heUiad i eraill ddisgyn i fynwes esmwyth yr Hen Fam. tt it ++ UN 0 GAETHION YR APPAM."— Yr oedd yna un Cvmro, beth bynnag,ar fwrdd yr Appam, y Hong a ddaliwyd gan y Germaniaid, sef Mr. J. L. Williams. Borth, Abe ystwyth, oedd ar ei ffordd adref o Forcados, Gorllewin Affrica. 11 ++ + + I SILVANIA.-Dywedir fod Mr. J. H. Davies, prif lyfrbryf Cymru, wedi prynnu hynny oedd yn weddill o lyfrgell y diweddar Ddr. Silvan Evans. H H J* SUDDO DAN IS ELDER.—Mewn trong- holiad ar gorff Mr. H. W. Pritchard, Llys Gwilym, Dinbych, ddydd Tau diweddaf. dy- farnwyd iddo ladd ei hun mewn ffit o orffwyll- edd. Efe oedd goruchwyliwr busnes glo Mri. Ellis a'i Fab-iVr. Rd. Evans cyn hynny; a'r dystiolaeth vdoedd ei fod yn wael ac isel ei ysbryd ers misoedd lawer, ac i'w ferch ei gaol ynghrog yng nghwt yr ieir yng nghefn y ty. Tystiai Mr. Harrop, dros y ffirra, fod yr arian a'r cyfrifon yn hollol gywir, a phob dimai dyledus ar gael. H tt H FFARWEL I'R "BONA F-rDE.Yn llys trwyddedol Ffestiniog, ddydd 1au di- weddaf, a llys Prestatyn yr un diwrnod, dangosid fod lleihad sylweddol yn rhifedi'r meddwon a erlynwyd ac fod tafarnwyr y ddau le wedi cadw'u tai yn hynod o dda, ac ystyried popeth. Ond yn y lie olaf, fe'u rhy buddiwyd i fod yn barod erbyn Bwrdd y Control, ac na fyddai'r fath beth o hyn ymlaen a theithiwr bona-flde sef y bodyn celwyddog hvvnnw a fydd yn teithio am ei fod yn sychedig, ac nid yn sychedig am ei fod yn teithio, chwedl rhywun mor dwt amdano. t+ it tt TYLLAU'R RHWYD YN RHY FLY- DAN.—Yng Nghyngor Tref Conwy, ddydd Mercher diweddaf, cwynid fod y Pwyllgor Cyfarwyddiadol—y tribunal penodedig dan gynllun Arglwydd Derby, i wrando apeliadau rhai a fynnent gael eu hesgusodi rhag gorfod ymuno a'r Fyddin,—yn rhy feddal eu calon- nau, ac yn gwneud tyllau eu rhwyd mor fawr a llydan nes fod pob fpysgodyn yn medru mynd drwodd. Ac felly, na waeth heb dribunal o gwbl, os eid i wrando pob rhyw rith o'reswm ac esgus coeg, rhag ofn rhyw hwn-a-hwn neu hon-a-hon. ti U tt .4 FYNNAI SWYDD, DIODDEFED SEN.-A phan ofynnwyd i un o aelodau'r Cyngor, oedd siopwt, i sefyll ar y pwyllgor, dyma'i ateb :— Na wnaf, wir; canys wolwch chwi, pe danai rhywun gerbron i apelfc^m oily ngdod a'i berthynasau neu ei gydnabod yn gws- meriaid i mi, byddai dichon i hynny fod yn demtasiwn i mi ganiatau apel na ddylesid ei chaniatau, ar un cyfrif. A thystiodd Dr. M. J. Morgan i amryw o'i gleifion ofyn iddo yntau paham y beiddiodd basio eu meibion hwy fel rhai addas i'r Fyddin. Yr wyf wedi tramgwyddo 'dwn i ddim faint drwy'r sir yma am yr un peth," ebe'r Doctor, gan ddangos hen gongl mor gas y mae !dyletswydd yn gwthio dynion cyhoeddus iddi. Ond dyma hi: osamswydd, rhaid diotfdef sen, ymhob man. U ++ GLEWION YR IAITH.-Y mae Ar- ddangosfa a Chynhadledd i hyrwyddo addysg mewn Cymraeg i'w cynnal dan nawdd Undeb y Cymdeithasau yn Ysgoldy St. loan, Caer. dydd, Mawrth 8. Ceir arddangosfa o lyfrau a chreiriau am Gymru a'i hiaith x;vtillun- wersi ar ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion gan Mr. O. Davies, Caerdydd, a Mr. J. H. Manuel, Llanidloes canu penhillion gan Blant Ysgol y Cymer a Nos Lawen nos Sadwrn, sef o ganu Alawon Gwerin, Dawns Gymreig, a chwarae rhan o ddrama Enoc Huws. Arthen Evans, sy'n trefnu, a'i gyfeir- iad ef yw 15 Somerset Place, Parry. M ii n n ? F?RN? ÝN OL EI F??.4D.