Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

[No title]

Clep y Clawdd, aef Clawdd…

fO Big y I ?? Lleifiad.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

fO Big y I ?? Lleifiad. ABERTH IRALL.-Cyrhaeddodd gair i Bennal, sir Feirionydd, fod y Priefat David Davies, 13th R. W.F., mab y bardd cadeiriol hysbys Gwilym Dyfi, wedi cael ei ladd yn y rhyfel, drwy gael ei saethu yn ei galon ac yntau ar ganol trin clwyfau un o'i gyd- ymladdwyr. Brawd iddo yw'r Parch. R. W. Davies, gweinidog eglwys y Wesleaid Cymreig yn Serpentine Road, Seacombe. tt tt H CrMRU rN OES BESS.~YT Athro John Morris Jones, M.A., Bangor, oedd i gyfarch y Gym- deithas Genedlaethol yn Colquitt Street nos yfory- (nos Wener)—ar Ddewi Wyn ond pair afiechyd ei briod ac eraill o'r teulu ei fod yn llwyr analluog i ddod ar hyn o bryd. Y mae'r Parch. D. D. Williams, David Street-a oedd i annerch y Gymdeithas Mawrth y lofed ar Rai o agweddau Cymru yn oes Elizabeth•—wedi cydsynio i newid y noson; ac felly fe geir ei ddarlith ef nos yfory. Chwarrel ddihysbydd ydyw Oes Bess i bob hanesydd a lienor; a diau gennym y cyfyd y darlithydd doreth o bethau newydd i'r wyneb, yn ei ffordd dawel ond drwyadl ei hun. Chwi wyddoch i gyd am gan Jac Glan y Gors a'i byrdwn:— 0 faint y cyfnewid yn awr sydd yng Nghymru, Er yr amser.gynt pan oedd Bess yn teymasu. Dowch yno'n dyrfa fawr i'w chanu.J ¡FOR 'NICHOLSON.-Dyna'r enw oedd wrth yr ysgrif loew honno a welid yn y Daily Post y dydd o'r blaen, sef o hanes ei ymgom k Mr. Lloyd George yn ei hafod yn Walton Heath. Deallwn mai mab y diweddar Barch. Thos. Nicholson ydyw; ac felly, ryfedd yn y byd fod cystal sglein ar ei feddyliau a'i frawddegau. A hwythau mor addas i'r gwaith o ran dawn a dychymyg, rhyfedd na welsid rhagor o'r Cymry yn troi i'r alwedigaeth newyddiadurol ar y papurau goreu, He y caent gystal cyfle i oleuo'r pagan- iaid Seisnig am Gymru a'i hiawnderau,yn lie fod hil Hengist at drugaredd sgrech goed fel y Times a'i frodyr melyn eu bron a brith eu cefnau. Y mae rhai o newyddiadurwyr blaena'r Brifddinas yn Gymry, Mr. Harry Jones, golygydd y Daily Chron- icle Mr. Perceval Gibbon, gohebydd rhyfel y Chronicle ac yn y blaen. Deled rhagor o'u tebyg i'r amlwg; a chwi rieni, wrth bryderu a chosi pen pa alwedigaeth i roddi'ch mebyn ynddi, cofiwch am newyddiaduraeth. Y mae greddf arddull (sense of style) yn gryfach yn y Cymro at ei gilydd na'r Sais; ac er mai gan yr olaf y mae mwyaf o arian i brynnu'r blawd, gan Gymry fel Ifor Nicholson a'i debyg y mae mwyaf o eples i'w godi. tt tt It ACHUB POB CTFLE.—Ysgrif ennodd Mr. Hugh Lloyd i'r BRYTHON bythefnos yn ol, yn cymell yr eglwysi i wneud eu goreu i groesawu'r milwyr a ollyngid allan yn ystod oriau'r prynhawn o wahanol ysbytai'r ddinas, gael iddynt le i droi am gwmni, a hipyn o luniaeth cyn iddynt ddychwelyd. Da grennym glywed fod eglwysi fel Princes Road a David Street wrthi'n trefnu croeso felly a da fyddai gweld pob eglwys a alio yn gwneud y gymwynas wir angenrheidiol hon. xt tt it UN 0 LOEWON r NANT.