Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

GOSTEG.'

DYDDIADUR.

Cyhoeddwyr y CymodI Y Saboth…

Ein Ganedl ym Manceinion.

Basgodaid olp Wlad.I

News
Cite
Share

Basgodaid olp Wlad. I TALWRN, MON.—Goreu bara bara cartrel.- Ionawr 31a Chwefror, cynhaliwyd cyfarfod ordeinio Mr Richard Evans yn weinidog yr eglwysAnnibynnof yn y lie. Mab ydyw'r gweinidog ieuanc i Mr. T. Eames, y Post Office, Talwrn. } Llongyfarchwn yr eglwys a'r gweinidogareuhuniad } anfynychy gwelir uniad mor hapus; IlawngofirmaiyneglwysyTalwrn y dygwyd y gweinidog i fyny. Bu'n efrydydd yn Owens' College, Manchester; ac ar ei ddychweliad, derbyniodd alwad gynnes ac unfryd o'i fam-eglwys. Dechreuwyd nos Lun gan Mr Griffith Hughes (Owens' College), a phregethwyd gan y Parchn. Mor- gan Llewelyn, Manchester, a Thos. Hughes,B.A. Rhiw (M.C.), Ffestiniog. Dydd Marwrth, am 10, dechreuwyd a phregethwyd Siars i'r gweinidog gan y Parch. W. Keinion Thomas, Porthaethwy, ac yna ar Natur Eglwys gan y Parch. R. Morris, Llannerch y medd. Am 1.30, dechreuwyd gan y Parch. W. H. Cassam, Niwbwrch. Gofynnwyd y cwestiynau i'r gweinidog gan y Parch. J. Evans, Amlwch, a chafwyd atebion boddhaol a chynhwysfawr. Offrymwyd Urdd Weddi gan y Parch. H. R. Cadwaladr, Moelfre Pregethwyd Siars i'r Eglwys gan y Parch. J. G. Jones, Cana. Siaradwyd gan Mr. Thomas Owen, Ceint; y Parch. M. Llewelyn, yr hwn a gyflwynodd anrheg o lyfrau i'r gweinidog newydd ar ran eglwys Chorlton Road, lie bu'n aelod ffyddlon a defnyddiol tra yn y Coleg; cafwyd gair hefyd gan Mr. Dd. Williams, Llannerch y medd, a'r Parch. J. Talwrn Jones, Brym- bo. Cwynid na fuasai modd cael gair gan eraill o'r 11 u cyfeillion oedd yno, ond prinder amser oedd y rheswm. Cyfeiriwyd at amryw lythyrau a dderbyn- iasid oddiwrth weinidogion a lleygwyr.: Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. O. Morris, Capel Mawr. Yn yr hwyr, dechreuwyd gan Mr. Wm. Pritchard, Llangefni. Pregethwyd gan y Parchn. J. Talwrn Jones, ac E. B. Jones, Gwalchmai. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. W. E. Williams (M.C.), Gilead. Cyfarfodydd ardderchog ymhob modd. Gwasan- aethwyd wrth yr offeryn nos Lun a nos Fawrth gan Miss Myfanwy Roberts, Llangefni. Derbynied ein cyfeillion y Methodistiaid ein diolchgarwch cynhesaf am eu caredigrwydd a'u sirioldeb.-Cytaill. RHOS LLANNERCH RUGOG.-Ionawr 25,1915, I lladdwyd y Lance-Corpl. Albert Prescot, yn La Basee, sef y cyntaf o Diriogaethwyr y Rhos i syrthio. Blwyddyn i'r un dydd yn union, sef Ion. 25, 1916, lladdwyd ei frawd yn Fframc; y diweddaf, y Pte. Wm. Prescot, yn briod, a gad weddw a dau o blant. Mor rhyfedd y ddau ddigwydd !-Mae'r Parch. Id- wal Jones, gweinidog newydd Bethania (B.) wedi ei fedyddio yn brif ddarlithydd y fro. Mae mynd mawr ar ei ddarlithiau. Yr oedd yn Seion (B. ),Ponciau, noi Fercher ddiweddaf, a'r capel dan ei sang. Waldo a's i Frawd oedd ei destyn. Ymwelodd y Parch. Wellesley Jones, B.A.,B.D., cynrychiolydd Cym- deithas y Beiblau, a'r ardal y Saboth diweddaf. Bu yn y Capel Mawr (M.C.) y bore, yn Penuel (B.) yn y prynhawn, ac ym Mynydd Seion (A.) yr hwyr. Cynulliadau da, a llu mawr yn addo gwneud eu goreu i anfon gair Duw i'r milwyr clwyfedig. Mae rhai ugeiniau o fechgyn ieuainc y lie wedi gwrando a Fe I y Cadfridog Owen Thomas, ac wedi mynd Y stril) serch fod ganddynt nod dust (starred menj. Eu rheswm dros wneud ydyw, er mwyn i'r Ddeddf Gorfod a tgas fynd yn ddirym. CYMDEITHAS DDIRWESTOL MBRCHED GOGLEDD CrMRU: CANGEN COEDLLAI.