Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

GOSTEG.'

DYDDIADUR.

Cyhoeddwyr y CymodI Y Saboth…

Ein Ganedl ym Manceinion.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Ein Ganedl ym Manceinion. Cenhadoa y Sul Nesaf. I Y METHODISTIAID CALFINAIDD] Moss SIDE—10.30 a 6.30, G A Edwards, Croesoswallt PBNDLETON—10.30, S G Evans, Lerpwl, 6 J Williams HE OOD STREFT-10.30, J Williams, Carno, 6. E W Roberts RIA PK—10.30 E W Roberts, 6, S G Evans -?- d -I ?, LEIGH—10.30 a 6, • IJM WARNMTO?—10.30a.6, ?.' FAMWORTH-10-30 a 6 Harold Roberts, Manceinion EARLESTOWN—10.45 a 5,30, ASHTON-UNDEP.-LYNE—10.45 a 6.30, EGLWYS UNDEBOL EOCLES—11 a 6.30. YR ANNIBYNWYR CHORLTON RD—10.30 a 6.15, Ellis-Jones, Bangor BOOTH St-10.30 a 6,15, M Llewelyn QUEEN'S ROAD—10.30 a 6.15 Cyfarfod Gweddi LD. DUNCAN ST., SALFORD-10.30 J Morris, 6.15 G James HOLUNWOOD—10.30 a 6.15 IY WESLEAID DEWI SANT—10.30 D R. Rogers 6, HOREB—10.30, T Hefin Evans, 6, J. Felix SEION—Cyfarfod Pregethu BEULAH—2.30 a 6 D. R. Rogers CALFARIA—10.30, 6, GJXibbott WEASTE-10-30, J. Felix, 6.30, T Hefin Evans Y BEDYDDWYR UP. MEDLOCK ST.—10.30 a 6, J H Hughes LONGSIGHT—10.30 a 6.30, Pregeth d'lll ROBIN'S LANE, SUTTON—10.30 a 5.30 TEA CHAN. Ddydd Sadwrn diweddaf, bu gan Fethodistiaid Pendleton de a chyfarfod. Cadeirydd, Mr. D. Lloyd Roberts, Moss Side. Yr oedd gan Gor y Capel ran helaeth yn y gweithrediadau a chyda hwy canwyd gan Nellie Teggin, soprano Mary Edge, contralto; Arthur Wright, tenor; Herbert Ruddock, bass. Caed amryw ddetholiadau digrif yn ystod y .cyfarfod gan Ernest Salthouse. Cyfeiliwyd gan Miss Morfydd Williams. Y canu yn ol y rhaglen yn debyg i hyn: Y Cor, Men of Harlech A. Wright, The Sailor's Grave Mary Edge, When you come home; I H. Ruddock, Pals; Nellie Teggin, Homeland Song a The dance of Roses; y Cor, The Sea is England's Glory. Cofus gennym i Mr. Phylip Hughes fod yn gadeirydd cyngerdd dro yn ol, a gwrthdystiai yn erbyn yr England sydd yn y gan, gan ddweyd mai Britain ddylai'r gair fod Cofied pawb sydd yn trefnu rhaglen cyngerdd am orfodi pob cantor i wneud y cyfnewidiad sydd mor addas. Wedi deu- awd gan y ddwy ferch, canodd A. Wright see for thee in every flower; Mary Edge, A perfect day: Nellie Teggin, Carmena; II. Ruddock, The Windmill. Terfynwyd trwy ganu'r ddwy Anthem Genedlaethol. Fel y gwelir oddiwrth yr enwau a'r rhaglen, go brin yw'r arwydd fod y cyngerdd hwn mewn cysylltiad ag eglwys a chynulleidfa o Gymry. Diau mai elw ariannol oedd y nod, ac efallai mai trwy guro cefn y Saeson y gellir cael mwyaf o'r llogell. Ni wn i ddim ond gofalwn rhag cael cloriannau anghywir i bwyso pen a llogell. PWERAU A GOLLWID.