-Dyma'r gair a ddaeth yma oddiwrth Mr. M. W. Humphreys, Garston:— Clywed heddyw am farwolaeth hen gyfaill myn- wesol iawn i mi, sef Mr. Job Owen, Llanberis, a thad Dr. A. G. W. Owen, Gorwyl, Birkenhead. Yr oedd yn un o'r dynion gloewaf a ddaeth erioed o Nant Gwynant-llygad fel barcud i weld, dawn hafal i ddawn Daniel Owen i ddisgrifio'r hyn a welai; a bydd yn chwith iawn i Lanberis a Nant Gwynant feddwl ei ddisgyn i'r bedd mor aydyn. Addawsai fy nghynorthwyo gyda'mt llyfryn o hanes y Nant a'i bobl; ac un medrus ei bin ydoedd cf. tt tt tt PUMCANT r MOTOR AMBULANCE.- Dyma ragor o roddion at yr amcan clodwiw uchod Mrs. Jones, Tyrol, 5 o o Mr. J. J. Williams, Marmion road. 5 o o Mr. William Pritchard. 2 2 o Mr. G. O. Jones, M.A. I. I o Mr. A. R. Marshall. i o Mr. P. H. Marshalt. I I o Mr. a Mrs. Aneurin Rees i i o Mr. R. O. Jones, Pembroke road o 10 6 Mr. A. B. Hall ojo o J-H.j oio o Mr. Inman T. Telford 010 o Mr. T. J. Williams o 10 o Balliol Road (B.)—Ysgol Sut r 3 o .n :¡::¡: n RHAID TMROI 0 DDIFRIF.—Er fod y casgliad uchod yn mynd ymlaen yn foddhaol, tua hanner y swm gofynnol sydd wedi ei addo hyd yma a chan fod pob argoel fod ymladd mawr ac enbyd ar fin digwydd ar faes y rhyfel, ac y bydd yn dda wrth bob ambulance a motor at gludo ac ymgeleddu'r clwyf- edigion, dylai pob ystyriaeth fel hyn ein sbardynu i ymroi ati o ddifrif i gwblhau'n hymdrech a chad y pumcant yn llawn ac heb oedi. it tt tt DEW/SOL PARK ROAD A'R TABERNACL. —Dengys yr hysbysiad mewn colofn arall mai'r Parch. D. Stanley Jones, Caernarfon, a'r Parch. Ben Davies, Pant Teg, yw dau ddewisol yr eglwysi uchod i gadw'u cyfarfodydd pregethu nos Sadwrn a'r Saboth nesaf; ac y mae safon y ddau yn sicrwydd y cyhoeddir y Cymod gyda'r urddas a'r difrifwch a weddai i'r Efengyl ac i enbydrwydd yr amseroedd. Sylwer hefyd y dechreuir yr cidfeuon uchod yr adeg sydd ar lawr, heb newid dim am y tro. tt tttt BETH AM ORIAU MODDION GRAS?— Deallwn fod cynrychiolwyr Eglwys; Rhydd;on Cym- re;glerpwl a'r cylch i gael eu galw ynghyd ddechreu'r wythnos nesaf i drafod a setlo'r pwnic o newd adeg cynnal moddion yr wythnos a'r Saboth. ac amryw faterion craill a gyfyd o gyfarwyddiadau awdurdodau milwrol y ddinas. tt tt tt LERPWL AM HOELION WTTH.-Dengys yr hysbysiadau y disgwylir Dr. Moelwyn Hughes, Aber- teifi, a'r Parch. Lemuel Jones, Goppa, i gadw cyfarfod pregethu mam-eglwys Crosshall Street nos Sadwm a'r Sul nesaf; ac fod y Parch. Charles Jones, Gwrecsam, i weinyddii yng nghyfarfod blynyddol Wesleaid Spellow Lane yr un adeg. A oes le hafal i Lerpwl drwy'r byd am gyfle Ii glywed Hoelion Wyth pob enwad ? tt tt tt TEWI S1 DDI-SAIL.