Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

Clep y Clawdd, aef Clawdd…

fO Big y I ?? Lleifiad.

Heddyw r Bore sef bore dydd…

News
Cite
Share

Heddyw r Bore sef bore dydd Mercher. I ESGYN1AD ALAFON. GWELSOM eiri hen gyfaill annwyl, y Parch. O. G. Owen (Alafon) yn un o ysbytai1 Lerpwl yma wythn08 i ddydd Iau diweddaf, ac a ofnem ar y pryd fod rhyw anhwyl- der peryglus wedi gafael ynddo; ond bychan y tyb- iem y'i collid mor fuan, ac mai honno fyddai'r olwg olaf a gaffem yn y cnawd ar un o feirdd coethaf ac un o eneidiau tirionaf Cymru. Yr oedd ymhell o fod yn gartrefol yn yr ysbyty; yr oedd y tyrfu a'r ochen- eidio, swn y Uongau a'r chwiban ar yr afon, a dwndwr y ddinas, yn dal ar ei nerfau Hednait* Gwrthodai fynd dan arfau'r meddyg; aeth gyda'i frawd—y Parch. W. G. Owen (Llifon) i Abergele; ac yno y bu farw bore ddoe (ddydd Mawrth). Fe'i ganed ym Mhant glas, yn agos i ddeag mlynedd a thrigain yn ol. Wedi marw'i fam, symudodd y tad a'r pum bachgen i fyw i Landwrog. Chwarela y bo Alafon yn ei flynyddoedd cyntaf; dringodd i fod yo ysgrifennydd y chwarel; fe'i codwyd yn flaenor yn eglwys M.C. Carmel; a buan y dechreuodd bregethu. Bu yn ysgol Clynnog, am bedair blynedd yn Athrofa'r Bala wedi hynny; ac yna i Brifysgol Edinburgh, ya efrydu athroniaeth, llenyddiaeth Seisnig, ac yn y blaen, gan gael canmoliaeth y Proff. David Mason enwog am ei ymdrechion llenyddol. Cydsyniodd i'r alwad a ddaeth iddo oddiwrth eglwys Ysgoldy, hen gorlan yr Hybarch Robert Ellis, ac yno y glynodd yn ddisyfl hyd heddyw, gan ennill a chadw serch ei braidd a'r holl ardal yn ddigwmwl ar hyd ei oes. Yr oedd y lle'n dawel a dihelynt; y bobl yn fynyddig a di- rodres a naturiol i a hwy ac yntau'n debyg iawn i'w gilydd yn eu prif deithi. Dechreuodd farddoni'n gynnar. Yr oedd iddo ran yn y Ffrae Ddirwestol enwog rhwng Trebor Mai, Dewi Hafesp, Gethin, ac eraill o brif englynwyr Cymru ar y pryd. Dyma'i englyn i'r ser a wnaeth mewn ymryson chwareus a Phlenydd a Thudwal ar y ffordd fawr ar noson serog, loergan « Clyw, asur, dy ser clysion,-beth ydynt ? Bathodau'r angylion ? Neu lewyrch oddiar loywon Lestri aur palasdy'r Ion ? Enillodd gadair Corwen yn 1905-pryddest Bnoydrau Enaid. Bu o fewn y dim i -ddwywaith o leiaf- i ennill y Gadair Genedlaethol; y fo aeth a hi yn yr Wyl Genedlaethol am Tmson Gorontcy wrth farw yet yr America ac am gywydd i Fynachlog rstrad Fflur yn Llundain (1909). Yr oedd yn goeth a gofalut hyd yr eithaf o'i linellau, ac yn rhy bur ei chwaeth i ollwng dim bratiog o'i law, ac hwyrach iddo fygu ac oeri gormod ar ei Awen drwy ei chadw weithiau'n rhy hir ym mhair ei chwaeth a'i Jedneisrwydd difrycheu- Iyd. Peth anadd-anodd iawn-yw cyfieithu emyn heb golli'r ysbrydoliaeth wrth wneud; ond cyfrtfir cyf- ieithiad Alafon o emyn Rock of Ages Toplady yn utt o'r pethau perffeithiaf a mwyaf can- adwy yn y ffordd honno. Ysgrifennodd lawer i brif gychgronau Cymru efe olygai'r Drysosfa (M.C.) ers rhai blynyddoedd behach ac yr oedd ol ei ofal a chysgod ei ysbryd addfwyn ar bob dim a ddywedai ac a wnai. Beimiadodd droeon yn yr Eisteddfod Gen- edlaethol yr oedd yn un o feimiaid y Goron ym Mangor y llynedd; a phlethodd roi o'i gofion mwyaf cu yng ngholofn Lien a Chan a ysgrifennodd am rai blynyddoedd i'r BRYTHON. Gallesid dywedyd Uawer, ond y mae'n bryd mynd i'r wasg; rhaid gado'r gweddill hyd y rhifyn nesaf; adibennu heddyw gydag enghraifft neu ddwy o'i bertrwydd englynol :— Beddargraff Dr. Roberts, Congl-y-Wal, Ffestiniog:— Dyn gwlad roed yma dan glo,—lluoedd A wellhawyd ganddo ;i Ond, er hyn, a'r fedr honno, Gwella'i hun nis gallai o I Ymsyniad ar ol gwrander awrlais yn taro ituddeg, noson olaf yflUlyddyn (1875) Sobreiddiol, megys brawddeg—ddwyfol,oedd Y flwyddyn, wrth hedeg, Waeddai fod diwedd f'adeg Innau'n dod yn union deg.

ISALED HEFYD.

Advertising