— Dyma ddywed Dr. Gwylfa Roberts yn y Tyst wrth sgrifennu ar fel y mae'r Oenhadaeth Dramor yn dioddef drwy'r rhy fel Adroddwyd wrthyf yr hanesyn hwn am yr anfarwol David Rees, Llanelli. Dis- gynnodd o'r pulpud i wneud y casgliad. Dygodd y plat oddiamgylch ei hun, fel y byddai'n arfer gwneud. Yn yr oedfa eisteddai hen frawd tawel o 'r enw Dafydd "Griffiths, a dygasai holigynhilion ei fywyd gydag of. Pan aeth David Rees heibio iddo, tynnodd yr hen frawd y cydaid aur allan o'i boced, a thywalltodd y cwbl ar y plat. Yr oedd yno hanner cant o bunnau Gweithiwr ydoedd—saer maen, 'rwy'n moddwl; agwyddai David Rees ei amgylchiadau'n lied dda. Pig- i odd yntau bunt allan ohonynt, a rhoddodd "y g" eddill yn ol iddo. Eithr dododd Duw banner cant o bunnau y dydd hwnnw gyferbyn ag enw David Griffiths ar lyfr y nef." H tt it I GADW'R GERMAN DRAW.-Yng nghyfarfod Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon ddydd Iau diweddaf, tan lywyddiaeth Mr. Wm. George, pasiwyd i anfon Uythyr cryf at y Swycldfk Addysg i Lundain yn orefu arnynt dynnu'n ol eu gwrthwynebiad i awdur- dodau ysgol Llandudno dalu seithswllt yn yr wythnos i ddyn cymwys oedd yn y dref honno am roi dwy wers ynyr wythnos, awr bob un, mewn coginio ac arlwyo byrddau. Amcan hyn ydoedd cadw'r Germaniaid draw yn y dyfodol, canys dywedid y cyflogid cryn gant ac ugain o'r tramoriaid hynny yn Llan- dudno'n unig bob haf fel chefs a waiters, ac yr enillai pob un rywIe o'r pedair i'r saith bunt yn yr wythnos. A phlant Llandudno'u hunai lawer ohonynt, yn gweiddi "Cocos!" a Phenwaig fires "nes crygu am rhyw chwechyn neu chwrligwgan y dydd. Dyna ffyliaid cysglyd a diniwed ydym yn gadael i gyflymgwn fel y rhain gipio'n tamaid o'n genau. It I Hi H tt GRESYN AM GOLLI "L.J.Pasiodd Undeb Athrawoju Colwyn Bay a'r cyffiniau benderfyniad fel hyn yn eu cyfarfod diweddaf. Ein bod yn llongyfarch Mr. L. J. Roberts, M.A., Arolygydd Ysgolion ei Fawrhydi, ar ei ddyrchafiad i fod yn senior Inspector dros Gymru, ac yn rhoi ar gof-a-chadw ddat- ganiad o'n gwerthfawrogiad o'i waith dros addysg wrth arolygu chwe sir y Gogledd. Dan ei gyfarwyddyd, cynhyddodd yr ysgolion yn gyflym mewn effeithiolrwydd, a phrofodd yntau yn gyfaill pur i'r athraw- on a'u disgyblion. Ein hunig resyn ydyw fod ei ddyrchafiad yn mynd ag o ocldiav y Gogledd i Forgannwg drwchus ei phobl a phob llwydd a bendith a'i dilynq yno. Beth yw arian ac uchter llwch y byd yn ymyl cael serch calon ac edmygedd y sawl y llafur- iasoch yn eu plith fel y cafodd yr "L.J." hawddgar oddi draw ac yma ? ti tt ti AM EI CHYNNAL.—Y mae Cym- deithas Amaethyddol Dyffryn Conwy am ddal at eu harfaeth, a chynnal eu harddangosfa Awst y 23ain. Derbyniwyd £ 765 y llynedd, ac yr oedd deupain punt wrth gefn ar ol talu'r treuliau ig yd. 11 it it ti it ti GWELL DA NA DISGLAIR.