-Nos Lun yr wythnos ddiweddafj cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cym- deithas y Beiblau yng nghapel Gore Street. Y Parch. J. Felix yn llywydd, a'r Parch. A. Wellesley Jones, Caer, yn annerch. Bu'r cyfarfodydd hyn yn boblog- aiddiawn yma un adeg, ac edrychid ymlaen yn awyddus amdanynt o lfwyddyn i lfwyddyn. Dichon fod cyfarfod y Gymdeithas y pryd hwnnw fel rhyw afal y gaeaf mawr yn hongian wrtho'i hun ar y gangen ac yn amhosibl peidio a'i weled. Erbyn hyn y mae gennym nifer mor luosog o gyfarfodydd nes y maent fel afalau Awst yn glwstwr yn ei gilydd, heb y naill fod yn uwch ei werth na phrydferthach na'r llall. Anfonodd Mr. Ebenezer Williams, Upper Brook Street, gopi o'r chwe englyn canlynol i mi, y rhai sydd yn eglur ddangos yr argraff dda a adawai cyfarfodydd Cymdeithas y Beiblau ar y gwrandawyr pan gynhelid hwy hwnt i'r deugain mlynedd yn ol. Idris Fychan a gyfansoddodd yr englynion ar ol dod allan o'r cyfarfod a gynhaliwyd yn hen gapel Grosvenor Square, Medi 29, 1873, wediclywed mawr ganmol y Beibl yr oedd Idris, ac ebe fo :— ,2t! Hen Air annwyl !—pob gwirionedd-a geir '1 Ynddo'i gyd mewn symledd Gair fy Nuw-Gair fy niwedd, A gair bywyd, byd, a bedd. Gair Iesu, Gair i'r truan,—ie, Gair A gwyd fywyd aflan O'i bydew dudew,—a dait Weniaith y diafl ei hunan. Gair iachus, a Gair ucha'-yn y byd, Gair o bwys o'r mwya', Y Gair cadarn a'n barnaj Oll yn ei nerth yn llawn wna. Y ddaear ddaw i ddiwedd,—ie'r kaul Er ei holl orfawredd Yr un fydd y Gwirionedd,—- Y Gair a saif ar sicr sedd. Y Gair Pa beth yw'th goron.-orhytod ? Yr annwyl Fab cyfion, A'r Brawd fu'n dioddef gerbro* Ei annwyl Dad, a dynion. Er llyfrau, doniau, a dynion,-hwtt ydyw 'Run odiaeth Air bywlon Duw yn ei rym—doniau'r Ion Yn y Gair, 0 ragorion. TESTUN A THRAETHWR IAWN.—Un 0 destynau cyfoethocaf darlithoedd y Gynideithas Genedlaethol yw The Genius of the Welsh, y ceir darlith arno gan y Canon Edwards-Rees nos Wener nesaf. Efe sydd yn gofalu am blwyfoliaeth Gorton, y rhanbarth fwyaf ei chynhysgaeth Eglwysig yn y dref hon. AnamI y caiff y Gymdeithas y fraint o glywed gwr mor ddawnus ac uchel ei ddysg a'r Parch. John Goodman Edwards-Rees. Nid fel clerigwr yr ymddengys yng nghyfarfod y, Gymdeithas Genedl- aethol, canys ni wyddis yno am gulni cred, sect na phlaid. Pan oedd Esgobaeth Llandaf yn wag amser yn ol, bu Mr. Rees o fewn ychydig i'w chael, ac yr oedd yn un o'r rhai mwyaf ei gymhwyster i'r swydd. Graddiodd yn uchel mewn dysg, a gall siarad saith o ieithoedd yn hwylus. Derbyniodd ei D.D. yn Glasgow yn un pryd ag y cafodd D. Lloyd George ei Doctor of Law. Mae ef yn falch o'i gysylltiad a'n cenedl, ond oherwydd ei syniadau gwleidyddo eglwysig bu mewn llawer gornest fiin a rhai o'n har- weinwyr cenedjaethol. Mae yn un o'r y3grifenwyr mwyaf diwastraff, ac y mae cryfder a phenderfyniad meddwl yn egnYon treiddgar yn ei sylwadau wrth annerch.

Basgodaid olp Wlad.I

Advertising