—Yr oedd si ar led fod y Lieut. J. Frederick Venmore-mab Mr. a Mrs. James Venmore, Anfield Road-wedi cae l ei ladd yn y rhyfel; ac mor gyflym a chyffredinol y cerddodd y si nes fod y teulu wedi cael llythyr ar lythyr o gydymdeimlad & hwy yn eu trallod tybiedig. Da gennym ddweyd, fodd bynnag, mai si hoUol ddisail ydoedd, o dru- garedd ac fod gair mynych a chyson yn dal i gyrr- aedd oddiwrtho o'r man y mae'n ymladd ynddo gyda dewrion eraill y Royal Welsh Fusiliers. BIRKENHEAD.—Traddodai'r Parch. D. Tecwyn Evans, B.A., ei ddarlith hysbys ar Ann Griffiths gerbron Cymdeithas Lenyddol Clifton Road (A.), nos Iau ddiweddaf, y Parch. J. J. Roberts, B.A., yn y gadair. Y mae Mr. Glyn Gough Williams, yr organydd, wedi pasio ei arholiad cyntaf fel deintydd, sef y Medical Preliminary Examination of the Educa- tional Institute of Scotland. jYm Mharc Kinmel y mae bellach, gyda'r 22nd Batt, y R.W.F., ac yn yr un platwn arbennig a Mr. W. H. Jones, B.A. (Elidir Sais) a'r Parch. T. Elwy Williams, Rhuthin.- Ddydd LIun diweddaf, cleddid Mrs. Owen Jones, Park Road East. Y hi'n enedigol o ardal Conwy; wedi bod yn aelod am lawer blwyddyn yn eglwys Parkfield, ac yna yn Laird Street; a hi oedd un o'r chwiorydd hael a osododd gerrig sylfaen yr addoldy olaf yn 1905. Cydymdeimlir a'i phriod a gweddill y teulu wrth golli ohonynt wraig a mam hoff a thawel a chrefyddol ei hysbryd. Gweinyddwyd yn y ty ac ym mynwent Flaybrick Hill gan y Parch. T. J. Row- lands, M.A.,B.D. tt tt tt +•!• ++ Tot- Ubdeb Eglwysi Annibynnol Livera pool, Manchester a'r Cylch. CYNHALIWYD Cynhadledd ynglyn i'r uchod yn Ashton-in-Makerfield prynhawn dydd Mercher, Chwefror z, dan lywyddiaeth Mr. E. Thomas, Y.H., Widnes, y cadeirydd etholedig am y flwyddyn.- Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. R. O. Jones, Tabernacl, Liverpool. Cyn galw'r cadeirydd dewisedig, traddododd y cyn-gadeirydd, y Parch. J. Vernon Lewis, B.A.,B.D., ei anerchiad wrth ymddeol o'i swydd. Baich yr anerchiad ydoedd perthynas yr eglwysi i'r Rhyfel, neu arwedd ysbrydol yr eglwysi yn eu perthynas i'r rhyfel. Anerchiad rhagorol, llawn sylwadau buddiol ac amserol. Diolchwyd yn gynnes i Mr. Lewis, a dymunwyd arno ei argraffu yn y ffordd y bamo'n oreu. Y cadeirydd newydd, wrth gymryd ei le, a ddiolchodd i'r Gynhadledd am yr anrhydedd a osodasid arno; gwnai ei oreu i lenwi'r swydd. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaen- orol, a derbyniwyd hwy fel rhai cywir.-Rhoddodd yr ysgrifennydd adroddiad o'i ymweliad a'r eglwys oedd wedi anfon cais am dderbyniad i'r Undeb. Gohiriwyd y mater hyd y cyfarfod nesaf.-Yn absenoldeb y trysorydd (Mr. John Edwards) darllen- wyd y cyfrif ariannolJgan yr ysgrifennydd-y Parch. O. L. Roberts. Gan nad oedd yrhollgasgliadau wedi dod i law, ni ellid rhoddi ond amcangyfrif o sefyllfa'r drysorfa. Yn ddiweddar yr oedd y taliadau yn fwy na'r derbyniadau; ac os caniateid y grants arferol eleni, byddid £15 yn ychwanegol yn nyled y trysor- ydd. Dymunol, os ynbosibl, fyddai1 codi ycasgliadau ac osgoi hyn.Galwyd sylw at y Drysorfa Gyn- orthwyol ac at yr ymdrech neilltuol a wneir gennym fel enwad i sicrhau addewidion am £ 50,000 i'w talu yn ystod y pum mlynedd nesaf.