Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

Clep y Clawdd, aef Clawdd…

fO Big y I ?? Lleifiad.

Heddyw r Bore sef bore dydd…

ISALED HEFYD.

News
Cite
Share

ISALED HEFYD. Ddiwmod o'i flaen hefyd, sef dydd Llun diweddaf, bu farw'i hen gyfaill a'i gydfardd Mr. Morris Owen (Isaled). Caernarfon, adnabyddus i'r sir honno fel cyfreithiwr, ac i'r Eisteddfod fel enillydd a beirniad yn y prif gystadleuaethau. Brodor o Bentrefoelas, ac awdur yr englyn hwn i Briodar Cyfaill.- Fry, o'i hardd nwyfre ei hun,-arweiniwyd Rhyw Wener berffeithlun Tua'i haul-at ei heilun A thoddi wnaeth y ddau'n un. tt tt tt T ESTYN SIARAD Y BALA.-Digwyddodd llawer o bethau mawr a rhyfedd yn y Bala erioed; ond y peth rhyfeddaf a ddigwyddodd yno, mewn ystyr enwadol, oedd y cyfarfod [a gynhaliwyd nos Iau cyn y ddiweddaf, sef Ionawr 27:— Ceid y Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., Weslead, yn darlithio ar Lyfr Job yng nghapel yr Annibyn- wyr, dan nawdd ac ar ran eglwys Bedyddwyr y Bala; a'r Parch. R. R. Williams, M.A., gweinidog eglwys M.C. Capel Tegid, yno'n gadeirydd. Cyplysiad anfarwol; ac os mai o fwriad y bu, ac nid o ddamwain, gresyn na chawsid Eglwyswr i gynnyg a Phabydd i gefnogi'r diolchgarwch ar y diwedd. Cawsem felly rihyrsal fach gyflawn o bob Hais yn y cor gogyfer ag oratorio fawr tangnefedd y Mil Blynyddoedd, sydd i'w harwain gan ein Brawd Hynaf rhyw ddydd a ddaw. Sut bynnag, cyfarfod rhyfedd Ionawr y 27am yw testyn siarad y Bala, Jerusalem Cymru.

Advertising