-Y mae Pwyllgor Addysg Sir Ddinbych wedi dyfarnu oriawr arian i bob un o'r rhain am droedio i'w hysgolion sir am saith mlynedd heb golli cymaint ag un tro :— E. Evans, Gwersyllt; H. Rawson, Tany- fron S. M. Roberts, Abergele H. Pridd- ing a M. Lewis, Holt A. Birch a J. Will iams, Acton Park G. Williams a J. E. Vaughan, Acrfair T. S. Pritchard, J. Williams, a G. Williams, Brymbo M. E. Edwards, LlanarmOn P. Shingler, Colwyn Bay J. Bantley, Garth A. Jones, Bryn- eglwys J. D. Morris, Rhiwlas R. J. Davies, Minera 0. Edwards, G. Lee ac I. Jones, Llangollen S. A. Jones, R. D. Peters, P. Hale a C. Edwards, Penygelli J. Williams, Bersham H. F. Bickley, Pentre Broughton. Am blentyn disglair, da neu beidio, yr awcha gormod o rieni; ond os na bydd o yn dda cystal ag yn ddisglair, chwi gewch waith ediiarhau am roi mwy o foethau a braint iddo nag a roesoch i'w frawd, oedd yn arafach hwyrach, ond a drodd yn sadiach ei garn mewn crefydd ac egwyddor nag y troes y llall oriog a chryf ei fympwy. Cymrwch chwi ofal rhag dim o'ch ffafraeth i un plentyn rhagor y Hall y mae gras y ffyddlon cyson yn fwy o sicrwydd am gysur yn y pen draw na hwb cam a naid y llall disglair wrth faglu a mynd dros ei ben. XX it ■ ti 4- 4 j t i t WRTH FYND I BENT I R.~Yng Nghapel Mawr M.C. Criccieth, yr, wythnos ddiweddaf, estynnid pyrsaid o aur i'r Parch. Wm. Williams wrth iddo symud i Bentir, ger Bangor, ar ol bugeilio'r gorlan am ddwy flynedd ar hugain. Siaradodd holl weinidog- ion Ymneilltuol y dref a dygodd Mr. 0. T. Williams, cadeirydd Cyngor y dref, dystiol- aeth uchel i'w waith selog ddifwlch. TYDI A DY DRETH.-Y mae'r trethi a ddyry'r Rhyfel a'r Llywodraeth yma arnom yn drymion eu gwala ydynt, y maent ond ddim yn agos cyn drymed a'r dreth a ddyry'n balchter ni'n hunain arnom, cofiwch. 11 it tt CAM A'R CYMRY.—Yng Nghyngor Gwledig Llüyn, ddydd Morcher diweddaf, pasiwyd penderfyniad. unfryd o gondemniad ar waith yr awdurdodau milwrol yn gomedd i Gymry y rhan honno o'r wlad gael ymuno a Bataliwn Gwynedd, a ffurfiwyd o bwrpas ar gyfer bechgyn y ffermydd a'r parthau gwled- ig, end oedd a'i swyddogion yn Saeson un- iaith, a hwythau wedi rhoddi eu gair ar y dechreu mai Cymry'n medru Cymraeg fyddai'r swyddogion. Yr oedd cannoedd o fechgyn Lleyn yn Gymry hollol uniaith, a chywilydd o beth oedd eu bwrw i gatrodau Seisnig anghyd naws eu hiaith a'u cwmniaeth ganddynt. tt tt it EISIAU'U CHWiPIot— Yn llys trwy- ddedol blynyddol y Drenewydd, Sir Drefald- wyn, ddydd Gwener diweddaf, galwodd yr Is Brif Gwnstabl Williams sylw'r Faine at gamwri gwarthus a gyflawnid gan rai o staff milwrol y dref, sef mynd a'r milwyr oedd adref o'r rhyfel o gwmpas o dafarn i dafarn i yfed. Siarcod noethlymun ydyw'r fath ddynion, ebe Mr. Williams ac a ddylai fod ganddynt well gwaith nag arwain y dynion,—oedd yn hanner noethion, rai ohonynt, pan gyraeddasant gartref-o gwmpas i lymeitian. Gofynnai am i'r Fainc rybuddio'r tafarnwyr i beidio ag estyn,diod i'r cyfryw, gan ei fod ef ei hun wedi gwnued popeth a allasai gyda'r awdur- dodau milwrol.—Dywedodd y cadeirydd (Mr. Rd. Lloyd) ei fod yn warth i wisg y Brenin fod dynion yn y Drenewydd a allai roi'r fath esiampl i ddychweledigion o'r rhyfel Rhybuddiodd y tafarnwyr i fod yn effro i'w dyletswydd yn y cyfeiriad hwn, a gobeithiai na chlywid rhagor o gwyn am y peth. it tt tt DIRGELWCH LLANGOLLEN.