-Cyfeiriwyd hefyd at y cylchlythyr a anfonwyd i'r eglwysi gan Gym- deithas Genhadol Llundain, yn galw sylw at sefyllfa ariannol y Gymdeithas, a'r argyfwng yr oedd ynddo. Cymeradwywyd i annog yr eglwysi i gymryd y mater i ystyriaeth, ac i wneud eu goreu i estyn pob cyn- horthwy posibl. Darllenwyd llythyr oddiwrth Gyfundeb Arfon yn trosglwyddo y Parch. D. M. Mason, Llanfairfechan, i'r Cyfundeb hwn. Rhodd- wyd derbyniad cynnes iddo i'r cylch. Yn 43 Gt. George Street, Wigan, y mae Mr. Mason yn byw'n bresennol.-Cyflwynwyd y Barch. J. J. Roberts, B. A., Birkenhead, hefyd i'r Gynhadledd. Addawodd Mr. Roberts ddod a'i lythyr i'r Gynhadledd nesaf. Croesawyd ef yn galonnog, a dymunwyd ei gysur a'i lwydd yn ei faes newydd.- Datganwyd llawenydd o weld y Parch. W. Harris, B.A., B.D., yn bresennol. Efe'n gweinidogaethu gyda'r Saeson yn Ashton. Cafwyd ychydig eiriau ganddo yn cydnabod y croeso a estynnid iddo. Amlygwyd teimlad o'r dymunol- deb o weled y Cymry yn y cylch sydd yn llafurio ymysg y Saeson yn ymuno i'r Undeb. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad brodyr cystuddiol, ac a theuluoedd oedd wedi colli perthynasau.-Pasiwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Chorlton Road, Manchester; a hysbyswyd fod eleni yn ganmlwydd- iant cychwyn yr enwad yn y ddinas honno.—— Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Morris, Salford.-Yn yr hwyr pregethwyd gan y Parch. Albert Jones, B.A.,B.D., Bootle. Dechreuwyd y gwasanaeth gan y Parch. J. J. Roberts, B.A., Birken- 'head.-Yr oedd y cyfeillidn yn Ashton wedi dar- paru yn helaeth ar gyfer ymwelwyr, a diolchwyd yn wresogiddyntam eu gwahoddiad a'u croeso. Hwn ydoedd y tro cyntaf i'r Undeb ymweled A'r lie. Rhyw dair blynedd sydd er pan gychwynnwyd yr achos. Mae yma gapel prydferth iawn, a gwneir ymdrech neilltuol i dalu amdano. Mae gan y bobl gal on i weithio." Ceir cannoedd o Gyniry yn yr ardal, ac y mae pob argoelion am eglwys gref a llewyrchus.-7.Af. Lots DDEUBLYG.—Bydd cydymdeimlad dwfn A Mr. G. M. Hughes, Empress Road, Kensington, un o ddiaconiaid yr eglwys Annibynnol yn Kensington, yn wyneb y profedigaethau trymion sydd wedi dod amo ef a'i deulu. Ddydd Gwener wythnosi'r diweddaf, yr ymunodd ei fab ieuengaf, Morgan, a'r s.s. Trevor, ym Maryport; ac yn blygeiniol fore drannoeth, wrth gysylltu'r Hong i'r lan, fe lithrodd dros ei hymyl i'r mor ac a foddodd. Yr oedd yn fab mewn teulu iluosog, yn 23 oed, ond wedi gweithio'i ffordd i safle anrhydeddus fel morwr, a'i obeithion yn ddisglair. Dygwyd ei gorff Lerpwl, a chladdwyd ef ym mynwent Anfield Road brynhawn dydd Mercher, yng ngwydd cynhulliad Iluosog er gerwined yr hin, pryd y gwein- yddwyd gan ei weinidog, y Parch. J. O. Williams (Pedrog). Ymhen rhyw ddeuddydd, daeth y newydd o Virginia, America, am farwolaeth merch i Mr. Hughes, Mrs. Morgan, a aethai yno at