- Daeth y Gangen i'w hoed, oblegid ei sefydlu ym mis Ionawr, 1895, a Mrs. Jacob Jones, Rhyl, yn bres- ennol dros y Gymdeithas. Yn y cyfarfod hwnnw, dewiswyd Mrs. Jones, Hartsheath, yn llywydd, a pharha felly hyd heddyw. Prudd a lion yw'r atco am ffyddloniaid y Gangen a hunodd. Dyna Mrs. Drury Williams, oedd gymaint cadernid i'r achos, a'i merch dalentog Jennie Drury (Mrs. Jones wedyn); hefyd Miss Alice Thomas o gyff cerddorol Thomasiaid Gronant, a lafuriodd galeted gyda chor enwog y Ruban Gwyn am faith flynyddoedd Mr. Bithel hefyd, Apostol Dirwest y gymdogaeth,—cefnogydd siriol Mudiad Dirwestol y Merched hyd fedd." Dathlwyd yr unfed flwyddyn ar hugain mewn hwyl de y prynhawn, a chyfarfod cyhoeddus yr hwyr, Chwefror 2, gyda'r cynhulliad mwyaf a welwyd mewn cyfarfod dirwestol ers llawer blwyddyn yma-ysgoldy eang y Wesleaid dan sang. Dechreuodd y Parch. J. Efor Jones. Llywyddodd y Parch. T. Jones (M.C.) yn gall. Canodd Miss Gwladys Rogers yn swynol. Adroddodd Miss Jones, Sir Fon (Cerrig y drudion gynt), wel !-yn orchestol! Anerchodd Mrs. Charles Hughes, Gwrecsam (merch Evan Peters, yr holwr plant enwog gynt o'r Bala) gyda deuparth o ddawn ei thad, gallwn feddwl, mewn apelio at yr ieuanc-y rhain yn arbennig a gafodd ei sylw Peth diddoraf y cyfarfod oedd cyflwyno anerchiad addurnedig i'r llywydd, oddiwrth aelodau y Gangen, ac nid anrhegwyd neb teilyngach erioed. Tystiolaeth cydnabod Mrs. Jones ydyw fod geiriau'r anerchiad yn wirionedd bob sill. Dyma fo Undeb Dirwestol Merched Gogledd Cymru- Cangen Coedllai. Cyflwynedig i Mrs. Mary Jones, Hartsheath. Annwyl chwaer,—Yr ydym ni, chwiorydd y Gangen uchod, sydd eleni yn 2iain mlwydd oed, yn dymuno arnoch dderbyn yr anerchiad hwn yn arwydd fechan o barch a deimlwn atoch felllywyddes o'r dechreu. Edmygwn eich llywyddiaeth ddoeth, siriol, ac ymroddedig. Nerth inni yw eich anerchiadau, gweddiau a chyng- horion a'r ffyddlondeb diball i'r cyfarfodydd. Gwyddom fod eich calon yn y gwaith o hyrwyddo dirwest, puro moes, a dyrchafu rhinweddau chwior- ydd y cylch. Addurn yw eich cymeriad, a pher- arogl Crist yw eich dylanwad yn ein plith. Bydd- ed i chwi hir oes, a bendith y Goruchaf arnoch.— Ydym, dros y Gangen, Mary Jones, Trysorydd Jane Jones, isrlywydd Frances Peters, ysgrif- ennydd; Grace Jones, dros y Pwyllgor. Ch\\ef.z, 1916." Cyflwynwyd yr anerchiad gan Mrs. Anne Davies, Gwaelod yr Allt, Rhywbeth syth o'r galon, todd- edig, ond naturiol a dirodres, a gafwyd gan y fam hon yn Israel. Diolchodd Mrs. Jones fel hyhi i'r dim, yn wylaidd a d iymhongar: ond ddim clod iddi ei hun, ond y cwbl i eraill, a gair da iawn iawn ganddi i Mrs. Thomas Peters, ysgrifennydd frwdfrydig ac ymroddgar y Gangen ers llawer blwyddyn. Yn uchafbwynt i'r cyfarfod caed anerchiad rhagorol gan Miss Pritchard, Croesoswallt, sydd yn eirias ei sel a'i dawn dros ddirwest. Hefyd perfformiodd plant ysgol Coed Talon yn gampus fel arfer. Ar gynhygiad Miss Jane Jones, yr is-lywydd, diolchwyd i bawb am helpu, a therfynwyd wedi pasio penderfyniad yn cymeradwyo dwyn Sir Fflint o dan reolaeth y Bwrdd VywodraethoI ynglyn a'r Fasnach Feddwol.-—Mr. David Jones yn cynnyg a'r Parch. G. O. Roberts (Morfryn) yn cefnogi.-T.G.J. LLANGEFNI: Cyngerdd Gwych.—Nos Wener, yn Neuadd Dref1 Llangefni, cynhaliwyd cyngerdd dan nawdd eglwys Smyrna (A.). Y talentau disglair a ganlyn yn cymryd rhan Madame Gwladys Will- iams, Birkenhead, yn adrodd nes tynnu'r lie i lawr; Miss Annie Davies, y gantores wych o'r Penrhyn; a Mr. Evan Lewis, ty tenor adnabyddus o Fangor. Cynorthwywyd gan y doniau lleol a ganlyn Mrs. Maurice Price, Mrs. Trevor Williams, Mr. T. H. Owen, Smyrna Glee Party (dan ofal Owain Cybi); cyfeiliai Miss Tutt, o'r Ysgol Sir, a Miss Marie Williams, Glan aber. Ni ddewiswyd Ilywydd yn ol arfer cyngerdd, eithr caed arweinydd penigamp sef LIew Tegid, Ban- gor. Yn lie canu Hen Wiad ly Nbadau ar y diwedd, canwyd yr anthem cyn dechreu, a da iawn y syniad, gan orffen gyda Duw gad;vo'r Bienin. 04. Dramodwyr y Llan.—Galw mawr a mynych sydd am Gwmni Drama Llangefni. Chwaraesant Ar y Groesfiordd (y Parch. R. G. Berry) ddwywaith yn y Llan yn ddiweddar, gan dderbyn L50 rhwng y ddau. Y maent i fod ym Marian Glas nos Wener yr wythnos hon, yng Nghaergybi nos Fawrth yr wythnos nesaf, ac yn; Gaerwen a Llandrygarn wedi hynny.

Advertising