~Ni chaf wyd dim goleu hyd yma ar ddiflaniad Mr. J. 0. Davies, cadeirydd Cyngor Llangollen, sydd ar goll ers deng diwrnod. Y mae llawer o chwilio wedi bod amdano ar hyd y ffridd- oedd, ac y mae'r teulu yn cynnyg arian am unrhyw hysbysrwydd amdano, it tt ti NANSI A'I THEL YN,~Uwer golygfa swynol a welwyd o ganrif i ganrif ar heolydd hen dref hybarch a hanesyddol yr Amwythig —Shrewsbury os mynnweh ond yr un a barodd fwy o wrando a llygadu na'r hon a welid yno ddydd Sadwrn diweddaf, sef Miss Nansi Richards (Telynores MaldwynY yn canu ai thelyn yma ac acw ar hyd yr heolydd yn ei het gorun hir a'r becwn brith, nes bod mawr sbio a thyrru ati gan y protid Salopians. Er mwyn y milwyr clwyfedig yr aethai Nansi yno ar ei chenhadaeth, ac a ddiddanodd lu ohonynt yn yr ysbytai heblaw ar yr heolydd. (,?.ofw,vd ca6gliad trwm at drysorfa'r Groes Goch a'r Delynores yn rhoddi ei gwasanaeth godidog yn rhad ac am ddim. Bendith amoch, a brysiwch yma eto, Nansi," ebe'r milwyr yn un cor gyda'i gilydd, wrth iddi droi adref i Faldwyn. Ac yr oedd clywed hen alawon Cymru yn cael eu cwafrio mor fwyn a medrus yn cau briwiau.^orff a chalon y bech- gyn yn well o'r hanner na moddion y meddyg, canys Rhwng tair cornel y delyn—mae oesol For miwsig diderfyn Tonnau heirdd yw'r tannau hyn I dristwch nofio drostyn'. tt it tt ABERYSTWYTH rtl HWrLIO ATI—Pen- derfynnodd Pwyllgor Cyffredinol Aberystwyth fod yr Eisteddfod Genedlaethol i'w chynnal yny dref eleni, yn ol cais Cymdeithdeithas yr Eisteddfod, sef ar yr wythnos sy'n dechreu gyda'r 14eg o Awst, ac mae'r is-bwylkorau wrthi'n cwtogi ychydig ar y rhaglen er cyfyngu cyfarfodydd yr Wyl i ddau I ddiwmod a thair noson. tt tt tt Dwrs.4, MAN: WRTE YR ALLOR.- Ddydd Llun cyn y diweddaf, priodid Miss Mary Dew, trydedd ferch Mr. S. R. Dew, y cyfreithwr hysbys, Mr. Douglas Colin York, ym Mhrifeglwys Bangor. Y priodfab o Buenos Aires, wedi bod yn y rhyfel a chael ei glwyfo wedi gwella ac yn priodi cyn ail ddechreu ar ei ran yn yr ymladd mawr. ttnn CAMP A RIIFAIP.-Pan oedd Wm. Smallwood, plastrwr, gerbron ynadon Llanelwy yr wythnos ddiweddaf, ar gyhuddiad o fod yn feddw mewn ty trwyddedig, sylwodd Cyrnol Howard (cadeirydd y fainc) mai y fo oedd y gweithiwr goreu a'r adyn meddwaf yn Llanelwy. Gwir yr hen ddihareb, mai goreu'r camp, gwaethaf y rhemp. ti it tt LLIFOGYDD LLANRWST.—Rhwng y cawod- ydd glaw a bistyllodd drwy'r dydd ddydd Sul, a grym y llanw a chwithid i fyny o'r mor, llifodd afon Conwy ymhell dros ei glannau, gan gladdu llinell y L. & N.W. dan gymaint dwr nes chwalu'r ffordd haearn am bellter, a thorri Llanrwst fel ynys oddiwrth y byd. Ond modurodd y gorsaf-feistr i Benmachno, ac a gafodd motor-bus perthynol i'r cwmni yno, ac felly alluogwyd y teithwyr i fynd a dod,a r ol oriau o goll amser. it n tt ti it LLIFON rN GAPLAN.-Y mae Swyddfa Rhyfel wedi penodi'r Parch. W. G.' Owen (Llifon) yn gaplan i filwyr Cymreig Kinmel. Y fo'n fugail eglwys y Bedyddwyr Cymraeg yn Abergele a Llan- ddulas; yn hysbys fel arweinydd Eisteddfodol, ffraeth a pharod ei ergyd; ac yn frawd i'r Parch. 0, G. Owen (Alafoti) y gwelir plethiad o chwith atgo am dano mewn colofn erall.

Advertising

Gwreichion Ffraethineb.I

Advertising