ei phriod tua phedwar mis yn ol, gyda'i phedwar plentyn. Taraw- yd hi gan pneumonia, a bu farw ymhen dau ddiwmod. Brodor o Amlwch yw Mr. Hughes, ac yn un o'r dynion mwyaf adnabyddus a chyfrifol yno am y rhan helaeth- af o'i oes mewn cysylltiad a'r gwneuthurwyr tybaco adnabyddus. Bu Mrs. Hughes, oedd yn un o ragor- olion y ddaear, farw yn Lerpwl tua deng mlynedd yn ol. Mae ein hannwyl frawd yn gystuddiol ers amser, a diau y ca ef, a gweddill y teulu, gydymdeimlad dwysaf eu cydnabyddion Iluosog yn Lerpwl a Chym- ru.-Cytaill. KENSINGTON.—Nos Wener ddiweddaf, trwy gared- igrwydd Mr. John Evans, Esher Road, darparwyd te rhagorol iawn ar gyfer plant y Band of Hope. Ar ol y wledd, caed cyngerdd o dan lywyddiaeth W. G. Jones, Ysw., ysgrifennydd yr eglwys. Caed datganiadau ac adroddiadau gan y plant; ac yn sicr, syr, mae yma dalentau canu ac adrodd y clywir mwy amdanynt yn y man. Canodd y plant hefyd, o dan arweiniad Mr. Job. Diolchwyd i roddwr y wledd a phawb a fu a rhan i wneud y cyfarfod yn Uwyddiant, gan yr ysgrifennydd, yn cael ei gefnogi gan Pedrog. Canodd Mr. Gwilym Williams ddwy waith a chaed unawd hefyd gan Mr. R. Griffiths. Cyfeiliwyd i'r cwbI gan Miss Lilian a Master R. Griffiths.-rsg. I Y Lloer a'r Planodau. ( MR. Got.—Diau gennyf i Iu mawr o ddarllenwyr Y BRYTHON mewn gwlad a thref sylwi y nosweithiau diweddaf ar y ddwy blaned lachar sydd yn y gorllewin wedimachlud haul. Fel y gwyddis, Gwener (Penus) —Duwies Serch, yw yr isaf a'r danbeidiaf o'r ddwy. Pan gyfyd daer Wener ei phen Yn loew rhwng awyr a lli" Fe'i cerir gan ddaear a nen," ebe Ceiriog. A dyma hi unwaith eto. Iau (Jupiter) yw y Ilalli Not Saboth ddiweddaf, ceid golygfa I ======= £ > dlos dros ben y nen yn ddigwmwl fel y digwyddodd y ddwy blaned euraidd yn ymyl ei gilydd a'r lleuad ieuanc rhwng y ddwy. Nid oes cof gennyf i mi weld tlysach golwg o'r fath. Erbyn heno (nos Lun) mae'r lleuad wedi symud cwrs. Ni. wiw iddi hi ymdroi; rhaid iddi gylchu'r nen i gyd a chyrraedd yn ol ymhen y mis. Cyn yr ymddengys Y BRYTHON nesaf bydd hi tuag Arwydd y Tarw, ac Orion, gyda'i wregys arian odditani yng nghyfeiriad y gorwel. Ond er cilio o'r Uoer fe erys y ddwy blaned yn y gyfeillach. Ac fe wel y sawl a gymro'r drafferth i sylwi fod y ddwy yn closio fwyfwy at ei gilydd-Gwener yn esgyn yn uwch i'r nen, ac felly yn nes at lau. Oddeutu'r 13eg o'r mis byddant yn y man agosaf. Yna ysgerir hwythau. A Gwener rhagddi ar i fyny, a thua'r dwyrain, gan adael lau gryn lawer ar ol. A'r pellter rhyngddynt yn fwy bob nos, nes yn gynnar ym mis Mawrth digon prin y gellir canfod lau gan ei agosed at yr haul, ond pery Gwener yn ei gogoniant fel "seren y gweithiwr" am wythnosau lawer. Yn y dwyrain gwelir planed arall, goch. Mawrth yw ei henw. Ar hyn o bryd, y mae yn Arwydd y Llew. Duw Rhyfel gynrychiolir gan Mawrth, ac y mae hi cyn goched heno ag erioed R. H. JONES.

Heddyw r Bore sef bore dydd…

ISALED HEFYD.

Advertising